Canlyniadau 1101–1120 o 2000 ar gyfer speaker:Russell George

1. Cwestiwn Brys: Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ( 1 Maw 2017)

Russell George: Ysgrifennydd y Cabinet, credaf eich bod yn iawn—mae cryn bryder heddiw, ers i’r newyddion hwn ddod i’r amlwg ddoe. Gofynnodd Adam Price yn benodol—ni chredaf eich bod wedi ateb ei bwynt—am amserlen y Prif Weinidog yn yr Unol Daleithiau. A gaf fi ofyn a yw’r Prif Weinidog wedi newid ei daith, ac a fydd yn ceisio cyfarfod â swyddogion gweithredol Ford tra bydd yn yr Unol...

5. 5. Datganiad: Dyfodol Gwasanaethau Bysiau Lleol (28 Chw 2017)

Russell George: Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ddatganiad y prynhawn yma. Dylwn hefyd ddweud fy mod wedi cael llawer o adborth cadarnhaol am yr uwchgynhadledd bysiau hefyd, a gynhaliwyd fis diwethaf. Rwy’n ddiolchgar hefyd bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi estyn y gwahoddiad i Aelodau'r Cynulliad i fod yn bresennol yn y digwyddiad hwnnw hefyd. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi,...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Cynlluniau Teithio Rhatach</p> (28 Chw 2017)

Russell George: Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn pa sicrwydd y gallwch chi ei roi, wrth baratoi ar gyfer diwedd y cytundeb ariannu presennol ar docynnau teithio rhatach y flwyddyn nesaf, y bydd trafodaethau gyda'r diwydiant bysiau ac awdurdodau lleol yn cychwyn mewn da bryd fel bod sefydlogrwydd y cynllun yn cael ei gynnal?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Cymorth i Fusnesau sy’n Cychwyn</p> (28 Chw 2017)

Russell George: Arweinydd y tŷ, mae data gan BankSearch ar ran Banc Lloyds yn dangos bod nifer y busnesau newydd sy'n cychwyn ledled Cymru wedi gostwng o swm syfrdanol o 26 y cant dros y pum mlynedd diwethaf. A gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wrthdroi'r duedd hon? Hefyd, a gaf i ofyn beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog pobl iau i ystyried dechrau eu busnesau eu hunain fel...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (15 Chw 2017)

Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y prosesau sydd gan awdurdodau lleol yng Nghymru i ymdrin â chwynion?

4. 3. Datganiad: Sport Wales (14 Chw 2017)

Russell George: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac a gaf i hefyd ddatgan fy mod i’n credu ei bod yn arbennig o bwysig i ddiolch i'r staff, sydd wedi bod trwy gyfnod anodd iawn? Mae llawer o bryderon wedi eu codi gan staff nad achoswyd ganddyn nhw, ac rwy'n credu y dylid talu teyrnged iddyn nhw drwy'r cyfnod anodd hwn. Mae'r sefydliad, fel corff a noddir gan y Llywodraeth, wedi ei...

2. Cwestiwn Brys: Kancoat (14 Chw 2017)

Russell George: A gaf i ddiolch Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Mae'r adroddiad a gafwyd gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi codi rhai pryderon difrifol iawn, fe ddywedwn i, Ysgrifennydd y Cabinet, ynglŷn ag ymddygiad Llywodraeth Cymru, wrth i swm sylweddol arall eto o arian trethdalwyr—£3 miliwn—gael ei golli. Mae rhai cwestiynau am atebolrwydd yn y fan yma, ac yn anffodus, nid hwn yw’r tro...

2. Cwestiwn Brys: Kancoat (14 Chw 2017)

Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad yn dilyn adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y cwmni Kancoat o Abertawe? EAQ(5)0121(EI)

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd ( 8 Chw 2017)

Russell George: Wel, fe amlinellais, yn union cyn i chi ymyrryd, yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi bod yn ei wneud. Ond fe ddywedodd Greg Clark yr wythnos diwethaf ei fod am fargen arbennig gyda’r diwydiant dur fel rhan o strategaeth ddiwydiannol flaenllaw’r Llywodraeth. Mae’n rhaid i mi ddweud, ni chymeraf unrhyw wersi gan y Blaid Lafur, ac nid wyf yn credu y dylai Llywodraeth y DU gymryd unrhyw...

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd ( 8 Chw 2017)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae’n rhoi pleser mawr i mi gyflwyno ail ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma, ac rwy’n cynnig y cynnig yn ffurfiol yn enw Paul Davies. Dylwn ddweud fy mod yn cytuno â holl welliannau Plaid Cymru. Yn anffodus, ni allwn eu cefnogi am eu bod yn dileu ein cynnig yn gyfan.

8. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datblygu Economaidd ( 8 Chw 2017)

Russell George: Ar ôl y refferendwm i adael yr Undeb Ewropeaidd a’r ansicrwydd anochel sy’n gysylltiedig â’r canlyniad, rwy’n credu bod y strategaeth ddiwydiannol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU yn cynnig diogelwch a sicrwydd i fusnesau allu cynllunio ar gyfer eu dyfodol, yn ogystal â sylfaen gadarn ar gyfer gwella safonau byw a buddsoddi yn llwyddiant pob rhan o’r DU yn y dyfodol....

2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ( 7 Chw 2017)

Russell George: A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ateb? Efallai na fydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol o'r newyddion diweddaraf bod arweinwyr yr undebau mor bryderus am y dyfodol ar hyn o bryd fel eu bod wedi rhoi pythefnos i Ford gyflwyno cynllun arall. Felly, wrth gwrs, mae pryder difrifol o hyd ymhlith 1,850 o weithwyr y ffatri am eu dyfodol. Mae'n ymddangos nad oes fawr ddim arwydd o...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Ffyniant Economaidd</p> ( 7 Chw 2017)

Russell George: Brif Weinidog, nod strategaeth ddiwydiannol y DU yw cau’r bylchau mewn cynhyrchiant rhanbarthol. Yma, yng Nghymru, mae cynhyrchiant rhanbarthol yn amrywio'n fawr, gydag Ynys Môn â 53 y cant o werth ychwanegol gros y DU, o’i gymharu â 90 y cant yng Nghaerdydd. Mae eich Llywodraeth wedi datgan yn y gorffennol fod amrywiadau yn lefelau gwerth ychwanegol gros y pen yn cael eu heffeithio...

2. Cwestiwn Brys: Ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ( 7 Chw 2017)

Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu dyfodol ffatri Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr? EAQ(5)0118(EI)

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant ( 1 Chw 2017)

Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo gwaith undebau credyd yn y canolbarth?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog: <p>Cynllun Diwydiannol Llywodraeth y DU</p> (31 Ion 2017)

Russell George: O ran eich Papur Gwyn ar adael yr UE, Brif Weinidog, mae ynddo lawer y gallaf gytuno ag ef. Ond mae'n ymddangos bod diffyg cynllunio strategol i ysgogi’r cyfleoedd, rwy’n credu, i dyfu economi Cymru. Rydym ni’n gwybod bod allforion Cymru wedi gostwng yn 2015 a bod 26 y cant yn llai o fusnesau newydd a gychwynnwyd ers 2011. Felly, wrth dyfu economi Cymru, sut mae eich papur yn cysylltu...

11. 9. Dadl Fer: Her Ailgylchu i Fusnesau a Thrigolion yng Nghymru Wledig (25 Ion 2017)

Russell George: Derbyniaf eich pwynt ynglŷn â dod â deunydd i ganolfannau mewn archfarchnadoedd, er enghraifft, ond ni all busnes wneud hynny. Pe bai busnes yn gwneud hynny, buasent yn cael eu dirwyo.

11. 9. Dadl Fer: Her Ailgylchu i Fusnesau a Thrigolion yng Nghymru Wledig (25 Ion 2017)

Russell George: Diolch. Felly, fe archwiliaf bob un o’r achosion hyn. Roedd y clip cyntaf gan Lorna Hamer o Quality Pipe Supports, ac mae’n rhaid i mi ddweud fy mod yn synnu pan ddywedodd Lorna na all ailgylchu cardbord a phlastig yn unman ym Mhowys. Pan holais i hi, roedd un lle yn y dref nesaf, ond yn anffodus, nid oedd y cwmni’n ei dderbyn yn y ffurf yr oeddent yn ei gynhyrchu ac roedd lleiafswm...

11. 9. Dadl Fer: Her Ailgylchu i Fusnesau a Thrigolion yng Nghymru Wledig (25 Ion 2017)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Teitl fy nadl fer heddiw yw ‘Her ailgylchu i fusnesau a thrigolion yng Nghymru wledig.’ Rwy’n mynd i ddechrau fy nghyfraniad drwy gymeradwyo’r Llywodraeth a dweud gwaith mor dda y maent yn ei wneud, yna rwy’n mynd i gyflwyno rhai achosion sy’n dangos, os nad ydym yn cynnal y momentwm, y bydd pethau’n newid. Wedyn hefyd rwy’n mynd i ddangos clip fideo...

5. 3. Datganiadau 90 Eiliad (25 Ion 2017)

Russell George: Rwy’n falch iawn o’r cyfle hwn i dalu teyrnged i David Pugh, cyn-faer y Drenewydd a hanesydd lleol o fri, a fu farw yr wythnos diwethaf. Roedd David Pugh yn hanesydd lleol blaenllaw ers sawl degawd, yn allweddol yn y gwaith o sefydlu grŵp hanes y Drenewydd yn 1995 a’i gylchgrawn ‘The Newtonian’, ac mae’r ddau’n parhau i ffynnu heddiw. Roedd yn fwyaf adnabyddus am gael ei weld...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.