Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i’r holl Aelodau a siaradodd heddiw. Ac a gaf fi ddweud rhywbeth nad wyf yn aml yn ei ddweud? Roeddwn yn cytuno â phob gair a ddywedodd pob un ohonoch. Felly, gallwn eistedd yn awr a dweud, ‘Rwy’n cytuno â phopeth rydych wedi’i ddweud’, ond rwy’n meddwl efallai y byddai’n well i mi ddweud ychydig bach rhagor. A gaf fi...
Mike Hedges: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch iawn o agor y ddadl hon ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar ddeiseb a ddaeth i law yn galw am raglen sgrinio genedlaethol ar gyfer canser yr ofari. Cafodd y ddeiseb yma ei threfnu gan Margaret Hutcheson, ac fe’i cefnogwyd gan 104 o bobl. Cafodd Ms Hutcheson, nyrs gofal lliniarol wedi ymddeol, ei hysbrydoli i gychwyn y ddeiseb ar ôl i sawl un o’i...
Mike Hedges: Diolch i chi am hynny. Rwy’n credu mai’r cam pwysicaf y gellir ei gymryd i wella iechyd pobl Cymru yw hyrwyddo ffordd iach o fyw. Un o lwyddiannau Cymunedau yn Gyntaf yn Abertawe oedd ei raglenni rhoi’r gorau i smygu, gwella deiet, a chynyddu gweithgaredd corfforol. Beth y mae’r Llywodraeth yn ei wneud i geisio lleihau cyfraddau smygu, lleihau anweithgarwch, a mynd i’r afael â...
Mike Hedges: Diolch yn fawr, Gweinidog. Rwy’n ei ystyried yn ddiwydiant ac yn sector pwysig iawn, sy’n parhau i dyfu, yn enwedig mewn meysydd fel e-fasnach a roboteg. Er y twf cyflym iawn a fu yn ddiweddar, fel y dywedwch, mae perfformiad cymharol Cymru o ran technoleg gwybodaeth a chyfathrebu, yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, ymhlith y gwaethaf o’r holl sectorau a ddiffinnir gan y Swyddfa...
Mike Hedges: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r diwydiant TGCh yng Nghymru? OAQ(5)0145(EI)
Mike Hedges: 7. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am hyrwyddo ffyrdd iach o fyw? OAQ(5)0138(HWS)
Mike Hedges: Nid yn unig fy mod yn ymwybodol ohono, rwyf am ddyfynnu ohono yn awr. Ddoe, yn y datganiad hwnnw, fe ddywedoch: ‘Mae’r un mor bwysig i’n sefydliadau barnwrol wybod eu bod yn ennyn hyder y ddeddfwrfa’. Sut rydych chi’n credu y gellir cyflawni hyn?
Mike Hedges: Diolch, Weinidog. Os rydym ni eisiau miliwn o siaradwyr Cymraeg, mae’r daith, i lawer, yn dechrau gyda mudiad Ti a Fi, wedyn Mudiad Meithrin, ar ôl hynny ysgol gynradd, ac, yn olaf, ysgol gyfun. Yna bydd gyda ni blant 16 oed sy’n siarad Cymraeg yn rhugl. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r mudiad Ti a Fi?
Mike Hedges: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am gynllun Cylch Ti a Fi y Mudiad Meithrin? OAQ(5)0097(EDU)
Mike Hedges: 5. Pa drafodaethau y mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi’u cynnal ynghylch annibyniaeth y system farnwrol yng Nghymru? OAQ(5)0030(CG)
Mike Hedges: Rwy’n cefnogi adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn fawr iawn ac rwy'n credu bod y Pwyllgor Cyllid yn cydweithio'n dda iawn. Nid ydym i gyd o’r un farn wleidyddol—yn wir, mae rhai ohonynt yn gwbl groes i’w gilydd—ond credaf mai ymrwymiad pawb a oedd yno oedd ceisio cael yr adroddiad gorau y gallem er mwyn sicrhau’r ddeddfwriaeth orau bosibl ar gyfer pobl Cymru. Credaf fod yn rhaid i...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: A fyddech yn cytuno nad yw caledi erioed wedi gweithio, o Hoover yn Unol Daleithiau America, i Wlad Groeg heddiw, a’r cyfan y mae’n ei wneud yw gwneud pobl yn dlotach?
Mike Hedges: A ydych yn gwybod pam? A ydych wedi ystyried efallai mai un o’r rhesymau yw bod gwariant cyfalaf yng Nghymru gan awdurdodau lleol yn cael ei gadw ar wahân, ond yn Lloegr, mewn academïau, mae’n cael ei gadw gan yr academïau?
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am grybwyll Ysbyty Treforys? Rwyf fi, fel pawb sy’n byw yn ninas-ranbarth Abertawe, yn falch iawn o’r gwaith sy’n cael ei wneud yn Ysbyty Treforys, a’r gwaith y mae’n ei wneud, gan ddenu’r model prif ganolfan a lloerennau ar gyfer iechyd ar draws de-orllewin Cymru i gyd. Fy nghwestiwn, fodd bynnag, yw: y prosiect o’r pwys mwyaf i ddinas...
Mike Hedges: Fel cynghorydd ym Mhowys, beth ydych chi'n ei wneud i atal y cyngor rhag gwneud hynny? [Chwerthin.]
Mike Hedges: Os oes un maes polisi cyhoeddus sydd wedi gwella dros y 20 mlynedd diwethaf, ailgylchu yw hwnnw. Diolch i'r targedau uchelgeisiol a osodwyd gan Lywodraeth Lafur Cymru a'r camau a gymerwyd gan awdurdodau lleol o bob lliw gwleidyddol, ac yn bwysicaf oll gan ddeiliaid tai, mae Cymru yn arwain y ffordd ym maes ailgylchu yn ogystal ag ym maes atal ac ailddefnyddio gwastraff. Er mai’r bobl fwyaf...
Mike Hedges: Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth ar y contract meddygon teulu presennol. Fe’m hysbyswyd gan etholwyr yn ddiweddar bod un feddygfa yn gwrthod newid rhwymynnau ac yn atgyfeirio cleifion i'r ysbyty. Mae meddygfa arall yn fodlon darparu presgripsiynau amlroddadwy trwy gais ar y cyfrifiadur yn unig, sy’n eithriadol o anodd i rai o’m hetholwyr oedrannus. Mae'r un feddygfa yn...
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Diolch. Wrth gwrs, os yw hwn yn cael ei basio heddiw, ni fydd un geiniog yn mynd drwodd. Yr unig ffordd i gael arian ychwanegol ar gyfer hyn yw drwy’r gyllideb atodol gyntaf, onid e?