David Melding: Weinidog, mae'r Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant yn argymell mwy o barthau 20 mya o amgylch mannau gwyrdd fel y gall plant gerdded, beicio a chwarae'n ddiogel, yn ogystal â gallu cyrraedd y mannau hynny’n fwy diogel. Rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â'r diffyg mynediad i fannau gwyrdd ar gyfer plant sy'n byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig. Mae arnom angen cynllun...
David Melding: Bythefnos yn ôl, roeddwn gyda Nwy Prydain yn trafod y broses o ddarparu mesuryddion deallus yng Nghymru; bellach, mae 47,000 wedi'u gosod mewn cartrefi yng Nghanol De Cymru. Maent yn rhan o'r ateb. Yn amlwg, fel defnyddiwr mwy deallus, gallwch gadw golwg ar effaith eich defnydd o ynni. Wrth gwrs, ynghyd â gwell inswleiddio, gall hynny fod yn ffactor allweddol wrth leihau tlodi tanwydd....
David Melding: 4. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr effaith y mae mesuryddion deallus yn ei chael ar fynd i'r afael â thlodi tanwydd yng Nghymru? OAQ51750
David Melding: Pa ddarpariaeth ariannol ychwanegol a wnaed i'r portffolio ynni, cynllunio a materion gwledig i gefnogi parciau cenedlaethol yng Nghymru?
David Melding: Chi sy'n penderfynu, rwy'n credu, pwy—
David Melding: Mae'n debygol y byddaf yn gwneud rhai diwygiadau, yn y bôn sy'n adlewyrchu'r hyn a ddywedodd y ddau bwyllgor, ac rwy'n aelod pwyllgor materion cyfansoddiadol a deddfwriaethol hefyd, ond ni fyddwn mewn unrhyw ffordd—wel, ar ochr hon y tŷ—yn rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle nad ydyn ni'n gallu gwneud yr addasiadau angenrheidiol. Oherwydd byddai unrhyw gyfyngiad ar gapasiti benthyca...
David Melding: Byddwch chi'n cofio, Llywydd, i Carl Sargeant a minnau anghytuno'n aml ar yr hawl i brynu—ac, mae'n rhaid dweud, ar rai materion eraill yn ymwneud â thai hefyd—ond ar hyn, roeddem ni'n cytuno. Ac a gaf i groesawu ei fab, Jack, i'r Siambr y prynhawn yma? Roedd gennym ni ar yr ochr hon i'r Siambr feddwl mawr o'ch tad a pharch tuag ato. Roedd yn wrthwynebydd gwirioneddol deilwng a grymus....
David Melding: Nac ydyw, ddim o gwbl.
David Melding: A gaf fi hefyd ymuno â'r Aelodau eraill i longyfarch Laura McAllister a'r panel am lunio adroddiad awdurdodol? Credaf ei fod cystal ag unrhyw beth a fyddai wedi'i gynhyrchu mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac mae'n dilyn traddodiad balch o adrodd cyfansoddiadol a fu gennym yn ein hanes ers datganoli. Efallai ein bod wedi gorfod gwneud llawer o'r meddwl ar hyd y ffordd—ac felly cawsom...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, a gaf fi ddweud nad wyf wedi gweld twll botwm mor gain er pan oedd William Graham yn Aelod o'r Siambr? Fe fyddwch yn ymwybodol fod digwyddiad Tour of Britain 2016 wedi bod yn llwyddiant enfawr i gwm Cynon, nid yn unig o ran ei fanteision economaidd, ond hefyd o ran hyrwyddo beicio. Gwn ei fod ar y lefel elitaidd, ond gall hynny ysbrydoli'r gweddill ohonom. Credaf...
David Melding: A gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru bellach yn mynd ati i fabwysiadu polisi Tai yn Gyntaf, neu o leiaf i arbrofi'n helaeth gyda'r polisi hwnnw? Mae'n rhywbeth y bu'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei annog ers peth amser, ac rwy'n falch o weld hynny. Mae gennyf rai cwestiynau penodol, fodd bynnag. Yn gyntaf oll, faint o'r cynlluniau arbrofol fydd ar sail sirol, neu a ydyn nhw ar raddfa...
David Melding: Yna dywedodd Mick fod angen archwilio'r arfer ar gyfer lesddeiliaid presennol. Unwaith eto, credaf fod y Gweinidog wedi nodi bod hynny'n fater o bwys gwirioneddol. Felly, yn gyffredinol rwy'n credu eich bod wedi dechrau lle yr aeth yr Aelodau eraill â ni wedyn mewn mwy o fanylder, ac yna, rwy'n credu bod y Gweinodog wedi ymateb yn fras i'r rhan fwyaf o'r pwyntiau. Soniodd Janet...
David Melding: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud bod gwasanaethu yn y pumed Cynulliad yn anrhydedd fawr? Wrth ei gymharu â'r pedwerydd Cynulliad, mae dau beth yn sefyll allan: (1) mae'r Dirprwy Lywydd wedi gwella'n fawr—[Torri ar draws.] Rydym yn ffodus iawn. Ond yn ail, mae'r ffordd y defnyddir y dadleuon hyn wedi dod â dimensiwn newydd a phŵer newydd i'r meinciau cefn. Rwy'n credu bod...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r toreth o gyfleoedd gamblo sydd ar gael, os caf ei roi felly, mor fawr fel ein bod yn clywed heddiw fod 16 y cant o blant rhwng 11 a 15 oed wedi gamblo yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Mae hynny'n gryn syndod i mi. Dylwn ddweud fy mod yn gamblo o bryd i'w gilydd. Ond mae gennym broblem wirioneddol gyda chaethiwed i gamblo, ac rydym yn clywed bellach gan y prif...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, ers blynyddoedd lawer, rwyf wedi bod yn aelod o gorff llywodraethu Ysgol Arbennig Meadowbank, sy'n ysgol sy'n darparu gwasanaethau addysgol ar gyfer plant ag anawsterau dysgu lleferydd ac iaith. Maent wedi bod ar y safle yn Gabalfa ers dros 40 mlynedd, ac roeddent ar flaen y gad o ran datblygu arferion gorau yn y maes hwn, yn enwedig wrth i’r rhieni a’r athrawon...
David Melding: Mae llawer yn y datganiad hwn yr wyf yn ei groesawu'n gyffredinol. Rwy'n sylweddoli bod ychydig fisoedd o'n blaen cyn y cyflwynir y ddeddfwriaeth i'r Cynulliad, felly rwyf yn gobeithio bod Ysgrifennydd y Cabinet yn barod i wrando. O'm rhan i, rwy'n credu y bydd ymestyn yr etholfraint i blant 16 ac 17 mlwydd oed yn ein galluogi i dreulio mwy o amser yn trafod addysg, yn enwedig ar gyfer pobl...
David Melding: Prif Weinidog, mae'n debyg eich bod chi wedi clywed bod Afasic Cymru, sef yr elusen sy'n cefnogi rhieni â phlant sydd ag anawsterau dysgu lleferydd ac iaith. Mae'r elusen yn cau ei swyddfa yng Nghaerdydd yfory a bydd yn cau ei swyddfa yn y gogledd ddiwedd mis Mawrth. Mae hon yn elusen sydd wedi bwrw gwreiddiau dwfn iawn yn ne Cymru, a sefydlwyd dros 40 mlynedd yn ôl. Byddwn yn parhau i...
David Melding: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cymorth sydd ar gael ar gyfer plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol yng Nghymru? OAQ51687
David Melding: Rwy'n ansicr a ydych yn dadlau dros ddefnyddio'r gyllideb gymorth tramor mewn ffordd wahanol neu a ydych am dorri'r gyllideb gymorth tramor. Oherwydd mae eich cyd-Aelod sy'n eistedd wrth eich ymyl yn aml yn dweud wrthym sut y byddech chi'n hoffi i'r rhan honno o gyllideb y DU gael ei lleihau'n helaeth.
David Melding: Nac ydym.