Mike Hedges: Mae gennym ni nifer fawr iawn o gwmnïau bach a chanolig eu maint yng Nghymru, ond mae gennym brinder amlwg o gwmnïau mawr cynhenid. Rwy’n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar gynigion i gefnogi twf busnesau canolig eu maint, y mae’n ymddangos bod gennym gryn dipyn ohonynt, i fusnesau mawr, yn enwedig mewn diwydiannau fel adeiladu, a hefyd beth all y Llywodraeth ei wneud o ran gosod...
Mike Hedges: A gaf fi groesawu ymateb Ysgrifennydd y Cabinet ac yn sicr, y penderfyniad i ddiogelu’r arian? Hoffwn hefyd dynnu sylw at ba mor ddefnyddiol y mae’r rhaglen wedi bod yn fy etholaeth yn Nwyrain Abertawe. A all Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu sut y mae newidiadau i fudd-daliadau wedi effeithio ar y rhaglen Cefnogi Pobl?
Mike Hedges: A gaf fi dynnu sylw at lwyddiant ysgubol y gorlifdir yn Ynysforgan, sydd oddeutu chwarter milltir o ble rwy’n byw? Rwy’n gyrru heibio’n eithaf aml ac weithiau mae gennych lyn, bryd arall mae gennych ychydig o lynnoedd bychain, ac ar adegau eraill mae’n sych, ond mae’n atal llifogydd yn yr ardal honno, a arferai fod yn broblem enfawr. A gaf fi hefyd groesawu’r cynnig i beidio â...
Mike Hedges: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y risg o lifogydd ar afon Tawe? OAQ(5)0137(ERA)
Mike Hedges: 10. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen Cefnogi Pobl? OAQ(5)0141(CC)
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion i fynd i'r afael â chlymog Japan yng Nghymru?
Mike Hedges: Croesawaf y datganiad yn fawr. Ac a gaf i ychwanegu fy mod yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Dai Lloyd a Jenny Rathbone am weithredoedd y gyrrwr tacsi a gyrwyr hurio preifat ym Manceinion? Fel llawer o bobl eraill, mae gennyf ffrindiau a pherthnasau yn gweithio fel gyrwyr tacsis a hurio preifat, nad yw'n syndod, o ystyried y nifer fawr o bobl sy'n cael eu cyflogi yn y diwydiant hwnnw. Mewn...
Mike Hedges: Mae dibrisiant yn golygu bod allforion yn rhatach mewn arian treigl sy’n prynu, ond mae cost mewnforion yn cynyddu mewn punnoedd. Mae’r bunt wedi gostwng o $1.5 fis Mehefin diwethaf i rhwng $1.2 a $1.3, gostyngiad o 14 i 20 y cant. Ac wrth i gost mewnforion gynyddu, bydd allforion a gefnogir yn cynyddu cost allforion i fod yn ddibynnol ar ddod â deunyddiau crai yma o dramor a chynhyrchu...
Mike Hedges: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad ynghylch pwysigrwydd ffordd o fyw o ran hybu iechyd da?
Mike Hedges: Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Dawn Bowden am roi munud i mi yn y ddadl hon. Rwyf am sôn am ddau beth: sythwyr gwallt a gwefrwyr. Dyma enghreifftiau o danau o ganlyniad i sythwyr gwallt: gwraig y bu’n rhaid ei hachub o'i chartref a aeth ar dân ar ôl i bâr o sythwyr gwallt gael eu gadael ymlaen ar lawr pren a chychwyn tân. Roedd yn rhaid iddi gael ei hachub gan ddiffoddwyr tân; cafodd...
Mike Hedges: A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar bwysigrwydd prifysgolion yn sbarduno’r economi, a'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi'r sector prifysgolion a chynhyrchu parciau gwyddoniaeth tebyg i Gaergrawnt ac Aarhus yn Nenmarc, sydd wedi bod yn bwysig iawn yn llwyddiant economaidd y ddwy ardal hynny?
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? A gaf i dynnu sylw at bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol o ran hyrwyddo hunaniaeth ardal a chreu cyfoeth yn yr economi? Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd Dinas Abertawe yn aros yn uwch gynghrair Lloegr, i economi dinas-ranbarth Bae Abertawe, i dwristiaeth yn ninas-ranbarth Bae Abertawe, ac i adnabod enw Abertawe. A wnaiff y Prif Weinidog...
Mike Hedges: 2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am bwysigrwydd chwaraeon proffesiynol i Gymru? OAQ(5)0597(FM)
Mike Hedges: Oni fyddech yn derbyn bod benthyca ar gyfer cyfalaf yn hollol wahanol i fenthyca ar gyfer refeniw? Mae’n cyfateb i gael morgais i brynu tŷ a benthyca i dalu am y bil bwyd.
Mike Hedges: Mae’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn ei gefnogi, fel y mae nifer o economegwyr eraill, gan gynnwys rhai economegwyr Americanaidd mawr. Fe ysgrifennaf atoch i roi enwau i chi. Nid ydynt gennyf ar hyn o bryd. Nid oeddwn yn disgwyl gorfod ateb hynny. [Torri ar draws.] Soniwyd wrthyf am Paul Krugman ond ceir nifer ohonynt yn America sy’n credu hynny. Rydych yn...
Mike Hedges: Wel, mater o farn yw hynny ac nid oes gennyf amser i drafod hynny y prynhawn yma. Rwy’n gobeithio y cawn gyfle i wneud hynny eto yn y dyfodol. Rydych yn dod allan o ddirwasgiad drwy wneud dau beth: yn gyntaf, rydych yn dibrisio arian cyfred ac yn ail, rydych yn atchwyddo’r economi. Mae’r bunt yn hofran felly nid yw wedi mynd drwy ddibrisio ffurfiol ond mae wedi cael ei dibrisio rhwng 14...
Mike Hedges: A gaf fi yn gyntaf oll atgoffa pobl fod yr argyfwng bancio wedi’i achosi gan farchnad eilaidd yr Unol Daleithiau lle’r oedd pobl yn rhoi benthyg arian a banciau Prydeinig yn prynu eitemau nad oedd ganddynt unrhyw reolaeth drostynt? Achubodd Llafur yn San Steffan y banciau rhag mynd i’r wal. Pe bai’r banciau wedi mynd i’r wal, byddai ein system gyfan wedi mynd i’r wal. A gaf fi—?...
Mike Hedges: Fe sonioch am glymblaid o anhrefn; ai’r glymblaid rhyngoch a’r Democratiaid Rhyddfrydol rhwng 2010 a 2015 a olygwch? Neu’r glymblaid y ceisioch ei chael gyda Phlaid Cymru ac UKIP ar ôl yr etholiad diwethaf?
Mike Hedges: Rwyf am ei ailadrodd eto: yr hyn a ddywedais oedd—. Roeddwn yn cymharu Cymru â Gogledd Iwerddon. Mae yna bobl yng Nghynulliad Gogledd Iwerddon sy’n eistedd yno heddiw, a oedd, 40 mlynedd yn ôl, ar ddwy ochr wahanol, ac mae’n bosibl bod llawer ohonynt wedi bod yn awyddus i Aelodau eraill yno gael eu lladd. Dywedais fy mod yn anghytuno â’r Blaid Geidwadol ac rwy’n anghytuno ag...
Mike Hedges: Ni allaf siarad ar ran Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr y bydd Carl Sargeant yn ymyrryd o bosibl ac yn siarad am hynny, ond ni chafwyd unrhyw awgrym o heddlu Cymru gyfan gan unrhyw un. Ond os down at hynny, Mark, rydych chi a minnau ar yr un ochr. Ac rwy’n siŵr fod yna bobl eraill yma sy’n dadlau yr un mor rymus dros ddatganoli plismona a fyddai hefyd ar yr un ochr â ni. Mae gan...