Huw Irranca-Davies: Iawn. Wel, gadewch imi droi at ddatganoli lles neu reolaeth weinyddol. Nid ydym yn cefnogi hyn ar sail egwyddor ac ymarferoldeb clir. O ran yr egwyddor, credwn y dylem oll gael hawl i hawliad cyfartal gan wladwriaeth les sy'n darparu cymorth pan fo angen ac yn mynd i'r afael â thlodi yn Abertawe ac yn Swindon, ym Mangor, ond hefyd yn Bognor. Yn ymarferol hefyd, mae system cymorth lles ar...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n cytuno bod tlodi'n sgandal ar ba lefel bynnag, ond fe drof at rai o'r polisïau ymarferol sy'n newid hynny mewn gwirionedd yn hytrach na geiriau mawr mewn strategaethau a'r hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd. Nid oes unrhyw ymdeimlad o hunanfodlonrwydd oherwydd mae angen inni wneud mwy. Felly, gadewch imi ddweud yn gyntaf oll lle y gallwn gytuno. Ein dyletswydd foesol eglur yw gwneud...
Huw Irranca-Davies: Ond yr hyn sydd gennym hefyd, Siân, yw rhaglen drawslywodraethol ar gyfer cynyddu ffyniant i bawb. Fe godoch chi'r mater hefyd, gyda llaw—. Nid wyf yn siŵr a oes gennyf amser i—
Huw Irranca-Davies: Gwnaf mewn munud. Siân, fe wnaethoch chi hefyd grybwyll mater y grant ar gyfer gwisg ysgol. Wel, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg eisoes wedi egluro ei bwriad i gyflwyno cynllun gwell o fis Medi 2018—cynllun a fydd yn fwy hyblyg, yn fwy perthnasol i anghenion dysgwyr dan anfantais. Mae fy swyddogion eisoes wedi cymryd rhan mewn trafodaethau ynglŷn â datblygu'r cynllun newydd hwn...
Huw Irranca-Davies: Fe gymeraf yr ymyriad.
Huw Irranca-Davies: Rydym yn chwarae o gwmpas gyda setiau data gwahanol yma, ond mae'r ystadegau hynny'n bendant ac maent yn annibynnol ac maent wedi'u profi. Fodd bynnag, lle y gallwn gytuno yw ei fod yn rhy uchel—mae'n ystyfnig o uchel—ac mae angen inni ddefnyddio'r holl ddulliau o dan ein rheolaeth i ddod â lefelau tlodi plant i lawr. Os caf droi at rai o'r sylwadau gan Llyr, cyfeiriodd, fel llawer o...
Huw Irranca-Davies: Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymddiheuro am fod braidd yn rhy gynnar yn gynharach. A gaf fi ddechrau drwy groesawu'n ddidwyll y ffocws ar dlodi plant yn y ddadl hon? Mae'n iawn inni ganolbwyntio ar hyn, oherwydd gwyddom fod tlodi plant, heb ei ddatrys, yn gallu cyfyngu ar fywyd cynnar plentyn a chyfyngu ar eu cyfleoedd mewn bywyd ymhellach wrth iddynt deithio tuag at fod...
Huw Irranca-Davies: Rwy'n hapus i ymyrryd. Ni fyddwch yn synnu nad wyf yn gwybod sawl gwaith y defnyddir y gair 'tlodi' yn y cynllun, ond mewn gwirionedd, mae'r strategaeth tlodi plant yn dal ar waith a byddwn yn cyflwyno adroddiad yn 2019, fel y dywedodd fy rhagflaenydd yn y swydd hon. Hefyd, nid yn unig ein bod yn diffinio'r ymosodiad ar dlodi a'r cynnydd mewn ffyniant yn y cynllun hwnnw, ond hefyd gyda'r...
Huw Irranca-Davies: Diolch—
Huw Irranca-Davies: Ymddiheuriadau. Rwy'n cynnig yn ffurfiol. Mae'n ddrwg gennyf.
Huw Irranca-Davies: Roeddwn yn barod i fwrw iddi. Roeddwn yn rhy awyddus—rwy'n ymddiheuro.
Huw Irranca-Davies: Yn ffurfiol.
Huw Irranca-Davies: Rwy'n fwy na pharod i ysgrifennu at Suzy gyda manylion y canlyniadau hynny, ond hefyd y strategaethau ehangach yr ydym yn bwrw ymlaen â hwy ar gyfer cyflogadwyedd. Ond wrth gwrs, mae yna hefyd amrywiaeth eang o fesurau cymorth eraill y gallwn eu rhoi ar waith ar gyfer gofalwyr sy'n oedolion ifanc, a gwn y bydd yn ymuno â mi—ac rwy'n hapus i ysgrifennu ati ar y mater penodol hwnnw—i...
Huw Irranca-Davies: Credaf eich bod yn gywir i nodi mater sy'n dilyn ymlaen o'r dull rydym wedi'i fabwysiadu mewn perthynas â chydgynhyrchu, a gefnogir gan yr holl Aelodau yma, sef y dylai asesu anghenion gofalwyr fod yn rhywbeth rydym yn gweithio arno mewn cydweithrediad â'r unigolyn sy'n chwilio am y pecyn gofal cywir—y pecyn priodol o gymorth a chyngor ar eu cyfer hwy—ond mae ganddynt hefyd hawl i...
Huw Irranca-Davies: Gallaf, yn wir. Diolch i chi am y cwestiwn, Suzy. Nid yw'n wir, mewn gwirionedd, fod y broses o adnewyddu ac adolygu'r strategaeth wedi'i rhwystro. Mae ar y gweill, ond nid ydym yn aros am hynny ychwaith. Rydym yn bwrw ati ar amrywiaeth o faterion mewn perthynas â gofalwyr, ac nid ydym ychwaith yn aros i grŵp cynghori'r Gweinidog ar ofalwyr ei wneud hefyd. Cyfeiriaf yn ôl at y datganiad...
Huw Irranca-Davies: Diolch i chi, Jenny. Ambell beth mewn ymateb: yn gyntaf oll, o ran cael y cynnig hwn i'r bobl sydd ei angen fwyaf oherwydd, yn rhyfedd iawn, er ei fod yn canolbwyntio ar rieni sy'n gweithio, mae elfen o gyffredinolrwydd iddo bron hefyd, oherwydd rydym ni'n dweud y dylai pob rhiant sy'n gweithio, ond rydym yn gwybod bod rhai rhieni sy'n gweithio a fyddai'n elwa o hyn yn fwy, a sut y gallwn ni...
Huw Irranca-Davies: Diolch. Llyr, ymddiheuriadau. Gwnaethoch chi ofyn pam na fu unrhyw ymgynghori ffurfiol. Mae hyn ychydig yn anarferol o'i gymharu â llawer o Filiau sy'n cael eu cyflwyno, sef ein bod ni wrthi'n gwneud y gwaith caib a rhaw ar hyn o bryd. Felly, un: mae'n Fil technegol, felly doeddem ni ddim yn teimlo, ar y cyfan, bod angen ymgynghori ar y drafft. Yn hytrach, rydym wedi trafod y Bil, y dull a...
Huw Irranca-Davies: Mark, diolch yn fawr iawn. Mae'n debyg bod un o fy methiannau oherwydd fy magwraeth: rwy'n rhy gwrtais ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddisgrifio fel mân anawsterau neu broblemau cychwynnol, ond rydym yn ffyddiog—a buom yn cynnal trafodaethau â Cyllid a Thollau EM, o ran eu cynnig treth, ond hefyd o ran y cynnig gofal plant—bod y problemau hyn yn cael eu datrys, ac yn wir, y byddant wedi...
Huw Irranca-Davies: Julie, diolch i chi, ac 'ydy' i'r cwestiwn olaf o ran hunan-gyflogaeth ynglŷn â dyluniad manwl hyn, ac, wrth gwrs, rhaglen Lloegr hefyd. Rhoddwyd sylw i'r agwedd hunan-gyflogaeth. O ran hyblygrwydd o fewn y system, rwy'n falch o ddweud wrthych chi, Julie, mai un o fanteision defnyddio system Cyllid a Thollau EM, ar gyfer siaradwyr Cymraeg a Saesneg fel ei gilydd, yw pa mor syml yw'r cais,...
Huw Irranca-Davies: Hir pob aros. Hir pob aros.