Mr Simon Thomas: Fe fyddwch chi'n ymwybodol fod ymgynghoriad bwrdd iechyd Hywel Dda yn seiliedig ar wella gwasanaethau yn y gymuned, ac mae hynny yn sail hefyd i'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth gynnau fach yr wythnos yma ynglŷn â gofal ac iechyd yn dod yn nes at ei gilydd. Ond y gwirionedd yw bod pobl wedi clywed straeon fel hyn o'r blaen, a'r gwirionedd ar lawr gwlad yw, er enghraifft, rhestr aros o bum...
Mr Simon Thomas: Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Os caf ymateb yn fyr iawn i'r ddadl ac yn gyntaf oll, a gaf fi gofnodi, gan fy mod wedi crybwyll y morlyn llanw, fy mod yn gyfranddaliwr cymunedol yn y morlyn llanw, fel y mae llawer o bobl eraill wedi bod. Nid yw'n fuddiant sy'n rhaid ei ddatgan, rhaid i mi ddweud; nid yw mor fawr â hynny. Ond mae'n dangos bod cannoedd lawer o bobl yn yr ardal wedi rhoi eu...
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio? Er eglurder, i'w wneud yn gwbl glir, rwyf yn bendant o blaid cyfleustodau cyhoeddus wedi'u gwladoli, ond mae'r cynnig ger ein bron heddiw, yng nghyd-destun marchnad wedi'i phreifateiddio lle nad oes gennym ni yn y Cynulliad bwerau, yn galw'n unig am sefydlu ein cwmni cenedlaethol ein hunain a allai fod yn rhan o'r chwaraewyr yn y maes hwn.
Mr Simon Thomas: Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn ar fin dod at hynny. [Chwerthin.] Ac rwy'n cytuno, ac roeddwn ar fin ei ddefnyddio fel enghraifft dda o ble y gallai'r cwmni ynni cenedlaethol hwn helpu. Oherwydd sut y byddai Llywodraeth Cymru yn gwneud hynny? A yw'n rhoi £200 miliwn i gwmni preifat a dyna ni? Nid wyf yn credu hynny rywsut. Os ydych yn mynd i roi arian trethdalwyr Cymru i gwmni, ac ni fuaswn yn...
Mr Simon Thomas: Felly, mae gennym enghraifft go iawn yn awr yr wythnos hon, mae'n debyg, oherwydd adroddwyd yn eang y bydd Llywodraeth San Steffan yn gwrthod y cynnig i gael morlyn llanw ym mae Abertawe yr wythnos hon. Rydym yn dal i aros am hynny. [Torri ar draws.] Un eiliad, os caf. Credaf eu bod yn ceisio cael yr hyn a alwant yn gyhoeddiadau da allan yn gyntaf—Wylfa, Heathrow—a bydd y morlyn llanw yn...
Mr Simon Thomas: Rhof ychydig o gyd-destun i’r ddadl yn gyntaf. Mae Cymru yn wlad sydd yn gyfoethog ac yn gyforiog o ynni, a dweud y gwir. Rydym ni'n cynhyrchu mwy o ynni—'casglu' dylwn i ddweud, yn ffisegol gywir—nag yr ydym ni yn ei ddefnyddio, felly rydym ni'n allforio ynni. Ond eto i gyd, mae prisoedd ynni yng Nghymru ymysg yr uchaf yn Ewrop. Mae hynny yn dangos y sefyllfa rydym ni ynddi fel gwlad....
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Nid wyf yn cofio'r tro diwethaf y cawsom ddadl yn y Cynulliad wedi'i harwain gan ddau bapur, un wedi'i gyhoeddi gan un wrthblaid ac un wedi'i gyhoeddi gan wrthblaid arall. Mae'r drafodaeth yma yn deillio o bapur a gyhoeddais i tua blwyddyn yn ôl ynglŷn â'r cynnig i sefydlu cwmni ynni i Gymru. Fel y dywedais i yn y ddadl ddiwethaf, os oes gyda chi syniad...
Mr Simon Thomas: Cynllun gofodol Cymru.
Mr Simon Thomas: Mae yna ambell le lle byddwn i yn mynd ymhellach, yn enwedig ym maes ynni adnewyddol, ond rwy'n croesawu’r ffaith ein bod ni'n cael trafodaeth integredig ar sut mae'r gwahanol elfennau yma yn adeiladu i mewn i amgylchedd trefol mwy iach a mwy buddiol i'n dinasyddion ni. Rwyf i am bwysleisio 'trefol'. Mae teitl y papur yn sôn am ddinasoedd, ond, a dweud y gwir, nid oes gyda ni ddinasoedd...
Mr Simon Thomas: Diolch yn fawr, Llywydd. Os caf i ddechrau, er gwaethaf ein gwelliant ni, drwy groesawu'r drafodaeth rŷm ni'n ei chael heddiw. Nid wyf i'n meddwl ei bod yn briodol ein bod ni'n croesawu'n ffurfiol papur sydd wedi cael ei gynhyrchu gan unrhyw blaid, mewn ffordd, ond rwy'n croesawu'r drafodaeth, rwy'n croesawu'r hyn sydd yn y papur ac nid oes gennyf i ddim byd y byddwn i'n bersonol yn...
Mr Simon Thomas: A wnaiff yr Aelod ildio?
Mr Simon Thomas: Diolch i'r Aelod. Bydd gennyf rai geiriau caredig i'w dweud am yr hyn y mae'n ei gynnig yn nes ymlaen, ond ar y mater penodol hwn—mae wedi sôn am y bargeinion dinesig. Onid yw'n gweld nad yw'r bargeinion dinesig sy'n cael eu hyrwyddo gan ei Lywodraeth ei hun yn San Steffan yn ystyried yr agenda gynaliadwyedd y mae'r ddadl hon ac i fod yn deg, y papur a gyhoeddwyd, yn ceisio mynd i'r afael...
Mr Simon Thomas: Wrth gwrs, mae'r gyfraith hefyd yn ymwneud â thiroedd y Goron yng Nghymru, sy'n cael eu dal gan Ystad y Goron, sydd heb ei datganoli o gwbl, ac sy'n gymhlethdod pellach yn hynny o beth. Mae Ystad y Goron yn codi rhywbeth fel £0.25 biliwn y flwyddyn o'i ystad yng Nghymru, sy'n cyfeirio nôl at y ddadl a gawsom ni ar ffracio. Pe bai ffracio yn digwydd yng Nghymru, byddai llawer o hyn yn...
Mr Simon Thomas: Yn troi yn ôl at ardal dinas-ranbarth Abertawe yn benodol, a theithio i mewn a mas o hynny, rydym ni wedi canolbwyntio, dros y dyddiau diwethaf, lawer ar y fasnachfraint sydd yng ngofal Llywodraeth Cymru, ond wrth gwrs mae yna, o hyd, drafnidiaeth bwysig i mewn i Abertawe, a hefyd Caerfyrddin, gyda First Great Western a gyda chwmnïau sydd yn dod i mewn i Gymru, a Network Rail o hyd sy'n...
Mr Simon Thomas: Credaf fod sylwadau'r Prif Weinidog, waeth beth yw ei amgylchiadau personol, yn anffodus, gan fod hynny'n ychwanegu at y myth fod cerdded a beicio yn beryglus a bod y car yn ddiogel er mai'r car, mewn gwirionedd, yw'r peth peryglus yn ein cymunedau ac yn ein dinasoedd. Rydych wedi cael eich holi'n dwll ynglŷn â beicio, felly gadewch imi eich holi ynglŷn â cherdded. Yn y £60 miliwn...
Mr Simon Thomas: Os caf i ofyn i'r Ysgrifennydd Cabinet—. Mae e newydd grybwyll rhai o'r ffyrdd y gall y fasnachfraint newydd arbed ar garbon; a wnaiff e gadarnhau yn benodol y byddwn ni'n gweld trenau sy'n defnyddio hydrogen fel rhan o'r cynllun yma dros y 15 mlynedd nesaf? Mae trenau o'r math eisoes yn rhedeg yn rhanbarthau o'r Almaen, ac mae'n ffordd, fel mae e wedi awgrymu, o neidio heibio'r cwlwm...
Mr Simon Thomas: A gaf i ofyn am ddadl Llywodraeth i ddathlu degfed pen-blwydd Cymru yn genedl Masnach Deg? Mae hynny'n rhywbeth y—. Rwy'n credu mai ni oedd y cyntaf yn y byd i gael y statws hwnnw, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn credu y dylem ni ei ddathlu fel Cynulliad. Ond byddai'n dda cael ei ddathlu â dadl Llywodraeth, oherwydd y byddwn ni'n defnyddio amser y Llywodraeth wedyn, sy'n beth da, gan ei fod ar...
Mr Simon Thomas: A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn fodlon ildio?
Mr Simon Thomas: O'r hyn a ddywedodd, efallai y gallaf ddeall o hynny nad yw'n disgwyl unrhyw brofion pellach, neu broses bellach i gael ei chyflawni gan Cyfoeth Naturiol Cymru cyn y gellir gollwng y deunydd hwn yn nyfroedd Cymru. A yw honno'n ddealltwriaeth gywir o'r hyn a ddywedodd?
Mr Simon Thomas: Felly, mae'n ddeiseb wirioneddol bwysig, rwy'n credu, oherwydd gan roi mater ymbelydredd i'r naill ochr, a byddaf yn ymdrin â hynny mewn eiliad, mae'r mater hanfodol hwn yn un sy'n ymwneud â diffyg rheolaeth dros ein hadnoddau naturiol ein hunain, a chael ein gorfodi, i bob pwrpas, i gymryd sbwriel gorsaf niwclear newydd—yn bersonol, rwy'n yn ei gwrthwynebu, ac felly'n amharod braidd...