Jeremy Miles: Wel, rŷch chi'n gwybod, fel mae Dai Lloyd yn gwybod, rŷn ni wedi gosod gwelliannau, ac mae'r Arglwyddi wedi cymryd yr awenau ar gyflwyno rhai o'r gwelliannau hynny, ond rwy'n credu, ar y cyfan, fod pob un wedi cael ei gyflwyno mewn rhyw ffordd. Mae'r memorandwm rŷn ni wedi gosod o flaen y Senedd ynglŷn â'r cydsyniad yn disgrifio yn fanwl, rwy'n credu, ein gofidiau ni yng nghyd-destun y...
Jeremy Miles: Wel, fel pan ofynnodd yr Aelod y cwestiwn hwn ddiwethaf yn y Siambr, mae arnaf ofn fy mod yn gwrthod y rhagdybiaeth sy'n sail i'w gwestiwn. Mae'r ddogfen yn disgrifio, mewn ffordd ymarferol iawn, cyfres o fesurau sylweddol iawn, y bydd llawer ohonynt yn cael effaith hynod o fuddiol, yn enwedig ar fywydau pobl hŷn, ac yn wir, rwy'n credu bod y comisiynydd pobl hŷn yn amlinellu rhai o'r...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n hapus i ailadrodd y pwynt a wneuthum yn gynharach, Lywydd. Bydd y cwestiwn ar y papur trefn yn dangos yn gwbl glir yn rhinwedd pa swyddogaeth rwy'n ateb y cwestiynau heddiw, a chyfeiriaf yr Aelod at sylwadau'r Prif Weinidog mewn perthynas â hyn yn y pwyllgor y gwnaethom ein dau fynychu yn ddiweddar iawn. Ond y pwynt y mae'n ei wneud, mewn perthynas â'r ddogfen ei hun—rwy'n...
Jeremy Miles: Wel, mae fy nghyfrifoldebau mewn perthynas ag adfer COVID wedi dod i ben gyda chyhoeddi'r cynllun gweithredu ar ddechrau mis Hydref. Felly, rwy'n hapus iawn i gyfeirio ei gwestiwn at y cyd-Weinidog perthnasol a fydd yn gallu rhoi ateb iddo.
Jeremy Miles: Cytunaf â'r Aelod fod yr holl dystiolaeth gredadwy yn dangos y bydd canlyniad 'heb gytundeb' yn cael effaith andwyol iawn ar yr economi, ac y gallai hynny, dros y tymor hir—10 i 15 mlynedd, efallai—arwain at incymau oddeutu 10 y cant yn is na'r hyn y byddent wedi bod fel arall. A gyda llaw, mae dadansoddiad Llywodraeth y DU ei hun yn gyson â'r darlun hwnnw ar y cyfan. Byddai gadael y...
Jeremy Miles: Mae 'Cynllun Gweithredu Diwedd y Cyfnod Pontio 2020', a gyhoeddais heddiw, yn nodi'r camau y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid eu cymryd i liniaru rhai o'r heriau i Gymru ar ôl diwedd y cyfnod pontio, gan gynnwys yn yr amgylchiadau trychinebus ein bod yn gadael y cyfnod pontio heb gytundeb masnach.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n siŵr fod yr Aelod wedi'i chael hi'n anodd ymatal rhag gwneud y sylw diwethaf hwnnw. Ond rwyf eisiau bod yn glir gyda'r Aelod fod ein hymgysylltiad â Llywodraeth y DU mewn perthynas â safbwynt negodi Llywodraeth y DU â thrydydd gwledydd, h.y. y tu hwnt i'r UE, wedi bod yn gadarnhaol. Ac fel y soniais yn fy ateb i Joyce Watson, mae yna batrwm o ymgysylltiad rydym wedi bod yn...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol ac am ei chefnogaeth barhaus i gynhyrchwyr bwyd yn ei rhanbarth. Rydym wedi dadlau’r achos yn gyson i Lywodraeth y DU yng nghyd-destun y trafodaethau masnach rhyngwladol o ran pa mor bwysig yw cynnal safonau bwyd er mwyn amddiffyn ein cynhyrchwyr bwyd yma yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig, mewn gwirionedd, nid yn unig o'r sicrwydd a roddwn i ddefnyddwyr...
Jeremy Miles: Rwyf eisoes wedi cael cyfarfod cychwynnol gyda Gweinidog Gwladol y DU dros fasnach, Greg Hands. Rwy'n bwriadu parhau i adeiladu ar y patrwm o ymgysylltu a sefydlwyd gan fy rhagflaenydd a byddaf yn cynnal trafodaethau dwyochrog rheolaidd gyda Llywodraeth y DU, gan gynnwys bod yn rhan o'r fforwm gweinidogol ar gyfer masnach.
Jeremy Miles: Wel, mae hwnnw'n gwestiwn pwysig iawn, os caf i ddweud. Rwy'n credu bod dwy ran i'r ateb. Y rhan gyntaf yw dweud bod rhaglen waith eisoes ar y gweill, fel y mae hi'n gwybod, sy'n ymdrin â'r cywiriadau sydd eu hangen ac ati ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, ac mae hynny'n gorff sylweddol iawn o waith. Rwy'n credu ein bod yn disgwyl, rhwng nawr a diwedd y cyfnod pontio, 22 offeryn statudol...
Jeremy Miles: Fel Llywodraeth gyfrifol, rydym yn cynllunio ar gyfer pob senario, gan gynnwys senario 'dim cytundeb masnach'. Fel rhan o'r cynlluniau hyn, mae gwaith wedi dwysáu ar y rhaglen is-ddeddfwriaeth, er enghraifft, i sicrhau bod yr holl ddiwygiadau angenrheidiol i ddeddfwriaeth Cymru yn cael eu gwneud cyn diwedd y cyfnod pontio.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n credu y dylai unrhyw un sydd â diddordeb yn llwyddiant a dyfodol yr undeb fod wedi ei ddychryn yn fawr gan gynnwys y Bil hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod, gymaint ag y mae unrhyw beth, yn cryfhau achos annibyniaeth ym mhob rhan o'r DU, ac nid yw hynny'n ganlyniad yr wyf yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n credu bod ei ddehongliad o'r Bil, a dweud yn blaen, yn sylfaenol naïf. Rydym ni...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwyf yn cytuno â dadansoddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru yn yr adroddiad, y mae'r Aelod wedi'i ddisgrifio, ac rwy'n cytuno â'r ffordd y mae'r Aelod wedi ei ddisgrifio—fel cipio pŵer. Rwy'n credu ei fod yn gwneud pwynt pwysig, ymhlith nifer o sylwadau, fod graddau'r Bil hwn yn mynd y tu hwnt i gyfraith yr UE a gedwir, er enghraifft. Felly, mae'n...
Jeremy Miles: Ceir ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU ar lefel weinidogol a swyddogol i drafod ein pryderon ynghylch y Bil. Rwyf hefyd wedi gwneud datganiad ysgrifenedig i'r Senedd, gan gyhoeddi gwelliannau a gynigir i'r Bil, i ddangos sut y gellid ymdrin â'n pryderon.
Jeremy Miles: Diolch i Alun Davies am y cwestiwn atodol yna ac am ei gefnogaeth hirsefydlog i achos datganoli cyfiawnder yng Nghymru. Fe wnaf ddweud fy mod i, yn ystod y misoedd diwethaf, yn credu bod dealltwriaeth pobl yng Nghymru o sut y mae'r system gyfiawnder yn gweithredu a sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd yn deddfu, a sut y caiff y cyfreithiau hynny eu plismona gan heddlu neilltuedig, os...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am roi'r cyfle i mi egluro fy ngweledigaeth ar gyfer datganoli cyfiawnder yng Nghymru—efallai y bydd yn cymryd peth amser. Ond, dim ond er mwyn rhoi crynodeb o'r sefyllfa, credaf fod gwaith comisiwn Thomas, a sefydlwyd gan y cyn-Brif Weinidog, yn ddadansoddiad rhagorol. Mae'n anodd dychmygu cyfres o gyfraniadau mwy swmpus i'r ddadl na'r hyn y mae'r...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU, ac mae'n parhau i wneud hynny, ar faterion sy'n ymwneud â'r system gyfiawnder, gan gynnwys, yn bwysig iawn, datganoli cyfiawnder i Gymru.
Jeremy Miles: O ran yr egwyddor y mae'r Aelod yn datgan yn y cwestiwn hwnnw—hynny yw, yr egwyddor o fynediad a chynyddu mynediad at addysg Gymraeg—mae Llywodraeth Cymru yn gwbl gefnogol i'r egwyddor honno, am resymau, rwy'n credu, y byddai'r Aelod yn derbyn ac yn cytuno â nhw. O safbwynt y maes polisi, gan ein bod ni ar hyn o bryd yn dal i edrych ar y dadansoddiad cyfreithiol, rwy'n mynd i osgoi...
Jeremy Miles: Ar hyn o bryd, rydym ni'n dal wrthi'n ystyried sail fanwl y cais i ymyrryd. Mae diddordeb Llywodraeth Cymru yn yr achos yn ymwneud â sut y caiff testun Cymraeg a Saesneg y gyfraith ei ddehongli gan y llysoedd, sy’n fater pwysig dros ben i Weinidogion, gan fod gan y ddwy iaith statws cyfartal i bob pwrpas.
Jeremy Miles: Wel, a gaf i ddiolch i Siân Gwenllian? Does dim digon o gyfeiriadau at waith un o'n prifeirdd ni yma yn y Senedd, felly diolch iddi hi am ein hatgoffa ni o gerdd Cynan. Mae, wrth gwrs, cwestiynau ynglŷn â newid y system gynllunio yn y maes hwn yn gwestiynau cymhleth iawn; hynny yw, ar y cyfan, pwrpas cyfraith gynllunio yw rheoli defnydd yn hytrach na pherchnogaeth, felly mae hynny'n un o'r...