Canlyniadau 101–120 o 2000 ar gyfer speaker:Adam Price

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Tach 2022)

Adam Price: Edrychwn ymlaen at y datganiad hwnnw. Un o'r cwestiynau allweddol yw sut y gallwn ni efelychu'r llwyddiant yr ydym ni wedi ei weld yn yr Alban. Mae gennym ni'r potensial yno, ond nid ydym, hyd yma o leiaf, wedi gallu ei wireddu. Un o'r themâu allweddol sy'n deillio o COP27 yw bod gwledydd cyfoethog yn arbennig yn methu â chyflawni eu cyfrifoldebau i gefnogi ymdrechion datgarboneiddio mewn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 8 Tach 2022)

Adam Price: Diolch, Llywydd. Fis diwethaf, cyhoeddodd Rhaglen Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig ei hadroddiad bwlch allyriadau ar gyfer 2022. Roedd yn cynnwys neges glir i'r ddynoliaeth, fel rydym ni eisoes wedi clywed, gyda'r gymuned ryngwladol ymhell iawn o fodloni'r amcanion datgarboneiddio a amlinellir yng nghytundeb Paris. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw lwybr credadwy i leihau gwresogi byd-eang o dan...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Adam Price: Pan oeddech chi yn Iwerddon yn ddiweddar, fe wnaethoch chi ail-bwysleisio eich barn bod y Deyrnas Unedig, i Gymru, yn bolisi yswiriant gwych, ond sut mae'r polisi hwnnw'n gweithio i ni pan fo modd newid y contract yn gyson dros ein pennau, yn erbyn ein dymuniadau ac yn erbyn ein buddiannau? Fe wnaethoch chi sôn am gyfuno risg drwy'r undeb, ond siawns nad yw digwyddiadau'r wythnosau diwethaf...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Adam Price: Rydych chi wedi bod yn galw am etholiad cyffredinol, ac mae dadl na ellir ei hateb dros gael un, o ystyried ein bod ni bellach wedi cael dau Brif Weinidog y DU heb fandad democrataidd. Y gwir amdani yw bod y Prif Weinidog Sunak yn rhydd i anwybyddu hynny, fel y mae'n rhydd i'ch anwybyddu chi. Mae cyfansoddiad anysgrifenedig y DU yn canolbwyntio grym enfawr yn nwylo Prif Weinidog y DU, sy'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (25 Hyd 2022)

Adam Price: Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, fe wnaethoch chi gwyno'n gwbl briodol bod Prif Weinidog Torïaidd diwethaf y DU wedi methu â chodi'r ffôn i chi, ac yn wir yn trin eich Llywodraeth chi a'r Llywodraethau datganoledig eraill â dirmyg. Sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â'r berthynas gyda Phrif Weinidog diweddaraf y DU? A wnewch chi benderfynu newid tac efallai a cheisio codi'r ffôn iddo...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Hyd 2022)

Adam Price: Dyna yn union wnaeth y Blaid Lafur yn San Steffan, onid e? Beth allai treth gydsefyll ei wneud? Gallai ein helpu ni i fodloni gofynion rhesymol gweithwyr y sector cyhoeddus i wella cynnig cyflog Llywodraeth Cymru, y mae hyd yn oed undeb sy'n gysylltiedig â Llafur wedi ei alw'n ddilornus—y gweithwyr gwyrthiol, Prif Weinidog, yr ydych newydd gyfeirio atyn nhw yn y GIG. Fe allai ein helpu ni...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Hyd 2022)

Adam Price: Ond ceidwadaeth gyllidol oedd y naws, onid e? Nid dyna'r math o wleidyddiaeth flaengar yr ydym ni eisiau ei gweld yn sgil newid Llywodraeth yn San Steffan. Nawr, mewn ymateb i ddatganiad y Canghellor, galwodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yma ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio ei hysgogiadau treth yn decach. Ond a yw hynny'n ddull yr ydych chi fel Llywodraeth hefyd yn barod i'w ystyried...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Hyd 2022)

Adam Price: Gallwch chi fod yn sicr o hynny.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (18 Hyd 2022)

Adam Price: Prif Weinidog, roedd troeon pedol Liz Truss yr wythnos hon mor niferus ac mor syfrdanol o gyflym nes dod yn birwét gwleidyddol. Ond nid hi oedd yr unig un, oedd hi? Dair wythnos yn ôl, dywedodd Keir Starmer na fyddai Llafur yn gwrthdroi'r toriad i'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm, byddai'n beth anghywir i'w wneud. Nawr, y bore yma, dywedodd Canghellor yr wrthblaid fod Llafur yn cefnogi'r...

7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat (12 Hyd 2022)

Adam Price: Roeddwn i eisiau gofyn cwestiwn cyflym, dyna'i gyd.

7. Dadl Plaid Cymru: Y sector rhentu preifat (12 Hyd 2022)

Adam Price: A wnewch chi ildio? Os caf adeiladu ar y pwynt hwn, yn ystod argyfwng COVID, beth a wnaethom? Gwarchod y rhai mwyaf bregus. Onid dyna y mae'r cynigion hyn ar rewi rhenti a gwaharddiad brys dros dro ar droi allan wedi'u cynllunio i'w wneud? Maent yno i warchod y mwyaf bregus yng nghyd-destun yr argyfwng costau byw.

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (11 Hyd 2022)

Adam Price: Felly, rydych yn cytuno â mi, Prif Weinidog, ynghylch lefelau cyflog, ond rydych yn dweud bod eich dwylo wedi'u clymu gan San Steffan. Wel, onid yw'n amser, felly, i gymryd materion i'n dwylo ein hunain? Na, dydw i ddim yn golygu—. Dydw i ddim yn cyfeirio at annibyniaeth na datganoli lles; mater ar gyfer diwrnod arall yw hwnnw. Rwy'n golygu yn y fan hon, nawr. Mewn ymateb i Alun Davies, fe...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (11 Hyd 2022)

Adam Price: Mae'n rhaid i mi ddweud wrth y Prif Weinidog: edrychwch, nid yw gwleidyddiaeth ofnadwy yn San Steffan yn esgus dros gael gwleidyddiaeth wael yma yng Nghymru. Nid ynghylch cyflog yn unig y mae'r anghydfodau hyn; maen nhw'n ymwneud â goroesiad ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Ym maes gofal iechyd, mae gennym argyfwng gweithlu, gyda mwy a mwy o bobl yn gadael bob dydd. Mae 3,000 o swyddi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (11 Hyd 2022)

Adam Price: Diolch, Llywydd. Mae argyfwng costau byw y gaeaf hwn yn dod ar ben blynyddoedd o gyni, pryd y mae cyflog gweithwyr wedi disgyn flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae pobl yn gweithio mwy o oriau am lai o arian, ac mae nifer cynyddol o bobl sy'n gweithio yn dweud mai digon yw digon. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, yng nghynhadledd y Blaid Lafur, cafodd cynnig ei gefnogi'n unfrydol gan Unsain ar gyfer...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 4 Hyd 2022)

Adam Price: Mae'n codi'r cwestiwn: pam wnaethom ni gyflwyno moratoriwm yn ystod COVID ar droi allan? Mae rhai amgylchiadau—argyfyngau, pan fo angen cyflwyno mesurau dros dro, ac rwy'n ofni bod llawer iawn o bobl yn gwneud y dadleuon hyn yn y sector tai, nid yn unig yn yr Alban, nid yn unig yng Nghymru, ond ar draws Ewrop gyfan.  A gaf i droi at un o'r toriadau treth Torïaidd heb ei ariannu sy'n...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 4 Hyd 2022)

Adam Price: Does neb, Prif Weinidog, yn dadlau eu bod nhw'n ateb i bob problem; mae angen eu gweithredu ochr yn ochr ag ystod gyfan o fesurau. Mesurau dros dro ydyn nhw am ein bod yn wynebu argyfwng. Mae'r gaeaf bron yma. Pam ydych chi'n meddwl, Prif Weinidog, fod Shelter yng Nghymru yn galw am rewi rhent, yn galw am foratoriwm? Pam ydych chi'n meddwl bod comisiwn Kerslake, dan arweiniad cyn-bennaeth y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau ( 4 Hyd 2022)

Adam Price: Diolch, Llywydd. Yn eich trafodaethau gyda Phrif Weinidog yr Alban yr wythnos diwethaf, adroddwyd eich bod yn canolbwyntio ar yr argyfwng costau byw. Mae'n dda gweld eich bod chi, o leiaf, Prif Weinidog, yn barod i siarad â'r SNP hyd yn oed os nad yw Keir Starmer yn gwneud hynny. Nawr, ddoe, cyhoeddodd Llywodraeth yr SNP ddeddfwriaeth frys i rewi rhenti ar draws yr Alban, wedi'i ôl-ddyddio...

QNR: Cwestiynau i Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol (28 Med 2022)

Adam Price: Pa gyllid ychwanegol y bydd Llywodraeth Cymru'n ei neilltuo i Gyngor Sir Gaerfyrddin wrth iddo wynebu costau ynni cynyddol ar gyfer ei adeiladau?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (27 Med 2022)

Adam Price: Mae pobl yn wynebu'r argyfwng costau byw yma nawr, onid ydyn nhw, felly mae angen synnwyr o frys arnom ni. Rhewi rhent, mae'n ymarferol, mae'n angenrheidiol, ond nid yw'n radical nac yn newydd—fe'i gwnaed gan Lywodraeth Geidwadol Heath ym 1972 hyd yn oed, pan oeddem ni'n wynebu cyfnod o chwyddwasgiad ddiwethaf. Eto, fe'i gwnaed gan Harold Wilson pan etholwyd Llafur ym 1974. Os oedd...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (27 Med 2022)

Adam Price: Mewn argyfwng, mae angen i ni fel Senedd allu pasio deddfwriaeth frys; fe allwn ni eistedd ar benwythnosau, os oes angen, i wneud hyn. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cyhoeddi y bydd rhent yn cael ei rewi tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf o leiaf. Mae Sadiq Khan, fel Maer Llundain, wedi gofyn am y grym i rewi rhent yno. Mae'r grym hwnnw eisoes gennym ni yng Nghymru, a chan na fydd...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.