David Melding: Iawn. Wel, wyddoch chi, Mike, rwyf wedi dweud bod angen i ni adeiladu mwy o dai. Rwyf wedi dweud fy mod yn fodlon i gynghorau adeiladu tai nawr. Mewn gwirionedd, dywedais i hynny, rwy'n credu, cyn i gydweithwyr yn San Steffan, yn fy mhlaid i, gael eu hargyhoeddi o hyn. Mae angen inni adeiladu. Beth bynnag yw'r dulliau angenrheidiol neu'r cymorth a fyddai'n caniatáu inni wneud hynny, rwyf yn...
David Melding: A gaf i ildio ar un pwynt, bod y 12 mis, mewn gwirionedd, yn fwy na hynny? Oherwydd yn ystod y 12 mis hynny mae'n rhaid i chi fynegi eich bwriad i arfer yr hawl i brynu, ac yna os mynegir y bwriad hwnnw, yna gellid ei arfer yn ffurfiol mewn gwirionedd yn ystod y cyfnod ar ôl y 12 mis. Felly, mae hynny o gymorth, ac roeddwn i'n falch bod y Llywodraeth wedi gwneud hynny'n glir yn y pwyllgor,...
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Fel y dywedasoch, hwn yw'r grŵp olaf ac rwy'n cynnig y prif welliant—gwelliant 12. Bydd y gwelliant hwn yn sicrhau na chaiff diddymu'r hawl i brynu a hawliau cysylltiedig ddod i rym tan o leiaf ddwy flynedd ar ôl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Ar hyn o bryd fel y'i drafftiwyd, byddai'r diddymu yn dod i rym ar ôl un flwyddyn. Hefyd, mae gwelliant 4 yn...
David Melding: Llywydd, mae gwendid yr enghraifft yn adlewyrchu'r gwendid yn safbwynt y Llywodraeth. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant.
David Melding: Llywydd, rwyf i'n cynnig gwelliant 10. Nododd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ei bryder bod adran 9, fel y'i drafftiwyd, yn rhoi pwerau eang iawn i wneud diwygiadau canlyniadol. Mae'r gwelliant hwn yn culhau'r pŵer hwnnw drwy ddileu'r geiriau 'neu'n hwylus'. Yn rhan o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—ac rwy'n siŵr bod gennyf ryw fath o enw am ymdrin...
David Melding: Rwy'n credu, o ran yr wybodaeth y dylid ei rhoi, bod y rhain yn welliannau call a byddwn yn eu cefnogi. Nid oes angen imi wneud unrhyw sylwadau mwy cyffredinol ar hyn o bryd, gan fod dau grŵp ar ôl y byddwn yn ymgysylltu'n llawn â nhw, ond byddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn.
David Melding: Llywydd, mae'n debyg y byddwch wedi gweld erbyn hyn fy mod yn eithaf parod i dderbyn fy nhynged. Ond mae'n rhaid imi ddweud ei bod yn gysyniad newydd nad oes angen dyletswydd absoliwt arnom oherwydd ein bod eisoes yn gwybod pwy ydyn nhw. Wel, wyddoch chi, mae hynny'n mynd i fod yn drylwyr dros y blynyddoedd, onid yw, os bydd gennych chi ddull tebyg mewn meysydd eraill? Rwy'n credu'n gryf ei...
David Melding: Byddaf yn ei dynnu'n ôl; does dim pwynt bellach.
David Melding: Rwy'n ei dynnu'n ôl yn yr un modd.
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Diben gwelliant 7—a hoffwn gynnig gwelliant 7—yw ymgorffori'r argymhellion a wneir yn adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef bod adran 8 o'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer gwybodaeth sydd i'w darparu i landlordiaid a thenantiaid am effeithiau'r Bil hwn. Mae'r gwelliant hwn yn gosod dyletswydd absoliwt ar Weinidogion Cymru i...
David Melding: Diolch ichi, Lywydd. Rwy'n synnu braidd gan ymateb y Gweinidog oherwydd, er tegwch i Ysgrifennydd y Cabinet, yn ystod trafodion y Pwyllgor, cyfaddefodd y gellid ystyried rhyw fath o gymal machlud rhesymol. Roedd yn credu y byddai cyfnod hwy o lawer na 10 mlynedd yn fwy priodol, pe bai'r Llywodraeth yn mynd i lawr y ffordd honno. Ond bellach rydym yn clywed gan y Gweinidog mai'r bwriad yw...
David Melding: Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig gwelliant 6. Byddaf yn siarad am y gwelliannau eraill. Cyflwynwyd gwelliant 6 gyda'r bwriad o gyfyngu ar weithrediad y Ddeddf i 10 mlynedd, pryd y caiff Gweinidogion Cymru wedyn osod rheoliadau yn cynnig bod y diddymu yn cael ei wneud yn barhaol. Byddai'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud yn amodol ar y weithdrefn penderfyniad cadarnhaol, ac felly byddai...
David Melding: Wel, nid ydym wedi colli stoc dai, ydym ni? Newidiodd y denantiaeth, yn amlwg, ac mae hynny'n arwyddocaol. Mae dadl gyfan i'w chael ynglŷn â hynny, ond mae dweud rywsut ein bod wedi colli 150,000 o gartrefi yng Nghymru mewn gwirionedd yn ddadl braidd yn wirion. Mewn gwelliannau eraill yr wyf yn eu cynnig, byddaf yn dychwelyd at y mater hwn o p'un a ellid awgrymu diwygiad synhwyrol, a...
David Melding: Diolch ichi, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl ynghylch gwelliant 5. Rwy'n rhwystredig iawn, yn naturiol, fod yr holl fater hwn o gydraddoldeb a thegwch wedi ei osgoi. Gadewch imi ailadrodd pam y mae hynny'n achosi pryder gwirioneddol ar yr ochr hon i'r Siambr. Pan ymgynghorwyd â thenantiaid ar atal dros dro yn yr awdurdodau hynny, roeddent yn cael cysur...
David Melding: Ond, yn amlwg, gwyntyllwyd y ddadl honno ac rydym wedi'i cholli hi. Ond rwy'n dal i gredu ei bod yn bwysig eu rhoi mewn persbectif. Ildiaf, os—
David Melding: Ataliad dros dro oedd hyn, nid diddymiad.
David Melding: Diolch yn fawr, Llywydd. Ac rwyf yn cynnig gwelliant 5. Cyn imi siarad am welliant 5, a gaf i ddweud ychydig eiriau am Carl Sargeant, a oedd, wrth gwrs, yn Ysgrifennydd y Cabinet yng Nghyfnodau 1 a 2 y Bil hwn? Rhaid imi ddweud, ar ôl cwblhau cyfnod 2, lle'r oedd llawer o ddadleuon difrifol iawn ynghylch materion o egwyddor, ni chredais am eiliad y byddwn yn y sefyllfa hon o orfod gwthio...
David Melding: A gaf i ei gwneud yn glir fy mod i'n siarad ar hyn o bryd yn fy swyddogaeth fel Cadeirydd y grŵp cynghori'r gweinidog? Dirprwy Lywydd, dyma'r cyfle cyntaf yr wyf wedi'i gael i dalu teyrnged i Carl Sargeant, felly byddaf yn manteisio ar y cyfle hwnnw, oherwydd dangosodd Carl weledigaeth ac arweinyddiaeth gref yn y maes hwn. Rwy'n credu bod y ffaith iddo sefydlu'r grŵp fel grŵp...
David Melding: Prif Weinidog, yn ôl y cais rhyddid gwybodaeth a wnaed gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl, mae Rhentu Doeth Cymru yn gweithredu ar dros ddwbl ei gost rhagamcanol ar hyn o bryd. Erbyn diwedd mis Chwefror 2017, roedd wedi cyflogi 50 o weithwyr cyfwerth ag amser llawn i weinyddu'r cynllun, sydd bum gwaith yr amcanestyniad o'ch asesiad effaith rheoleiddiol. A oedd Llywodraeth Cymru yn naïf...
David Melding: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllideb Rhentu Doeth Cymru? OAQ51384