Jane Hutt: Hoffwn ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau pwysig ac ehangach hynny, a fydd yn thema llawer o ddigwyddiadau a thrafodaethau ar draws y byd, o ran Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ddydd Gwener. Mae gennyf ddiddordeb arbennig—. Cefais fy nghyfarfodydd dwyochrog o ran yr adolygiad rhywedd. Cyfarfûm â Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol yn gynharach, ac roeddem yn trafod y...
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Mohammad Asghar. Rwyf hefyd yn diolch i chi am eich cefnogaeth, a chefnogaeth Grŵp Ceidwadwyr Cymru i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, a hefyd am gydnabod swyddogaeth menywod yng Nghymru. Rwy'n credu bod hynny'n bwynt allweddol yn fy natganiad. Ac yn wir rydym ni wedi bod yn cydnabod menywod arwyddocaol yng Nghymru sydd wedi cael dylanwad. Byddwn ni ddydd Gwener—Ursula...
Jane Hutt: Rwy'n falch iawn o gael diolch i Dawn Bowden am y deyrnged i Ursula Masson ac i ddiolch iddi am yr holl waith arloesol yr ydych chi wedi'i wneud, Dawn, ers ichi ddod yn Aelod Cynulliad dros Ferthyr Tudful a Rhymni. Oherwydd fy mod i'n gwybod hefyd, y llynedd, yn ystod blwyddyn y canmlwyddiant, fe wnaethoch chi dynnu ein sylw, a sylw'r cyhoedd—a sylw lleol yn arbennig—at rai o'r bobl...
Jane Hutt: Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn gyfle i ystyried yr hyn a gyflawnwyd yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, gan gynnwys polisïau arloesol a deddfwriaeth arweiniol ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae hefyd yn gyfle i bwyso a mesur faint o ffordd sydd o'n blaenau cyn y gallwn sicrhau cydraddoldeb yng Nghymru....
Jane Hutt: Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy'n falch o wneud y datganiad hwn yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod, a nodi ugeinfed pen-blwydd y Cynulliad hwn, a sefydlwyd o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, sydd hefyd yn gosod dyletswyddau i roi 'sylw dyledus i gyfle cyfartal' yn ein llyfr statud. Mae cydraddoldeb wedi'i ymgorffori yng ngwead Llywodraeth Cymru drwy'r ddeddfwriaeth sy'n sail i'n...
Jane Hutt: Wel, Mark Isherwood, fe fyddwch yn ymwybodol, fel yr ydych eisoes wedi ei adrodd, fod grŵp gorchwyl a gorffen yr adolygiad diogelwch cymunedol wedi arwain at sefydlu'r bwrdd rhaglen cymunedau mwy diogel. Yn wir, fe'i sefydlwyd gan gyn-Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, ac mae'n gweithio'n agos iawn—nawr ei fod wedi ei sefydlu—gyda'r Swyddfa Gartref....
Jane Hutt: Wel, rwy'n ddiolchgar i Joyce Watson am godi'r cwestiwn hwn ac yn arbennig am dynnu sylw at yr arolwg yr wythnos diwethaf a wnaed gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr. Yn ogystal ag awgrymu bod 90 y cant o swyddogion yn credu nad oes digon ohonyn nhw i wneud eu gwaith yn iawn, maen nhw'n gweld bod hynny hefyd yn rhoi'r bobl y maen nhw'n dymuno eu gwasanaethu yn eu cymunedau mewn perygl. Rwyf...
Jane Hutt: Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar faterion o ddiddordeb cyffredin, er mwyn gwneud cymunedau yn fwy diogel, gan gynnwys gweithredu strategaethau troseddu cyfundrefnol difrifol a thrais difrifol y Swyddfa Gartref. Mae'r rhaglen cymunedau mwy diogel y bûm yn ei chadeirio yn ddiweddar yn cynnwys cynrychiolaeth gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
Jane Hutt: Diolch i Leanne Wood am y cwestiwn pwysig yna. Yn ddiddorol, ddoe, roeddwn yn y bwrdd plismona, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog, lle'r oedd prif gwnstabliaid a chomisiynwyr heddlu a throseddu yn trafod troseddu yn eu cymunedau. Ac, yn wir, codwyd cam-drin domestig a thrais yn erbyn menywod gan brif gwnstabliaid fel problem yr oedden nhw'n bryderus iawn amdani, o ran eu blaenoriaethau....
Jane Hutt: Diolch i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Roeddwn yn ffodus i fod yn lansiad yr ymgyrch hon, ac i glywed y cyflwyniad pwerus iawn gan Luke Hart o CoCo Awareness am ei brofiad. Ac mae ef a'i frawd wedi ymrwymo eu bywydau bellach i godi ymwybyddiaeth o reolaeth drwy orfodaeth, a arweiniodd at farwolaeth eu mam a'u chwaer. Felly, mae'r ymgyrch hon yn bwysig i ni wrth fwrw ymlaen â'n gwaith o...
Jane Hutt: Wel, a gaf i ddechrau drwy ddiolch i Jayne Bryant am ei theyrnged i'ch mentor a'ch ffrind annwyl iawn, yr ysbrydoledig Paul Flynn? Roeddwn yn ffodus i adnabod Paul a gweithio a dysgu ganddo yn ôl pan oeddwn i'n weithiwr cymunedol yn Pilgwenlli, ac yntau'n gynghorydd Llafur. Rydym wedi clywed llawer o deyrngedau gwych ar draws y Siambr hon, ac wrth gwrs, mae ein meddyliau a'n cydymdeimlad...
Jane Hutt: Wel, rwy'n falch iawn, Suzy Davies, eich bod wedi tynnu sylw at y diffyg cysondeb hwnnw o ran gweithredu camau i fynd i'r afael â'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau, sydd wedi gostwng ychydig yn 2018, ond tua 8 y cant yw'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn Llywodraeth Cymru. Nid yw hynny'n dderbyniol. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gweithredu ar hyn, a byddaf yn cyfarfod â'r Gweinidog, fel y...
Jane Hutt: Wel, diolch yn fawr, Siân Gwenllian. Rwy’n credu bod yr adroddiad 'Cyflwr y Genedl 2019' gan Chwarae Teg wedi bod yn werthfawr iawn gan iddo ystyried menywod yn yr economi, cynrychiolaeth menywod, a menywod mewn perygl, ac, fel y dywedwch chi, dangosodd yr ystadegau o'r adroddiad yn glir iawn bod menywod yn fwy tebygol o fod yn anweithgar yn economaidd oherwydd eu bod yn gofalu am y teulu...
Jane Hutt: Diolch yn fawr. Dwi’n cwrdd â’r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ar 6 Mawrth i drafod yr adolygiad gydraddoldeb rhywedd. Bydd gan y cynllun cyflogadwyedd, y contract economaidd a’r Comisiwn Gwaith Teg i gyd rôl bwysig wrth daclo’r diffyg cydraddoldeb y mae adroddiad Chwarae Teg yn sôn amdano.
Jane Hutt: Wel, wrth gwrs, fel y dywedwch, Darren Millar, mae'r grwpiau ffydd yn cyflawni swyddogaeth bwysig iawn yn eu cymunedau drwy wirfoddolwyr, drwy grwpiau eglwysi, ac rydym yn gwybod, er enghraifft, y caiff llawer o'n banciau bwyd eu rhedeg gan, a chyda, eglwysi a chapeli ledled Cymru. Ac rydym yn gwybod, wrth gwrs, hefyd fod gan y Gymdeithas Lles Mwslimaidd ran hefyd o ran y math hwnnw o...
Jane Hutt: Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n cydnabod hefyd fod gwasanaethau, o ran mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod a cham-drin domestig, wrth gwrs, wedi dechrau yn y trydydd sector—wedi dechrau gyda Cymorth i Fenywod Cymru, a sefydlwyd Cymorth i Fenywod Caerdydd gan fenywod yn eu cymuned leol. A'r hyn sy'n bwysig hefyd, wrth gwrs, o ran gwasanaethau cam-drin domestig,...
Jane Hutt: Wel, a gaf i ddiolch i Hefin David am ei eiriau caredig a'i gwestiwn? Rydych chi wedi tynnu sylw at waith sefydliadau lleol sydd wedi'u gwreiddio yn nhreftadaeth a hanes eich cymuned. Wrth gwrs, maen nhw hefyd yn cefnogi anghenion cymdeithasol ac yn gwella lles. Felly, a gaf i ddweud, mewn ymateb i'r cwestiwn, fod gwirfoddoli, wrth gwrs, yn parhau i fod wrth wraidd cymunedau ledled Cymru a...
Jane Hutt: Mae sector gwirfoddol cryf ac annibynnol yn hanfodol i les Cymru a'n cymunedau. Mae perthynas gynaliadwy â'r sector gwirfoddol drwy ein cynllun trydydd sector a'n grant trydydd sector Cymorth Cymru yn darparu'r seilwaith y gall y sector ffynnu arno.
Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Hoffwn godi pwynt o drefn o dan Reol Sefydlog 12.37 fod gwrthwynebiad wedi'i wneud ar lafar i ddadl Plaid Cymru NDM6967. Felly, a allwch adolygu a gwneud datganiad ar statws y cynnig hwnnw? Gwneuthum wrthwynebiad ac fe'i clywyd gan gyd-Aelodau.
Jane Hutt: Un gair yn unig—