Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyflwyno y ddadl fer yma y prynhawn yma ar destun datblygiad iaith cynnar, ac rydw i wedi cytuno i Mark Isherwood i gael ychydig o fy amser i hefyd i gyfrannu i'r ddadl yma. Ac yn y ddadl, rydw i eisiau amlygu sut mae sgiliau iaith cynnar da yn hollbwysig i ddatblygiad plant yn y blynyddoedd cynnar, ac i'w paratoi nhw ar gyfer yr ysgol, wrth gwrs. ...
Llyr Gruffydd: Nawr, faint ohonom ni fan hyn sy'n cofio'r cynllun Llwybro, flynyddoedd yn ôl, a oedd yn tracio pobl ifanc ac yn hyrwyddo cyfleoedd iddyn nhw i ddychwelyd i Gymru? Roeddech chi'n cofrestru gyda'r cynllun, ac os oeddech chi â chymwysterau penodol ac wedi symud i ffwrdd i weithio, petai yna gyfleoedd a oedd yn galw am y cymwysterau yna yn codi ym mro eich mebyd chi, yna mi fyddech chi'n cael...
Llyr Gruffydd: Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig gwneud y pwynt nad graddedigion ifanc yn unig sydd angen eu hystyried fel rhai sy'n meddu ar y sgiliau hanfodol i gyfrannu at economi Cymru, wrth gwrs. Nid yw dros ddwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i brifysgol, ac rydym ni fel plaid wedi crybwyll yr incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc, wrth gwrs, a fyddai'n seiliedig ar bedair colofn allweddol: swydd...
Llyr Gruffydd: Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, yn credu y dylai myfyrwyr o Gymru allu astudio ym mhrifysgolion gorau'r byd a chael pob cyfle i fyw a gweithio dramor. Rŷm ni hefyd, wrth gwrs, yn cydnabod bod angen inni fynd i'r afael â'r broblem bod Cymru ar hyn o bryd yn dioddef colled net o raddedigion, tra ar yr un pryd, wrth gwrs, rŷm ni yn dioddef bylchau mewn sgiliau mewn sectorau hanfodol megis...
Llyr Gruffydd: Gwnaf i gychwyn drwy ganolbwyntio ychydig ar y pwynt yma ynglŷn â'r rhwystrau sydd yna i’r gweithlu addysg i beidio â manteisio ar gyfleoedd datblygu proffesiynol. Rŷm ni’n gwybod ac rŷm ni wedi’i glywed dro ar ôl tro yn y pwyllgor yn y dystiolaeth a dderbyniom ni bod angen creu’r amser, bod angen creu mwy o wagle o fewn amserlen athrawon i allu hyfforddi, i allu dysgu, i allu...
Llyr Gruffydd: Wrth gwrs, un o'r problemau sydd efallai yn gwneud y sefyllfa yma'n waeth yw methiant eich Llywodraeth chi i recriwtio digon o bobl i gyrsiau ymarfer dysgu ar gyfer rhai o'r pynciau STEM yma. Mae adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn yn dangos yn glir mai dim ond tri chwarter y targed ar gyfer mathemateg a chemeg sydd wedi'i gyrraedd o ran denu pobl i gofrestru ar gyfer cyrsiau ymarfer dysgu...
Llyr Gruffydd: A gaf innau ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am ei datganiad? Wrth wrando ar y datganiad, rwy'n meddwl ei bod yn dod yn glir bod yna dair tasg ymhlith y nifer fawr o dasgau sydd angen i ni eu cyflawni fan hyn y dylem ni fod yn ffocysu arnyn nhw. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae angen creu gwell dealltwriaeth o fewn y sefydliad yma o ddisgwyliadau y sefydliad o safbwynt ymddygiad ymhlith Aelodau a...
Llyr Gruffydd: Yn amlwg, mae yna agwedd economaidd i'r camau gweithredu hyn, ond credaf fod mater moesol yn y fantol yma hefyd, gan fod hyn oll yn mynd rhagddo mewn cyd-destun lle mae is-gangellorion, wrth gwrs, yn derbyn cyflogau anferthol sy'n llawer mwy na chyflogau’r Prif Weinidog neu Brif Weinidog y DU yn San Steffan, hyd yn oed. Yn wir, datgelwyd yn ddiweddar fod oddeutu £8 miliwn wedi'i...
Llyr Gruffydd: Rwy'n falch o glywed eich bod wedi cyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Yn amlwg, mae'r Undeb Prifysgolion a Cholegau wedi dweud bod pensiynau eu cydweithwyr mewn llawer o wledydd Ewropeaidd eraill mewn prifysgolion ôl-1992, ysgolion, colegau addysg bellach, y GIG a'r Llywodraeth wedi'u tanysgrifennu a'u gwarantu gan y wladwriaeth, wrth gwrs, ac maent yn gofyn pam y dylai fod gan...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Mae Plaid Cymru'n gwrthwynebu diwygiadau pensiwn arfaethedig Universities UK ac rydym yn cefnogi streiciau darlithwyr yr Undeb Prifysgolion a Cholegau. A ydych yn cefnogi camau gweithredu'r Undeb Prifysgolion a Cholegau yn erbyn y toriadau pensiwn?
Llyr Gruffydd: Ar y llaw arall, wrth gwrs, fel y mae hi hefyd wedi cydnabod, mae yna elfennau llai positif. Un o’r agweddau mwyaf, efallai, siomedig i fi yw—. Hynny yw, yn amlwg mae hanner ysgolion uwchradd a 70 y cant o rai cynradd yn cael eu barnu’n 'dda' neu’n 'rhagorol', ond, wrth gwrs, mae hynny’n golygu bod hanner o’r ysgolion hefyd, fel yr oedd hi’n cydnabod, ond yn 'ddigonol' neu, yn...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i gynnig y gwelliant yn enw Plaid Cymru? A gaf i ddiolch i brif arolygydd Ei Mawrhydi dros addysg a hyfforddiant yng Nghymru—i roi'r teitl llawn—am yr adroddiad blynyddol sydd yn sicr yn cyfrannu yn helaeth at ein dealltwriaeth ni o'r sefyllfa? Mae e, wrth gwrs, yn rhywbeth rydym ni'n rhoi pwys arno fe ac yn ei werthfawrogi'n fawr iawn. Rwyf hefyd yn...
Llyr Gruffydd: Mae pobl ag anableddau ac sy'n derbyn y grant byw'n annibynnol yn dweud wrthyf i mai eu pryder nhw yw colli'r elfen yna o annibyniaeth y mae'r grant yn ei roi iddyn nhw ar lefel bersonol. Maen nhw'n gwerthfawrogi'r annibyniaeth yn fwy nag unrhyw beth arall. Felly, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi y byddan nhw'n parhau i fwynhau yr un annibyniaeth pan fydd eich Llywodraeth chi yn dirwyn y...
Llyr Gruffydd: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth i hawlwyr grant byw'n annibynol Cymru yn dilyn dirwyn y grant i ben? OAQ51831
Llyr Gruffydd: Rwyf am gloi gyda phwynt ehangach am god y gweinidogion a'i berthynas, neu ei ddiffyg perthynas mewn gwirionedd, â'r cod ymddygiad ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a rôl y comisiynydd safonau. Mae wedi cael ei ddweud o'r blaen: mae llawer ohonom yn teimlo nad yw'n iawn fod y Prif Weinidog yn farnwr, rheithgor a dienyddiwr mewn perthynas â chod y gweinidogion. Fy ofn ynglŷn â hyn yw y...
Llyr Gruffydd: Rwy'n codi i gefnogi y cynnig yma. Rwy'n meddwl fod yna egwyddor bwysig yn y fantol fan hyn. Mae canfyddiadau yr ymchwiliad penodol yma yn fater o bwysigrwydd ac o ddiddordeb cyhoeddus, fel yr ŷm ni wedi ei glywed. Ac o ganlyniad, wrth gwrs, yn fy marn i, mi ddylai felly gael ei wneud yn gyhoeddus, gyda'r caveats sydd wedi cael eu crybwyll ynglŷn â'r angen i ddileu enwau ac yn y blaen. ...
Llyr Gruffydd: Mae perygl inni anghofio nad yw'r grant amddifadedd disgyblion yn ymwneud dim ond â chael y plant â'r cyrhaeddiad isaf o gefndiroedd difreintiedig i lefel benodol—mae'n ymwneud â diwallu anghenion yr holl unigolion hynny, rhai ohonyn nhw, wrth gwrs, sy'n fwy abl a thalentog. Rwy'n credu bod Estyn wedi dweud mai ychydig iawn o ysgolion sy'n defnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i...
Llyr Gruffydd: A gaf innau ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad? Yn sicr, mae angen gwneud mwy i fynd i'r afael â'r agenda yma. Efallai na fyddai'n taro nodyn cweit mor negyddol â llefarydd y Ceidwadwyr, ond, yn sicr, rwy'n cytuno ag ambell bwynt y mae e wedi'i wneud—un ohonyn nhw, wrth gwrs, yw'r ffaith bod yna adroddiad ar ôl adroddiad wedi amlygu'r gwendid yn y maes yma, ac, o'r diwedd,...
Llyr Gruffydd: Yn dilyn y sylwadau a wnaed yn flaenorol am y gweithredu diwydiannol gan yr Undeb Prifysgolion a Cholegau ynghylch cynllun pensiwn y prifysgolion, a fydd, fel rydym ni wedi clywed, yn golygu bod pensiynau darlithwyr yn ddibynnol ar fympwyon y farchnad stoc, ond yn ôl First Actuarial bydd hefyd yn gadael darlithydd cyffredin â £200,000 yn llai o incwm pensiwn. A gaf i ddweud bod Plaid...
Llyr Gruffydd: A gaf innau hefyd croesawu’r ffaith bod y cytundeb rhwng Plaid Cymru a’r Llywodraeth, wrth gwrs, yn y cytundeb ar y gyllideb wedi sicrhau’r adnoddau ychwanegol yma i Mudiad Meithrin? Byddwn i’n anghytuno, i raddau, gyda’r pwynt yr oedd Suzy Davies yn ei wneud oherwydd mae’r dystiolaeth yn dangos os ŷch chi’n mynd i gylch meithrin neu addysg cyn ysgol cyfrwng Cymraeg, yna rŷch...