David Lloyd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar COVID-19. Cyn imi siarad am ein canfyddiadau, hoffwn dalu teyrnged i ymrwymiad ac ymroddiad pawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen yn parhau i weithredu o dan amgylchiadau anodd dros ben. Er y byddwn yn...
David Lloyd: Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o Fil Marchnad Fewnol y DU sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd?
David Lloyd: A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am atal llifogydd yng Ngorllewin De Cymru?
David Lloyd: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau Plaid Cymru. Ni all Plaid Cymru groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU. Yn wir, rydym yn ei weld fel ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru. Y Bil hwn yw'r ymosodiad unigol mwyaf ar ddatganoli ers ei greu. Nid cipio pŵer yn unig a wneir gan y Bil marchnad fewnol ond dinistrio dau ddegawd o ddatganoli. Bydd dau refferendwm yn...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Allaf i ddechrau drwy hefyd ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ddatganiad? Nawr, wrth gwrs, mae mater Mesur y farchnad fewnol yn hynod, hynod ddyrys ac, yn wir, yn peryglu holl fodolaeth Cymru. Mae'n siom enbyd bod y fath Fesur yn gweld wyneb dydd. Y pictiwr mawr, wrth gwrs, ydy ei bod hi'n anghyfrifol tu hwnt i unrhyw Lywodraeth yrru ymlaen efo'r agenda...
David Lloyd: Diolch yn fawr am hwnna.
David Lloyd: Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol, os yw eiddo wedi ei wella neu ei ymestyn ers ei roi mewn band treth gyngor, bod Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu'r bandiau i gymryd y newidiadau i ystyriaeth pan gaiff ei werthu. Fodd bynnag, mae'n amlwg bod problemau gyda'r system, gydag oedi o ran hysbysu preswylwyr am newidiadau. Nawr, canfu rhai o'm hetholwyr i fis diwethaf bod eu band treth...
David Lloyd: 6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ailfandio'r dreth gyngor yng Nghymru? OQ55528
David Lloyd: Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi'n siarad fel Cadeirydd dros dro, felly, y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, fel rydych chi newydd nodi. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 ydy'r prif reoliadau ar y coronafeirws yng Nghymru. Cymeradwyodd y Senedd y rheoliadau hyn ar 5 Awst eleni, ynghyd â dwy set o reoliadau diwygio. Ar 24 Awst,...
David Lloyd: Nawr, mae'r argyfwng COVID hwn hefyd wedi dangos y tensiynau cyfansoddiadol clir sy'n bodoli, ac mae'n arwain llawer i gwestiynu hyfywedd hirdymor y setliad presennol. Yn anffodus, mae'r argyfwng wedi dangos bod Lywodraeth y DU yn gweithio yn erbyn buddiannau Cymru mewn meysydd penodol. Yn ystod cyfnod cynnar y pandemig, wrth i genhedloedd o bob cwr o'r byd ruthro i sicrhau cyflenwadau...
David Lloyd: Fel minnau, mae'r Gweinidog yn fyfyriwr hanes, ac, yn amlwg, wrth ei fod yn cymeradwyo'r rheoliadau hyn neithiwr, byddai wedi bod yn gwylio rhaglen ddogfen wych S4C ar y ffliw Sbaenaidd o 1918, a ddatgelodd fod brig cyntaf mawr, yna digwyddodd dim am bedwar mis—dim achosion, dim cleifion, dim byd o gwbl—ac yna cafwyd ail frig enfawr, gyda 10 gwaith yn fwy o farwolaethau na'r brig...
David Lloyd: Diolch am hynna eto. Yng ngwyneb mwyafrif sylweddol y Torïaid yn San Steffan, mae'n amlwg i bawb nad San Steffan fydd yn arwain y ffordd i ddiwygio undeb y Deyrnas Unedig er gwell. Colli pwerau yr ydym ni'n fan hyn, a chi, fel Llywodraeth Cymru, yn cael eich hanwybyddu dro ar ôl tro. Felly, beth yw eich cynllun chi? Parhau i gael eich hanwybyddu a Chymru yn parhau i golli grymoedd? Cyw iâr...
David Lloyd: Diolch am yr ateb yna. Nawr, ers cyhoeddiad papur Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb, Cydlywodraethu yn y DU', nôl yn yr hydref y llynedd, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi gwrthod galwadau gan Lywodraeth Cymru, gan Lywodraeth yr Alban a gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon i ymestyn cyfnod pontio Brexit. Hefyd, fe wnaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig barhau gyda'i chytundeb ymadael,...
David Lloyd: Diolch yn fawr, Llywydd. Yn y wasg yr wythnos yma, mewn ymateb i'r Mesur y farchnad fewnol arfaethedig a ddaeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig, rydych chi'n datgan:
David Lloyd: Ni fydd hyn yn cael ei oddef.
David Lloyd: Felly, sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y Mesur yma, sydd, yn y bôn, yn ymgais gan Boris Johnson i sugno pwerau o'r Senedd yma yn ôl i San Steffan—sut fyddwch chi'n sicrhau na fydd y Mesur yma yn cael ei orfodi ar Gymru?
David Lloyd: Gweinidog, mae datblygu Metro ym Mae Abertawe a'r Cymoedd gorllewinol yn hanfodol er mwyn lleihau amseroedd teithio a thagfeydd yn Abertawe a'r cyffiniau, ac er mwyn sbarduno datblygu economaidd yn ein cymunedau ni yn y Cymoedd. Serch hynny, er y cytunwyd ar gyllid i gynnal astudiaeth ddichonoldeb yn 2017, nid ydym wedi cael fawr ddim o'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun hwn gan Lywodraeth...
David Lloyd: Prif Weinidog, darlledwyd y rhaglen Sunday Hotline, a gyflwynir gan Kev Johns ar Sain Abertawe, olaf erioed yr wythnos hon. Roedd y llinell boeth wedi gweithredu ers degawdau ac roedd yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr gan drigolion lleol, gan gynnig cyfle unigryw i bobl godi materion lleol o bryder ac i holi gwleidyddion lleol. Yn anffodus, bydd yr orsaf yn gadael y tonnau awyr ym mis Medi, yn...
David Lloyd: 4. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o bwysigrwydd gorsafoedd radio lleol yng Nghymru? OQ55455
David Lloyd: 5. Will the Minister make a statement on the development of a Swansea Bay and western valleys metro? OQ55452