Jane Hutt: A wnaiff Arweinydd y Tŷ roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau mai Cymru yw'r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw yn Ewrop?
Jane Hutt: Ysgrifennydd y Cabinet, pa asesiad a wnaethoch o ymchwil gan Brifysgol Caergrawnt, sy'n dangos bod toriadau i wariant ar wasanaethau gan gynghorau yn Lloegr, ar gyfartaledd, yn ddwbl yr hyn a welwyd yng Nghymru?
Jane Hutt: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r ymgyrch undebau credyd 'People Not Profit' yn yr Alban?
Jane Hutt: Wrth baratoi fy neges Nadolig i'm hetholwyr yr wythnos yma, roeddwn i'n falch o sôn am y cynnydd i lywodraeth leol a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet ar 20 Tachwedd, a ddaeth fel newyddion da i awdurdodau lleol Cymru, gan sicrhau pecyn ychwanegol o £141.5 miliwn mewn refeniw a chyfalaf dros y tair blynedd nesaf. Ac mae’r cynnydd i'r gyllideb ddrafft yn sicrhau’r dyraniadau...
Jane Hutt: Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol am y flwyddyn ddiwethaf a Chadeirydd Rhwydwaith Menywod yn Ewrop (Cymru). Ac fe fyddwch yn ymwybodol o waith ein pwyllgor yn paratoi ar gyfer Brexit, gan gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf am barodrwydd y sector gofal iechyd a meddyginiaethau yng Nghymru. Mae cael...
Jane Hutt: Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, roeddem yn dathlu canmlwyddiant y diwrnod y gallodd menywod sefyll etholiad i'r Senedd yn 1918, ac un o'r ASau benywaidd arloesol cynnar oedd Edith Picton-Turbervill, sydd wedi ei chynnwys yn llyfr Angela John, Rocking The Boat: Welsh Women who Championed Equality 1840-1990. Mae plac teuluol i Edith Picton-Turbervill ym mhriordy Ewenni yn fy etholaeth, lle...
Jane Hutt: Mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi adrodd bod y gweithiwr amser llawn benywaidd cyfartalog yn ennill 8.6 y cant yn llai na'r gweithiwr gwrywaidd cyfartalog. Yng ngoleuni Diwrnod Cyflog Cyfartal 2018 ar 10 Tachwedd a'r alwad ddiweddar gan Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru a grwpiau fel y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, Chwarae Teg, BAWSO, Llamau i gau'r bwlch gwleidyddol rhwng y rhywiau a...
Jane Hutt: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Bydd cefnogi ymgyrch cyflog byw go iawn yn helpu i fynd i'r afael â chyflogau isel, yn atal twf dyled a'r defnydd o fanciau bwyd ac yn cefnogi economi gwaith teg. Mae'n gwneud synnwyr economaidd ac mae'n nodwedd o gymdeithas ofalgar, dosturiol a theg. Felly, sut y gall Llywodraeth Cymru gynorthwyo mwy o gyflogwyr yn y sector preifat i ddod yn gyflogwyr...
Jane Hutt: 3. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am y defnydd o'r cyflog byw go iawn gan y sector preifat yng Nghymru? OAQ53002
Jane Hutt: 6. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y contract economaidd rhwng Llywodraeth Cymru a busnesau Cymru? OAQ53003
Jane Hutt: A wnewch chi ildio?
Jane Hutt: Diolch yn fawr iawn, Helen Mary. A hon, wrth gwrs, yw'r wythnos pan yr ydym ni'n canolbwyntio ar ddileu trais yn erbyn menywod, ac rydym ni wedi cael datganiad y prynhawn yma gan Julie James. Oni fyddech chi'n dweud y dylai hyn fod yn brawf ar Amber Rudd, yr Ysgrifennydd Gwladol newydd dros Waith a Phensiynau, i weld a fydd hi'n atal ac yn cael gwared ar yr ymosodiad anghyfiawn hwn ar...
Jane Hutt: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o'r datganiad a wnaed gan rapporteur y Cenhedloedd Unedig, yr Athro Phillip Alston, yn dilyn ei ymweliad â'r DU?
Jane Hutt: Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu at y ddadl hon, ac rwy'n falch iawn o ddilyn Andrew R.T. Davies a chodi unwaith eto ein gwrthwynebiad ar y cyd ar draws y Siambr hon i gynnig diweddaraf Cyngor Bro Morgannwg—wrth gwrs, mae bellach yn gyngor dan reolaeth Geidwadol—i gau ysgol lwyddiannus yn fy etholaeth i a rhanbarth Andrew, sef Ysgol Gynradd Llancarfan. Credaf ei bod yn berthnasol...
Jane Hutt: A gaf fi groesawu'r ddadl hon ar adroddiad y pwyllgor safonau, 'Creu'r Diwylliant Cywir', ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd a'r aelodau am gynnal yr ymchwiliad a chynhyrchu'r adroddiad hwn gydag argymhellion rwy'n eu cefnogi? Mae'n briodol cynnal y ddadl hon yn ystod wythnos y rhuban gwyn, a wisgir gennym i gydnabod yr ymdrech barhaus i ddileu trais yn erbyn menywod. Fel y clywsom ddoe, mewn...
Jane Hutt: A gaf fi ategu canmoliaeth Ysgrifennydd y Cabinet a'r Aelodau i reolaeth Maes Awyr Caerdydd yn fy etholaeth? Rwy'n croesawu'r ffigurau teithwyr diweddaraf ar gyfer y maes awyr, sy'n dangos bod cyfanswm y teithwyr wedi cynyddu 9 y cant yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf, o un flwyddyn i'r llall, i gyrraedd 1.48 miliwn. Gan fod rhai wedi awgrymu bod y doll teithwyr awyr wedi bod yn ffactor...
Jane Hutt: Rwy'n falch iawn, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rwy'n croesawu eich ymrwymiad i hyn, oherwydd mae pawb ohonom yn gwybod bod diagnosis cynnar o HIV yn hanfodol i sicrhau y gall unrhyw unigolyn sy'n cael prawf cadarnhaol ddechrau triniaeth cyn gynted â phosibl, ac mae cael amrywiaeth o gyfleoedd ar gyfer profi yn hanfodol iawn i wella diagnosis cynnar a chynnal iechyd a lles y bobl sy'n byw, neu...
Jane Hutt: Diolch ichi, Ysgrifennydd y Cabinet. Hoffwn ddiolch i chi am eich ateb i fy llythyr ynglŷn â'r bwriad i gau ysgol Llancarfan, lle rydych yn dweud nad yw'r rhagdybiaeth yn erbyn cau yn golygu na fydd ysgol yn cau byth; fodd bynnag, mae'n golygu bod yn rhaid i'r achos dros gau fod yn gryf ac na ddylid gwneud hynny hyd nes y bydd pob ateb dichonadwy arall wedi'i ystyried yn gydwybodol, gan...
Jane Hutt: 7. Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o bwysigrwydd ysgolion gwledig? OAQ52941
Jane Hutt: Pa asesiad y mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi'i wneud o ganllawiau drafft NICE ar reoli anymataliaeth wrinol a phrolaps organau'r pelfis drafft sy'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd?