Canlyniadau 101–120 o 6000 ar gyfer speaker:Baroness Morgan of Ely OR speaker:Baroness Morgan of Ely OR speaker:Baroness Morgan of Ely

9. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Cynllun Gwella Gwasanaethau Canser (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi cynllun gwella gwasanaethau canser gan GIG Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y GIG, ar y cyd, yn ymateb i'r datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n hymrwymiadau ehangach i wella gofal diagnostig a diwedd oes i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Mae'n dilyn ymlaen o sawl dadl bwysig rydym wedi eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Optometreg (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr. Mae'r maes hwn yn un o'r meysydd yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn fwyaf balch ohono oherwydd ein gwaith arloesol iawn ni yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw defnyddio sgiliau gweithwyr medrus iawn yr oedd y sgiliau cynhenid hynny ganddyn nhw; pobl sydd wedi cael hyfforddiant da iawn yw'r rhain, ond nid oeddem ni'n defnyddio rhai o'u sgiliau nhw. Rydyn ni wedi eu...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Optometreg (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i wella gwasanaethau optometreg. Bydd y manteision arfaethedig a gyflwynir gan y telerau gwasanaeth newydd dan gytundeb optometreg yn rhoi fframwaith i'r gwasanaeth sy'n addas i'r dyfodol. Tanategir hyn gan addysg a hyfforddiant parhaus ein gweithlu gofal sylfaenol optometreg.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Recriwtio a Chadw Staff yn y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, mae hi'n wir fod gennym ni fwy o staff nag a gyflogwyd erioed o'r blaen yn y GIG yng Nghymru. Yr hyn yr ydych chi'n ymwybodol ohono yw, mewn gwirionedd, na welson ni erioed alwadau fel hyn ar y gwasanaeth, ac os byddwn ni'n onest, ni wnaiff y galw hwnnw ond mynd i un cyfeiriad gan fod gennym ni boblogaeth sy'n heneiddio. Cynyddu a wna'r galw. Felly, rwy'n credu bod...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Recriwtio a Chadw Staff yn y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Rŷn ni’n cynyddu nifer y staff drwy amryw o ddulliau recriwtio a denu, gan gynnwys recriwtio rhyngwladol a buddsoddi mwy nag erioed mewn rhaglenni addysg a hyfforddi. Mae gwella lefelau cadw staff yn y gwasanaeth iechyd a gwneud ein gweithlu’n fwy cynaliadwy yn hollbwysig.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darpariaeth Gofal Llygaid (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Mae gwerth talebau gwasanaethau offthalmig cyffredinol newydd Cymru yn adlewyrchu gwir gost darparu gwasanaethau a sbectolau drwy gyflwyno ffioedd sydd wedi costio'n briodol. Yr hyn y gwnaethom ni ei sicrhau yw bod y rhai mwyaf anghenus yn parhau i dderbyn y gwasanaeth mwyaf priodol, ac fe fyddwn i'n annog yr Aelod i edrych unwaith eto ar wefan Optometreg Cymru oherwydd...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Darpariaeth Gofal Llygaid (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru, ac mae gwella'r ddarpariaeth i bobl ag iechyd llygaid gwael yn flaenoriaeth. Mae'r gwaith hwn ar y gweill eisoes trwy weithredu telerau gwasanaeth optometreg newydd a gontractiwyd, a gyhoeddais i mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd ym mis Medi'r llynedd.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Deintyddol y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. 123,000 o apwyntiadau newydd yw'r rhain sydd wedi digwydd mewn gwirionedd. Bu llawer o siarad ynghylch hyn, ond dyma'r ffeithiau, mae gennym ni 74,000 o gleifion newydd sy'n oedolion sydd wedi cael eu gweld mewn gwirionedd, a 49,000 o blant newydd sydd wedi cael eu gweld nad oedden nhw wedi cael eu gweld o'r blaen. Wrth gwrs, pan fyddwch chi'n cyflwyno rhywbeth newydd, fe...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Deintyddol y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: 123,000 yw'r ffigur.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gofal Deintyddol y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: O dan drefniadau diwygio'r contract, mae practisys deintyddol yn canolbwyntio ar ofal ataliol ac ymateb i angen, yn hytrach na rhoi archwiliad rheolaidd bob chwe mis i bob claf. Yn sgil y newid yma, mae mwy na 123,000 o gleifion newydd yng Nghymru wedi cael gweld deintydd NHS hyd yma eleni.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Rwy'n ymwybodol iawn o'r sefyllfa yn Solfach. Nid wyf i'n gallu mynd ymhell iawn o gartref heb i rywun godi'r mater gyda mi pan fyddaf i yno. Rwy'n falch o ddweud fy mod i wedi cyfarfod â chadeirydd a phrif weithredwr bwrdd iechyd Hywel Dda ddydd Iau, ac fe lwyddais i drafod y mater hwn gyda nhw. Fel nodwyd, bu ymgysylltu â'r gymuned yn barod. Mae hi'n anodd iawn,...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Iechyd ym Mhreseli Sir Benfro (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau gofal iechyd o safon uchel, sy’n ddiogel a chynaliadwy, i'w phoblogaeth leol, a hynny ar sail y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf.

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwr Ystadau Ysbyty (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwn i wrth fy modd yn buddsoddi mwy yn ein hystad cyfalaf ni, ond yn anffodus nid yw ein cyllid ni oddi wrth Lywodraeth y DU, o ran cyllidebau cyfalaf, wedi cynyddu, ac mae hynny'n gwneud bywyd yn anodd iawn i ni. Yr hyn a fyddwn i'n ei ddweud yw bod Betsi wedi cael £455 miliwn mewn gwariant cyfalaf dros y 10 mlynedd diwethaf, sef tua 14 y cant o'r cyfanswm i...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyflwr Ystadau Ysbyty (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am gyflwr ei ystadau ei hun. Fe all gyflwyno achosion busnes i Lywodraeth Cymru am gyllid cyfalaf ar gyfer ei flaenoriaethau asesiedig, y mae'n rhaid eu hystyried nhw gan gofio'r pwysau sylweddol sydd yn bodoli o ran cyfalaf ar draws GIG Cymru.  

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwynion Hanesyddol yn y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, diolch yn fawr. Rwyf i wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau i gyd am gyhoeddiad yr adroddiad hwnnw heddiw. Fe wn i y bydd y cyhoeddiad hwnnw'n achosi anesmwythyd i nifer o'r teuluoedd dan sylw, a'r rhai sy'n defnyddio gwasanaethau fasgwlar y bwrdd iechyd. Mae'r achosion a gaiff eu cynnwys yn yr adroddiad yn ymwneud â chyfnodau cyn ac wedi'r...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwynion Hanesyddol yn y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, fe hoffwn i ddweud, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, nad oes unrhyw beth pwysicach na diogelwch a gofal ein cleifion ni yn y GIG. Rwy'n cydnabod y canlyniadau sylweddol a all ddod yn sgil gofal sy'n annigonol. Mae hi'n wir ddrwg gennyf i, nid wyf i'n credu ei bod hi'n briodol i mi wneud unrhyw sylw ar achosion unigol, ond yr hyn y byddwn ni'n ei ddweud yw bod y broses gwynion...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwynion Hanesyddol yn y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Fe ddylai pobl sy'n dymuno cofnodi cwyn gyda chorff y GIG wneud hynny o fewn 12 mis. Mae gan gyrff y GIG ddisgresiwn i ystyried cwynion am faterion a ddigwyddodd dros 12 mis yn ôl ond ni allan nhw ystyried cwynion am faterion a ddigwyddodd dros dair blynedd yn ôl oni bai bod y rhain yn bodloni meini prawf penodol.  

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch yn fawr iawn. Wel, fe wn i fel ffaith fod cryn dipyn o waith wedi digwydd eisoes o ran datblygu'r cylch gwaith y byddai ei angen ar gyfer comisiynu rhestr aros ganolog fel hon. Rydym ni, fel gwyddoch chi, dan bwysau ariannol difrifol iawn ar hyn o bryd, felly, er bod y gwaith hwnnw yn barod i'w gychwyn erbyn hyn, fe gawsom ni ein cyfyngu yn ariannol o ran ein gallu ni i fynd gam...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Wel, dwi'n falch o ddweud bod y bwrdd iechyd wedi bod yn llwyddiannus i roi cytundeb newydd i bractis newydd ar gyfer Rhydaman. Un o'r problemau sydd wedi bod oedd bod y premises oedd yna, dyw e ddim yn functional, a hynny sydd yn creu problem ar hyn o bryd. Mae'n mynd i gymryd amser i wneud yn siŵr bod y premises yn iawn ar gyfer triniaeth pobl. Felly, fydd hwnna ddim yn barod tan fis Medi....

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Deintyddol y GIG (31 Ion 2023)

Baroness Mair Eluned Morgan: Diolch. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, nhw sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol yn Nwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ar hyn o bryd, mae 92 y cant o gyllid contract deintyddol yr NHS yn y bwrdd iechyd yn mynd i bractisys sy'n gweithio dan amrywiad diwygio'r contract. Mae hyn yn golygu bod bron i 12,000 o gleifion newydd wedi cael eu gweld ar draws y bwrdd iechyd yn ystod naw...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.