Canlyniadau 1121–1140 o 10000 ar gyfer speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George OR speaker:Russell George

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Lleihau Tagfeydd yng Nghanol Trefi
(25 Ion 2017)

Russell George: Cyfarfûm â’ch rhagflaenydd, Edwina Hart, y llynedd mewn perthynas â system traffig unffordd y Trallwng, a Chyngor Tref y Trallwng hefyd. Cytunwyd ar y pryd y buasai Llywodraeth Cymru yn gwneud rhywfaint o waith i asesu’r opsiynau o droi Brook Street yn ôl o fod yn system draffig unffordd i system ddwyffordd er mwyn lleddfu’r problemau parhaus yn y dref. Buaswn yn ddiolchgar pe...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Russell George: Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, byddaf yn gwneud hynny ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Mae strategaeth ddiwydiannol y Prif Weinidog wedi nodi y bydd buddsoddiad sylweddol yn mynd tuag at ymchwil a datblygu, a hyfforddiant, fel bod ein gweithlu’n barod i wynebu’r heriau a ddaw yn sgil arloesedd. Yn wir, mae’n nodi y dylem greu’r amodau cywir er mwyn i fentrau newydd a mentrau...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Russell George: Wel, mae busnesau Cymru eisoes ar eu colled o gymharu â’u cystadleuwyr yn Lloegr a’r Alban. Mae Lloegr a’r Alban eisoes wedi codi lefelau rhyddhad ardrethi busnesau bach yno. Ar ben hynny, model hybrid o Cyllid Cymru yw’r banc datblygu yr ydych yn ei gynnig—yn wir, hwy a ddarparodd yr achos busnes. Nawr, gwelais enghraifft yr wythnos diwethaf pan euthum i ymweld â busnes. Roedd eu...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
(25 Ion 2017)

Russell George: Diolch, Lywydd. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi fod busnesau bach yn hanfodol bwysig, wrth gwrs, i economi Cymru. Ond rhaid i mi ddweud nad yw busnesau bach wedi cael y sefydlogrwydd y credaf eu bod ei angen gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol a’r presennol. Datganolwyd ardrethi busnes ers peth amser, ac mae busnesau’n dal i fod o dan...

7. 7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Cymorth Ariannol i Fusnesau Bach (18 Ion 2017)

Russell George: A gaf fi ddiolch i bawb a gymerodd ran yn nadl y Ceidwadwyr heddiw? A gaf fi hefyd ddatgan buddiant fel perchennog busnes bach fy hun sydd, yn anffodus i mi, yn gorfod talu ardrethi busnes? Ond hoffwn ddweud fy mod wedi gwrando’n ofalus ar sylwadau Adam Price heddiw, ac rwy’n cytuno â phob dim a ddywedodd. Mae llawer o fusnesau bach o dan bwysau difrifol, ac nid oes pleser o gwbl mewn...

4. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (17 Ion 2017)

Russell George: Arweinydd y tŷ, byddwch yn ymwybodol y bu’n rhaid gwagio eiddo ym mhentref Llanrhaeadr-ym-Mochnant, yn fy etholaeth i, ddydd Gwener ar ôl iddyn nhw gael eu gorlifo gan ddŵr o brif gyflenwad a oedd wedi byrstio, sy'n cario dŵr o Lyn Efyrnwy i Lerpwl. Difrododd y llifogydd y neuadd bentref newydd hyd yn oed, a agorwyd gan y Prif Weinidog, rwy’n ei gofio’n dda, a hynny ond yn...

3. Cwestiwn Brys: Tollau ar Bontydd Hafren (17 Ion 2017)

Russell George: Rwy’n sicr yn croesawu'r penderfyniad i dorri'r tollau, a chredaf y bydd yn hwb enfawr i fodurwyr. Nawr, rydych chi wedi amlinellu eich dymuniad, Ysgrifennydd y Cabinet, i weld y tollau ar groesfan Hafren yn cael eu diddymu, ac rwy’n cytuno â’r uchelgais honno hefyd, hyd yn oed os oes cwestiynau ariannol difrifol y mae angen mynd i'r afael â nhw, ac, yn wir, faterion yn ymwneud â...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Tata Steel
(17 Ion 2017)

Russell George: Brif Weinidog, dywedasoch nad oes unrhyw gynnig arall ar y bwrdd ac rwy’n derbyn y sefyllfa honno hefyd. Ond a gaf i ofyn pa drafodaethau cychwynnol ydych chi wedi eu cael, fel Llywodraeth, gyda Llywodraeth y DU, yr undebau a phartïon eraill sydd â diddordeb, ar ddatblygu strategaeth arall rhag ofn y bydd y cynnig presennol yn cael ei wrthod?

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Masnachfraint Rheilffyrdd Cymru a’r Gororau
(17 Ion 2017)

Russell George: Erbyn mis Ionawr 2020, bydd angen i gerbydau yng Nghymru gydymffurfio â'r rheolau newydd ar gyfer y DU gyfan ar fynediad i bobl anabl. Fel y mae'n sefyll ar hyn o bryd, ni fyddai’r rhan fwyaf o gerbydau Cymru a'r gororau yn bodloni’r safonau hyn ac mae gennym ni dystiolaeth i awgrymu y gallai sicrhau cerbydau newydd gymryd, wrth gwrs, hyd at bedair blynedd. A ydych chi’n ffyddiog y...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (10 Ion 2017)

Russell George: Hoffwn godi dau fater. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, ymatebodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd i mi yma yn y Siambr, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu ataf ynghylch cwestiwn a godais ar gynlluniau datblygu lleol. Nid wyf wedi derbyn nodyn ar hynny hyd yma, ac felly, byddwn yn ddiolchgar am ymateb—yn ddiolchgar iawn am hynny. Yn ail, byddwn yn gofyn am ddatganiad. Rwyf wedi tynnu...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Datblygu Economaidd Rhanbarthol
(10 Ion 2017)

Russell George: Cyhoeddodd y grŵp gorchwyl a gorffen ar y Gymraeg a datblygu economaidd argymhellion ar sut y gellid gwella dwyieithrwydd a datblygiad economaidd. Awgrymodd tystiolaeth o'r adolygiad bod gwahaniaethau rhwng sut y mae BBaChau a busnesau mwy yn defnyddio'r Gymraeg, gyda llawer o BBaChau yn dweud mai cost yn hytrach na budd yw’r Gymraeg. Ers cyhoeddi’r adolygiad dair blynedd yn ôl, a gaf i...

9. Cwestiwn Brys: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (14 Rha 2016)

Russell George: A gaf fi gefnogi safbwyntiau Adam Price yn llwyr? Mae’n warthus na allai Ysgrifennydd y Cabinet fod yma heddiw i gyflwyno i’r Siambr yr hyn a gyflwynodd yn ei araith y bore yma. Nid wyf—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith honno y bore yma, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrth y Gweinidog yw hyn: mae gennyf ddau gwestiwn i chi heddiw—[Torri ar draws.] Ni chlywais yr araith a...

9. Cwestiwn Brys: Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru (14 Rha 2016)

Russell George: Y ddau gwestiwn penodol sydd gennyf, Weinidog, yw: a gaf fi ofyn i chi amlinellu, Weinidog, pa brosiectau seilwaith fydd yn cael eu dynodi ar gyfer cefn gwlad Cymru, ac yn ail, pa brosiectau penodol y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn eu cyflwyno i ddarparu’r gwasanaeth rhwydwaith bysiau cynaliadwy y mae wedi ymrwymo iddo? Mae’n siomedig nad yw Ysgrifennydd y Cabinet yma ei hun nac wedi...

4. Cwestiwn Brys: Ffordd Liniaru Arfaethedig yr M4 (14 Rha 2016)

Russell George: Weinidog, a allwch gadarnhau—? Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet heddiw y byddai gwaith yn dechrau yn 2018, ond yn amlwg mae 24 mis tan ddiwedd 2018. A allwch gadarnhau pryd yn 2018 y gallai ddechrau? A allwch roi dyddiad ychydig yn fwy manwl, yn amodol, wrth gwrs, ar ganlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus? Yn eich datganiad heddiw, dywedwch fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud bod yr asesiad...

2. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant:
Y Gymuned Teithwyr
(14 Rha 2016)

Russell George: Rwy’n datgan buddiant fel aelod o Gyngor Sir Powys. Mae aelodau o Gyngor Tref Machynlleth wedi mynegi eu pryderon ynghylch cynigion gan Gyngor Sir Powys i leoli safle parhaol i Deithwyr ger Machynlleth. Mae cynghorwyr y dref yn cytuno na fu ymgynghoriad ffurfiol, er bod y cyngor sir wedi addo cynnal un gyda’r trigolion ynglŷn â lleoliadau posibl ar gyfer y safle. Rwyf wedi cyflwyno...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Diogelu Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau
(14 Rha 2016)

Russell George: Rwy’n ddiolchgar; nid wyf yn credu bod unrhyw le i anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Rwy’n cytuno â hynny. Mae hwn yn fater a hyrwyddwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig rai blynyddoedd yn ôl, ac rwy’n falch y bydd yna ddatganiad yfory. Ond a gaf fi ddweud: pam ei bod wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt hwn? Eich rhagflaenydd, Rebecca Evans, a gododd y mater hwn yn gyntaf, ac mae wedi cymryd...

1. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:
Prosiectau Cynhyrchu Ynni Lleol
(14 Rha 2016)

Russell George: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau’r statws a’r pwyslais a roddir ar bolisïau mewn cynlluniau datblygu lleol pan fydd ei swyddogion yn penderfynu pa mor dderbyniol yw unrhyw gynllun cynhyrchu ynni lleol, sydd, yn rhinwedd ei allbwn disgwyliedig, bellach yn cael ei gategoreiddio bellach fel datblygiad o arwyddocâd cenedlaethol?

5. 4. Datganiad: Banc Datblygu Cymru (13 Rha 2016)

Russell George: Ddirprwy Lywydd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi dweud y bydd y banc datblygu yn cael ei lansio yn ystod hanner cyntaf y flwyddyn newydd, ond rwy’n meddwl ei bod yn ychydig yn siomedig bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi darparu ychydig iawn yn y datganiad heddiw o ran yr achos busnes ar gyfer model hybrid y banc datblygu i ganiatáu ar gyfer craffu heddiw gan Aelodau'r Cynulliad. Rwy’n...

1. 1. Cwestiynau i’r Prif Weinidog:
Cysylltiad/Cangen Rheilffordd Heathrow
(13 Rha 2016)

Russell George: Mae ehangu Maes Awyr Heathrow yn sicr yn hwb mawr i fasnach a thwristiaeth yng Nghymru. Nawr, yn wahanol i Lywodraeth yr Alban, mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi methu â denu llawer o hwb cadarnhaol i Gymru yn gyfnewid am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r ehangiad. Mewn memorandwm o gyd-ddealltwriaeth i Lywodraeth yr Alban, sicrhaodd Llywodraeth yr Alban 16,000 o swyddi newydd,...

7. 5. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Datganiad yr Hydref ( 7 Rha 2016)

Russell George: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Credaf fod fy nghyd-Aelod, Nick Ramsay, wedi crybwyll hefyd fod datganiad yr hydref yn nodi’r sylfeini cyllido cadarn ar gyfer buddsoddi yn ein ffyrdd a’n hysgolion a’n hysbytai i wella twf, wrth gwrs, a chynnal yr economi hefyd. Nawr, ar seilwaith digidol megis band eang ffibr a phumed genhedlaeth—mae hon yn un o fy mhregethau, rwy’n gwybod—mae datganiad...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.