Andrew RT Davies: Rwy’n cytuno’n llwyr â rhai o’r teimladau a fynegwyd gennych heddiw, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae hwn yn gyfnod hynod o ofidus i’r 1,100 o weithwyr yn y cyfleuster hwn yng Nghaerdydd, sydd â hanes da iawn dros y 27 mlynedd ers ei sefydlu ym mhrifddinas Cymru. Mae ymroddiad a phroffesiynoldeb y gweithwyr yn haeddu cael eu trin yn well nag a gawsant yr wythnos diwethaf, rhaid i mi...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, yn amlwg, mae’r gallu i bennu’r canllawiau ar gyfer y nodiadau cyngor technegol a roddir gan Lywodraeth Cymru yn fesur hanfodol bwysig mewn unrhyw system gynllunio. Mae’r rhan y mae cynghorau cymuned a chynghorau plwyf yn ei chwarae wrth benderfynu ar geisiadau yn aml iawn yn cael ei hesgeuluso i raddau helaeth, a cheir diffyg dealltwriaeth ynglŷn â sut yn...
Andrew RT Davies: Does gen i ddim amser. Yr hyn y byddwn yn ei sicrhau, o safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig, yw, yn hytrach na chael ein gwthio o'r neilltu, fel y caiff y Prif Weinidog, y byddwn yn gweithio i wneud yn siŵr bod yr adnoddau’n cael eu darparu i gyflwyno prosiectau er budd Cymru, bod y wlad hon yn cael y Llywodraeth sefydlog sydd ei hangen i fynd â ni drwy broses Brexit, ac yn y pen draw, y cawn...
Andrew RT Davies: Hoffwn dynnu eich sylw at yr hyn a ddywedodd yr Arglwydd Adonis pan oedd yn trafod gyda'r DUP yn 2010, pan ddywedodd ‘Rydym wedi nodi’r rhifau newydd’ wrth sôn am arian—ar gyfer beth oedd y bleidlais DUP ar y pryd. Felly, ni wnawn gymryd unrhyw ddarlithoedd gan Blaid Lafur Cymru na gan y Blaid Lafur ynglŷn â tharo bargeinion o gwmpas sicrhau pleidleisiau. Yr hyn sy'n dryloyw am y...
Andrew RT Davies: Mae’r Deyrnas Unedig—[Torri ar draws.] Mae angen Llywodraeth ar y Deyrnas Unedig, a Llywodraeth fwyafrifol, i barhau a bwrw ymlaen â'i busnes. Ac felly, i gyflawni’r statws mwyafrifol hwnnw, yn amlwg gwnaethpwyd cytundeb â’r Blaid Unoliaethol Ddemocrataidd, yn debyg i— [Torri ar draws.] Gallaf weld yr Aelod dros Ogwr yn grwgnach yn y fan yna, ond mae'n ffaith bod Shaun Woodward,...
Andrew RT Davies: Cymeraf yr ymyriad mewn munud. Os oes budd wedi mynd drosodd i Ogledd Iwerddon, mae angen inni sicrhau’r buddion hynny yma yng Nghymru. Ac oeddwn, roeddwn yn siarad â Stryd Downing fore ddoe, Brif Weinidog. Tra’r oeddech chi ar y balconi’n siarad â'r BBC, roeddwn i’n siarad â'r bobl sy'n bwysig. Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r gwahaniaeth—[Torri ar draws.] Dyna'r...
Andrew RT Davies: Rwy’n croesawu'r cyfle i sefyll yma heddiw a chyfrannu at y ddadl. Weithiau, pan gaiff batiwr ei anfon allan i fatio, mae'n edrych o gwmpas y cae, dim ond i wneud yn siŵr ei fod yn gweld yr holl faeswyr, ac yna mae'n gwneud yn siŵr nad oes dim o'r gwglis yn ei ddal ar yr ochr anghywir. Yn y pen draw, rwy’n gobeithio gallu, yn amlwg, gwneud synnwyr o'r cytundeb a gynigiwyd ddoe yng...
Andrew RT Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Mae'r Bil wedi’i gefnogi yn eang, a, gobeithio, pan fydd yn cyrraedd y llyfr statud, y bydd yn cyflawni'r nodau a nodir. Ond mae bod mor anghywir ar elfennau cyllidol y Bil yn peri pryder mawr o ystyried yr holl waith sydd wedi ei wneud, fel y cyfeiriais at—adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y mater hwn. Mae'n...
Andrew RT Davies: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad, ac, yn wir, i’r Pwyllgor Busnes a'r Llywydd am newid ychydig ar fformat y ffordd y mae’r busnes hwn yn mynd i gael ei drafod y prynhawn yma, er mwyn cael datganiadau/dadleuon a fydd, gobeithio, yn cynnig mwy o gyfle i graffu ar y cynigion y mae’r Llywodraeth wedi’u cyflwyno, a gobeithio cael ymateb llawn gan y Prif Weinidog i’r...
Andrew RT Davies: Ar ôl bron i ddau ddegawd o or-addo a thangyflawni, mae'n dorcalonnus nad oes yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth Cymru yr uchelgais a’r arloesi sydd eu hangen i wireddu'r newidiadau angenrheidiol. Er mwyn i’n gwlad lwyddo a chyrraedd ei gwir botensial fel lle gwych i fyw a gweithio, a chreu cymdeithas wirioneddol gynhwysol sy'n grymuso pawb, ni waeth o ble’r ydych yn dod a beth yw...
Andrew RT Davies: Dim ond i ategu'r sylwadau a gododd yr Aelod dros Ogledd Caerdydd—ac mae llawer o wleidyddion o bob plaid wedi cyfarfod â Tesco. Yr hyn a wnaeth fy nychryn i yr wythnos diwethaf oedd, yn amlwg, gadarnhad Ysgrifennydd y Cabinet na chafodd y Llywodraeth unrhyw rybudd o’r diswyddiadau hyn, neu’r diswyddiadau posibl, oherwydd dyna’r term y mae’n rhaid i ni ei ddefnyddio oherwydd ei fod...
Andrew RT Davies: Hoffwn ymateb i hynna, oherwydd pan fyddwch chi’n cyhuddo rhywun o lwfrdra—
Andrew RT Davies: Nid yw’n dderbyniol galw rhywun yn llwfrgi.
Andrew RT Davies: Wel, ni fyddwch chi’n darparu’r mwyafrif llethol o swyddi, fel y cynigir yn y cysyniad gwreiddiol, gan fod 6,000 o swyddi arfaethedig yn gysylltiedig â’r prosiect hwn—
Andrew RT Davies: [Yn parhau.]—ac mae'r parc yr ydych chi’n sôn am ei ddarparu â photensial o 1,500 o swyddi gyda rhaglen gyflawni 10 mlynedd ar gyfer y parc hwnnw. Felly, ceir anghysondeb. Ond y pwynt rwy'n ceisio ei wneud yma, Prif Weinidog, yw bod gennych chi’r ysgrifennydd parhaol yn yr adran honno sydd yn gwbl groes i’r Ysgrifennydd Cabinet yn ei ddehongliad. Mae'r dystiolaeth yno, gan y...
Andrew RT Davies: Mae gen i ofn nad dyna oedd y datganiad a wnaed gan Ysgrifennydd y Cabinet y bore yma yn ei awgrymu. Fel y dywedais, yn ei ddatganiad ysgrifenedig, mae'n dweud mai prin yw’r dystiolaeth o brosiect fel hwn yn cyflawni, ar y niferoedd y soniwyd amdanynt. A dweud y gwir, mae’n sôn am ddarparu dim ond 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn mewn gwirionedd, ar y gylchffordd—rwy’n derbyn...
Andrew RT Davies: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, y bore yma, gwnaeth y Cabinet y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r pecyn cyllid ar gyfer Cylchffordd Cymru—ac rwy’n sylweddoli y bydd y Gweinidog yn gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma. Ddoe, rhoddodd y gwas sifil uchaf yn yr adran dystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, pryd y dywedodd bod gan y prosiect hwn effaith fawr iawn yn y...
Andrew RT Davies: Diolch i chi, Llywydd, ac rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies yn ffurfiol, ac rwy’n diolch i UKIP am gyflwyno’r ddadl heddiw. Fe geisiaf beidio â chadw’r Siambr yn rhy hir heddiw, gan eu bod eisoes yn adrodd mai heddiw yw’r dydd poethaf posibl y tu allan. Ar ôl treulio ddoe yn siarad eto am Brexit, ar ddatganiad y Prif Weinidog, lle nad oedd llawer y gallwn ni fel...
Andrew RT Davies: Ysgrifennydd y Cabinet, roedd yn llwyddiant ysgubol, rownd derfynol cwpan UEFA yma yng Nghaerdydd, ond yn amlwg, daeth cyfres o ddigwyddiadau cyn hynny i Gaerdydd, er mwyn dangos yn amlwg y gallai Cymru, a Chaerdydd yn arbennig, gynnal digwyddiad mor enfawr. Un peth sydd wedi bod yn siomedig yw diffyg uchelgais Llywodraeth Cymru i wneud cais am Gemau’r Gymanwlad yma yng Nghymru. A chan ein...
Andrew RT Davies: Brif Weinidog, diolch am eich datganiad, ac, yn wir, diolch am olwg gynnar ar y datganiad hwnnw a ddarparwyd i’r pleidiau cyn inni ddechrau’r Cyfarfod Llawn heddiw. Sylwais eich bod chi, yn y paragraff olaf, wedi sôn am 'gyfrinachedd, diffyg ymgynghori, gosod dictadau o'r canol'. Mae'n rhaid imi ddweud, yn eistedd ar yr ochr hon i'r Siambr, fy mod bron yn teimlo fel dweud wrthych, Brif...