Canlyniadau 101–120 o 3000 ar gyfer speaker:Mark Reckless OR speaker:Mark Reckless OR speaker:Mark Reckless

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (29 Med 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, pan wnaed Caerdydd yn destun cyfyngiadau symud lleol gennych chi, a thrwy rym y gyfraith ei gwneud yn ofynnol i bobl weithio gartref os oedd yn rhesymol ymarferol, a wnaethoch chi ystyried effaith bosibl hynny ar ein trafodion yn y Senedd? Nawr, os ydych chi'n gywir pan fyddwch chi'n dweud bod gan Aelodau yr un gallu i gymryd rhan, boed o bell neu'n bersonol, onid yw hynny'n...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Ffordd Liniaru'r M4 (23 Med 2020)

Mark Reckless: Nid dyna y mae pawb yn Llywodraeth y DU yn ei ddweud, nage? Fe gyfeirioch chi'n gynharach, Weinidog, at yr hyn a alwoch yn ddau gymal na allent fod yn fwy niweidiol i Gymru. Os wyf wedi deall yn iawn, dau gymal oedd y rheini a oedd yn galluogi, neu o leiaf yn cadarnhau gallu Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yn ychwanegol at arian a ymrwymwyd eisoes gan Lywodraeth...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Med 2020)

Mark Reckless: O ystyried effaith sylweddol iawn yr argyfwng COVID ar gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y gostyngiad tebygol mewn arenillion treth oherwydd y mesurau llymach yng Nghymru o gymharu â’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud yn Lloegr, sut y mae’r Gweinidog yn y pen draw yn disgwyl rhoi cyllid cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy unwaith eto? A fydd yn torri gwariant? A fydd...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (23 Med 2020)

Mark Reckless: Gofynnwyd i'r Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl rwy'n credu, ynglŷn â'r posibilrwydd o godi treth incwm y flwyddyn nesaf, a chredaf iddo ymateb drwy ddweud bod yr economi mor wan yn sgil COVID fel y byddai'n anghywir inni ystyried unrhyw godiadau treth incwm. A yw hynny'n golygu mai dim ond pan fydd yr economi'n gryf y dylid ystyried codiadau treth incwm?

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws (23 Med 2020)

Mark Reckless: Brif Weinidog, fe ddywedodd Andrew R.T. Davies, yn hael iawn yn fy marn i, ei fod yn gresynu'n arw nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiad i'r Senedd ddoe. Onid y realiti, fel y'i disgrifiwyd gan Adam Price, oedd ei bod yn well gennych beidio â gwneud hynny? Yn hytrach, roedd yn well gennych roi'r cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, gan ddweud yr hyn rydych newydd ei ddweud yn awr,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Ffordd Liniaru'r M4 (23 Med 2020)

Mark Reckless: 3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i gwblhau ffordd liniaru'r M4? OQ55554

6., 7. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (22 Med 2020)

Mark Reckless: Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedwyd am hurtrwydd cynyddol trafod pethau dros fis ar ôl iddyn nhw ddigwydd, tra yn y byd go iawn, mae pethau newydd yn mynd rhagddynt, yn aml yn mynd i gyfeiriad gwahanol, ar yr un pryd ag yr ydym ni'n siarad am yr hen bethau. Rwy'n ddiolchgar, serch hynny, i'r Gweinidog iechyd am gynnwys yn ei gyfraniad, yr hyn yr oeddwn i'n credu oedd rhai cyfeiriadau at y...

5. Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynnig Gofal Plant a Chymorth i'r Sector Gofal Plant (22 Med 2020)

Mark Reckless: Gweinidog, fe wnaethoch chi ddiolch i ddarparwyr gofal plant a'u staff am bopeth y buon nhw yn ei wneud. A gaf i hefyd ddiolch i chi a Llywodraeth Cymru am yr hyn y buoch chi yn ei wneud yn y maes hwn? Mae'r cynnig gofal plant wedi creu argraff arnaf yn y ffordd y cafodd ei ddarparu. Mae'n elfen yn eich maniffesto, ond rydych chi wedi bwrw iddi a'i weithredu, gwnaed hynny cyn yr amserlen, ac...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Med 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, gallwn ddweud yr un peth yn rhwydd wrthych chi ynglŷn â'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud am Fil y farchnad fewnol a'r hyn yr ydych chi'n ei ddweud a fyddai'n torri'r gyfraith a chyfraith ryngwladol gan Brif Weinidog y DU. Dywedodd eich Gweinidog iechyd ddoe y dylai gadw'r dewis yn agored o frechu pobl â brechlyn COVID yng Nghymru dan orfodaeth. Dywedasoch nawr ei fod yn...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (22 Med 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, mae'r ateb yna yn ymwneud â'ch Gweinidog iechyd yn dweud ddoe bod gennych chi'r grym i orfodi brechiadau, gan awgrymu y gallai pobl yng Nghymru gael eu chwistrellu dan orfod gyda brechlyn COVID, yn fy syfrdanu. Ai dyna y mae datganoli wedi arwain ato? Oni fyddai rhaglen o'r fath o chwistrelliadau gorfodol yn torri cyfraith ryngwladol, neu a yw hynny'n bryder dim ond pan...

10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (16 Med 2020)

Mark Reckless: Yna cawsom Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, yn ein hatgoffa eto am Gytundeb Gwener y Groglith 1988, mater y mae wedi sôn amdano droeon yn y Siambr hon, fe gofiaf. Fe'm synnwyd braidd gan ei sylwadau yn syth ar ôl hynny, oherwydd eglurodd ei bod yn arfer eang gan wladwriaethau i dorri cyfraith ryngwladol, ond yr hyn a wrthwynebai oedd gonestrwydd Brandon Lewis yn cyfaddef hynny, rhywbeth y...

10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (16 Med 2020)

Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Ac a gaf i ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a oedd, yn fy marn i, yn gymedrol at ei gilydd o ran eu cywair? Credaf fod y ddadl, yma ac yn San Steffan, yn well heddiw efallai na'r hyn ydoedd ychydig ddyddiau'n ôl. Agorodd Neil Hamilton y ddadl, heb gymeradwyaeth unfrydol y Siambr, rhaid imi ddweud, ond diolch, Neil. Fe gyfeirioch chi at yr ymgyrchu a wnaethoch...

10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (16 Med 2020)

Mark Reckless: Cawn weld. Edrychaf ymlaen at wrando ar yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr a thu hwnt yn trafod rhinweddau neu fel arall canlyniadau'r Bil hwn mewn perthynas â datganoli, ac rwy'n gobeithio ymateb iddynt mewn manylder priodol wrth gloi'r ddadl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn synnu pe bawn yn clywed rhai o'r Aelodau'n dadlau bod y Bil hwn yn cipio pŵer yn erbyn datganoli tra bod eraill yn honni ei...

10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (16 Med 2020)

Mark Reckless: Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad y cyn Brif Weinidog yn ddiweddarach. A yw'n cael ymyrryd, Lywydd, neu a yw hynny'n anseneddol ar hyn o bryd? Iawn. Pam y dylem rannu—[Torri ar draws.] Arhoswch nes y clywch chi hyn. Pam y dylem rannu marchnad sengl ac undeb y tollau y DU ar hyd môr Iwerddon pan allai'r UE osgoi ffin yng Ngogledd Iwerddon drwy wneud archwiliadau ar draws y môr Celtaidd...

10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (16 Med 2020)

Mark Reckless: Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig grŵp Plaid Brexit i groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU, y pasiwyd ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin nos Lun gyda mwyafrif o 77. Rwy'n llongyfarch yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr am fod eu Llywodraeth wedi cyflwyno'r Bil hwn a mynd i'r afael yn hwyr yn y dydd â rhai o'r diffygion yn y cytundeb ymadael y mae fy mhlaid wedi cwyno amdanynt. Nodaf ddwy...

6. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig (15 Med 2020)

Mark Reckless: Cwnsler Cyffredinol, unwaith eto, mae'n ymddangos eich bod eisiau rhwystro Brexit. Pleidleisiodd eich plaid yn erbyn pob cytundeb tynnu'n ôl, gan ddeddfu i'n hatal rhag gadael yr UE heb gytundeb, i geisio aros yn yr UE er bod Cymru a'r DU wedi pleidleisio i adael. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei gyfraniad rhagorol, er nad oeddech chi'n gwrthwynebu bod yr UE yn arfer pwerau, wnewch chi...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (15 Med 2020)

Mark Reckless: Yn Sweden, nid oedd unrhyw gyfyngiadau symud, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, Prif Weinidog, ac ni fu unrhyw atgyfodiad sylweddol yn y feirws hyd yma; yn wir, rydym ni newydd godi cyfyngiadau teithio ar Sweden. Ac eto, yn Sbaen, lle cafwyd cyfyngiadau symud difrifol iawn, rydym ni'n gweld atgyfodiad mawr o'r feirws. Beth felly yw'r rhesymeg sy'n sail i strategaeth Llywodraeth Cymru o...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau (15 Med 2020)

Mark Reckless: Prif Weinidog, o ystyried y gofyniad cyfreithiol i hysbysu'r Comisiynydd Gwybodaeth o fewn 72 awr, a'i ganllawiau i hysbysu'r rhai yr effeithir arnynt heb oedi diangen, a wnaethoch chi a/neu Iechyd Cyhoeddus Cymru eistedd, rwy'n credu, am oddeutu pythefnos ar newyddion am y datgeliad data mawr hwn? A gaf i ofyn i chi hefyd egluro eich fersiwn chi o'r rheol chwech, yr ydych chi'n mynnu ei bod...

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (26 Aws 2020)

Mark Reckless: Diolch i chi am eich datganiad, Prif Weinidog. Fe ddywedasoch chi fod coronafeirws, yng Nghymru, wedi'i atal yn effeithiol. Aethoch ymlaen wedyn i gyferbynnu hynny â chyd-destun ehangach y DU, gan ddweud ei fod wedi dod yn fwy heriol, gyda niferoedd yn cynyddu a chyfyngiadau wedi'u hailosod ar draws ynys Iwerddon, a gynhwyswyd yng nghyd-destun y DU, ac yn yr Alban a Lloegr. A yw'n wir mai...

3., 4. & 5. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 ( 5 Aws 2020)

Mark Reckless: Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad ac i Gadeirydd y pwyllgor am y cefndir gweithdrefnol y gallwn fod wedi disgwyl ei gael gan y Gweinidog. Nid ydym wedi cael eglurhad ynglŷn â pham, ers y set wreiddiol ar 26 Mawrth, y cafwyd cyfres o welliannau i'r rheoliadau hynny—. Bellach, mae'r dull hwnnw wedi'i newid a chaiff y set gyffredinol gyntaf o reoliadau a'r holl welliannau eu dirymu wedyn...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.