Canlyniadau 1161–1180 o 3000 ar gyfer speaker:Jeremy Miles

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiynau yna ac am y croeso y mae wedi'i roi i'r ddogfen a'r ymyriadau a ddisgrifir ynddi, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Rwy'n credu y gellid crynhoi ei sylwadau mewn dau bwynt bras, ac rwy'n gobeithio nad wyf yn gwneud anghymwynas drwy wneud hynny. Yn gyntaf, ein hatgoffa bod angen ystyried cynnwys y ddogfen ochr yn ochr â'r her iechyd cyhoeddus y mae COVID yn amlwg...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Jeremy Miles: Diolch i Alun Davies am yr ystod yna o gwestiynau pwysig, oherwydd credaf mai'r hyn y mae ei gwestiwn yn ei wneud yw canolbwyntio ar effaith ei ymyriadau ar fywyd beunyddiol pobl mewn etholaethau sydd angen y gefnogaeth honno fwyaf. Gallaf ei sicrhau, fel rhywun sydd ei hun yn cynrychioli etholaeth sydd y tu allan i dde-ddwyrain Cymru, os mynnwch chi, fy mod yn rhannu ei flaenoriaeth i...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am yr ystod eang o gwestiynau hynny sy'n cyffwrdd ar y ddogfen yn gyfan gwbl. Jest ar y pwynt y gwnaeth hi gloi arno fe, mae'r ddogfen hon yn disgrifio'r siwrnai dros y cyfnod nesaf, ond bydd datganiad wrth y Gweinidog cyllid nesaf ynglŷn â'r cyllid, ac wedyn bydd Gweinidogion yn gwneud datganiadau pwrpasol ynglŷn â phethau maes o law. Felly, bydd cyfle eto i...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Jeremy Miles: Diolch i Darren Millar am yr ystod bwysig yna o gwestiynau, a chroesawaf ei gefnogaeth i'r ymgysylltu a'r pwyslais y mae'r ddogfen yn ei ddisgrifio, a'r ymgysylltu â phobl yng Nghymru sydd wedi helpu'n fawr i lunio'r blaenoriaethau a'r pwyslais y mae'r ddogfen yn eu disgrifio. Mae'n gywir wrth ddweud yr effeithiwyd ar bobl hŷn yn anghymesur mewn sawl ffordd o ran y pandemig yma o'r...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Jeremy Miles: Rydym ni wedi dechrau sgwrs genedlaethol ynglŷn â sut y dylai Cymru edrych yn y dyfodol. Fe wnaethom ni ofyn i aelodau'r cyhoedd gysylltu â ni i ddweud wrthym ni beth sy'n bwysig iddyn nhw ar gyfer y dyfodol, a chawsom dros 2,000 o sylwadau gan unigolion, gan sefydliadau cymunedol, elusennau, busnesau a chyrff cynrychioliadol. Rwyf wedi cynnal cyfres o gyfarfodydd bord gron gyda phobl o...

4. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Ailadeiladu ar ôl COVID-19 — Heriau a Blaenoriaethau ( 6 Hyd 2020)

Jeremy Miles: Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar fywydau pob un ohonom ni mewn sawl ffordd. Mae wedi cael effaith ddwys ar ein heconomi, ar ein cymdeithas a'n cymunedau, a bydd hynny yn parhau. Mae'r feirws yn dal i gylchdroi ac rydym ni'n sylweddoli gymaint yw'r gofyn ar bobl Cymru o hyd, ac rydym yn ddiolchgar i bawb am eu hymdrechion parhaus i gyfyngu ar ledaeniad y feirws. Wrth inni barhau i...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Strategaeth Cymraeg 2050 (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Wel, mae'r cwestiwn hwn yn debyg iawn o ran sylwedd i'r cwestiwn cynt. Felly does gyda fi ddim lot fwy gallaf ei ddweud fel ymateb i hynny, ond rwy'n credu bod gwerth edrych yn fanwl ar sut gwnaeth y dyfarnwr edrych ar hafalrwydd y Gymraeg a'r Saesneg mewn deddfwriaeth. Mae cwestiwn pwysig yn codi yn y cyd-destun hwnnw i gyfreithwyr yn gyffredinol.   

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Strategaeth Cymraeg 2050 (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Mae’r Llywodraeth hon a minnau yn gwbl ymroddedig yn ein hymdrechion i gyflawni strategaeth Cymraeg 2050. Dwi fy hun ddim wedi cael trafodaethau uniongyrchol â’r awdurdodau cyhoeddus na’r sector gyfreithiol, ond rwyf wedi cael trafodaethau gyda rheoleiddwyr sector y gyfraith ynglŷn ag addysg broffesiynol drwy'r Gymraeg, sydd wedi dwyn ffrwyth.  

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Dydw i ddim mewn sefyllfa i wneud sylwadau ehangach ynglŷn â'r maes polisi hwn, gan nad fy mholisi i fel Cwnsler Cyffredinol sydd yma. Ond rwy'n synnu'n fawr i glywed brwdfrydedd yr Aelod dros y dyfarniad, o gymryd mewn i ystyriaeth y ffordd gwnaeth y barnwr edrych ar statws y Gymraeg yn y ddeddfwriaeth a'i chymharu â statws y Saesneg yn y ddeddfwriaeth. Mae cwestiynau pwysig iawn yn y...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Rwyf wedi trafod y dyfarniad gyda’r Gweinidog Addysg o ran y goblygiadau i gyfraith addysg. Rwy’n ystyried y goblygiadau ehangach mewn perthynas â dehongli testun deddfwriaeth Cymraeg, sydd â statws cyfartal â’r tesun Saesneg at bob diben.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Troseddau Gwledig (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Cytunaf â'r Aelod ei fod yn bryder os nad yw pobl yn rhoi gwybod i'r heddlu am droseddau gwledig. Wrth gwrs, dylai aelodau'r cyhoedd a rhanddeiliaid deimlo y gallan nhw wneud hynny, ac fe ddylen nhw wneud hynny, a byddem ni'n eu hannog, yn wir, i wneud hynny. Soniodd hi yn ei chwestiwn am swyddogaeth grŵp bywyd gwyllt, troseddu a materion gwledig Cymru. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae gwaith...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Troseddau Gwledig (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU ar y system gyfiawnder yng Nghymru, gan gynnwys hygyrchedd cymorth cyfreithiol i breswylwyr ym mhob rhan o Gymru ac ym mhob maes cyfreithiol.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cynhyrchion Anifeiliaid (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Wel, mae Llywodraeth Cymru, yn anffodus, mewn sefyllfa o orfod paratoi ar gyfer amrywiaeth o fygythiadau o ganlyniad i gynnal trafodaethau rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd. Rwyf i wedi rhestru droeon y niwed y bydd y llwybr presennol yn ei achosi i allforwyr bwyd Cymru, ac rwy'n falch o'i chlywed yn rhestru yn ei chwestiwn y risgiau sy'n real iawn i'r ffermwyr a'r cynhyrchwyr bwyd hynny ledled...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Cynhyrchion Anifeiliaid (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Nid wyf yn ymwybodol bod yr Undeb Ewropeaidd wedi gwneud unrhyw gyhoeddiad o'r fath. Fodd bynnag, mae'r mater o restru'r DU ar gyfer mewnforion bwyd yr UE yn dangos pwysigrwydd y trafodaethau gyda'r Undeb Ewropeaidd i Gymru. Mae Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn peryglu'r trafodaethau hynny, sy'n anghyfrifol dros ben ac yn peri risg wirioneddol i Gymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Wel, byddai'r Bil, pe bai'n cael ei basio'n gyfraith, yn cyfyngu ar weithredoedd nid yn unig y Llywodraeth hon, ond Llywodraethau olynol yng Nghymru ac, yn wir, effeithiolrwydd y Senedd hon i wneud y math o newidiadau uchelgeisiol yn y gyfraith a diwygio yng Nghymru yr hoffai eu gwneud. Soniais yn fy nghwestiwn cynharach am y ffyrdd ymarferol iawn y mae hyn yn effeithio ar ddefnyddwyr a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Wel, diolch i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn hwnnw. O ran y Senedd hon, nid wyf i'n disgwyl y bydd yn gwneud unrhyw beth arall, yn fy marn i, ond gwrthod caniatâd ar gyfer y darn hwn o ddeddfwriaeth. Dylai hynny fod yn ddiwedd ar y mater; felly, dylai Llywodraeth y DU beidio â bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth. Bydd Huw yn cofio, fel y bydd Aelodau eraill, pan wnaeth y Senedd hon wrthod ei...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Wel, nid wyf i wedi gweld testun y gwelliant hwnnw. Ein safbwynt ni fel Llywodraeth yw na ddylid trosglwyddo pwerau, doed a ddelo, o'r Senedd hon i San Steffan. Felly, mae'n gynnig syml iawn. Roeddwn i'n falch iawn o weld, ar y bleidlais ddechrau'r wythnos diwethaf, fod fy mhlaid i yn Senedd y DU a'i phlaid hi ac eraill yn y Siambr hon wedi gallu sefyll yn gadarn wrth ymwrthod â'r...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Mae Bil Marchnad Fewnol y DU Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn mynd ymhell y tu hwnt i'r strwythur y gallai fod ei angen i sicrhau cydweithrediad economaidd a rheoleiddiol rhwng cenhedloedd y DU, ac mae'n ymosodiad difrifol ar y setliad datganoli a'n pwerau ni yng Nghymru.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Menywod yr Effeithiwyd Arnynt gan Newid Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Wel, rwy'n rhannu siom yr Aelod â chanlyniad yr apêl; fel y dywed hi, efallai'n fwy o siom nag o syndod o ystyried cynnydd yn y mater. Mae'r menywod hyn yn fenywod sydd wedi wynebu gwahaniaethu, yn aml iawn, drwy gydol eu bywydau gwaith. Felly, bydd yn arbennig o siomedig i fod wedi cael y canlyniad hwnnw. Fel y bydd hi'n gwybod, rwyf wedi parhau i chwilio am gyfleoedd i allu ymyrryd, o...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol'): Menywod yr Effeithiwyd Arnynt gan Newid Oedran Pensiwn y Wladwriaeth (22 Med 2020)

Jeremy Miles: Mae Llywodraeth Cymru wedi mynegi pryderon dwfn dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ar ran menywod yng Nghymru sydd wedi wynebu'r anghyfiawnder o'u hoedran pensiwn y wladwriaeth yn cael ei godi heb rybudd effeithiol na digonol. Rwy'n ymwybodol o ddyfarniad y Llys Apêl, a byddaf, wrth gwrs, yn monitro unrhyw apêl os caiff ei chyflwyno i'r Goruchaf Lys.


Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.