Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Llywydd, ac ar gychwyn y cyfraniad hwn hoffwn ddatgan buddiant, gan fy mod wedi ymuno â bwrdd Cymdeithas y Lluoedd Wrth Gefn a'r Cadetiaid dros Gymru yn ddiweddar. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am agor y ddadl hon, ac yn ddiolchgar iddi hefyd am ein hatgoffa, pan fyddwn yn trafod ac yn myfyrio ar y materion hyn ym mis Tachwedd, ein bod yn myfyrio ar yr aberth a...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n siarad y prynhawn 'ma ar ran y pwyllgor. Fe wnaethon ni ystyried y rheoliadau yn ystod ein cyfarfod ddoe. Fel yr amlinellodd y Gweinidog, fe wnaethom ni adrodd yn syth wedyn. Mae'r Gweinidog eisoes wedi amlinellu bod y rheoliadau hyn yn rhan o'r gyfres o is-ddeddfwriaeth sy'n ofynnol i gefnogi gweithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, ac...
Alun Davies: —cefnogi angen lleol a chyflenwi lleol, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n cynnig cyfle i ni wneud llawer mwy. Ac mae hynny'n golygu bod Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar lawer o'r problemau sy'n bodoli, oherwydd, yn sicr, un o'r rhwystrau mawr yr ydym ni'n eu canfod yw bod cyrff eraill yn y sector cyhoeddus yn atal cydsyniadau a chaniatadau sy'n gwneud ac yn creu rhwystrau rhag datblygu...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd, ac yn ddiolchgar i chi, Gweinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Fe wnaethoch chi ddatganiadau pwerus iawn ar ddechrau eich datganiad am le glo yn ein hanes ni ac nid yn ein dyfodol ni. Ond mae yna, wrth gwrs, rai cysyniadau a chaniatadau o fewn y system yn barod. Allwch chi gadarnhau—? Dydw i ddim eisiau eich temtio i wneud unrhyw sylw ar geisiadau...
Alun Davies: Fel is-gadeirydd y grŵp ar y lluoedd arfog, hoffwn adleisio'r pwyntiau y mae Darren Millar wedi eu gwneud. Mae swyddogion cyswllt y lluoedd arfog yn rhan hanfodol o seilwaith darparu gwasanaethau, a'r gynrychiolaeth o angen o fewn llywodraeth leol ledled Cymru. Fe wnaethom ni lwyddo i ymestyn y cyllid—rwy'n credu ei fod am ddwy flynedd—sy'n rhedeg allan bellach ym mis Mawrth, a byddai'n...
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar, Llywydd. Fel eraill, Gweinidog, rwy'n croesawu'r datganiad rydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'r fenter rydych chi'n ei chymryd yn fawr. Hoffwn barhau â'r hyn a ddywedodd Aelodau eraill yn yr un ysbryd y prynhawn yma, ac efallai cymryd golwg wahanol i chi. Mae'r datganiad rydych chi wedi'i wneud wedi amlinellu y bydd yr endid gwladol hwn yn canolbwyntio...
Alun Davies: Rwy'n mwynhau datganiadau'r Gweinidog ac yn mwynhau'r sgyrsiau y mae'n eu cychwyn ar draws y Siambr. Wrth drafod llawer o'i flaenoriaethau amrywiol ef ar gyfer y banc buddsoddi fe'i gwnaeth hi'n eglur ei fod ef yn awyddus i weld y banc datblygu yn gweithio mewn ffordd ystwyth iawn, yn chwilio am gyfleoedd, ac yn buddsoddi mewn ffordd greadigol hefyd, ac rwy'n croesawu'r hyn a ddywedodd ef...
Alun Davies: Wrth gwrs, y tro diwethaf i ni gyfarfod, Prif Weinidog, roedd y Torïaid yn dweud wrthym ni mai Liz Truss oedd y Prif Weinidog gorau i ni ei gael erioed ac nad oedd hi'n bosibl herio polisi economaidd y Ceidwadwyr. Rydym ni wedi gweld rhywfaint o newid i hynny yn ystod y dyddiau diwethaf. Ond, yr hyn nad ydym wedi ei weld, wrth gwrs, yw unrhyw newid yn realiti anallu economaidd y Torïaid,...
Alun Davies: Rwyf am fanteisio ar bob eiliad o'r cynnig hael hwnnw. Gadewch inni beidio â mynd i lawr y llwybr—. Rwyf wedi gweld cynigion yn fy etholaeth fy hun lle mae tyrbinau 180m, 650 troedfedd, yn cael eu hargymell o fewn 1km i rai aneddiadau. Dyna faint ochrau'r cymoedd yn fy etholaeth i. Mae'n ddatblygiad cwbl amhriodol, ac rwy'n credu y bydd hynny'n tanseilio cefnogaeth i faterion ehangach a...
Alun Davies: Mae'r Aelod dros Aberconwy yn gwneud fy ail bwynt ar fy rhan. Y rôl gyntaf bosibl i'r Llywodraeth yw rôl fwy goddefol; mae'n darparu'r amgylchedd lle gall pobl eraill wneud penderfyniadau a gwneud buddsoddiadau. Mae'r ail rôl, rwy'n credu, yn un lawer mwy diddorol. Mae'r ffordd y fframiais y cwestiwn, wrth gwrs, yn dangos lle rwy'n sefyll, sef sbardun gweithredol i newid. Gall y sector...
Alun Davies: Wrth ddarllen drwy adroddiad y pwyllgor—rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y pwyllgor am ei gyflwyniad y prynhawn yma—a darllen drwy ymateb y Llywodraeth, fy nheimlad llethol oedd nad oedd llawer iawn o wahaniaeth rhwng y ddau, fod llawer iawn o bethau'n gyffredin, yn enwedig o ran uchelgais a gweledigaeth, rhwng y Llywodraeth a'r pwyllgor. Mae hynny i'w groesawu wrth gwrs. Fodd bynnag,...
Alun Davies: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Rwy'n falch o'ch clywed yn dadlau'r achos hwn—credaf ei fod yn achos pwysig i'w ddadlau—ond wrth gwrs, yr hyn sydd gan y sefydliadau hynny'n gyffredin hefyd yw eu bod yn cefnogi datganoli Ystad y Goron i Gymru, a fyddai'n darparu hwb ariannol i’r datblygiadau hynny. Rwy'n cymryd y byddwch chi hefyd yn cefnogi hynny yn awr.
Alun Davies: Weinidog, a wnewch chi dderbyn ymyriad?
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, ac rwy'n ddiolchgar i chi am gyflwyno hyn mor gyflym. Fe ddywedoch chi yn eich cyflwyniad nad oedd y Llywodraeth wedi cael golwg ar hyn. Er eglurder, oherwydd y materion yr ydych chi'n eu trafod ynghylch trosglwyddo swyddogaethau i'r Ysgrifennydd Gwladol, a wnewch chi gadarnhau nad oedd Lywodraeth Cymru wedi gweld hyn, ac nad oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi...
Alun Davies: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith economaidd polisïau ffyniant bro Llywodraeth y DU ym Mlaenau Gwent?
Alun Davies: Rwy'n ddiolchgar i chi, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog hefyd am ei ddatganiad y prynhawn yma. Rwy'n croesawu hyn yn fawr gan Lywodraeth Cymru, ac rwy'n siŵr y cewch chi groeso cynnes iawn ym Mrwsel hefyd. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi ei godi gyda mi nifer o weithiau, pan wyf wedi bod yn ymweld â Brwsel dros y misoedd diwethaf, ac mae croeso enfawr gan sefydliadau'r UE bod...
Alun Davies: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi'r prynhawn yma. Rwyf i am ddechrau drwy groesawu sylwadau llefarydd y Ceidwadwyr, mewn gwirionedd. Rwy'n gwybod pa mor anodd y gall y cyfraniadau hyn fod, ond roedd hi'n ymddangos eich bod chi'n llafurio tuag at edifeirwch. Rwy'n gobeithio y bydd yn gallu cwblhau'r daith dros yr wythnosau nesaf. Fe wyddom ni y bydd methiant Llywodraeth y DU i reoli'r...
Alun Davies: Gweinidog, rydym ni'n ymwybodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi camarwain pobl fel mater o drefn am ddyfodol ffrydiau ariannu'r Undeb Ewropeaidd, ac rydym ni'n ymwybodol o'r anwireddau sydd wedi'u dweud dros nifer o flynyddoedd i Weinidogion yma, i Aelodau yma, ac i bobl Cymru. Ond rydym ni hefyd yn gweld anallu Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ystod y misoedd diwethaf yn peryglu rhaglen...
Alun Davies: [Anghlywadwy.]