Huw Irranca-Davies: Fe ŵyr y Gweinidog fod y grŵp trawsbleidiol ar ganser yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd, yn benodol i faterion yn ymwneud ag amddifadedd a chanser. Ymddengys bod cydberthynas uniongyrchol rhyngddynt, o'r holl dystiolaeth rydym wedi'i chlywed mewn dwy sesiwn, felly mae'n amlwg fod awydd mawr i fwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu ar ganser. Tybed a oes ganddi unrhyw safbwyntiau rhagarweiniol...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i.
Huw Irranca-Davies: Diolch, diolch, diolch, diolch. [Chwerthin.] A wnaiff y Gweinidog—? Diolch yn fawr iawn. Ysbryd y Nadolig.
Huw Irranca-Davies: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen ar gyfer cyhoeddi cynllun gweithredu gwasanaethau canser? OQ58868
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Wrth agor ein sylwadau, nodaf fod dwy o'r dadleuon a gyflwynwyd gan y Dirprwy Weinidog a hefyd y Gweinidog, o ran yr offeryn blaenorol ger ein bron, yn debyg iawn, os nad yn union yr un fath. Un yw, wrth basio'r offerynnau hyn heddiw, hyd yn oed gyda'r agweddau diffygiol yr ydym wedi'u nodi, na fyddai'n cael effaith ar y gallu i weithredu'r offeryn hwn ar lawr gwlad, i bob...
Huw Irranca-Davies: Gweinidog, rydych chi hefyd wedi dweud eich bod chi wedi penderfynu peidio â defnyddio'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed ar frys, sy'n opsiwn sy'n agored o dan Ddeddf yr UE (Ymadael) 2018 fel modd o gywiro'r drafftio diffygiol a amlygwyd gan y pwyllgor, oherwydd nad oeddech o'r farn ei fod yn ateb ymarferol. Nid ydym ni, wrth gwrs, wedi cael yr amser i ystyried yr ymateb hwn yn llawn ychwaith....
Huw Irranca-Davies: Diolch eto, Llywydd.
Huw Irranca-Davies: Diolch eto. Fe wnaethon ni ystyried y rheoliadau hyn brynhawn ddoe yn ein pwyllgor, ac unwaith eto, mae ein hadroddiad wedi ei gyflwyno i hysbysu Aelodau y prynhawn yma. Hoffwn hefyd dynnu sylw'r Aelodau at lythyr a ysgrifennom ni at y Gweinidog brynhawn ddoe, sydd o arwyddocâd mawr i drafodaeth y prynhawn yma hefyd. Mae'r Gweinidog wedi egluro heddiw beth yw diben y rheoliadau hyn—a'i...
Huw Irranca-Davies: Mae'r rheoliadau hyn yn pennu rheolau i'w defnyddio i gyfrifo'r swm y gellir ei godi ar gyfer hereditamentau gyda mwy o atebolrwydd cyfraddau annomestig o dros £300, o ganlyniad i'r cynnydd mewn gwerth ardrethol eu hereditamentau, yn dilyn llunio'r rhestr ardrethi cyfraddau annomestig newydd ar 1 Ebrill 2023. Yn dilyn cais gan y Gweinidog, aethom ati ar fyrder i graffu ar y rheoliadau fel y...
Huw Irranca-Davies: Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni drafod y rheoliadau hyn brynhawn ddoe ac mae ein hadroddiad hefyd wedi'i osod i hysbysu Aelodau y prynhawn yma.
Huw Irranca-Davies: Dim o gwbl, diolch.
Huw Irranca-Davies: Dwi’n siarad y prynhawn yma, ond yn nes ymlaen.
Huw Irranca-Davies: Mae'n ddrwg gennyf. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad yn y ddadl hon, ond rwyf wedi darllen yr adroddiad yn fanwl iawn, ac yn bendant mae yna feirniadaeth o wasanaethau cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr. Hefyd, mae'r arolygiaeth gofal yn gwneud y sylw fod mesurau eisoes wedi'u cymryd i ymateb i'r rheini. Mae nifer o asiantaethau eraill wedi cael eu beirniadu hefyd, gan gynnwys anallu staff nyrsio...
Huw Irranca-Davies: A bydd rhaid i chi gadw at hynny.
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Cadeirydd ildio?
Huw Irranca-Davies: Rwy'n codi i ymuno ag ef yn ei ganmoliaeth o'n cyd-aelodau ar y pwyllgor, Janet, oherwydd mae cael yr unfrydedd hwnnw'n foment arwyddocaol—ydy wir. Os ydym i gyd yn gytûn, ar draws Siambr y Senedd, ar y llywodraethu a'r rheoliadau amgylcheddol gorau posibl i'n diogelu, gan roi Brexit i'r naill ochr neu beth bynnag, mawredd, mae hwnnw'n lle da i fynd ymlaen ohono y tu ôl i'r Gweinidog....
Huw Irranca-Davies: A wnaiff y Gweinidog ildio?
Huw Irranca-Davies: Diolch i'r Gweinidog am ildio. Er ein bod yn casáu oedi, un o'r manteision yw y gallwn edrych nid yn unig ar Gynhadledd y Partïon 15 nawr, ond hefyd ar yr hyn sydd wedi digwydd mewn mannau eraill yn y DU. Fe wnaeth Janet y pwynt, do, fod yna strwythurau llywodraethu eraill sydd wedi cael eu rhoi ar waith yn y DU, ond nid ydynt wedi bod yn rhydd o feirniadaeth. Felly, os gallwch chi hefyd...
Huw Irranca-Davies: Nid wyf am ailadrodd pwyntiau a wnaed gan Aelodau eraill, ond rwyf am ddiolch i'r Cadeirydd a'r cyd-aelodau o'r pwyllgor am y sesiwn a gynhaliwyd ganddynt gyda'r asesydd interim, a diolch hefyd i'r asesydd interim am ddod ger ein bron ac am y dystiolaeth a roddodd. Rwy'n anghytuno â Janet ynglŷn ag un pwynt o bwys yn unig, oherwydd fe glywsom mewn tystiolaeth nad yw hon yn swyddogaeth...
Huw Irranca-Davies: A gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am gyflwyno'r adroddiad hwn, a dweud unwaith eto ei fod yn dangos grym y Pwyllgor Deisebau yn cyflwyno materion pwysig iawn i'r Senedd, a'r gallu sydd gennym yn Senedd Cymru i fynegi barn pobl y tu allan i’r Siambr hon ei hun? Mae’n gyfle gwych i drafod hyn. Ac wrth agor fy sylwadau, ymunaf ag eraill i ganmol gwaith teuluoedd sydd wedi ymgyrchu ar y materion...