Jeremy Miles: Mae mesurau eisoes ar waith yng Nghymru—mesurau deddfwriaethol ac anneddfwriaethol—sy’n effeithio ar y defnydd o ail gartrefi. Byddai unrhyw gamau pellach yn golygu goblygiadau i gymunedau, y maes tai, twristiaeth, yr economi, Trysorlys Cymru a llywodraeth leol. Wrth edrych ar y materion yma, rhaid gwneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth o ran a oes angen cael deddfwriaeth bellach ai...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig yna. Fel y gŵyr, yn rhan o ffrwd waith y grŵp cynghori ar ddiwygio mynediad, y mae fy nghyd-Aelod wedi ei sefydlu, mae tri gweithgor arbenigol sy'n cynrychioli amrywiaeth o randdeiliaid mewn cysylltiad â rheoli tir, ac mae'r grwpiau hynny yn archwilio goblygiadau cyfreithiol ac ariannol rhai o'r cynigion yr ydym ni wedi bod yn eu hystyried a byddant yn...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn datblygu rhaglen i ddiwygio mynediad, fel y nodwyd yn natganiad ysgrifenedig y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol ym mis Ebrill 2019.
Jeremy Miles: Llywydd, y pwynt yr wyf i wedi ei wneud yn fy nhrafodaethau â Gweinidogion Llywodraeth y DU mewn cysylltiad â hyn yw; os mai bwriad y darpariaethau hynny yw galluogi'r Llywodraethau i gydweithio i sicrhau ffyniant Cymru, yna byddwn ni fel Llywodraeth bob amser yn dymuno cydweithio â Llywodraethau eraill, pan fo hynny er budd Cymru, a byddwn yn croesawu arian ychwanegol i Gymru. Ond ceir...
Jeremy Miles: Llywydd, mae'r Aelod yn iawn wrth ddweud bod hyn yn ymgais i ysbaddu datganoli mewn cysylltiad â'r meysydd hyn. Yn sicr o ran mecanwaith y fframweithiau cyffredin, byddai'r gwelliannau arfaethedig yr ydym ni wedi eu cyflwyno, y gobeithiwn eu gweld yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Arglwyddi, yn rhoi fframweithiau cyffredin lle y dylent fod, sef wrth wraidd y farchnad fewnol, nid yn cael eu...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cyfraniad pwysig iawn a newydd yna i'r ddadl ar y Bil hwn. Mae e'n iawn wrth ddweud bod y Bil hwn, yn ogystal â bod yn ymosodiad ar safonau y mae defnyddwyr a chynhyrchwyr yng Nghymru wedi gallu dibynnu arnyn nhw ers blynyddoedd lawer, mae hefyd mewn gwirionedd yn ddarn o ddeddfwriaeth gyfansoddiadol gan ei fod yn ceisio gwrthdroi'r setliad datganoli mewn nifer o ffyrdd...
Jeremy Miles: Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ei godi ynglŷn â maint mwyafrif Llywodraeth y DU yn Nhŷ'r Cyffredin. Er gwaethaf hynny, byddwn yn awgrymu y byddai'n Llywodraeth ddoeth yn San Steffan a fyddai'n gwrando ar bryderon mor eang am yr elfennau niweidiol yn y Bil hwn sy'n ymestyn yn llawer ehangach na phleidiau gwleidyddol, i gymdeithas ddinesig yn gyffredinol. Byddwn yn eu hannog i ymateb...
Jeremy Miles: Ceir ymgysylltu parhaus â Llywodraeth y DU i drafod ein pryderon ynghylch Bil y farchnad fewnol. Mae gan y Bil fel y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd oblygiadau cyfreithiol sylweddol i Gymru ac mae'n ymosodiad sylfaenol ar ddatganoli. Rwyf yn ceisio cefnogaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi ar gyfer gwelliannau i'r Bil.
Jeremy Miles: Wel, rwy'n ategu pryder yr Aelod. Mae ein cyfeillion yn y sector dur yn dadlau'n barhaus, ac rydym ninnau'n derbyn eu dadl ac yn cytuno, y byddai'r math o senario y mae'n ei rhagweld yn niweidiol iawn i gynhyrchu dur yng Nghymru ac yn y DU. Gallaf ei sicrhau bod Gweinidog yr economi'n cael deialog barhaus â chynhyrchwyr dur yng Nghymru, ac ar draws yr economi mewn gwirionedd, mewn perthynas...
Jeremy Miles: Mae ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y trafodaethau yn golygu y bydd y sector gweithgynhyrchu yn wynebu rhwystrau newydd sylweddol i fasnach beth bynnag, a bydd y rhain yn waeth os na cheir cytundeb. Rhaid i Lywodraeth y DU roi blaenoriaeth i negodi cytundeb sy'n diogelu'r economi, gan gynnwys sectorau gweithgynhyrchu a reoleiddir yn drylwyr yng Nghymru.
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn gwneud cyfres o bwyntiau pwysig iawn, ac rwy'n gwerthfawrogi'r ffordd y mae'n codi'r mater hynod sensitif hwn. Byddai cynllun cymorth cyfreithiol wedi'i gynllunio'n dda yn mynd i'r afael â'r heriau y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn. Rydym ymhell iawn o allu gwneud hynny yn sgil toriadau yn y gyllideb dros y blynyddoedd diwethaf ar lefel Llywodraeth y DU. Byddem am...
Jeremy Miles: Cyflwyniad y Llywodraeth i'r ymchwiliad fydd tynnu sylw Pwyllgor Cyfiawnder Tŷ'r Cyffredin at adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Disgrifiodd y comisiwn sefyllfa enbyd, ac rydym yn debygol o ddarganfod y bydd wedi dirywio ymhellach yn ystod pandemig COVID-19.
Jeremy Miles: Rwy'n credu bod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud yn bwysig iawn, oherwydd er bod effaith gyffredinol COVID ar ein bywydau yn amlwg yn niweidiol iawn, rydym wedi dysgu gwneud pethau'n wahanol mewn rhai ffyrdd yn ystod y misoedd diwethaf, a byddwn am ddal ein gafael ar y ffyrdd hynny lle maent yn ffyrdd gwell o fwrw ymlaen. Felly, yn yr economi, er enghraifft, er gwaethaf yr effaith lethol ar...
Jeremy Miles: Ers ei lansio ym mis Mai, mae ymgynghoriad 'Cymru Ein Dyfodol' wedi bod yn llwyddiannus iawn. Cawsom ychydig dros 2,000 o gyflwyniadau gan randdeiliaid ac aelodau o'r cyhoedd, yn dweud wrthym beth sy'n bwysig iddynt hwy. Mae'r cyflwyniadau hynny wedi llywio'r blaenoriaethau ar gyfer adfer ac ailadeiladu a gyhoeddwyd gennym ddoe.
Jeremy Miles: Wel, nid oes gennyf syniad beth yw barn y Twrnai Cyffredinol ar hyn, ond byddwn yn dweud bod dwy—. Mae cwestiwn yr Aelod yn seiliedig ar ddwy ragdybiaeth sylfaenol anghywir: yn gyntaf, y dylem fod yn barod i oddef cyfyngiadau ar y cyflenwad bwyd, os mai dyna sy'n digwydd, a chostau uwch, os mai dyna sy'n digwydd, oherwydd budd hirdymor yn y dyfodol. Rwy'n anghytuno'n llwyr ag ef fod honno'n...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig hwnnw. Gadewch imi fod yn glir iawn ar y dechrau: mae agweddau ar y cyflenwad bwyd wedi'u datganoli, ond mae'n amlwg bod y cwestiwn ynglŷn â bwyd yn croesi'r ffin i'r DU yn allweddol i'r cyflenwad, a chyfrifoldeb Llywodraeth y DU yn llwyr yw hynny, a bydd unrhyw gyfyngiadau ar y cyflenwad yn ganlyniad i ddewisiadau a wneir gan Lywodraeth y DU....
Jeremy Miles: Wel, heb gytundeb, bydd perygl difrifol o oedi cyn mewnforio cynnyrch ffres i'r DU yn ogystal â phrisiau uwch o ganlyniad i dariffau. Mae dull cydgysylltiedig yn y DU yn hanfodol er mwyn lleihau'r effeithiau posibl ar gyflenwad bwyd, a bydd gwybodaeth a ddaeth ar gael i'r cyhoedd ddoe yn peri inni ail-werthuso ein lefel sicrwydd mewn perthynas â'r trefniadau hyn.
Jeremy Miles: Wel, mae'r Aelod yn llygad ei le yn codi'r testun yma yn y ffordd y mae e'n ei godi fe. Rwy'n cytuno â'i ddadansoddiad e. Mae risg sylweddol ynglŷn â hyn. Rŷn ni wedi colli cyfnod sylweddol ar ddechrau eleni lle gallen ni fod wedi bod yn gwneud y trefnu a'r gwaith a sicrhau bod hyn yn digwydd mewn ffordd synhwyrol sy'n cael ei chynllunio, nid yn y ffordd mae'n cael ei wneud nawr. O ran...
Jeremy Miles: Fel y mae hi, mae Bil marchnad fewnol y Deyrnas Gyfunol arfaethedig yn ymosodiad ar ddatganoli ac fe fydd yn andwyol i Gymru gyfan. Mae elfennau yn y mesur sy'n creu risg penodol i’n porthladdoedd, yn cynnwys Caergybi, ac fe wnawn y gorau gallwn ni i sicrhau nad yw hynny'n digwydd.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn pwysig ar ran ei etholwyr, ac mae'n codi materion sy'n effeithio ar fywydau bob dydd ei etholwyr fel y maent yn effeithio ar fy mywyd innau a bywydau eraill yn y Siambr. Mae'n llygad ei le wrth ddweud y bydd ei etholaeth, ac yn wir, fy etholaeth i ac etholaethau eraill, wedi elwa'n sylweddol o rai o'r rhaglenni hynny, ac mae'n iawn i fynegi ei siom ynghylch...