Canlyniadau 101–120 o 3000 ar gyfer speaker:Rebecca Evans

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Mesurau Iechyd Ataliol (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Fe wnaf ymrwymo i gyfleu'r pryderon a fynegwyd gennych y prynhawn yma i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn amlwg, mater iddi hi ei benderfynu o fewn y prif grŵp gwariant sydd ganddi yw hwn, ond rwy'n fwy na pharod i roi gwybod iddi am y cyfraniad y prynhawn yma.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Arlwyo mewn Ysgolion (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Cafodd £260 miliwn ei ymrwymo i weithredu'r rhaglen darparu prydau ysgol am ddim i bawb dros y tair blynedd nesaf. Rwy'n rhagweld y bydd y cyllid hwn yn ddigonol i'r mwyafrif o awdurdodau lleol, ond rwyf wedi addo y bydd unrhyw ofynion ychwanegol yn cael eu hasesu fesul achos.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Mesurau Iechyd Ataliol (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Gan adeiladu ar ein cyllideb flaenorol, mae cyllideb ddrafft 2023-24 yn parhau i ganolbwyntio ar atal niwed i'r rhai mwyaf difreintiedig. Ochr yn ochr â'r £165 miliwn i ddiogelu ein GIG, mae'r camau gweithredu'n cynnwys diogelu'r £90 miliwn o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, buddsoddi £10 miliwn pellach mewn atal digartrefedd a darparu £2.2 miliwn ar gyfer ein cynllun peilot incwm...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwasanaethau Cyhoeddus Anstatudol (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Fe wnaf y pwynt eto fod Llywodraeth Cymru wedi darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol, ac rwy'n gwybod bod arweinwyr llywodraeth leol ac aelodau llywodraeth leol ledled Cymru wedi cydnabod hynny. Fel y crybwyllais, rydym yn darparu cyllid refeniw o dros £5.1 biliwn a dros £1 biliwn o grantiau penodol i awdurdodau lleol y flwyddyn nesaf, sy'n gynnydd o 7.9 y cant. Nawr, mae hwnnw'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Gwasanaethau Cyhoeddus Anstatudol (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â phob arweinydd awdurdod lleol i drafod materion allweddol sy'n effeithio arnom i gyd, gan gynnwys yr heriau ariannol presennol. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw penderfynu sut y maent yn darparu eu gwasanaethau anstatudol, yn seiliedig ar flaenoriaethau lleol.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Newid Hinsawdd (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Rwy'n cytuno bod gan awdurdodau lleol rôl bwysig a photensial pwysig yn hynny o beth, a dyna pam rwy'n gwybod bod y Gweinidog Newid Hinsawdd yn ymgysylltu â hwy mewn perthynas â datblygu gwaith Unnos, a gobeithio y bydd hi'n sicrhau bod mwy o wybodaeth ar gael i gyd-Aelodau ar ddatblygiad y gwaith hwnnw cyn bo hir iawn. Felly, efallai y byddai hwnnw'n gyfle i archwilio hynny'n fanylach. Ni...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Newid Hinsawdd (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn hwnnw y prynhawn yma, ac rwy'n falch iawn o'r gwaith y mae panel datgarboneiddio Cymru yn ei wneud ar sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gynlluniau yn eu lle er mwyn helpu i'w symud tuag at y nod o sero net yn y sector cyhoeddus erbyn 2030. Rwy'n meddwl mai un o'r meysydd lle mae angen inni roi llawer iawn o ffocws yw caffael wrth gwrs, oherwydd mae dros 60...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Newid Hinsawdd (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Mae newid hinsawdd yn flaenoriaeth drawslywodraethol ac rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd a chyda fy nghyd-Weinidogion eraill yn y Cabinet i gefnogi cyflawniad Cymru Net Sero, ac i gynorthwyo awdurdodau lleol i gyflawni eu hymrwymiadau.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Diolch am y cwestiwn hwnnw ac rwyf innau hefyd wedi cael cyfarfod da iawn gyda'r comisiynydd pobl hŷn, a siaradodd yn angerddol iawn am botensial cymunedau sydd o blaid pobl hŷn. Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru, ar gyfer 2023-24, drwy'r gronfa diwygio gofal cymdeithasol yn darparu grant o £50,000 i bob awdurdod lleol, fel eu bod yn gallu penodi swyddog arweiniol i gefnogi eu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Wel, yn gyntaf, hoffwn roi sicrwydd i chi ein bod yn ymwybodol iawn ac yr un mor bryderus ynghylch y pwysau y mae'r argyfwng ynni presennol a'r argyfwng costau byw yn ei roi ar y sector chwaraeon a hamdden. Wrth gwrs, golyga'r setliad llywodraeth leol dros dro fod rhai awdurdodau lleol bellach wedi gwrthdroi eu cynlluniau i gau rhai o’u cyfleusterau, sy’n bwysig iawn yn fy marn i, gan ei...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Hyrwyddo Iechyd y Cyhoedd (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Y byrddau iechyd lleol sy'n gyfrifol am yr adnodd ar gyfer hybu iechyd cyhoeddus sylfaenol. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am feysydd iechyd y cyhoedd eraill, megis diogelu iechyd ac iechyd cyhoeddus amgylcheddol. Mae awdurdodau lleol yn gweithio'n agos gyda phartneriaid, gan gynnwys byrddau iechyd lleol, ar rai meysydd hybu iechyd, megis y cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Os caf ddychwelyd am ychydig at ran gyntaf eich cwestiwn, hoffwn ddweud mai dyma un o'r rhesymau pam fod yr asesiadau effaith strategol mor bwysig, gan eu bod yn edrych ar effaith gronnol penderfyniadau amrywiol ar bobl, ac wrth gwrs, ar bobl a chanddynt fwy nag un nodwedd warchodedig hefyd. Felly, mae’r mathau hynny o asesiadau effaith yn wirioneddol ddefnyddiol i'n helpu i ddeall effaith...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Credaf fod yr enghraifft a roddwch yn tynnu sylw at y penderfyniadau anodd y mae awdurdodau lleol yn eu hystyried ar hyn o bryd, ac maent yn cwmpasu ystod eang iawn o faterion sydd o bwys i'w trigolion. Felly, mae'n rhaid gwneud penderfyniadau, wrth gwrs, drwy lens Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, felly bydd angen iddynt ystyried beth y mae'r penderfyniadau a wnânt yn ei...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Diolch am godi’r pwynt hwnnw y prynhawn yma. Rwyf am ddechrau drwy gydnabod y gall gweithio hybrid a gweithio rhithwir fod yn ffordd wirioneddol bwysig o gynyddu amrywiaeth mewn democratiaeth, fel y buom yn ei drafod yr wythnos diwethaf, o ran gwneud y cyfarfodydd hynny’n fwy hygyrch i bobl mewn gwaith llawn amser, pobl a chanddynt ymrwymiadau teuluol, ymrwymiadau gofalu, pobl sy'n...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Credaf fod hwn yn faes lle mae’n debyg fod gennym fwy o dir cyffredin, gan fod hwn yn waith y buom yn ei wneud gydag awdurdodau lleol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, ar eu cais hwy, i archwilio pa feysydd cyllid grant y gellid eu symud, o bosibl, i mewn i'r grant cynnal refeniw ar sail tymor byr neu barhaol. Felly, mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ar hyn o bryd, ond rydym wedi llwyr...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Credaf ei bod yn bwysig cydnabod bod ein setliad cyffredinol i lywodraeth leol, gyda'r cynnydd o 7.9 y cant ar y flwyddyn ariannol hon, wedi’i groesawu’n gyffredinol gan lywodraeth leol. Credaf ein bod wedi darparu’r setliad gorau posibl y gallem fod wedi'i ddarparu. Rhoesom fwy o gyllid i lywodraeth leol na’r cyllid a gawsom mewn cyllid canlyniadol o fesurau a amlinellwyd gan...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Costau Byw (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Byddwn yn cytuno’n llwyr mai un o’r pethau pwysicaf y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud yw dod â'r rheini sydd â gyfrifoldebau am wasanaethu ein dinasyddion ynghyd i sicrhau bod ein hymdrechion yn cael eu cyfuno a’n bod oll yn canolbwyntio ar y pethau mwyaf pwysig i bobl, a dyna un o'r rhesymau pam y cawsom gyfarfodydd bob pythefnos gyda'n cymheiriaid mewn llywodraeth leol dros yr...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Costau Byw (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Wel, hoffwn ddechrau drwy ddweud nad ydym yn diystyru'r her y mae ein cymheiriaid mewn llywodraeth leol yn ei hwynebu oherwydd y pwysau chwyddiant sydd arnynt ar hyn o bryd. Oherwydd, wrth gwrs, yn union fel y mae gwerth cyllideb Llywodraeth Cymru wedi ei erydu, mae gwerth cyllideb llywodraeth leol hefyd wedi ei erydu. Ond serch hynny, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion yn ein cyllideb...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Costau Byw (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Rwy’n ddiolchgar iawn i Jack Sargeant am godi hyn y prynhawn yma, a hoffwn gydnabod y gwaith anhygoel y mae Jack Sargeant yn ei wneud yn arwain yr ymgyrch ar fesuryddion talu ymlaen llaw. Mae cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn mynd ati'n rhagweithiol i gefnogi'r ymgyrch honno ar eich rhan. Felly, bydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol yn cael cyfarfod pellach gyda chyflenwyr ynni ar 23...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Costau Byw (18 Ion 2023)

Rebecca Evans: Rwy’n cynnal cyfarfodydd rheolaidd ag arweinwyr awdurdodau lleol ac yn trafod effeithiau’r argyfwng costau byw, gan gynnwys y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i alluogi awdurdodau i barhau â’u cymorth hollbwysig i drigolion.


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.