Mark Isherwood: Wel, dewch inni roi cynnig arall arni. Sut rydych chi'n ymateb i'r datganiad gan Donna Ockenden, ‘Gwneir sylwadau cadarnhaol am y staff yn aml. Mae’r arfer da hwn i’w weld yn aml er gwaethaf (yn hytrach nag oherwydd) unrhyw ymyriadau penodol gan naill ai’r tîm rheoli grŵp trawsbleidiol neu Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros yr amserlen, yn enwedig o 2009 i 2016'? Sut rydych...
Mark Isherwood: Diolch. Dim ond un cwestiwn: o gofio eich datganiad, a ailadroddir yn aml, mai dim ond 1 y cant o'r gyllideb ar gyfer gwella rheilffyrdd a dderbyniodd rhwydwaith Cymru, sut ydych chi'n ymateb i'r dystiolaeth a gafwyd gan y Pwyllgor Economi, Seilwaith a Sgiliau y clywsom gyfeiriad ato eiliad yn ôl, gan Network Rail, sy'n ymwneud ag adroddiad y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd ar wybodaeth...
Mark Isherwood: Roedd hynny hefyd yn gadarnhaol o ran masnach. Yn olaf, o ystyried datganiadau Liam Fox ddoe yn rhinwedd ei swydd yn Ysgrifennydd masnach ryngwladol o ran trefniadau masnach ar ôl Brexit, pan soniodd am ei fwriad i roi hwb i fasnach gyda hen gyfeillion a chynghreiriaid newydd, gan ehangu mynediad at farchnadoedd ledled y byd, ond pan ddywedodd hefyd ei fod yn parhau i weithio'n agos gyda'r...
Mark Isherwood: Cewch, wrth gwrs. O ystyried yr ymwneud a fu rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, drwy drafodaethau â Phrif Weinidog Cymru a chi'ch hun, cyfarfodydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogol ar negodiadau'r UE, gohebiaeth barhaus, ac, wrth gwrs, trafodaethau swyddogol parhaus, pa drafodaethau, ar wahân i'r holl rwdl-mi-ri yma, a fyddwch chi'n eu cael wrth i faterion ddatblygu yn awr, o ran...
Mark Isherwood: Wel, diolch—diolch am eich datganiad. Rwy'n gresynu—yn annodweddiadol iawn ohonoch chi—nad oedd modd imi ei ddarllen dim ond pan ymddangosodd ar fy sgrin ychydig eiliadau'n ôl. Deallaf, yn y broses o gael ei gyflwyno yn hwyr iawn, iawn, na chanfu ei ffordd, yn anffodus, ataf i. Er, ar ôl ei ddarllen—neu wedi gwrando arno—bellach rwy'n deall pam y gallai fod wedi ei ohirio,...
Mark Isherwood: A gaf i alw am ddatganiad unigol ar ofal i oedolion ag anableddau dysgu sy'n datblygu dementia? Pan oeddwn yn cadeirio grŵp trawsbleidiol y mis diwethaf ar anabledd yn y Cynulliad, clywsom gan Cysylltu Bywydau Cymru am y fenter dementia Cymru gyfan, sef cynnig ar gyfer gwasanaethau dementia sy'n benodol ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu sy'n datblygu dementia. Mae gofalwyr pobl ag...
Mark Isherwood: Sut y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i wneud Cymru yn genedl sy'n gyfeillgar i bobl â dementia?
Mark Isherwood: Ymwelais ag Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor ar y Fenai. Fe holais i Ysgrifennydd y Cabinet ynglŷn â hyn ym mis Chwefror, pan ddywedais: 'Mae arolygu a mapio gwely'r môr yn hanfodol bwysig i'n heconomi. Mae Iwerddon eisoes wedi rhoi camau ar waith ar hyn. Mae'r UE yn dechrau gwneud hynny bellach hefyd. Mae perygl y bydd Cymru a'r DU ar ei hôl hi yn hyn o beth. Llong ymchwil...
Mark Isherwood: Fel y mae ein hadroddiad ar hyn yn nodi, ychydig o dystiolaeth a geir i ddangos bod wyth ardal fenter Cymru wedi bod yn drawsnewidiol o ran creu swyddi, ond mae gwahanol ganlyniadau'n anochel oherwydd mae pob un wedi wynebu heriau gwahanol ac amgylchiadau lleol gwahanol. Mae'n bosibl y gellid ystyried ymddygiad Ysgrifennydd y Cabinet pan fynychodd y pwyllgor ar gyfer ei sesiwn graffu...
Mark Isherwood: Rwyf wedi cefnogi'r cysyniad o ysgol feddygol ym Mangor ers i'r is-ganghellor blaenorol, Merfyn Jones, ei ddwyn i fy sylw yn gyntaf ddegawd neu fwy yn ôl, ac mae hyn wrth gwrs, wedi cael ei godi mewn Cynulliadau blaenorol hefyd. Ond o ystyried bod pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru—y bu llawer ohonynt eu hunain yn astudio yn ysgol feddygol Lerpwl, neu ysgol feddygol Manceinion, a...
Mark Isherwood: Bedwar mis ar ddeg yn ôl, gelwais am ddatganiad ar fater mewnblaniadau rhwyll ar ôl i etholwraig yng ngogledd Cymru ddweud wrthyf ei bod yn dioddef o boen yn ei chlun chwith, poen yn ei morddwyd chwith, poen pelfis a phoen mewn mannau personol o'r corff, a dywedodd wrthyf fod miloedd o fenywod eraill yn y DU yn dioddef mewn ffordd debyg. Cefais wybod bryd hynny y dylai byrddau iechyd...
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?
Mark Isherwood: A ydych chi’n gresynu bod Llywodraeth Cymru ar y pryd wedi anwybyddu’r rhybuddion gan ymgyrch ar y cyd gan y sector tai drwy gydol y 2000au cynnar y byddai argyfwng o ran cyflenwad tai pe na bai Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi eu toriadau o 70 y cant mewn tai fforddiadwy? Roedd hynny’n bell cyn y wasgfa gredyd ac fe wnaethon nhw ei anwybyddu—dyna pam rydym ni yn y sefyllfa hon heddiw.
Mark Isherwood: Diolch. Ar ôl cyfarfod â chi neithiwr, cafodd Jan Logie, Is-Ysgrifennydd Seneddol yng Ngweinyddiaeth Gyfiawnder Llywodraeth Seland Newydd, ei chroesawu gennyf i fel cyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar drais yn erbyn menywod a phlant mewn cyfarfod bord gron i drafod trais ar sail rhywedd ac atal. Yn amlwg, mae elfen ryngwladol yn ogystal ag elfen genedlaethol i hyn, a gallwn ddysgu a...
Mark Isherwood: Yn ystod dadl mis Ionawr ar y cynllun cyflenwi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol', nodais fod gwerth y nwyddau a'r gwasanaethau a gynhyrchir fesul pen o'r boblogaeth yn y gorllewin ac yn is-ranbarth y Cymoedd yn parhau ar y gwaelod ledled y DU, gyda chymoedd Gwent, yn ail yn unig i Ynys Môn, yr isaf yn y DU. Nodais hefyd fod adroddiad Sefydliad Bevan 'Tough times ahead? What 2018 might hold for...
Mark Isherwood: Rwy'n cefnogi'r alwad am ddatganiad ar weithrediadau rhwyll. Nid yw Lloegr wedi dilyn Cymru. Mae'r GIG yn Lloegr wedi cyhoeddi terfyn i driniaethau'r GIG—yn bendant iawn. Yn y cyd-destun hwnnw, byddwn i'n croesawu datganiad. Yn ail, byddwn i'n croesawu datganiad ar y cyfraniad y gall rheilffyrdd treftadaeth ei wneud ac y gall ei wneud ymhellach i Gymru ac i'n heconomïau lleol a...
Mark Isherwood: Wrth gwrs, mae Ynys Môn yn lle anhygoel ac mae ei hanes yn mynd yn ôl ymhell iawn. Sut ydych chi'n credu y gallwn ni gynnwys yn neunydd hyrwyddo'r ynys honno y cyfnod pan mai hi oedd Rhufain y byd cyfreithyddol, y ffaith ei bod ar y llwybr masnachu ymerodrol Rhufeinig hyd yn oed cyn i Rufain oresgyn yr ynys hon, ei chysylltiadau Arthuraidd gwych a'i chysylltiadau â chwedlau Afallon ac...
Mark Isherwood: Yr wythnos diwethaf, cynhaliais a chadeiriais y digwyddiad blynyddol Codi Ymwybyddiaeth o Epilepsi Epilepsi Cymru yn y Cynulliad, a chlywsom nad oedd pobl ag epilepsi cymhleth yn gallu cael gafael ar driniaeth, gan gynnwys deiet keto, er ei fod yn cael ei argymell fel triniaeth llinell gyntaf gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal. Roedd hyn yn cynnwys plant ag...
Mark Isherwood: 7. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i blant ag epilepsi? OAQ52488
Mark Isherwood: A wnewch chi ildio?