Canlyniadau 1141–1160 o 2000 ar gyfer speaker:Suzy Davies

4. 3. Datganiad: Cynllun Cyflawni Strôc wedi'i Ddiweddaru ( 7 Maw 2017)

Suzy Davies: A gaf innau hefyd groesawu'r cynllun newydd, a dymuno pob lwc i chi â hynny? Mae gennyf ychydig o gwestiynau, gan ddechrau, mewn gwirionedd, lle gorffennodd Huw Irranca-Davies, a'r cwestiwn am y defnydd o sganwyr. Rwy’n gwerthfawrogi na fyddwch yn gallu ateb y cwestiwn hwn yn y Siambr heddiw, ond tybed a wnewch chi ystyried gwneud datganiad ar ryw adeg ynglŷn â’r peiriannau sganio...

3. 2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 7 Maw 2017)

Suzy Davies: Tybed a allwn i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, arweinydd y tŷ. Mae’r cyntaf— gwelaf fod Ysgrifennydd y Cabinet yn bresennol—yn ymwneud â rheoleiddio safleoedd gwastraff pren. Rwy'n gwybod bod hwn yn fater sydd wedi ei godi o'r blaen, ond, o ystyried y tân yn Llandŵ, sydd wedi effeithio ar drigolion ac ar o leiaf un busnes bychan yn ddiweddar, credaf fod hyn efallai yn...

9. 8. Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu ( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.

9. 8. Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu ( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Galwaf ar Weinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i’r ddadl.

9. 8. Dadl Fer: Cyfoethogi Bywydau Gofalwyr: Gofalu am y rhai sy'n Gofalu ( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch. Julie Morgan.

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Amseroedd Aros ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch i chi am yr ateb hwnnw, ac rwy’n falch eich bod yn cydnabod y pryderon, ac yn gallu cadarnhau bod ymyrraeth yn digwydd bellach mewn gwirionedd. Mae gennyf gwestiwn ychydig yn wahanol i’w ofyn i chi, felly byddwch yn amyneddgar gyda mi ar hyn, oherwydd mae’n ymwneud â nyrsys ardal. Mae’r Cynulliad, fel y gwyddoch, wedi cael tystiolaeth fod nifer y nyrsys ardal yng Nghymru wedi...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw. Rwy’n dal yn awyddus i ddatblygu hynny ychydig ymhellach oherwydd mae dyfodol gofal cymdeithasol—nid ydym yn siarad am y peth am ei fod yn ffasiynol, ond oherwydd ei fod yn bwysig i gymaint o bobl ac rydym i gyd yn cydnabod bod angen iddo newid. A hyd yn oed er nad oes gennyf fi, yn bersonol, unrhyw farn bendant ynglŷn ag a ddylai hyn fod yn...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Rydych wedi eich bendithio, Weinidog, o ran cael y cymorth hwn i’ch helpu i wneud yn siŵr fod llais gofal cymdeithasol yn cael ei gynrychioli’n dda yn yr hyn sy’n debygol o fod yn digwydd dros gyfnod nesaf y Cynulliad hwn, beth bynnag. Un o’r pethau rwy’n tybio na fyddwch yn cael unrhyw wrthwynebiad gan neb yn ei gylch yn y Siambr hon yw’r ffocws ar integreiddio iechyd a gofal...

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Diolch i chi am eich cyhoeddiad ddoe ar benodi bwrdd cychwynnol Gofal Cymdeithasol Cymru. Fel y gwyddom, bydd ei ddyletswyddau’n ymestyn ymhell y tu hwnt i ddyletswyddau cofrestru fel y’u cyflawnir gan y cyngor gofal, a gwnaeth ei gadeirydd yn glir i mi ddoe eu bod yn edrych ymlaen at ddefnyddio’u harbenigedd cyfunol i fod yn...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Ymwelwyr â Gorllewin De Cymru
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, ychydig wythnosau yn ôl, fe ddywedoch wrthyf mewn perthynas â diogelu treftadaeth i allu hyrwyddo twristiaeth ffydd, ei bod hi’n hanfodol fod Croeso Cymru yn defnyddio ei sgiliau i hyrwyddo Cymru o amgylch y byd ac i gynnig cyngor yn ogystal. Er eich bod wedi nodi bod Cadw wedi gweld cynnydd yn nifer yr ymwelwyr â Thyndyrn a Glyn y Groes, nid oes yr un o’r...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Dinas Ranbarth Bae Abertawe
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am eich ateb, ac yn amlwg, yn lleol, rydym yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth i fargen dinas-ranbarth Bae Abertawe. Er bod denu cyflogwyr mawr i ranbarth yn bwysig ar gyfer swyddi a’r economi, mae 99 y cant o’n busnesau yn fentrau bach a chanolig eu maint, a 75 y cant yn ficrofusnesau mewn gwirionedd, fel y gwyddoch eisoes, sy’n golygu bod busnesau bach yn chwarae rhan...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr eich ateb. Byddaf yn sicr yn ei gyfleu i’r sector, os nad ydynt eisoes wedi’i gael drwy hyn. Rwyf am symud ymlaen at rywbeth ychydig yn wahanol yn awr, sef y ffaith fod Cymru’n wlad o fusnesau bach, gyda llawer ohonynt yn bartneriaethau yn hytrach na chwmnïau, sy’n golygu eu bod yn gweithredu yn unol â rheolau treth incwm yn hytrach na’r dreth gorfforaeth. Tybed pa...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr am eich ateb. Rwyf am symud ymlaen yn awr at rywbeth arall yr ydym wedi bod yn aros peth amser amdano, sef yr adolygiad o amgueddfeydd bychain, a gyflwynodd adroddiad ym mis Awst 2015. Cafodd ei groesawu gan y sector, ac er i’r Llywodraeth oedi am chwe mis cyn ymateb i’r argymhellion, maent yn awyddus i weld cynnydd. Fodd bynnag, dywedwyd wrthyf nad yw rhai o’r...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Fe wnaethoch ddelio â hynny’n daclus iawn, mae’n rhaid i mi ddweud, Ysgrifennydd y Cabinet. Tybed a allech roi syniad i ni pryd y gallwn ddisgwyl ymateb llawn i’r adroddiad Cymru Hanesyddol. Gobeithiaf y gallwch wneud hynny heddiw, er mwyn rhoi rhyw fath o syniad i ni. Tan hynny, rwyf hefyd yn ymwybodol o’r ffaith fod eich rhagflaenwyr, er gwaethaf fy...

1. Cwestiwn Brys: Ford ym Mhen-y-bont ar Ogwr ( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. Diolch am eich atebion hyd yma, Ysgrifennydd y Cabinet, ond hoffwn roi cynnig arall ar gwpl o gwestiynau, gan nad ydym wedi cael atebion iddynt. [Torri ar draws.] Pryd oedd y tro cyntaf i chi glywed am y senario waethaf hon? Mae’r AS dros Ben-y-bont ar Ogwr yn cyfaddef nad oedd yn gwybod unrhyw beth am hyn, felly rwy’n meddwl tybed a oeddech chi. A allwch roi ateb...

2. 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:
Dinas Ranbarth Bae Abertawe
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd Llywodraeth Cymru i gynyddu cynhyrchiant economaidd yn ninas-ranbarth Bae Abertawe? OAQ(5)0129(EI)

3. 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon:
Amseroedd Aros ar gyfer Damweiniau ac Achosion Brys
( 1 Maw 2017)

Suzy Davies: 5. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi’r wybodaeth ddiweddaraf am amseroedd aros ar gyfer damweiniau ac achosion brys yng Ngorllewin De Cymru? OAQ(5)0128(HWS)

3. 3. Datganiad: Gwerthusiad Annibynnol o Fodel Ymateb Clinigol y Gwasanaethau Ambiwlans Brys (28 Chw 2017)

Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf i ddweud nad wyf yn aml yn mynd yn grac iawn yn y Siambr hon â'r sylwadau a wneir gan aelodau o bob plaid, ond roeddwn yn grac am yr hyn a ddywedodd Dawn Bowden. Nid yw’r blaid hon erioed wedi beirniadu’r parafeddygon na'r gwasanaeth a ddarperir ganddynt. Rydym wedi bod yn feirniadol o'r amserau na lwyddwyd i’w bodloni dan fersiwn blaenorol y polisi hwn, ac roedd...

9. 8. Dadl: Morlynnoedd Llanw (14 Chw 2017)

Suzy Davies: Yn fyr iawn. Mae'n araith eithaf hir, mae'n ddrwg gennyf, Simon.

9. 8. Dadl: Morlynnoedd Llanw (14 Chw 2017)

Suzy Davies: Wel, dyna beth yr wyf yn dod ato, oherwydd, o ran gwerth am arian, rwy'n gofyn: pam ar y ddaear na wnawn ni ddarganfod hyn? Mae morlynnoedd llanw yn ffordd newydd o feddwl. Fel CERN, hwn fydd y cyntaf yn y byd. Mae hwn yn ddiwydiant newydd, yn ddiwydiant byd-eang, gyda goblygiadau byd-eang, ac mae gennyn ni yma yn y DU. Nid yw'n gwestiwn o 'gallem', David Melding; mae'n fater o 'dylem'. Mae...

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.