Canlyniadau 101–120 o 900 ar gyfer speaker:Julie Morgan

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru) (22 Maw 2022)

Julie Morgan: Wel, diolch i Janet Finch-Saunders am y cyfraniad yna. Tybed o ddifri ar ran pwy y mae hi'n credu ei bod yn siarad pan fyddwch yn parhau â'ch gwrthwynebiad i'r Ddeddf hon, a hoffwn ei hatgoffa, pan aeth y gyfraith hon drwy'r Siambr hon, cawsom gefnogaeth gref iawn gan ddau aelod o'i phlaid hi ac roedd un Aelod penodol yn rhan o'r grŵp craidd a ymgyrchodd yn ddiflino dros gyflwyno'r...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru) (22 Maw 2022)

Julie Morgan: Mae'r ddwy flynedd a aeth heibio ers pasio'r Ddeddf wedi bod yn eithriadol o heriol. Er gwaethaf y pandemig, mae'r ymateb rhyfeddol a gafwyd gan randdeiliaid wedi ein galluogi ni i gyflawni llawer iawn ers cyfarfod cyntaf ein grŵp gweithredu strategol ym mis Mai 2019. Roedd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn eglur yn ystod y broses graffu y dylem ni wneud yn siŵr bod y Ddeddf o fudd...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru) (22 Maw 2022)

Julie Morgan: Diolch, Dirprwy Lywydd. Dwi'n hapus iawn i fod yma heddiw ar ddiwrnod hanesyddol i blant a'u hawliau.

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Ddeddf Plant (Cymru) (22 Maw 2022)

Julie Morgan: Hyfrydwch pur i mi yw bod Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020 wedi dod i rym ddoe. Mae gan y Llywodraeth ymrwymiad hirsefydlog i sicrhau hawliau plant, ar sail Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Fe fydd ein pwyslais cryf ni ar hawliau plant, a pharchu plant a phobl ifanc fel dinasyddion drwy eu hawliau eu hunain, yn helpu i sicrhau bod eu hanghenion...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, Sam Rowlands, am y pwynt pwysig yna, ac, yn sicr, rydym ni'n dymuno rhoi cymorth i rieni. Fel y dywedais i yn fy ymateb i Jane Dodds, rydym ni'n dymuno symud at system sy'n estyn cymaint o gefnogaeth ag y gallwn ni i rieni ar gyfer ffyniant plant ac iddyn nhw allu aros gyda'u rhieni, a dyna pam rydym ni wedi buddsoddi llawer mewn dosbarthiadau rhianta, pam rydym ni wedi...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Iawn, diolch yn fawr iawn, a diolch yn fawr iawn i chi, Jane, am groesawu'r cynllun hwn gyda'r fath frwdfrydedd. Mae eiriolaeth i blant mewn gofal, yn fy marn i, yn gwbl hanfodol. Fel y gwyddoch chi, un o'n prif amcanion ni yn y Llywodraeth yw gwella sefyllfa plant mewn gofal, ac fe geir cysylltiad gwirioneddol rhwng hynny â'ch trydydd cwestiwn chi hefyd, ynglŷn â darparwyr nid-er-elw,...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Diolch, Heledd, am y pwyntiau pwysig iawn hyn, ac rwyf i'n cytuno yn llwyr â hi ynglŷn ag anghydraddoldebau yng Nghymru y mae'n rhaid i ni fynd i'r afael â nhw. Rhywbeth teimladwy iawn oedd clywed eich sylwadau chi am eich mab yn gwrando ar y teledu, ac mae llawer o bobl wedi dweud hynny wrthyf innau am y dioddefaint sy'n cael ei gyfleu, a phan feddyliwch chi am yr hyn sy'n digwydd i'r...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Diolch i Gareth Davies am y sylwadau yna. Rwy'n falch ei fod e'n cytuno â mi bod Cymru'n lle hyfryd i fyw ynddo, a thyfu i fyny. Rwy'n credu bod y cynllun hwn yn un uchelgeisiol. Rwy'n credu os byddwn ni'n llwyddo i wneud y pethau yr ydym ni'n eu rhoi yn y cynllun hwn, y bydd Cymru yn lle gwell fyth i bobl ifanc a phlant dyfu i fyny ynddo. Yn sicr, nid geiriau teg yn unig yw hyn. Yr hyn sydd...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Edrychaf ymlaen at weithio gyda chi i gyd i roi'r cynllun plant a phobl ifanc ar waith ac i gyflawni ein huchelgais i wneud Cymru yn lle gwych i dyfu i fyny, byw a gweithio ynddi. Diolch.

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Rwyf wrth fy modd, ar y diwrnod pwysig hwn, i fod yn cyhoeddi'r cynllun plant a phobl ifanc, sy'n nodi ein huchelgais ni ar gyfer plant a phobl ifanc yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol. Yng Nghymru, rydym ni'n dymuno'r gorau i'n plant—ein plant ni i gyd, does dim ots beth yw eu cefndiroedd nhw, o ble y maen nhw'n dod, nac ymhle maen nhw'n byw. Rydym ni'n dymuno i bob un ohonyn nhw gael y...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Plant a Phobl Ifanc ( 1 Maw 2022)

Julie Morgan: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae heddiw'n ddiwrnod arbennig yn hanes Cymru, diwrnod i ni ddathlu'r genedl anhygoel hon ac i arddangos pa mor wych yw Cymru i dyfu i fyny, i fyw ac i weithio ynddi. 

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty (16 Chw 2022)

Julie Morgan: Ydw, mae'n gwbl hanfodol fod gennym ofal cymdeithasol o safon, ac fel y gŵyr pob un ohonom, mae gofal cymdeithasol wedi bod dan bwysau aruthrol, ac rydym yn gwneud popeth a allwn i roi hwb i'r gwasanaeth gofal cymdeithasol. Ddoe, cyhoeddais ffyrdd yr ydym yn gweithio tuag at ddenu mwy o weithwyr gofal cymdeithasol i’r gwasanaeth, gan ein bod yn brin iawn o staff, drwy gyflwyno’r cyflog...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty (16 Chw 2022)

Julie Morgan: Ie, diolch i Peter Fox am ei gwestiwn, ac mae'n ddrwg gennyf glywed am yr hyn a ddigwyddodd i’w etholwr a gŵr yr etholwr. Mae'n ymwneud â llawer o'r hyn y buom yn sôn amdano'r prynhawn yma—sut y mae sicrhau gwell cydgysylltu a gwell cydweithio rhwng y systemau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Yn amlwg, roedd angen cymorth ar y teulu hwn—angen cymorth gofal cymdeithasol ar ôl...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaeth Rhyddhau o'r Ysbyty (16 Chw 2022)

Julie Morgan: Diolch. Mae canllawiau gwasanaeth rhyddhau o'r ysbyty ar waith er mwyn rheoli llif cleifion, yn enwedig yn ystod y pandemig. Gwnaethom ddiweddaru’r canllawiau hyn yn ddiweddar, gan ystyried y sefyllfa ddiweddaraf a mwy cadarnhaol o ran COVID, er mwyn parhau i ddarparu mecanwaith diogel ar gyfer rhyddhau pobl o ysbytai yn dilyn eu triniaeth.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Chw 2022)

Julie Morgan: Rydym yn datblygu data ein gwasanaethau ac yn dadansoddi pam fod y mwy na 1,000 o bobl hynny’n cael eu cadw yn yr ysbyty pan na ddylent fod yno. Yn y rhan fwyaf o achosion, y rheswm am hyn yw nad ydynt yn cael cymorth gan y gwasanaethau gofal cymdeithasol, ond mae rhesymau eraill hefyd. Er enghraifft, mae cyfathrebu'n broblem fawr. Mae oedi weithiau ar gyfer pethau fel meddyginiaeth. Ceir...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Chw 2022)

Julie Morgan: Mae Gareth Davies yn tynnu sylw at bwynt hollbwysig. Nid oes unrhyw ffordd y bydd y gwasanaeth iechyd yn ffynnu oni bai fod y system gofal cymdeithasol yn gweithredu hyd eithaf ei gallu. I raddau helaeth, y rheswm pam nad oes modd rhyddhau dros 1,000 o bobl sy’n ffit yn feddygol o'r ysbyty yw nad oes cymorth cartref yn eu cartrefi eu hunain iddynt allu ymdopi gartref, ac nid oes digon o...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (16 Chw 2022)

Julie Morgan: Diolch i Gareth Davies am ei gwestiwn. Mae integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol yn rhywbeth yr ydym yn gweithio’n galed iawn i’w gyflawni. Rydym yn rhoi hyn ar waith yn ein byrddau partneriaeth rhanbarthol, lle mae gennym yr awdurdodau iechyd a’r awdurdodau llywodraeth leol yn gweithio gyda’i gilydd ar lunio cynigion sy’n gwbl integredig. Mae hefyd yn bwysig iawn cofio, pan...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (15 Chw 2022)

Julie Morgan: Diolch, Darren Millar, am groesawu'r taliad hwn fel cam i'r cyfeiriad cywir. Rwy'n croesawu ei gefnogaeth. Bydd, bydd uwch staff gofal a rheolwyr yn cael y taliad ychwanegol, ac rwy'n credu fy mod eisiau ailadrodd, mewn gwirionedd, mai ein diben yw ceisio proffesiynoli'r gweithlu—y rhai sy'n rhoi gofal yn uniongyrchol, y rhoddwyr gofal uniongyrchol. Gwnaethom ni roi dau daliad...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (15 Chw 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, Mike, a diolch yn fawr am eich croeso i'r cynigion hyn. Rwy'n cytuno yn llwyr fod angen talu'r cyflog byw gwirioneddol i bawb yng Nghymru, ond yr hyn yr ydym yn mynd i'r afael ag ef yma yw'r bobl sy'n darparu gofal cymdeithasol yn uniongyrchol. A'r rhai sy'n ei gyflawni'n anuniongyrchol, wrth gwrs, rwy'n credu y dylid talu'r cyflog byw gwirioneddol iddyn nhw hefyd, ond yr...

4. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol (15 Chw 2022)

Julie Morgan: Diolch yn fawr iawn, James, am groesawu'r cyhoeddiad a'r sylwadau yr ydych wedi'u gwneud. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddenu mwy o bobl i'r system. Rwy'n ymwybodol bod pecynnau gofal yn cael eu rhoi yn ôl oherwydd prinder staff. Rydym wedi bod yn gweithio'n galed iawn i geisio denu mwy o weithwyr gofal. Rydym wedi cael ymgyrch hysbysebu...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.