Jane Hutt: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A hithau'n ugain mlynedd ers sefydlu'r Cynulliad, rwy'n falch o agor y ddadl hon i fynd i'r afael â hiliaeth, i gael gwared ar ideoleg hiliol ac i adolygu ein hymrwymiad i Gonfensiwn Rhyngwladol y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu Hiliol. Rwy'n diolch i Blaid Cymru ac i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno cynnig ar y cyd i'n huno heddiw yn yr...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Bethan Sayed am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw. Mae tyngu llw fel Aelod Cynulliad yn un o'r adegau pwysicaf yn ein gyrfaoedd gwleidyddol. Gallwn gofio'r amseroedd. Rwy'n credu bod naw ohonom wedi bod trwy hyn mewn gwirionedd; tri—pedwar, pump—yn y Siambr heddiw. Pedwar ohonom sydd wedi bod yn—na, pump—. Beth bynnag, rydym ni yma...
Jane Hutt: Diolch i Dawn Bowden, nid yn unig am ei chwestiwn, ond hefyd am yr enghraifft wych honno, a hoffwn hefyd ddathlu'r llwyddiant lleol hwnnw. Mae Cymru yn wlad gynnes a chroesawgar, a dangosir hynny gan fenter Heddlu Bach Fochriw a chyfraniad yr ysgolion hynny. Cynllun Heddlu Bach yw hwn, ac mae'n rhywbeth y dylem ei rannu ledled Cymru, ond y bobl ifanc eu hunain sydd wedi elwa o'r cynllun...
Jane Hutt: Rydym yn gweithio'n agos gyda phrif gwnstabliaid yng Nghymru a'n comisiynwyr heddlu a throseddu i wneud cymunedau'n fwy diogel. Yn benodol, rydym yn gweithio ochr yn ochr â sefydliadau partner i ddatblygu'r ymrwymiadau yn yr adolygiad o weithio gyda'i gilydd i greu cymunedau mwy diogel.
Jane Hutt: Nid yw'n syndod ond daeth y cwestiwn hwn yn uniongyrchol ataf i ddydd Iau diwethaf yn y digwyddiad Gofod3. Gwyddom am yr effaith a gafodd yr holl gyfundrefn gomisiynu o ran sefydliadau llai weithiau—ni all sefydliadau lleol gystadlu o fewn yr amgylchedd hwnnw. Gwyddom hefyd fod yna ffrydiau ariannu sy'n ymateb mewn gwirionedd i ariannu rhanbarthol yn ogystal â threfniadau lleol. Ond mae'n...
Jane Hutt: Yn amlwg, mae'r cyllid a ddarparwn ni i Gymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys yn allweddol i ddarparu'r cymorth seilwaith hwnnw ar gyfer sefydliadau fel Llais i Chi, o ran eiriolaeth dinasyddion. Ac mae angen inni hefyd edrych ar ffyrdd o gefnogi sefydliadau, er enghraifft, y rhaglen cyfleusterau cymunedol. Gall grantiau cyfalaf fod o gymorth mawr, ac rwy'n siŵr eich bod wedi croesawu'r...
Jane Hutt: Yn 2018-19, cafodd Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Powys £315,957 mewn cyllid craidd i helpu'r gymuned leol a sefydliadau yn y sector gwirfoddol gyda chodi arian, llywodraethu da a gwirfoddoli.
Jane Hutt: Mae Helen Mary Jones hefyd yn codi cwestiwn pwysig iawn, a buom yn ei drafod gyda'r prif gwnstabliaid a'r comisiynwyr heddlu a throseddu yn y bwrdd plismona, a gadeiriwyd gan y Prif Weinidog fis diwethaf. Yn wir, roedd Dafydd Llywelyn, Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys, yn glir iawn ynghylch yr heriau yn ei ardal ef. Credaf ei bod yn gyfle gwerthfawr i ni eto i weld sut y gallwn...
Jane Hutt: Ym mis Chwefror, bûm yn cadeirio Bwrdd y rhaglen cymunedau mwy diogel. Mae'r Bwrdd yn goruchwylio'r gwaith o weithredu adolygiad Cymru gyfan ar gyfer gweithio gyda'n gilydd i greu cymunedau mwy diogel Cymru gyfan. Rydym wedi mabwysiadu dull rhanbarthol er mwyn ymdrin yn y ffordd orau ag anghenion penodol pob un o'n rhanbarthau i hyrwyddo cydlyniant cymunedol.
Jane Hutt: Unwaith eto, mae'n ddefnyddiol iawn cael y dystiolaeth honno sydd wedi dod at eich pwyllgor, ond rwy'n siŵr hefyd yn rhinwedd eich swydd fel Aelod etholaeth. Mae Llywodraeth Cymru a'r trydydd sector yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hynny wedi cael effaith ar ddisgwyliadau'r trydydd sector, a chyllid cyhoeddus dan bwysau parhaus. Mewn gwirionedd, aeth y Prif...
Jane Hutt: Diolch i Lynne Neagle am y cwestiwn hwnnw. Mae cynaliadwyedd ariannol yn parhau i fod yn fater allweddol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Mae hyn yn parhau i fod yn un o bedair colofn ein cefnogaeth seilwaith ar gyfer y trydydd sector drwy Gefnogaeth y Trydydd Sector Cymru.
Jane Hutt: Diolch i chi eto, Leanne Wood, nid yn unig am rannu eich profiad, fel rwy'n siŵr y gallwn gydymdeimlo ar draws y Siambr hon, o ran cam-drin menywod ar-lein. Ni allwn fforddio gadael i'r bwlis ennill, fel y dywedasoch, a diolch hefyd am y dystiolaeth ychwanegol yr ydych wedi'i rhoi inni. Bydd hynny'n bwysig iawn o ran y datganiad yr wyf am ei wneud a'r sylwadau yr wyf am eu cyflwyno i...
Jane Hutt: Unwaith eto, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig iawn hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn dwyn y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hyn i gyfrif, ac mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i gyflwyno'r safonau clir a chyson hynny sydd eu hangen arnom ar draws y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i wella diogelwch y defnyddiwr. Cynrychiolir Llywodraeth Cymru yn swyddogol ar Gyngor y DU ar...
Jane Hutt: Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwn. Mae cam-drin menywod mewn bywyd cyhoeddus ar-lein yn gwbl annerbyniol ac yn niweidiol i'n rhaglen amrywiaeth a democratiaeth. Rhaid i Lywodraeth y DU ddwyn darparwyr gwasanaethau i gyfrif am y cam-drin annerbyniol ym mywyd cyhoeddus.
Jane Hutt: Yn hollol, a gallaf eich sicrhau a sicrhau'r Siambr hon os rhoddir camau cyfreithiol ar waith, y bydd Gweinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol yn ystyried pa opsiynau sydd ar gael i ni yn Llywodraeth Cymru i ymateb. Felly, rwyf am orffen gyda datganiad pwerus iawn gan Philip Alston o'r Cenhedloedd Unedig, rapporteur arbennig ar dlodi eithafol a hawliau dynol. Dywedodd y llynedd fod menywod...
Jane Hutt: Rwy'n croesawu'r cyfle heddiw i ddod â rhywfaint o gonsensws ynghylch y sylwadau y gallwn eu gwneud ar ran y menywod yng Nghymru yr effeithiwyd arnynt mor niweidiol gan y newidiadau hyn. Bydd llawer o fenywod yn y grŵp oedran hwn wedi gweithio'n rhan-amser, yn aml mewn mwy nag un swydd ran-amser, mewn swyddi ar gyflogau isel, gan gymryd amser i ffwrdd o'r gwaith i ofalu am berthnasau sy'n...
Jane Hutt: Rwy'n croesawu'r cyfle i siarad ar ran Llywodraeth Lafur Cymru. Diolch i'r rhai a wnaeth y cynnig i gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n tynnu sylw at y problemau a wynebir gan filoedd o fenywod yng Nghymru a gafodd eu geni yn y 1950au sydd wedi cael eu hoedran pensiwn y wladwriaeth wedi'i godi heb hysbysiad effeithiol na digonol, fel y clywsom y prynhawn yma. Mewn gwirionedd, Helen Mary,...
Jane Hutt: Nid wyf yn credu bod angen i mi ddweud rhyw lawer mewn ymateb i ddatganiad grymus iawn Jack Sargeant. Fel y dywedodd Jack Sargeant, mae hyn yn fater i bawb, ac mae'n rhaid i mi dalu teyrnged i Jack, a mor falch y byddai eich tad ohonoch chi yn y fan yma, a sut yr ydych chi wedi sefyll dros fenywod, cydraddoldeb a chyfiawnder cymdeithasol, ond yn arbennig dros wleidyddiaeth fwy caredig. Dyna'r...
Jane Hutt: Byddaf yn ymateb i rai o'r pwyntiau cadarnhaol yr ydych chi wedi'u gwneud am bwysigrwydd Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Credaf ei fod yn bwysig eich bod yn codi materion ynghylch stereoteipiau rhywiol. Yn 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch Dyma Fi sy'n herio stereoteipio ar sail rhyw mewn modd cadarnhaol ac sy'n annog sgyrsiau am rywedd ac anghydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Helen Mary Jones, ac a gaf i ddweud fy mod yn credu eich bod yn un o'r hyrwyddwyr allweddol a oedd, bryd hynny, fwy na thebyg yn gweithio gyda Val Feld yn y Comisiwn Cyfle Cyfartal? Rwyf hefyd eisiau crybwyll y ffaith na fyddem ni'n rhoi'r sylw dyledus hwnnw i gyfle cyfartal oni bai am Julie Morgan, a oedd yn AS ar y pryd yn San Steffan, yn llwyddo i'w gael drwy Ddeddf...