Llyr Gruffydd: Nawr, gwn fod yr Aelodau Llafur yn y Cynulliad hwn yn enwedig wedi cael eu pigo gan y penderfyniad hwn. Rwy'n siŵr y byddai Gweinidogion blaenorol wedi dod o dan bwysau tebyg i gael gwared ar y grant ar gyfer gwisg ysgol, ond fe wnaethant wrthsefyll hynny, wrth gwrs. Fe wnaethant wrthsefyll hynny mae'n debyg oherwydd eu bod yn gwybod pa mor sensitif a pha mor allweddol oedd hyn i rai o'r...
Llyr Gruffydd: Wel, diolch yn fawr iawn, a chredaf iddi fod yn ddadl ddefnyddiol iawn fel y dylai'r dadleuon hyn fod. Ac mae wedi bod yn un fywiog ac rwy'n falch fod pawb wedi cyfrannu yn y ffordd a wnaethant, ac a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu, yn enwedig Lynne Neagle? Rydych chi'n iawn, roedd angen inni gael, ac mae'n dal i fod angen inni gael mwy o eglurder a sicrwydd. Ond mae wedi cymryd...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n codi i gynnig y ddadl yma yn enw Plaid Cymru, sydd yn ceryddu y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddiddymu y grant gwisg ysgol, oherwydd mae'r grant, fel rydym ni'n gwybod, wedi rhoi cefnogaeth allweddol bwysig i nifer fawr o deuluoedd—y teuluoedd tlotaf yna yng Nghymru—i fedru sicrhau bod eu plant nhw yn cael gwisg ysgol i fynd i'r ysgol....
Llyr Gruffydd: Y realiti, wrth gwrs, yw bod rhai o'r gwasanaethau addysg yma yn cilio yn bellach ac yn bellach oddi wrth gymunedau ar draws Cymru. Byddwch chi'n ymwybodol, er enghraifft, bod y coleg yn Ninbych yn mynd i gau nawr yn yr haf sydd i ddod. Ac rwyf i wedi siarad â rhai o'r myfyrwyr, ac maen nhw yn poeni nawr y byddan nhw'n methu jyglo'r balans rhwng eu hastudiaethau a'r swyddi rhan amser sydd...
Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan yr Ysgrifennydd iechyd ynglŷn â'r newyddion sydd wedi dod i'r amlwg heddiw fod pres yr elusen Awyr Las yn talu am strategaeth ymgysylltu â staff Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr? Rwy'n gwybod y bydd etholwyr yn y gogledd wedi eu synnu, ac yn wir wedi eu siomi, fod arian sy'n cael ei godi gan wirfoddolwyr, a gan grwpiau elusennol, yn cael ei wario...
Llyr Gruffydd: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu i'r ddadl yma. Rydw i'n falch iawn o fedru cynnig gwelliant 2 yn enw Plaid Cymru. Mi gychwynnaf i drwy gyfeirio at adroddiad gan y BBC yn ôl ym mis Rhagfyr a oedd yn dangos bod cyllidebau ysgolion wedi disgyn tua £370 y pen am bob disgybl mewn termau real dros gyfnod o chwe blynedd. Nawr, nid oes rhyfedd, felly, fod rhai o'r undebau...
Llyr Gruffydd: Mae e yn deg i ddweud, wrth gwrs, fod llawer mwy o ryngwyneb rhwng gwasanaethau cyhoeddus ac etholwyr yn digwydd ar-lein, felly rydw i'n meddwl bod y cwestiwn yn ddilys. Mae'n rhaid i mi ddweud: mae nifer o'm hetholwyr i wedi cael llond bol ar yr addewidion gwag maen nhw wedi bod yn eu cael yn y gorffennol gan bobl fel BT Openreach gynt, Openreach erbyn hyn. Mae pentrefi fel Ysbyty Ifan, i...
Llyr Gruffydd: Rydw i'n ofni y bydd yn rhaid i fi hefyd ddechrau drwy adleisio sylwadau'r llefarydd blaenorol ynglŷn ag amseru'r datganiad yma. Rydw i yn teimlo ei fod e'n dangos ychydig o sarhad tuag at waith y pwyllgor, oherwydd rŷm ni fater o wythnosau o gyhoeddi adroddiad ar y grantiau cefnogi ysgolion, a fydd, wrth gwrs, â ffocws cryf ar y PDG, a dyma ni yn cael datganiad gan y Llywodraeth sydd,...
Llyr Gruffydd: Felly, mae pwyslais Llywodraeth Cymru yn bennaf, rwy'n credu, ar y rhiant sy'n gweithio, ond rhaid imi ddweud bod llawer o'r dystiolaeth yn awgrymu bod effaith y math hwn o raglen efallai yn gyfyngedig o'u rhan nhw, oherwydd rwy'n siŵr y byddwch yn ymwybodol y daeth adroddiad Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru, a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog ddwy flynedd yn ôl i edrych ar y dewisiadau...
Llyr Gruffydd: A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Mae'n iawn, mae yn Fil technegol, ond rydw i'n edrych ymlaen at fynd i'r afael â'r Bil wrth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg graffu ar y Bil dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yma. Nawr, rydw i eisiau dechrau drwy daro nodyn o gonsérn, efallai, oherwydd byddwch chi'n gwybod bod Plaid Cymru yn cefnogi'r egwyddor o ehangu'r...
Llyr Gruffydd: Ond a allech chi felly gadarnhau na fydd yna doriad yn y gyllideb sydd ar gael—yr elfen o arian sydd ar gael—i gefnogi prynu dillad ysgol? Oherwydd ymateb y llefarydd o ran y Llywodraeth i'r cerydd yn dilyn y cyhoeddiad oedd bod gwisg ysgol yn rhatach erbyn hyn. Wel, mae gen i brofiad—mae o leiaf ddwy ysgol uwchradd yn fy rhanbarth i wedi symud i wisgoedd ysgol newydd na allwch chi eu...
Llyr Gruffydd: Ai dyna'r cwbl? Efallai eu bod nhw'n wael dros ben. Ond nid ydych chi wedi ateb y cwestiwn, Prif Weinidog, felly efallai y gallwn i ofyn a wnaiff y Prif Weinidog ateb y cwestiwn.
Llyr Gruffydd: 5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol y grant gwisg ysgol? OAQ52013
Llyr Gruffydd: Diolch am eich ateb. Mae tair blynedd bellach ers i Ffrainc ddeddfu y dylai pob adeilad newydd mewn ardaloedd masnachol gael toeau gwyrdd, a golyga hynny naill ai wedi'u gorchuddio'n rhannol gan blanhigion, sy'n helpu i inswleiddio'r adeilad ac yn helpu i gasglu dŵr glaw a hyrwyddo bioamrywiaeth, neu baneli solar wrth gwrs. Tybed beth yw uchelgeisiau eich Llywodraeth yn hynny o beth, ac...
Llyr Gruffydd: 9. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hybu ynni adnewyddadwy? OAQ51941
Llyr Gruffydd: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu lleihau sbwriel yn ein cymunedau?
Llyr Gruffydd: Wrth gwrs, mae gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio, mae gennym ni oedran ymddeol sy'n codi, ac, wrth gwrs, mae colled o swyddi ar y gorwel yn y dyfodol oherwydd awtomeiddio, a bydd angen i'r genhedlaeth hŷn addasu a dysgu sgiliau newydd mewn ffordd efallai nad yw wedi digwydd yn y gorffennol. Nawr, bydd angen felly i Lywodraeth Cymru ddarparu mwy o gymorth i'r bobl hynny ar yr adegau pontio...
Llyr Gruffydd: Mae angen i'ch Llywodraeth chi, wrth gwrs, fod yn fwy rhagweithiol yn y mater yma. Rŷch chi'n iawn fod yr union bwynt o dan sylw ddim wedi'i ddatganoli, ond mae e yn, fel yr ŷch chi'n cydnabod, yn cael effaith sylweddol iawn ar agweddau helaeth o'r sector sydd wedi'u datganoli. Felly, a gaf ofyn i chi, wrth fod yn fwy rhagweithiol, a wnewch chi gynnull cyfarfod o is-gangellorion Cymru er...
Llyr Gruffydd: Ond nid yw Pen-y-bont ar Ogwr ar ei phen ei hun, wrth gwrs. Yn Nhorfaen, aseswyd bod oedi sylweddol o ran sgiliau iaith dros hanner y plant yn 18 mis oed, ond yn dilyn yr ymyrraeth, sgriniwyd y plant eto'n dair blwydd oed, ac aseswyd bod gan 85 y cant o'r plant a sgriniwyd sgiliau iaith priodol ar gyfer eu hoedran, gyda dim ond 8 y cant wedi'u cofnodi fel rhai ag oedi sylweddol o ran eu...
Llyr Gruffydd: Fel y soniais yn gynharach, ceir tystiolaeth gref i danlinellu'r berthynas rhwng tlodi ac oedi o ran sgiliau iaith gynnar, gyda phlant o'r grwpiau mwyaf difreintiedig yn fwy tebygol o feddu ar sgiliau iaith gwannach na phlant mewn grwpiau mwy breintiedig. Ac mae hynny'n golygu bod sgiliau iaith yn ffactor hollbwysig yn y cylchredau sy'n pontio'r cenedlaethau a all barhau tlodi mewn...