Suzy Davies: Wel, Aelodau, rwy’n meddwl ein bod yn sefyll ar drothwy rhywbeth gwirioneddol arwyddocaol. Rwy'n meddwl bod angen dewrder neilltuol i wynebu newidiadau gwleidyddol byd-eang ac wedyn penderfynu dod â rhywbeth da ohonynt. Weithiau, gall dod â’r peth da hwnnw allan fod yn seismig ynddo ei hun, gan fabwysiadu ffordd newydd o feddwl. Nawr, gyda rhai o fy nghydweithwyr, rwyf newydd ddod yn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Lywydd. A gaf i ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei datganiad hefyd? Nid wyf i’n mynd i gwyno am unrhyw arian sy’n mynd tuag at y celfyddydau, ond rwy'n credu bod rhai cwestiynau pwysig y mae angen eu hateb, er gwaethaf eich atebion i nifer o unigolion sydd wedi eu gofyn heddiw. Rwy’n derbyn eich pwynt yn llwyr bod y penderfyniadau ynghylch sut y dylid gwario'r...
Suzy Davies: Brif Weinidog, rwy’n gobeithio y bydd cyfarfod Ysgrifennydd y Cabinet ym mis Ebrill yn ffrwythlon o ran hyrwyddo ein pysgod cregyn i’r holl fyd, nid i'r Undeb Ewropeaidd yn unig. Ond, fel y gwyddoch, mae lefel y paraseitiaid a geir mewn cocos o fornant Porth Tywyn, oddi ar arfordir Gŵyr, yn uwch na'r disgwyl. Wrth gwrs, os ydym ni’n mynd i fodloni’r galw byd-eang, rydym ni angen ein...
Suzy Davies: Iawn. Diolch.
Suzy Davies: Da iawn. [Chwerthin.] Weinidog, mae eich pwynt ynglŷn â chwalu rhwystrau rhwng yr ysgol a’r coleg yn un da iawn mewn gwirionedd, a buaswn yn cytuno â chi ar hynny. Mewn gwirionedd, fe ddywedoch y pethau iawn i gyd hyd y diwedd yn y fan honno, ond mae angen i ni eu gweld yn digwydd yn awr. Rwy’n erfyn arnoch yn wir: rhowch y gorau i gwyno a chynlluniwch. Cynlluniwch ar gyfer gwario’r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Wel, mae’n ddrwg gennyf eich siomi, Weinidog, ond fi sy’n mynd i gloi’r ddadl. Parch cydradd—am hynny y buom yn siarad heddiw, nes iddo golli ei ffordd yn yr ychydig funudau diwethaf. Rwy’n credu ei bod yn bwysig nodi bod hon wedi bod yn ddadl eithaf cydsyniol, ac am reswm da iawn hefyd: mae parch cydradd yn dda i’r economi, mae’n dda i’r colegau a’r...
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cefnogi hyn heddiw, a diolch hefyd i Ysgrifennydd y Cabinet, gan nad wyf yn gwrthwynebu’r hyn y mae’n bwriadu ei wneud? Yr hyn rwy’n ei ddweud yw ei fod yn mynd i gymryd llawer gormod o amser. Mae’n cymryd dwy awr i hyfforddi plentyn i achub bywyd; mae’n cymryd 10 munud i ladd rhywun sy’n dioddef trawiad ar y galon. Felly, rwy’n...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. A gaf fi hefyd ddiolch i’r Cynulliad am y cyfle i fod yr Aelod cyntaf i ddefnyddio’r darn newydd hwn o fusnes? Hoffwn ddiolch hefyd i fy nghyn-reolwr swyddfa, Mark Major, a ddaeth â’r pwnc i fy sylw pan ddeuthum yn Aelod Cynulliad. Dechreuodd ymgyrch chwe blynedd gyda datganiad barn yn 2011, yn gofyn am gefnogaeth i wneud addysgu sgiliau achub bywyd brys yn orfodol yn...
Suzy Davies: Fe sonioch am y blaengynllun yno, ond yn ôl swyddogion, mae cynllun datblygu lleol cyngor Abertawe, sydd braidd yn ddadleuol, rhaid cyfaddef, yn debygol o gael ei ohirio yn awr, ac mae rhan o raglen ysgolion yr 21ain ganrif yn anelu i fynd i’r afael â chapasiti, wrth gwrs, mewn ysgolion sy’n orlawn a’r rhai sydd â lleoedd gwag. Os caiff y cynllun datblygu lleol ei ohirio, pa effaith...
Suzy Davies: Diolch, Lywydd. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad heddiw, ac am yr wybodaeth yr ydych wedi ei rhoi i ni. Rwy’n sicr yn gwerthfawrogi hynny. Un o'r pethau yr oeddwn i eisiau eich holi amdano oedd un o'r camau gweithredu allweddol yn y cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau'r galon, sef y cynllun i gael cynllun trawiad ar y galon y tu allan i'r ysbyty ar gyfer Cymru—rhywbeth y byddwn i yn...
Suzy Davies: Mae'n debyg mai’r cwestiwn cyntaf y dylwn ei ofyn ichi, Ysgrifennydd y Cabinet, fyddai a yw'r wybodaeth y mae Len McCluskey yn gofyn amdani gennych chi eisoes. Ym mis Medi, fe wnaethoch ateb cwestiynau yn y Siambr hon am y sefyllfa yn ffatri Ford yn seiliedig ar sicrwydd yr oeddech wedi ei gael ym mis Mehefin y flwyddyn honno. Yn arbennig, dywedasoch fod Ford wedi dweud wrthych nad oedd...
Suzy Davies: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am Gynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau ar y Galon a gyhoeddwyd fis Ionawr 2017?
Suzy Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn am gymryd yr ymyriad. Roeddwn i’n gwrando ar eich pwynt am wthio costau i lawr yn y sector preifat; a fuasech yn derbyn hefyd fod yna anhawster gydag awdurdodau lleol yn gallu talu mwy i’r contractwyr preifat hynny?
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croesawaf y ddadl hon a chynnig ein gwelliannau. Efallai y caf sôn hefyd y bydd cyfle i’r Aelodau ddatblygu’r safbwyntiau a gyflwynir heddiw mewn dadl y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei chyflwyno yn ystod yr wythnosau nesaf. Rwy’n meddwl yn bendant y dylem gadw hyn yn ein golwg. Mae’n rhywbeth y dylem fod yn ei drafod yn aml, yn enwedig gydag adolygiad...
Suzy Davies: Yr wythnos diwethaf roeddech yn sôn fod rhai prosiectau Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid yn mynd i gael mwy o arian yn sgil tanwario mewn ardaloedd eraill, sy’n fy nharo braidd yn rhyfedd, fod rhai awdurdodau lleol i’w gweld yn eithaf gwael am ddilyn canllawiau os yw rhai’n tanwario a bod eraill heb ddigon o arian. Oherwydd nid sôn yn unig am adnewyddu meysydd parcio sy’n dadfeilio...
Suzy Davies: Mae digonedd o wrthwynebiad o hyd i Fynydd y Gwair, ac mae trigolion lleol yn pryderu hefyd ynglŷn â’r effaith bosibl ar boblogaeth ystlumod yn lleol. Tynnaf sylw at hyn fel hyrwyddwr yr ystlum pedol lleiaf yn y Cynulliad. Mae’r trigolion yn nodi adroddiad diweddar prifysgol Caerwysg ar farwolaethau ystlumod o ganlyniad i’r ffaith fod y llafnau’n tarfu ar sonar ac ar botensial...
Suzy Davies: Ar yr un thema, Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi’n gwybod, wrth gwrs, pa mor fregus yw diwydiant cocos Gŵyr oherwydd marwolaeth cynnar stociau ym moryd Burry. Ac efallai fydd y Bil diddymu mawr yn diogelu’r diwydiant hwn drwy gadw rheoliadau pysgod cregyn yr Undeb Ewropeaidd, ond ni fydd yn amddiffyn marchnadoedd pysgod cregyn yn yr Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd. Felly, sut mae...
Suzy Davies: A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am rymuso cymunedau lleol?
Suzy Davies: Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr am eich datganiad. Rwy’n llwyr gymeradwyo eich sylwadau ar yr angen i gyflogwyr gefnogi hyn, yn enwedig ar gyfer dysgu yn seiliedig ar waith ac, wrth gwrs, yr angen am barch cydradd. Dywedasoch sawl gwaith nad yw hyn yn seiliedig ar y sefydliad, ond bod y pwyslais ar y dysgwr a chyflawni dyheadau dysgwyr. A wnewch chi roi syniad i ni o sut y bydd y newid...