Canlyniadau 1161–1180 o 2000 ar gyfer speaker:Llyr Gruffydd

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Buddsoddi mewn Trafnidiaeth (27 Chw 2018)

Llyr Gruffydd: Mi glywodd grŵp bob plaid ar ogledd Cymru gan yr Ysgrifennydd Cabinet yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â chynlluniau'r Llywodraeth yma i greu rhwydwaith o hybiau trafnidiaeth ar draws y gogledd, ac mae hynny i'w groesawu wrth gwrs—buddsoddiad o, rydw i'n siŵr, ddegau o filiynau yn yr isadeiledd yna—ond ar yr un pryd, wrth gwrs, ychydig wythnosau yn ôl, mi glywom ni neu mi welom ni...

4. Datganiadau 90 Eiliad (14 Chw 2018)

Llyr Gruffydd: Rŷm ni'n gwybod bod y diwydiant papurau newydd yn gyffredinol yn crebachu'r dyddiau yma, a bod yna bryder am ddyfodol sawl teitl a bod llawer o bwyslais ar greu gwefannau newyddion hyperleol. Wel, mae yna ddwy ardal yng Nghymru sy'n dal i weld gwerth yn eu papurau lleol wythnosol, a’r rhain yn dangos bod newyddion print hyperleol yn dal i oroesi, ac, yn wir, yn dal i ffynnu. Mae’r...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: Y Sector Bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru (14 Chw 2018)

Llyr Gruffydd: Gwelais adroddiadau yn ddiweddar fod y cyrff lefi cig coch ym Mhrydain yn mynd i fod yn rhannu cronfa o £2 miliwn ar gyfer marchnata ac ymchwil tra bod datrysiad mwy hirdymor, efallai, i'r saga yma o'r lefi cig coch yn cael ei ddatrys o'r diwedd, gobeithio. Rwyf am wybod achos rwyf wedi bod yn codi hyn ers blynyddoedd mawr. Rwy'n siŵr mai chi yw'r pumed neu'r chweched Gweinidog neu...

QNR: Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol (14 Chw 2018)

Llyr Gruffydd: Pa drafodaethau y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU parthed effaith y gronfa ffyniant a rennir arfaethedig ar Ogledd Cymru?

8. Dadl: Setliad terfynol yr Heddlu 2018-19 (13 Chw 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch am y cyfle i gyfrannu'n fyr at y drafodaeth ac i ategu'r pwyntiau sydd wedi cael eu gwneud eisoes ynglŷn â'r rhaglen cyswllt ysgolion, oherwydd mae'n wasanaeth ataliol pwysig iawn. Mae'n llenwi bwlch yn sicr o safbwynt y ddarpariaeth addysg i blant—bwlch na fyddai'n cael ei lenwi'n aml iawn oni bai bod yr heddlu yn darparu'r gwasanaeth yna. Maen nhw'n edrych ar ddiogelwch ar y we,...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr ( 6 Chw 2018)

Llyr Gruffydd: Mae cyllid ychwanegol i wella amseroedd aros i'w groesawu'n fawr, wrth gwrs, ond nid yw'n gynaliadwy, yn amlwg. Nid yw'n mynd i'r afael â'r problemau capasiti sylfaenol sydd gennym ni yn y gwasanaeth iechyd yn y gogledd—dim digon o feddygon, dim digon o nyrsys, a'ch Llywodraeth chi yn amlwg ddim yn gwneud digon i fynd i'r afael â rhai o'r heriau sylfaenol hynny. A beth mae hyn yn ei...

7. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Iechyd Meddwl Amenedigol yng Nghymru (31 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Rwyf innau hefyd am gychwyn drwy ategu’r diolchiadau i’r Cadeirydd a’m cyd-aelodau o’r pwyllgor, i’r clercod a’r swyddogion a hefyd i’r rhanddeilaid, sydd wedi chwarae rhan deinamig iawn yn y drafodaeth yma, mae’n rhaid imi ddweud—yn fwy felly yn yr achos yma, rydw i’n meddwl, nag mewn unrhyw ymchwiliad arall rydw i wedi bod yn rhan ohono fe. Mae’n rhaid imi ddweud...

3. Cwestiynau Amserol: Ffigurau marwolaethau mewn adrannau achosion brys (31 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Wel, rwy'n gobeithio nad ydynt yn dysgu o Ysbyty Glan Clwyd, Ysgrifennydd y Cabinet. Ond buaswn yn dweud, fel y dywedodd y cyngor iechyd cymuned ddoe, byddech yn disgwyl i'r ffigurau fod yn uwch, ond ymddengys bod y ffigurau hyn yn afresymol ac yn anghymesur o uchel mewn perthynas â'r gwahaniaeth demograffig sydd gennym yn y rhan arbennig honno o Gymru. Felly, buaswn yn gofyn eto i chi...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (31 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Rydw i'n siwr eich bod yn deall y rhwystredigaeth, oherwydd mae clywed Gweinidog yn dweud bod yn rhaid i ni weld beth yw'r sefyllfa heddiw, bedair blynedd a hanner ar ôl i adroddiad ddweud bod angen gweithredu ar fyrder, yn peri rhwystredigaeth, mae'n rhaid i mi ddweud.  Nawr, wrth gwrs, nid yw'n bosibl symud ymlaen yn ystyrlon i gyrraedd y nod yr ydym yn ei rannu rydw i'n siwr o safbwynt...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (31 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr. Rydw i'n croesawu'r ateb pendant yna: na fyddwch chi'n aros tan fod Donaldson yn ei le, oherwydd, fel rydym ni'n gwybod, mi fydd hi'n 2025 cyn bod gan bawb fynediad i'r cwricwlwm newydd, ac mae hynny'n colli cenhedlaeth botensial arall o siaradwyr Cymraeg. Felly, a gaf i ofyn pa ystyriaeth rydych chi wedi ei rhoi i dreialu neu beilota efallai mewn rhai ardaloedd penodol y...

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (31 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Diolch, Llywydd. Mae pedair blynedd, bron i bedair blynedd a hanner nawr, ers cyhoeddi adroddiad yr Athro Sioned Davies ar sefyllfa'r Gymraeg fel ail iaith mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Yn yr adroddiad, mi wnaeth hi'n gwbl glir ei bod hi'n unfed awr ar ddeg bryd hynny ar y Gymraeg fel ail iaith, a bod lefelau cyrhaeddiad disgyblion yn y pwnc yna yn is nag mewn unrhyw bwnc arall....

1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Sgiliau Iaith a Chyfathrebu (31 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Fe wyddom, o ffigurau a ddarparwyd gan Goleg Brenhinol y Therapyddion Lleferydd ac Iaith, fod dros 50 y cant o blant o gefndiroedd difreintiedig yn gymdeithasol yn dechrau yn yr ysgol, o bosibl, gyda sgiliau cyfathrebu, iaith a lleferydd gwael. Nawr, a ydych chi, felly, yn rhannu pryderon Comisiynydd Plant Cymru fod cyfyngu cynnig gofal plant y Llywodraeth i blant rhieni sy'n gweithio yn...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu’r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn (30 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Mae'r comisiynydd plant yn eglur iawn fod cyfres o brofion litmws, os mynnwch, o ran beth fyddai hi yn ei geisio—yn bennaf, wrth gwrs, y gellir rhoi cyfrif o bob plentyn yng Nghymru ac nac oes un yr yn ohonyn nhw yn golledig i'r gwasanaethau cyffredinol a chymdeithas yn fwy eang. Wel, wyddoch chi, ni all hyd yn oed gofrestr statudol warantu hynny ac mae hynny'n rhywbeth y gwn ein bod...

5. Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Diogelu’r Hawl i Addysg Addas i bob Plentyn (30 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: A gaf innau ddiolch i'r Ysgrifennydd Cabinet am ei datganiad y prynhawn yma? Efallai y byddech chi'n disgwyl bod gen i deimladau cymysg am y datganiad sydd wedi cael ei wneud. Yn sicr, rwy'n falch eich bod chi yn ailgydio yn y mater yma wedi o leiaf ddau o'ch rhagflaenwyr fethu, yn fy marn i, â mynd i'r afael yn ddigonol â'r mater yma. Ond rydych chi yn stopio'n fyr o beth mae nifer ohonom...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: A gaf i ofyn am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi am y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan Kimberly-Clark, a nododd eu bod am leihau eu gweithlu yn fyd-eang gan rhwng 5,000 a 5,500 o weithwyr? Mae hynny'n ostyngiad o tua 12 y cant i 13 y cant o'u gweithlu ledled y byd. Nawr, nid yw'n glir ar hyn o bryd beth fydd y goblygiadau ar gyfer eu cyfleusterau yn y Fflint, ond, yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Anghenion Dysgu Ychwanegol (30 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Rwy’n falch i glywed eich bod chi’n mynd i fonitro’r sefyllfa, oherwydd rydym ni hefyd yn gwybod, wrth i gyllidebau nifer o ysgolion lle rydym ni’n llywodraethwyr—nifer ohonom ni, rwy’n siŵr—grebachu, mae hynny’n golygu mai’r unig arbediad gwirioneddol y mae nifer o ysgolion yn gallu ei wneud yw lleihau nifer y staff, a chynorthwywyr dosbarth yn aml iawn yw’r cyntaf i...

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (30 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau bysus yng Ngogledd Cymru?

6. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Ymchwiliad i'r amcangyfrifon ariannol sy'n cyd-fynd â deddfwriaeth (24 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: Fel rhywun sydd ddim yn aelod o'r Pwyllgor Cyllid, a gaf i ddiolch i'r pwyllgor a'r Cadeirydd am eu gwaith ar hyn? Rwy'n credu bod y Cadeirydd bach yn galed ar ei hunan yn awgrymu nad hon yw'r ddadl mwyaf cyffrous heddiw. Yn sicr, nid hi fydd y lleiaf cyffrous. Ond mi roeddwn i'n cael fy nghyffroi o ddarllen yr adroddiad ac o edrych ar yr argymhellion, oherwydd, fel mae e wedi cyfeirio, y...

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad: Ymgysylltu â'r Cyhoedd yn y Gogledd (24 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: A gaf i gytuno fod cyfathrebu yn gwbl allweddol? Ond nid oes curo mynd mas ac ymgysylltu yn uniongyrchol â phobl. Rwy'n canmol y fenter Senedd Casnewydd fel roedd hi yn 2016, a Senedd Delyn, a gafodd ei ohirio oherwydd amgylchiadau trist. Mae'r model yna o gyfnod dwys o ymgysylltu'n uniongyrchol mewn gwahanol rannau o Gymru yn un rwy'n meddwl y dylem ni fod yn edrych i wneud mwy ohono fe....

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cynaliadwyedd Gwasanaethau Bysiau (23 Ion 2018)

Llyr Gruffydd: A yw'r Prif Weinidog yn credu ei bod yn dderbyniol nad oes unrhyw fysiau yn ystod yr oriau prysur, o ystad ddiwydiannol Wrecsam—un o'r ystadau diwydiannol mwyaf yn Ewrop—i ganol tref Wrecsam? Mae miloedd o weithwyr mewn sefyllfa lle nad oes ganddyn nhw unrhyw wasanaeth trafnidiaeth. Mae'n rhaid ichi naill ai gadael y gwaith yn gynnar, neu mae'n rhaid i chi aros am awr i ddal y bws adref....


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.