Jane Dodds: Diolch i Blaid Cymru am y ddadl yma heddiw.
Jane Dodds: Mae sefyllfa ddifrifol iawn yn ein hwynebu, ac mae'n dda ein bod yn gallu trafod hyn yn iawn yma yn y Senedd. Rwyf am ddweud fy mod yn gwybod bod gan y Gweinidog lawer iawn o bethau ar ei phlât ac mae wedi bod yn amser anodd iawn, ond ar hyn o bryd, mae meddwl y gallem wynebu streic nyrsys yn heriol iawn i ni fel cymdeithas yma yng Nghymru. Mae meddwl y gallai llawer o'r rhai sy'n cael y...
Jane Dodds: Diolch o galon i ti, Gareth, am siarad am dy sefyllfa. Mae'n wirioneddol bwysig, oherwydd dylem i gyd fod yn siarad am iechyd meddwl, felly diolch o galon am y cyfraniad hwnnw. Ac rwy'n diolch i Jenny hefyd am gyflwyno'r ddadl hon yma heddiw. Mae'n fater pwysig iawn, yn enwedig ar hyn o bryd. Rydych wedi siarad am fanciau bwyd, a'r ffaith bod pobl angen mynediad at fwyd, ond rwyf eisiau...
Jane Dodds: Prynhawn da, Ddirprwy Weinidog. Hoffwn ddweud yn gyflym iawn imi gael taith dda iawn gyda Trafnidiaeth Cymru yn ddiweddar, ac roedd staff y swyddfa docynnau'n gymwynasgar tu hwnt. Felly, rwy'n gwybod eu bod yn gweithio'n galed iawn, ac rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig cofnodi cyflawniadau llawer o'r bobl hynny. Ond hoffwn grybwyll rheilffordd wych arall, o'r Amwythig i Aberystwyth, gyda...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog.
Jane Dodds: Diolch hefyd i Delyth am godi'r mater yma.
Jane Dodds: Roeddwn i wir eisiau ymateb i rywbeth a ddywedoch chi wrth ymateb i Delyth, sy'n ymwneud â gwarchod y rhai mwyaf agored i niwed, ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hynny yn sgil yr hyn sydd yn y bôn yn benderfyniad cyllideb anodd iawn gan Lywodraeth Cymru. Roeddwn i eisiau codi'r mater o wasanaethau amddiffyn plant a chymaint y maen nhw o dan bwysau. Felly, tybed a wnewch chi wneud sylw...
Jane Dodds: Diolch i'r Ceidwadwyr am ddod â'r ddadl hon yma heddiw. Amser byr iawn sydd gennyf, ond rydym yn gwybod, dros bum mlynedd yn ôl, fod Grenfell wedi digwydd, gyda 72 o bobl yn marw. Ac yng nghanfyddiadau cychwynnol yr ymchwiliad, chwe diwrnod yn ôl yn unig, dywedodd Richard Millett, y cwnsler i'r ymchwiliad, 'Roedd modd osgoi pob un o'r marwolaethau'. Fel y gwyddom, mae disgwyl i'r adroddiad...
Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Rwyf eisiau holi am ddannedd, ac yn enwedig dannedd pobl yng nghanolbarth Cymru. Mae tua 15,000 o bobl yn aros am ddeintydd GIG ar draws Cymru—mae hynny'n golygu bod amser aros o tua dwy flynedd i bobl gael deintydd GIG. Rwy'n deall bod problemau a materion yn codi ynghylch rhestrau aros, ac rwyf wedi codi mater dannedd pobl yng nghanolbarth a gorllewin Cymru sawl...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog, a diolch yn fawr i chi am eich datganiad. Mae wir yn dangos, rwy'n credu, agwedd gynhwysfawr iawn tuag at ansawdd dŵr. Diolch i chi a'ch tîm am ei lunio. Rwy'n un o drigolion y Gelli Gandryll, fel y gŵyr llawer ohonoch chi, ac mae'n bwysig iawn i mi fod afonydd, yn enwedig afon Gwy—. Ein bod ni'n mynd i'r afael â llygredd afon. Rwy'n nofio yn yr afon bob haf....
Jane Dodds: Prynhawn da eto, Gweinidog. Rwyf eisiau cofnodi fy nghefnogaeth i dîm Cymru. Gobeithio y byddant yn dod yn ôl gyda chwpan y byd. Oni fyddai hynny yn anhygoel? Gobeithio y bydden ni'n eu gweld nhw gyntaf yma yn y Senedd. Ond fe fyddwch chi'n gwybod bod Democratiaid Rhyddfrydol Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol ledled y DU yn condemnio Gweinidogion yn mynd o Gymru i gwpan y byd Qatar, a...
Jane Dodds: Diolch, Dirprwy Lywydd, a phrynhawn da, Gweinidog. Rwyf i am ategu sylwadau Mabon ap Gwynfor a Ken Skates hefyd. Wyddoch chi, o ran twristiaeth, ni allwn ni sefyll yn ein hunfan. Mae yna argyfwng gwirioneddol yn rhai o'n cymunedau ni. Rydym ni newydd glywed am Langollen a Dwyfor Meirionnydd hefyd. Mae gwir angen i ni ddod i'r unfed ganrif ar hugain o ran ein hymagwedd ni at dwristiaeth, yr...
Jane Dodds: Prynhawn da, Prif Weinidog. Hyfryd i'ch cael chi nôl. Croeso nôl. Roeddwn i eisiau canolbwyntio ar ofal cymdeithasol. Fel yr ydym ni'n gwybod, mae ein hawdurdodau lleol ledled Cymru yn mynd i fod yn cael trafferthion gyda'u cyllidebau wrth symud ymlaen, o ran ariannu gofal cymdeithasol—ein pobl fwyaf agored i niwed. Byddai hynny'n helpu ein gwasanaethau iechyd ni hefyd. Mae'n hyfryd...
Jane Dodds: Diolch yn fawr iawn, eto, i Blaid Cymru; mae'n ddadl bwysig, bwysig iawn. Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd.
Jane Dodds: Diolch i Blaid Cymru am y ddadl yma, a diolch hefyd i Delyth am agor hyn.
Jane Dodds: Rwyf am ganolbwyntio'n fyr iawn ar un agwedd. Mae cymaint yn hyn, onid oes, ac mae mor bwysig ein bod yn edrych ar y mater. Ond roeddwn i am edrych ar fwyd a ffermio. Mae'r ddadl rydym yn ei chael mor bwysig yn sgil datblygiad Bil amaethyddol i Gymru, ac rydym am weld cynhyrchiant bwyd cynaliadwy yn cael lle canolog yn hwnnw. Rydym yn falch o weld bod cynhyrchu bwyd bellach wedi'i gynnwys yn...
Jane Dodds: Prynhawn da, Gweinidog, gobeithio eich bod chi'n iawn. Hoffwn i godi'r mater o dai fforddiadwy mewn ardaloedd gwledig. Rydym ni wedi clywed gan Gaerffili, rydym ni wedi clywed am y problemau yn ymwneud â siopau hefyd. Mae'r rhanbarth yr wyf i'n ei gynrychioli, yng nghanolbarth a gorllewin Cymru, fel y mae llawer ohonom ni yma, yn cael ei effeithio'n arbennig gan y diffyg eiddo fforddiadwy,...
Jane Dodds: Rwy'n sefyll yma fel rhywun sydd â meddwl agored iawn. Rwyf am fod yn onest, nid wyf wedi penderfynu sut rwyf am bleidleisio, ac rwy'n deall y gallai fy mhleidlais olygu parhad neu ddiwedd hyn heddiw. Felly, rwy'n sefyll yma i rannu ambell i safbwynt. Ar y naill law, diolch am wneud hyn, Sam. Rwy'n hoffi cyffredinoliaeth y peth. Rwy'n hoffi'r ffaith ei fod yn apelio at bawb, boed yn...
Jane Dodds: Prynhawn da, Weinidog. Mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant. Fel y gwyddoch, rwy'n berchen ar filgi achub fy hun—Arthur 10 oed, sydd wedi bod gyda ni ers ychydig dros ddwy flynedd bellach. Nid oedd modd ailgartrefu Arthur oherwydd ei lefelau uchel o orbryder. Daeth Arthur atom gydag anafiadau sylweddol; mae ganddo anaf i'w wddf o syrthio ar y trac rasio, ac rydym bellach yn gweld ei goesau...
Jane Dodds: Gaf i ddiolch hefyd i Peredur am godi'r mater yma?