Canlyniadau 1121–1140 o 2000 ar gyfer speaker:David Melding

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Sector Adeiladu (10 Ion 2018)

David Melding: Ac i ychwanegu ystadegyn pellach, mae'n cyfateb i 10 y cant o'n cynnyrch domestig gros. Mae wedi gostwng yn ystod y mis diwethaf. Mae adeiladu masnachol a pheirianneg sifil yn arbennig yn wannach, ac mae hyn wedi arwain at fwy o ddibyniaeth ar adeiladu tai. Tybed pa weledigaeth sydd gennych ar gyfer adfywio ac ehangu'r sector adeiladu dros y pedair neu bum mlynedd nesaf, fel rydych wedi'i...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Trafnidiaeth Gyhoeddus yng Nghwm Cynon (10 Ion 2018)

David Melding: Credaf fod y cwestiwn ynglŷn â mynediad yn hollol allweddol, ac mae'n golygu bod cysylltiadau rheolaidd a dibynadwy—rheilffyrdd, bysiau—yn hanfodol. Ond wyddoch chi, mae wedi bod yn broblem wirioneddol yn y gorffennol, ac nid yw'n ymwneud â mynediad at swyddi yn unig, ond at asedau diwylliannol yng Nghaerdydd, a mwynhau'r rheini. Wyddoch chi, mae gan bobl yn y cymoedd gogleddol...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth: Y Sector Adeiladu (10 Ion 2018)

David Melding: 6. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o sefyllfa economaidd bresennol y sector adeiladu? OAQ51500

7. Dadl: Cynllun Morol Cenedlaethol Drafft Cymru ( 9 Ion 2018)

David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod. Fel Simon, a gaf i groesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru nawr wedi cyhoeddi cynllun morol cenedlaethol drafft? Dyma hanner cyntaf y ddadl a fydd yn mynd yn ei blaen yfory pan fyddwn yn trafod rhai o syniadau'r Pwyllgor yn y maes hanfodol hwn. Ac rwy'n gobeithio y bydd y ddwy awr hyn o ddadl yn bwydo i'r broses ymgynghori...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol: Cod Erlyn Llywodraeth Cymru ( 9 Ion 2018)

David Melding: Diolch ichi, Dirprwy Lywydd. Byddaf yn gwneud ymyriad byr, ond mae gennyf un prif ymateb, mewn gwirionedd, a hwnnw yw: beth oedd cywair yr ymatebion i'r ymgynghoriad yn gyffredinol? Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, fis Mai diwethaf cafodd cod drafft ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad. Hyd y gwn i, ni chyhoeddwyd yr ymatebion i'r ymgynghoriad. Rwy'n ymddiheuro os fy methiant TG i yw...

3. Datganiad gan y Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant: Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth i gael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol ( 9 Ion 2018)

David Melding: A gaf ddweud bod yr ymgynghoriad hwn a'r ddadl genedlaethol y bydd nawr yn ei hysgogi, gobeithio, i’w croesawu’n fawr? Fi yw’r unig Aelod Cynulliad Ceidwadol sydd wedi gwasanaethu pob Cynulliad hyd yma. Dyma'r pumed, ac, yn y cyntaf, cawsom ddadl am gosbi plant yn gorfforol ar gynnig yr wyf yn meddwl a gynigiwyd gan Christine Chapman ac roedd naw o Geidwadwyr yn y Cynulliad ar y pryd, a...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adeiladu Tai Awdurdodau Lleol ( 9 Ion 2018)

David Melding: Prif Weinidog, rwyf i wedi dweud o'r ochr hon i'r tŷ y byddem ni'n cefnogi'r symudiad i awdurdodau lleol yn adeiladu tai cymdeithasol unwaith yn rhagor pe ystyrid bod honno'n ffordd strategol o wella'r lefel o adeiladu tai. Dim ond 16 o gartrefi gafodd eu cwblhau yn y sector awdurdod lleol y llynedd, 13 o'r rheini mewn un awdurdod, sir y Fflint. Felly, os ydyn nhw'n mynd i ddod yn adeiladwyr...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Adeiladu Tai Awdurdodau Lleol ( 9 Ion 2018)

David Melding: 8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am adeiladu tai awdurdodau lleol yng Nghymru? OAQ51530

7. Dadl Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Tai modiwlar (13 Rha 2017)

David Melding: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i UKIP am gyflwyno'r ddadl hon? Credaf ei fod yn bwnc pwysig iawn mewn gwirionedd ac yn ffordd o fynd i'r afael â'r her dai yng Nghymru. Rwy'n gobeithio ein bod yn datblygu lefel o gonsensws y tu hwnt i'n dulliau confensiynol traddodiadol arferol o adeiladu tai. Roeddwn yn falch iawn, mewn gwirionedd, o sylwi bod hyd yn oed...

5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig: Heb gyrraedd gwreiddyn y mater: uchelgais newydd ar gyfer polisïau coetiroedd (13 Rha 2017)

David Melding: A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gennyf ymwneud â'r adroddiad hwn? Credaf ei fod yn waith pwysig iawn. Gwelsom beth ymarfer rhagorol, ond yn gyffredinol, mae'n faes polisi cyhoeddus sydd angen ei wella. Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar y sector coedwigaeth, oherwydd credaf fod ei bwysigrwydd yn aml yn cael ei anghofio, ar ychydig dros £0.5 biliwn bob blwyddyn. Mae coed yn...

3. Cwestiynau Amserol: Catrefi Newydd yng Nghymru (13 Rha 2017)

David Melding: O'r mawredd. [Chwerthin.] Weinidog, gadewch i ni atgoffa ein hunain, ar gyfer y flwyddyn ddiweddaraf, sef hyd at fis Medi 2017, sydd newydd fod, mai'r ffigur yw 6,830. Mae hwnnw'n ostyngiad ers y flwyddyn flaenorol, a oedd yn 6,900. Ond gadewch i mi atgoffa pawb yma: eich targed yw 8,700—8,700. Rydych bron â bod 2,000 yn is na hynny, ac mae 10 mlynedd wedi bod ers i'r Llywodraeth hon...

3. Cwestiynau Amserol: Catrefi Newydd yng Nghymru (13 Rha 2017)

David Melding: 1. O ystyried y ffigurau ar gyfer nifer y tai newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru a ryddhawyd yn ddiweddar, a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau pam mae nifer y cartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu yng Nghymru bob blwyddyn yn lleihau? 87

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle (12 Rha 2017)

David Melding: Prif Weinidog, mae Caerdydd wedi cael ei henwi'n ddiweddar fel y ddinas lle dioddefir y mwyaf o straen ym Mhrydain, sy'n ganfyddiad anhygoel. Mae'r adroddiad yn dweud bod pwysau yn y gwaith, pryderon ariannol a phryderon am iechyd yn gadael Prydain yng ngafael epidemig o straen, ac rwy'n meddwl bod llawer ohonom ni'n gweld hyn drwy ein gwaith achos hefyd. Canfu arolwg o 4,000 o oedolion gan y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cymorth Iechyd Meddwl yn y Gweithle (12 Rha 2017)

David Melding: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gymorth iechyd meddwl yn y gweithle yng Nghymru? OAQ51476

8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia ( 6 Rha 2017)

David Melding: Mae'r rhai sydd wedi honni bod ymwahaniad yn ddilys yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n cynnwys llawer o amodau, pan fo gormes helaeth wedi bod dros gyfnod hir yn y bôn, a bod ymateb wedi bod i hynny gan boblogaeth sy'n mynegi ewyllys a fynegwyd yn ysgubol ac yn rhydd ac sy'n amlwg iawn. Nid wyf yn meddwl bod y nodweddion hynny'n bresennol yng Nghatalonia, ond mater i'r bobl hynny benderfynu...

8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia ( 6 Rha 2017)

David Melding: Credaf fod honno'n weithred ffôl ar ran gwladwriaeth Sbaen, ond mater i'r Sbaenwyr a'r Catalaniaid yw hwn i'w ddatrys, fel y maent, rwy'n credu, ar hyn o bryd—. Yn sicr, mae yna ganlyniadau i'r camau a gymerwyd gan y llys cyfansoddiadol yn Sbaen—[Torri ar draws.] Wel, wyddoch chi, rwy'n credu bod arnom angen dadl agored a theg yma, Adam, felly efallai fod angen i chi wrando ar y...

8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia ( 6 Rha 2017)

David Melding: Mae gennyf ddau o bobl yn awr. Rwy'n credu mai Mick oedd gyntaf o drwch blewyn.

8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia ( 6 Rha 2017)

David Melding: Ym Mhrydain, buasem yn dweud y dylech gael refferendwm y mae'r ddwy ochr yn cytuno ag ef a symud ymlaen wedyn. Ond wrth gwrs, Prydain yw'r unig wladwriaeth yn y byd sydd ar hyn o bryd yn credu mai dyna sut y dylid ymdrin ag ymwahaniad. Cytunaf mai dyna sut y dylid ymdrin â hynny, ond nid yw Sbaen mewn lleiafrif yn arddel safbwynt gwahanol. Ac yn wir, mae ymwahaniad yn benderfyniad sy'n...

8. Dadl Plaid Cymru: Catalwnia ( 6 Rha 2017)

David Melding: A gaf fi ddweud y byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig hwn, er fy mod yn cydnabod cryfder y teimlad a'r angerdd sydd ar feinciau Plaid Cymru yn enwedig? Ond rwy'n credu bod yr holl bwnc yn galw am ddealltwriaeth ddofn yn hytrach na dadl fer, ac mae angen i ni fod yn wylaidd bob amser pan fyddwn yn ffurfio barn ar wladwriaeth arall. Er nad yw dau bwynt cyntaf y cynnig yn ddadleuol, mae'r trydydd...

7. Dadl ar ddeiseb 'Cymuned Port Talbot yn erbyn yr Archgarchar' ( 6 Rha 2017)

David Melding: Wrth gwrs, mae hyn yn ymwneud â mater penodol iawn, a ddylai fod carchar mewn man penodol. Yr hyn y credaf y gallai cynulliad dinasyddion ei wneud—ac ar hyn o bryd byddai'n rhaid iddo fod yn un ar gyfer Cymru a Lloegr, ond efallai y cawn bolisi cosbi wedi'i ddatganoli yma ar ryw adeg—buaswn yn gofyn iddynt, 'A ddylai fod gennym batrwm carcharu sy'n nes at y model Ewropeaidd neu...


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.