Jeremy Miles: Fel y nodwyd yn y cyhoeddiad ddoe, rydym wedi ymrwymo i waith adfer sy'n gweithio i bobl Cymru, gan gynnwys Blaenau Gwent, drwy fynd i'r afael â'r materion sydd bwysicaf i ni: diweithdra, anghydraddoldebau hirsefydlog, tai fforddiadwy, adfywio canol trefi, a chefnogaeth i'r economi sylfaenol.
Jeremy Miles: Wel, mae ystod barhaus o ymgysylltu’n mynd rhagddo â rhanddeiliaid mewn perthynas â'r ddogfen hon. Fel y dywedais ddoe yn fy natganiad, dyma ddechrau sgwrs genedlaethol, ac mae'r sgwrs rydym wedi'i chael wedi bod yn gyfoethog, mae wedi cynnwys ystod o leisiau, weithiau'n ganmoliaethus, weithiau'n fwy heriol, fel y mae’r pethau hyn, ac rydym yn croesawu hynny oll, a byddwn yn parhau ar...
Jeremy Miles: Wel, yn sicr, nid wyf yn derbyn rhagosodiad cwestiwn yr Aelod. Boed mewn perthynas â heriau ynysu, y gefnogaeth sydd ei hangen i bobl a warchodir, efallai, y gefnogaeth sydd ei hangen gan sefydliadau'r trydydd sector, y set benodol o ymyriadau sydd ei hangen gan wasanaethau cyhoeddus i gydnabod profiad pobl hŷn yn y pandemig hwn, boed yn gydnabod y cyfraniad penodol y mae gwirfoddolwyr hŷn...
Jeremy Miles: Rydym yn cydnabod bod effaith COVID ar grwpiau amrywiol yng Nghymru wedi bod yn anghyfartal. Mae pobl hŷn ymhlith y rheini a byddwn yn fframio ein hymateb yng ngoleuni hynny er mwyn gallu sicrhau bod pobl hŷn ledled Cymru yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn ein hymateb.
Jeremy Miles: Diolch i Dai Lloyd am godi'r cwestiwn pwysig hwn yn y Siambr heddiw. Mae hyn yn amlwg yn flaenoriaeth allweddol i ni fel Llywodraeth. Ac fel gyda chamau paratoi blaenorol, mae rhai o'r atebion yn berthnasol i’r DU gyfan ac mae rhai ohonynt ar gyfer Cymru'n benodol. Felly, mewn perthynas â meddyginiaethau yn gyntaf, fel y cyfeiria atynt yn ei gwestiwn, mae pob un o bedair Llywodraeth y DU...
Jeremy Miles: Wel, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi modelu effaith yr ystod o senarios y gallem eu hwynebu ar economi Cymru a busnesau Cymru yn gyson, ac mae cryn dipyn o ddadansoddiadau’n seiliedig ar dystiolaeth wedi’u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru. Ar hyn o bryd, fel y bydd wedi fy nghlywed yn dweud wrth David Rees yn gynharach, rydym yn awyddus i sicrhau bod busnesau yng Nghymru yn...
Jeremy Miles: Yn sicr, Lywydd, ceir enghreifftiau o welliannau a gyflwynwyd gan y Blaid Lafur i amddiffyn datganoli nad yw Plaid Cymru wedi eu cefnogi yn Senedd y DU. Byddwn yn annog yr Aelod y dylem fod yn chwilio am ffyrdd o weithio gyda'n gilydd ar y pwynt hwn. Mae gennym berthynas gynhyrchiol iawn â Phlaid Genedlaethol yr Alban. Mae'n berthynas aeddfed a chydweithredol sy'n cydnabod y gall...
Jeremy Miles: Wel, yn amodol ar y pryderon a amlinellais yn fwy cyffredinol, nid yw lefel yr ymgysylltu mewn perthynas â pharodrwydd cwmnïau cludo nwyddau a pharodrwydd busnes yn fwy cyffredinol yn ddigonol. Mae set ymarferol iawn o ymyriadau yn mynd i gael effaith real iawn ar lwybrau i'n porthladdoedd, os na all gweithredwyr cludo nwyddau gyrraedd yno gyda'r lefel o barodrwydd sy'n ofynnol. Mae...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae ymddygiad fel cadw gwybodaeth oddi wrth y gweinyddiaethau datganoledig, mewn perthynas â pharodrwydd ar gwestiwn mor bwysig â hwn, yn niweidiol dros ben i'r berthynas o ymddiriedaeth rhwng Llywodraethau’r DU. Yr hyn rydym wedi gallu ei ddweud yw, ym maes parodrwydd, fod gweithio ar y cyd wedi bod yn bosibl, ac mae wedi bod yn effeithiol, hyd yn oed os...
Jeremy Miles: Fel y nodwyd yn ein cyhoeddiad ddoe, rydym wedi ymrwymo—
Jeremy Miles: Wel, yn gyntaf, gadewch i mi gytuno â sylw'r Aelod yn ei gwestiwn ynglŷn â'r cyfraniad a wneir gan ddinasyddion yr UE sydd wedi dewis gwneud eu cartref yng Nghymru. Rydym am iddynt barhau i deimlo'r croeso rydym bob amser wedi'i roi, a chydnabod y cyfraniad gwerthfawr a wnânt, a dyna pam fod hwn yn gwestiwn mor bwysig. Mae ein pryder sylfaenol yn ddiweddar yn ymwneud â grwpiau mwy agored...
Jeremy Miles: Bydd effaith diwedd y cyfnod pontio yn sylweddol, ac mae gwaith wedi bod ar y gweill ym mhob rhan o Lywodraeth Cymru ar baratoi ar gyfer yr ystod o senarios y gallem eu hwynebu ddiwedd mis Rhagfyr. Mae hyn yn cynnwys datblygu ein hymyriadau pwrpasol ein hunain ynghyd â gweithio gyda Llywodraeth y DU ar brosiectau parodrwydd.
Jeremy Miles: Gadewch imi ddweud fy mod yn rhannu pryderon yr Aelod yn llwyr fel y’u hamlinellwyd ganddi. A phan ddarllenais am y llythyr, a oedd yn cadarnhau i bob pwrpas na fyddai Llywodraeth y DU yn mynnu bod y rheolau tarddiad yn cael eu cynnwys, roeddwn mewn penbleth. Ymddengys bod Llywodraeth y DU yn fwy na pharod i fynnu ei ffordd mewn perthynas ag agweddau eraill ar ei safbwynt negodi, gan...
Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru’n cael trafodaethau rheolaidd gyda'r sector modurol ynglŷn ag effaith bosibl gadael yr Undeb Ewropeaidd. Mae perygl y bydd ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at y negodiadau’n cyflwyno rhwystrau newydd sylweddol i fasnach. Rwyf wedi dadlau’r achos dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU fod yn rhaid iddynt flaenoriaethu cytundeb sy’n diogelu sectorau gweithgynhyrchu...
Jeremy Miles: COVID-19 continues to affect the ability of all Governments, businesses and wider society to prepare for the end of transition. We are working on an end-of-transition plan that will be published later in the autumn. This will complement our covid reconstruction plan, which I launched last week.
Jeremy Miles: We continue to assess the impact of the UK Internal Market Bill on Wales as a whole. The Bill's provisions have cross-cutting impact over a number of areas and we will continue to do our utmost to limit the detrimental impact of the Bill on the people of Wales.
Jeremy Miles: The UK Internal Market Bill will absolutely weaken the UK's position in the negotiations with the EU. Rather than seeking to build trust and confidence at this critical point in the negotiations, the UK Government has sought to increase the risk of talks breaking down by threatening to break international law.
Jeremy Miles: Mae cwestiynau Huw Irranca-Davies yn mynd at wraidd llawer o'r materion hyn mewn gwirionedd, felly diolch ichi am y sylw am ymgysylltu. Y peth da am ymgysylltu yw amrywiaeth o leisiau, a gyda hynny weithiau rydych chi'n clywed pethau mae arnoch chi eisiau eu clywed, weithiau pethau nad oes arnoch chi eisiau eu clywed, ond mae hynny'n rhan bwysig o'r broses. A hoffwn gydnabod pa mor bwysig fu...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna. O ran y pwynt cyntaf ynghylch cam nesaf y gronfa cadernid economaidd, cyhoeddwyd y meini prawf cymhwysedd ar gyfer hynny ddydd Llun yr wythnos hon, a dylent fod ar gael—. Rwy'n credu fy mod yn gywir wrth ddweud, o'r £140 miliwn, rwy'n credu mai £60 miliwn yw'r ffigwr sydd wedi'i glustnodi ar gyfer cymorth gyda chyfyngiadau lleol, a bydd y cymhwysedd...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rwy'n credu ei bod yn gwneud y pwynt pwysig iawn na ellir edrych ar yr un o'r cyfresi hyn o ymyriadau ar wahân ac, yn amlwg, mae angen ystyried effeithiau cyfunol newid yn yr hinsawdd, COVID a diwedd y cyfnod pontio gyda'i gilydd cyn belled ag y bo modd, ac felly mae ymyriadau wedi'u cynllunio, ar un ystyr, i allu ystyried y cyd-destun cyfan hwnnw a bydd...