Canlyniadau 1121–1140 o 2000 ar gyfer speaker:Mike Hedges

5. 5. Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Datganoli Plismona (10 Mai 2017)

Mike Hedges: Diolch, Llywydd. A gaf fi ddweud fy mod yn siarad fel cyn aelod o Awdurdod Heddlu De Cymru, y bûm yn gwasanaethu arno am ychydig o dan bedair blynedd? A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y ddadl hon? Rwy’n credu ei bod yn ddefnyddiol iawn fod pobl wedi siarad yn erbyn, oherwydd mae’n rhoi cyfle i brofi’r dadleuon sy’n cael eu cyflwyno. Mae angen i bobl brofi’r dadleuon, ac...

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol:
Ehangu Amrywiaeth Farnwrol
(10 Mai 2017)

Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i’r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb? Daw’r adroddiad i’r casgliad fod ymagwedd hollol organig tuag at ehangu amrywiaeth yn golygu bod newid yn digwydd yn llawer rhy araf, a geilw am newidiadau systematig a strwythurol er mwyn hybu newid. A yw’r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno? Pa drafodaethau a gafodd ynglŷn â sut y gall Llywodraeth Cymru gyfrannu at y broses o newid?...

2. 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol:
Ehangu Amrywiaeth Farnwrol
(10 Mai 2017)

Mike Hedges: 2. Beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o’r effaith a gaiff adroddiad y cyngor cyfiawnder ar ehangu amrywiaeth farnwrol ar Gymru? OAQ(5)0034(CG)

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Canolfannau Siopa Ardal
( 9 Mai 2017)

Mike Hedges: Diolch, Prif Weinidog. Mae Treforys ac Abertawe yn ganolfan siopa ardal o bwys. Ceir canolfannau siopa ardal eraill yn Abertawe ac mewn dinasoedd eraill yng Nghymru. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd canolfannau siopa ardal, fel yn Nhreforys, y Mwmbwls a'r Eglwys Newydd yng Nghaerdydd. Yn Nhreforys, rydym ni wedi colli banciau, tafarndai ac amrywiaeth siopa. A wnaiff y Prif Weinidog gytuno...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Canolfannau Siopa Ardal
( 9 Mai 2017)

Mike Hedges: 4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddatblygu canolfannau siopa ardal mewn dinasoedd? OAQ(5)0586(FM)

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Awdurdodau Lleol ( 3 Mai 2017)

Mike Hedges: Wrth gwrs, mae rhai ohonom wedi bod yn siarad am gael gwared ar bob contract camfanteisiol, nid contractau dim oriau’n unig, ers peth amser. Gwelaf fod Plaid Cymru, yn eu cyflwyniad i’w dadl, yn cydnabod y rôl bwysig a chwaraeir gan awdurdodau lleol yn datblygu economïau lleol mewn partneriaeth â’r gymuned fusnes; yn sicrhau bod ein strydoedd yn lân ac yn ddiogel; yn darparu addysg...

6. 6. Dadl Plaid Cymru: Awdurdodau Lleol ( 3 Mai 2017)

Mike Hedges: A ydych yn gresynu at y ffaith ein bod wedi symud oddi wrth awdurdodau lleol yn cyflogi staff yn uniongyrchol i ddarparu gofal, a’i fod wedi mynd allan i’r sector preifat?

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol:
Seddau lle na Chynhelir Etholiad
( 3 Mai 2017)

Mike Hedges: Mewn perthynas â seddi un ymgeisydd, mae pob sedd yn Nwyrain Abertawe yn cael ei hymladd, er y byddai’n well gan fy nhraed pe na bai hynny’n wir, yn ôl pob tebyg. Mae hyn yn cynnwys ymgeiswyr Ceidwadol o Faesteg, Llandeilo, Cimla a Chastell-nedd, ac ymgeisydd UKIP o Rydaman. Yn amlwg, nid yw hynny cystal â Gorllewin Abertawe, lle y mae ganddynt ymgeisydd Ceidwadol o Lundain. A wnaiff...

3. 3. Datganiad: Adroddiad Tueddiadau Tebygol y Dyfodol gan Lywodraeth Cymru ( 2 Mai 2017)

Mike Hedges: Yn gyntaf oll, a gaf i groesawu datganiad Ysgrifennydd y Cabinet a'r adroddiad? Ond rwy’n falch iawn ei fod yn dod gyda rhybudd, i ddyfynnu: ‘nid bwriad yr adroddiad yw bod yn rhyw fath newydd o seryddiaeth wleidyddol. Nid yw’n ceisio proffwydo’r dyfodol.' Rwyf bob amser yn cael fy atgoffa, ar y diwrnod hwn, o bryderon y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd y ceffyl yn brif fath o...

2. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 2 Mai 2017)

Mike Hedges: Rwy’n gofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar nifer y tai a fflatiau Cyngor y bwriedir eu hadeiladu yng Nghymru. Rwy’n gwybod am y datblygiadau sydd naill ai yn cael eu hadeiladu neu sydd yn yr arfaeth yn Abertawe, ond byddai o fudd i ni gael gwybod am yr holl ddatblygiadau yng Nghymru. Ac, er mwyn eich atgoffa chi, cyn i'r Ceidwadwyr fynd yn blaid adain dde eithafol, dan arweinwyr fel...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru ( 2 Mai 2017)

Mike Hedges: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y datblygiad tai cyngor newydd yn Ffordd Milford yn Abertawe?

11. 11. Dadl Fer: Dinas-Ranbarth Bae Abertawe ( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: Diolch, Llywydd. Diolch. Rwyf wedi rhoi munud o’r ddadl hon i Suzy Davies a munud arall i Simon Thomas. Yn 2013, creodd Llywodraeth Cymru ddinas-ranbarth Bae Abertawe i gynnwys mwy o bartneriaid yn y gwaith o wella’r economi ranbarthol. Gweithiodd cynghorau Abertawe, Sir Gaerfyrddin, Castell-nedd Port Talbot a Sir Benfro gyda’i gilydd ar fwrdd dinas-ranbarth Bae Abertawe. Mae’r bwrdd...

9. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol ( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: Rydych yn dweud nad yw pobl yn pleidleisio gan na fydd eu pleidlais yn cael ei hystyried, ond mewn etholiadau Ewropeaidd ac etholiadau comisiynwyr yr heddlu y gwelwyd y ganran isaf yn pleidleisio—a’r ddau etholiad wedi’u cynnal o dan systemau cyfrannol.

9. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol ( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: Hoffwn ddiolch i Paul Davies am hynny. Rydych yn siarad am y newid, ond mae’r swm absoliwt o arian y mae awdurdodau gwledig yn ei gael yn sylweddol uwch na lleoedd fel Caerdydd ac Abertawe.

9. 9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Awdurdodau Lleol ( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cartrefi Newydd i’w Rhentu
( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn y cyfnod rhwng 1945 a 1979—cyfnod democrataidd-gymdeithasol hanes Prydain—cafodd nifer fawr o dai cyngor eu hadeiladu. Pan oedd yn cael ei llywodraethu gan y gwleidyddion adain chwith adnabyddus hynny, Winston Churchill, Harold MacMillan a Stanley Baldwin, adeiladodd Prydain filiynau o dai cyngor a fflatiau. Yn y cyfnod ers hynny...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Pobl Fyddar
( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: A gaf fi ddatgan buddiant, gan fod fy chwaer yn hollol fyddar? A gaf fi ategu’r pwynt a wnaeth Rhun ap Iorwerth? I rywun sy’n fyddar, mae golau’n cyflawni’r un swyddogaeth ag y mae sain yn ei chyflawni i’r rhai ohonom sy’n gallu clywed. Beth sy’n cael ei wneud i sicrhau bod gan bobl fyddar larymau tân sy’n fflachio golau—gan na fydd larwm tân sain o unrhyw ddefnydd iddynt...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Anifeiliaid Egsotig
( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: Nid wyf wedi fy argyhoeddi o rinweddau cadw anifeiliaid egsotig fel anifeiliaid anwes, yn enwedig primatiaid, neu anifeiliaid sy’n gorfod bwyta anifeiliaid byw eraill er mwyn bwydo. Mae llawer o bobl yn methu gofalu am yr anifeiliaid hyn yn effeithiol, a naill ai’n eu gadael yn rhydd, sy’n achosi problemau, neu’n cael eu gwahardd yn y pen draw rhag cadw anifeiliaid anwes. A wnaiff y...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Cartrefi Newydd i’w Rhentu
( 5 Ebr 2017)

Mike Hedges: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am adeiladu cartrefi newydd i’w rhentu gan gynghorau Cymru? OAQ(5)0128(CC)

8. 6. Datganiad: Dyfodol Cyflenwi Gwaith Ieuenctid yng Nghymru ( 4 Ebr 2017)

Mike Hedges: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy’n aml yn gryno. A gaf i groesawu'r datganiad gan y Gweinidog, ac a gaf i groesawu'r cyfeiriad? A gaf i roi gwasanaethau ieuenctid yn eu cyd-destun, fodd bynnag? Yn y pedair blynedd o Ebrill 2012, torrwyd £6.1 miliwn ar y gwariant gan awdurdodau lleol Cymru ar wasanaethau ieuenctid. Arweiniodd y toriadau hyn at golli mwy na 100 o ganolfannau ieuenctid, a...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.