John Griffiths: —a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych o'r newydd ar y materion hyn.
John Griffiths: Weinidog, fel y gwyddom, mae'r argyfwng eisoes gyda ni, ond yn anffodus, mae'n debygol o waethygu'n sylweddol o ran costau bwyd, tanwydd, ynni a llawer o bethau eraill. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau penodol i roi cynlluniau ar waith i helpu, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o bethau, a'r system fudd-daliadau, er...
John Griffiths: 8. Pa bolisïau y mae Llywodraeth Cymru yn eu dilyn i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed drwy'r argyfwng costau byw? OQ57801
John Griffiths: Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o effaith y rhyfel yn Wcráin ar gyfrifoldebau datganoledig?
John Griffiths: Credaf ein bod yn clywed llawer o rethreg gan Lywodraeth y DU, Mark, ond ni chafwyd tystiolaeth ymarferol ohoni bob amser. Oes, efallai fod enghreifftiau unigol, ond rydym am weld dull o weithredu cyson ym maes plismona a chyfiawnder troseddol, sy'n symud ymlaen at yr hyn y byddwn yn ei alw'n dir blaengar a goleuedig fel yr ydym eisoes wedi clywed amdano yn y ddadl hon heddiw, a chredaf fod...
John Griffiths: A gaf fi ddechrau drwy ddweud cymaint rwy'n cytuno â'r hyn y mae Jane Dodds newydd ei ddweud? A chredaf y bydd llawer o'r hyn y bydd gennyf i'w ddweud yn ategu'r sylwadau hynny. Pe bai gennym gyfrifoldeb dros blismona, a chyfiawnder troseddol yn wir, yma yng Nghymru, Ddirprwy Lywydd, rwy'n credu y byddai gennym system lawer mwy blaengar, a chynhyrchiol yn wir, a fyddai'n gwella bywyd ein...
John Griffiths: Efallai yr hoffwn, a dweud y gwir, Lywydd.
John Griffiths: Mae Parkrun Cymru a'r ffordd y mae'n gweithredu yng Nghasnewydd yn arwydd arall o ba mor weithgar a brwdfrydig ac egnïol yw'r boblogaeth leol. Ac mae'r ddau parkrun yng Nghasnewydd, un yng Nglan yr Afon ac un yn Nhŷ Tredegar yn etholaeth fy nghyd-Aelod Jayne Bryant, yn ennyn cefnogaeth dda iawn, ac maent yn ei gwneud hi'n bosibl i lawer ddigwydd er mwyn annog ffitrwydd ac iechyd da yng...
John Griffiths: Sylfaen chwaraeon yng Nghasnewydd, mewn gwirionedd, yw'r cyfleusterau a'r ymrwymiad ar lawr gwlad a welir yn y ddinas. Ac mae cyfleusterau Casnewydd Fyw yn bwysig iawn; maent ymhlith rhai o'r goreuon yng Nghymru. Y pwll nofio, y ganolfan tenis, Felodrom Cenedlaethol Cymru Geraint Thomas a gweithgaredd y pentref chwaraeon rhyngwladol yn ei gyfanrwydd, gan gynnwys y trac athletau a'r defnydd...
John Griffiths: Diolch, Lywydd. Lywydd, ym 1963, bron i 60 mlynedd yn ôl, gwahoddodd Clwb Rygbi Casnewydd yr All Blacks i Rodney Parade. Ac yn groes i'r disgwyl, fe wnaeth tîm Bryn Meredith nad oeddent wedi disgleirio rhyw lawer cyn y pwynt hwnnw, guro tîm o Seland Newydd a gâi ei ystyried yn un o'r goreuon yn ei gyfnod. Hyd heddiw siaradir am y gêm, ac rwy'n siŵr y bydd ar feddyliau nifer o bobl pan...
John Griffiths: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Mae'n hollbwysig ein bod yn cael ein polisïau i fynd i'r afael â llygredd aer yn iawn, o ystyried yr effaith ar iechyd y cyhoedd, cyflyrau anadlol a chyflyrau iechyd eraill ac wrth gwrs, yr effaith ar ein hamgylchedd. A chredaf fod y problemau hyn yn arbennig o ddifrifol yn ein cymunedau mwy difreintiedig. Felly, gorau po gyntaf y cawn bolisïau ymarferol ar...
John Griffiths: 6. Sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau lleol i fynd i'r afael â llygredd aer? OQ57721
John Griffiths: Beth yw asesiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o argaeledd gwasanaethau deintyddol y GIG yng Nghymru?
John Griffiths: Byddaf i'n siarad yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a hoffwn i ddiolch i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol a'r Gweinidog Newid Hinsawdd am fynychu sesiynau tystiolaeth y pwyllgor. Mae ein pwyllgor yn croesawu'r setliad llywodraeth leol. Gwnaethom ni glywed gan y sector ei fod yn hael a bydd yn galluogi awdurdodau lleol...
John Griffiths: Cytunaf yn llwyr â'r teimladau a fynegwyd ynghylch pwysigrwydd gordewdra a mynd i'r afael â gordewdra os ydym am greu'r math o Gymru rydym am ei gweld o ran iechyd a lles. Mae'n her fawr ac mae wedi bod yn her gynyddol ers peth amser, ac mae angen inni sicrhau bod y GIG yn ymateb yn effeithiol pan fo gan bobl broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â gordewdra. Ond rwy'n cytuno'n gryf, y tu...
John Griffiths: Weinidog, mae addysg bellach yn parhau i ddarparu addysg ac hyfforddiant o'r radd flaenaf ledled Cymru ac yn fy marn i, mae'n rhoi gwerth da am arian cyhoeddus. Cyfarfûm â Choleg Gwent yn ddiweddar gyda Jayne Bryant i drafod eu cynlluniau i adleoli eu campws yn ninas Casnewydd i ganol y ddinas, ochr yn ochr â champws Prifysgol De Cymru, a fyddai'n annog cydweithredu da a dilyniant, a...
John Griffiths: 4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gymorth ariannol ar gyfer addysg bellach? OQ57521
John Griffiths: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag awdurdodau lleol i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd?
John Griffiths: Rwy'n croesawu yn fawr eich datganiad heddiw, Gweinidog, a'r polisi a'r dull gweithredu sydd gennym yma yng Nghymru, a bydd y buddsoddiad cynyddol, rwy'n credu, yn werthfawr iawn oherwydd, fel y gwyddom ni i gyd, mae llawer gormod o bobl yng Nghymru, yn anffodus, fel gyda rhannau eraill o'r DU, sydd â'r problemau alcohol a chyffuriau anghyfreithlon hyn. Ac yn ogystal ag atal problemau ar...
John Griffiths: Prif Weinidog, roedd yn fraint fawr i mi fel Gweinidog yr amgylchedd ar y pryd agor ein llwybr arfordir Cymru gwych, ac, ers hynny, mae awdurdodau lleol, gwirfoddolwyr ac eraill wedi gweithio'n galed i'w gynnal a'i wella. Mae teithiau cerdded cylchol yn ei gysylltu â chymunedau lleol, ac apiau meddalwedd sy'n cyfeirio cerddwyr at nodweddion treftadaeth, mannau o ddiddordeb, bwyd, diod a...