David Melding: Meddai UKIP.
David Melding: A wnaiff yr Aelod ildio?
David Melding: Cadwodd yn dawel am hyn pan oedd yn ein plaid ni.
David Melding: Rwyf innau hefyd yn derbyn ei fod yn waith sydd ar y gweill, ond credaf fod angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd, ac wrth wneud hynny, anfon neges at y sector cyhoeddus cyfan y gallai hwn fod yn gyfle arloesol i weld cydweithio a chyllidebau cyfun ar waith o'r diwedd. Rwyf wedi bod yn Aelod Cynulliad ers 1999 ac mae wedi bod yn alwad gyson fod angen i...
David Melding: Ysgrifennydd Cabinet, tybed a ydych yn sylweddoli bod teimlad cyffredinol, rwy'n credu, ar bob ochr i'r Cynulliad, y dylem fod yn fwy heriol o ran sut y cyflwynir y wybodaeth hon ac felly, o'r modd y caiff ei chraffu a'i chysylltu â'r nodau llesiant. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wrth y Pwyllgor Cyllid—a dyfynnaf: Yn hytrach na theimlo bod...
David Melding: 6. Beth oedd y newid mawr yng nghylch cyllideb 2018-19 a benderfynwyd gan y blaenoriaethau a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015? OAQ51613
David Melding: 8. Sut y gwnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ddylanwadu ar ddyraniadau cyllideb Ysgrifennydd y Cabinet? OAQ51612
David Melding: Gweinidog, yn dilyn y cwestiwn a ofynnodd Joyce Watson i chi yn gynharach, a fydd Prosiect Helics yn cael ei ddefnyddio i roi adnoddau i weithgynhyrchwyr bwyd bach a chanolig fel y gallan nhw newid rhai o'u prosesau? Gan fod y rhan fwyaf o'r enghreifftiau y mae pobl wedi sôn amdanynt hyd yma yn bethau y mae cwmnïau fel Coca-Cola, Waitrose, Wetherspoon, Iceland, McDonald's wedi eu...
David Melding: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am sut y bydd Llywodraeth Cymru yn lliniaru effaith cyfyngiadau Tsieina ar fewnforio gwastraff tramor?
David Melding: A wnaiff y Gweinidog ildio? Credaf eich bod yn gysurol, yn gymwys, yn ddyfal ac yn drylwyr iawn, ond credaf mai'r hyn a gefais gan Lee Waters oedd cyflymder newid. Cawsom 10,000 o flynyddoedd o'r chwyldro amaethyddol, 200 mlynedd o'r chwyldro diwydiannol. Mae hyn oll o fewn cenhedlaeth bron, y modd y cawsom ein trawsnewid gan y chwyldro mewn cyfrifiadura, a ddechreuodd yn yr ail ryfel...
David Melding: Ysgrifennydd y Cabinet, mae'r byrddau hyn yn anweledig i raddau helaeth, ac yn sicr mae angen ffocws cliriach arnynt. Credaf y dylent fod yn gyfrifol am ddangos sut y maent yn rhoi Deddf lles cenedlaethau'r dyfodol ar waith. A gallant wneud hynny drwy ddangos, efallai mewn adroddiad blynyddol, beth sy'n newid, pa wasanaethau sydd wedi'u haddasu, ar ba wasanaethau y mae gwaith yn cael ei...
David Melding: Weinidog, mae'n debygol eich bod wedi clywed yr adroddiad ar BBC Radio Wales a nododd fod diffoddwyr tân wedi cael eu galw i ymdrin â 68 o'r 123 o danau gwastraff a gofnodwyd yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, a threuliwyd tua 22,000 o oriau gwaith ar ddiffodd y fflamau, ar gost o tua £1.8 miliwn. Dywedodd Mark Andrews, sy'n arwain ar y materion hyn yng Nghymru a Lloegr ar ran Cyngor...
David Melding: A gaf fi hefyd ddiolch i chi am drefnu'r cyfarfod yr wythnos ddiwethaf gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r Aelodau sydd â diddordeb? Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cynnydd mewn perthynas â thystiolaeth wyddonol a thechnegol. Credaf mai un o'r pethau a allai fod wedi lleddfu pryderon y protestwyr fyddai pe bai gennym ganopi coed mwy helaeth eisoes. Mae'n broblem, wedyn, pan fo'n rhaid i ni, yn...
David Melding: Tybed a oes angen i ni edrych ar raddfa hollol wahanol o ran beth sy'n digwydd. Rydych yn gweld y symud cymdeithasol a masnachol anhygoel hwn tuag at fynd i'r afael â'r broblem, a'r gwleidyddion sydd fymryn ar ei hôl hi, o bosibl, ac yn enwedig Llywodraeth Cymru—yn y maes hwn beth bynnag. Rydym wedi clywed gan Wetherspoon eu bod yn bwriadu gwahardd gwellt plastig a chyflwyno rhai...
David Melding: Weinidog, efallai eich bod yn ymwybodol fod cynllun 25 mlynedd Llywodraeth y DU yn cynnwys addewid i gael gwared ar yr holl wastraff plastig diangen erbyn 2042. Mae ganddynt nod hefyd i gael gwared ar bob gwastraff diangen erbyn 2050. Mae'r olaf—yr holl wastraff diangen erbyn 2050—hefyd yn cael ei gynnwys yn Tuag at Ddyfodol Diwastraff, ond nid oes unrhyw ddyddiad cynharach ar gyfer...
David Melding: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf fi fynd ar drywydd y pwynt hwn ynglŷn â'r rôl y mae plastigion yn ei chwarae yn cynhyrchu cymaint o wastraff a dinistr yn ein hamgylchedd? Cyfeiriwyd at weithred ragorol Iceland, ac fe gynhaliodd yr archfarchnad honno arolwg helaeth iawn cyn cymryd y cam hwnnw mewn gwirionedd, a dywedodd 80 y cant o'r rhai a holwyd y byddent yn cefnogi penderfyniad i beidio...
David Melding: 9. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i leihau nifer y tanau mewn safleoedd gwaredu gwastraff yng Nghymru? OAQ51548
David Melding: Wrth gwrs, rwy'n deall pam mae Aelodau'r gwrthbleidiau yn gwneud y pwynt hwn—efallai eich bod yn iawn i wneud hynny, ac yn sicr mae pob hawl ganddyn nhw i —. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i —breuddwyd gwrach. Ac yn sicr, mae gan Blaid Cymru bob hawl i'w wneud. Ond, wyddoch chi, ymladdodd Llafur dros faniffesto 2010 ar yr un rhagamcanion ariannol fwy neu lai â'r rhai a gaiff eu...
David Melding: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n cynnig y gwelliant. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r cynnig hwn heddiw? Mae'n bwnc pwysig iawn, ac roedd yn eithaf ingol, yr hyn a ddywedodd Bethan—wrth nesáu at y Nadolig, mae fel un o'r pethau sy'n cael sylw bob blwyddyn, ac mewn gwirionedd, mae angen mwy o uchelgais na hynny. Credaf fod defnyddio eich amser ar gyfer...
David Melding: A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi ein bod yn cael yr ail o ddwy ddadl ar yr amgylchedd morol yr wythnos hon? Ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn dangos y cydweithrediad agos a fydd rhwng y ddeddfwrfa a'r Weithrediaeth yn y maes hanfodol hwn o bolisi cyhoeddus, sy'n galw am welliant sylweddol, fel y mae ein Cadeirydd, Mike Hedges, eisoes wedi nodi. Ac a gaf fi ymuno ag ef i ddiolch i bawb...