Huw Irranca-Davies: Yn wir. Fe ymatebaf, Caroline, os caf fi, ar ran Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi ein hymrwymiad i sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau, gofal a chymorth i bawb, gan gynnwys pobl anabl, gyda'r flaenoriaeth allweddol ar wella eu lles.
Huw Irranca-Davies: Credaf eich bod yn llygad eich lle; os oes gennym ddiddordeb gwirioneddol, gyda'r galwadau sydd gennym am weithlu amrywiol, mewn defnyddio sgiliau pob person o bob gwahanol oedran, gan gynnwys y rhai â chyfrifoldebau gofalu yn ogystal, yna mae gennym waith go iawn i godi ymwybyddiaeth a sicrhau cefnogaeth i gyflogwyr allu nodi anghenion y gofalwyr unigol hynny, ymateb iddynt, a'u galluogi i...
Huw Irranca-Davies: Yn wir. Byddaf yn edrych i weld a fydd yr adroddiadau hynny ar gael i'r cyhoedd, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi ac at Aelodau eraill sydd â diddordeb yn hynny. O ran y gallu i olrhain yr arian, nid wyf yn siŵr a fyddant yn dweud a yw wedi dod o dechnoleg gwybodaeth a chyfathrebu—y £3 miliwn sy'n cael ei neilltuo o'r £50 miliwn o arian TGCh—a yw'n dod o fathau eraill o gyllid sydd...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Suzy, am eich cwestiwn. Rwy'n falch o fabwysiadu cyfrifoldebau newydd penodol am bobl hŷn. Roedd yn wych bod yn y digwyddiad etifeddol yr wythnos diwethaf gyda'r comisiynydd pobl hŷn. Yn wir, credaf fod fy swyddogion wedi cyfarfod gyda hi ar dri achlysur dros y mis diwethaf, gan weithio ar gyfres o gynigion, fel y dywedodd, ac fel rwyf am ailadrodd yma, i 'wneud yr hawliau...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw am eu cyfraniadau adeiladol iawn, er ein bod efallai'n cytuno i fynd i gyfeiriadau ychydig yn wahanol wrth gyflawni'r hawliau yn arbennig? Ond gadewch i mi ddweud wrth Darren nad oes gennym ni fyth feddwl cwbl gaeedig; nid ydym ni'n bod yn afresymol o ystyfnig, ond yr hyn yr ydym ni wedi llwyddo i'w...
Huw Irranca-Davies: Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog mai fy nheitl o hyn ymlaen fydd Gweinidog Plant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol. Trwy wneud fy rôl yn fwy amlwg a chlir, byddaf yn gallu mynd ati i sefydlu dull o weithio ar draws y Llywodraeth ar faterion pobl hŷn. Rwy'n hyderus y bydd y rhaglen waith rŷm ni wedi cytuno arni gyda'r comisiynydd yn adeiladu ar ein deddfwriaeth drawsnewidiol ac...
Huw Irranca-Davies: Gallaf weld y prif bwynt yr ydych chi'n ei wneud, Darren, ond byddwn yn eich cyfeirio'n ôl at y datganiad y gwnaeth y comisiynydd pobl hŷn yr wythnos diwethaf wrth lansio ei hadroddiad etifeddiaeth, lle roedd hi mewn gwirionedd yn croesawu'r dull yr oeddem ni'n ei ddefnyddio, oherwydd ei fod yn gwneud hawliau'n bethau go iawn. Nid yw'n chwilio am ddarn arall o ddeddfwriaeth oddi ar y silff...
Huw Irranca-Davies: Os caf i barhau am eiliad yn unig. Dyna pam rwyf i'n hapus i gefnogi'r ail welliant, sydd hefyd wedi'i gyflwyno gan Paul Davies. Derbyniaf yr ymyriad.
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl hon ar adroddiad effaith a chyrhaeddiad blynyddol Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru.
Huw Irranca-Davies: Hoffwn ddechrau drwy longyfarch a diolch yn gyhoeddus i'r comisiynydd a'i thîm am yr holl waith gwerthfawr dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir dros y chwe blynedd diwethaf. Mae'r comisiynydd wedi ennill parch a ffydd pobl hŷn ledled Cymru, ac yn ystod y 12 mis diwethaf yn unig, mae'r comisiynydd a'i thîm wedi cwrdd â 169 grwpiau a 3,300 o unigolion. Mae'r ymgysylltu helaeth hwn wedi...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn. Diolch i chi, Caroline, a diolch hefyd am y gydnabyddiaeth a roesoch chi yn glir iawn i'r rhai sy'n gweithio yn y sector. Yn rhy aml, rydych chi ond yn gweld y penawdau gwael wrth iddynt ymddangos, ac rydym yn anghofio am y fyddin o bobl sy'n gwneud gwaith rhagorol bob un dydd. Felly, diolch ichi am hynny. Rydych chi hefyd yn ein hatgoffa o ba mor bell yr ydym ni wedi...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Dai. Diolch yn fawr iawn.
Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf, a gaf i ddiolch i chi ac Aelodau eraill sydd wedi dod ataf i â manylion darparwyr unigol sydd efallai'n wynebu anawsterau wrth ymateb i'r heriau? Rwy'n gobeithio ein bod ni wedi gweithredu'n gymesur ond yn ystyriol ac wedi ceisio eu rhoi mewn cysylltiad â'r bobl briodol i'w helpu gyda hynny. Felly, diolch i chi ac eraill am barhau â hynny, a hefyd am eich cefnogaeth yn y broses...
Huw Irranca-Davies: Suzy, diolch yn fawr iawn am y gyfres honno o gwestiynau. Gadewch imi roi sylw iddyn nhw un ar y tro. Yn gyntaf, a ydym ni wedi sylwi ar unrhyw beth o ran yr ymgyrch i gynyddu safonau mewn sectorau preswyl—a yw'n cael unrhyw effaith, yn anecdotaidd? Rwyf yn cael gohebiaeth o bryd i'w gilydd, neu sylwadau, gan Aelodau Cynulliad unigol, ac mae'r arolygiaeth gofal yn ceisio ymdrin â'r rhain...
Huw Irranca-Davies: I gloi, hoffwn ddiolch i chi am eich cefnogaeth a'ch gwaith craffu gwerthfawr hyd yma. Nod pob un ohonom yw adeiladu system gynaliadwy o ofal cymdeithasol yng Nghymru sy'n parchu a gwerthfawrogi pobl ac yn eu helpu i gyflawni eu canlyniadau llesiant personol. Yr unig ffordd y gallwn wneud hyn yw trwy ymdrechion y rhai sy'n gwneud y polisïau, staff a rhanddeiliaid ym maes gofal cymdeithasol,...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Ers mis Ebrill 2016, rŷm ni wedi gweld y Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn cael ei rhoi ar waith drwy Gymru. Rwy'n gweld cynnydd da mewn rhai meysydd, ac rydw i'n gweld ar y llaw arall bod mwy i'w wneud mewn meysydd eraill. Wrth symud ymlaen, rydw i am inni ganolbwyntio ar helpu ein holl wasanaethau i gyrraedd y safonau uchaf. Hyd...
Huw Irranca-Davies: Yn gyntaf, rwy'n clywed ein rhanddeiliaid, megis y Comisiynydd pobl hŷn, yn dweud wrthym fod ein fframwaith statudol yn gywir ar y cyfan, ond dim ond os byddwn ni'n sicrhau y caiff ei weithredu'n briodol. Yn ail, rwy'n gweld fy hun fod y strwythurau y gwnaethom ofyn i'n partneriaid eu rhoi ar waith, megis byrddau partneriaeth rhanbarthol a'r byrddau diogelu, yn ymwreiddio yn rhan o'n tirwedd...
Huw Irranca-Davies: Ie, yn syml er mwyn helpu i egluro fel rhan o'r ddadl. Felly, mae'r dangosyddion perfformiad allweddol yn parhau i fod ar waith, ac un o'r pethau yr ydym yn edrych arnynt ar draws y Llywodraeth ac ar draws Gweinidogion y Llywodraeth yw cerrig milltir sy'n sail i'r dangosyddion perfformiad allweddol hynny. Felly, rydym eisoes yn gwybod pethau megis nifer y bobl sy'n mynd i mewn i'r categori...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi am gymryd yr ymyriad. Pe baem yn meddwl y byddai datganoli'r gwaith o weinyddu neu rywbeth arall o ran hyn yn datrys y broblem yn syml, yna byddai'n rhywbeth gwerth mynd i'r afael ag ef. Ond a gytunwch, mewn gwirionedd, wrth edrych ar hynny, fod angen inni fod yn ofalus iawn o'r canlyniadau anfwriadol a'r costau a fyddai'n dod gyda hynny a'r perygl i'r undod cymdeithasol sy'n...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n cloi, Ddirprwy Lywydd. Ond mae torri'r cylch o amddifadedd a thlodi, Ddirprwy Lywydd, yn ymrwymiad hirdymor i'r Llywodraeth hon. Mae'n ategu ein strategaeth genedlaethol a'n cyfrifoldeb i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. Mae'n rheidrwydd moesol hefyd, ond mae'n rhaid i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan.