Joyce Watson: Diolch am eich ateb. Wrth gwrs, mae dwy ochr i gynhyrchu bwyd—cyflenwad a galw. Rydym yn nesu'n gyflym at y Nadolig, a bydd pobl yn prynu bwyd o ffynonellau lleol, ac rwy'n credu bod cyfle go iawn yma, efallai'n fwy nag erioed, i ganolbwyntio meddyliau pobl ar brynu'n lleol—y bobl hynny, wrth gwrs, sydd ag unrhyw arian ar ôl i brynu unrhyw beth o gwbl ar ôl y gyllideb hon. Hoffwn ofyn i...
Joyce Watson: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Roedd rhaid i mi ei alw'n ddatganiad cyllidol am mai dyna mae Llywodraeth y DU wedi ei alw, yn hytrach na chyllideb fach, er mwyn osgoi craffu gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn ôl pob tebyg. Ond cyllideb oedd hi ac nid oedd yn gyfrifol o gwbl. Drwy gyflwyno'r llu anllythrennog yn economaidd o doriadau treth i gyfoethogion, bonysau digyfyngiad i...
Joyce Watson: 10. What assessment has the Minister made of the impact on Wales of the UK Government's fiscal statement? OQ58452
Joyce Watson: 5. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyflenwad o fwydydd sy'n dod o ffynonellau lleol? OQ58450
Joyce Watson: Diolch, Llywydd, ac rwy'n mynd i siarad i groesawu cynnwys y gwaharddiad ar faglau a thrapiau glud, a'r ffaith mai Cymru fydd y genedl gyntaf un i'w gwahardd yn llwyr. Fel y gwyddoch chi, rwyf wedi siarad ar hyn droeon. Rwy'n falch iawn, Gweinidog, eich bod wedi gwrando ar y gynulleidfa ehangach yma sydd wedi dadlau bod hyn yn annynol ac wedi dod i'r un penderfyniad eich hun ei fod yn...
Joyce Watson: Yn 2015, fe wnaeth Ysgrifennydd amgylchedd y DU, Liz Truss, frolio am dorri 34,000 o arolygiadau fferm. I bob pwrpas, caniataodd i ffermwyr yn Lloegr ollwng gwastraff fel plaladdwyr a baw anifeiliaid yn uniongyrchol i afonydd, gan gynnwys dyffryn Gwy, lle canfu gwaith ymchwil gan Brifysgol Caerhirfryn fod 3,000 tunnell o ffosfforws gormodol, wedi'i achosi gan amaethyddiaeth, yn diferu i...
Joyce Watson: Mae ymchwil wedi dangos bod llawer o blant yn optio allan o gael eu cinio ysgol am ddim—mae llawer o waith wedi'i wneud ar hynny—a hynny oherwydd eu bod yn wynebu stigma gan eu cyfoedion. Ond mae'r polisi hwn, y polisi prydau ysgol am ddim i bawb, yn dileu'r stigma hwnnw, ac mae hynny'n rhywbeth i fod yn falch iawn ohono. Rydym yn gwybod bod plant yn casáu teimlo'n wahanol, ac rwy'n...
Joyce Watson: Weinidog, mae diddordeb sylweddol wedi bod yn yr ymgynghoriad yr adroddwyd yn ei gylch ar wisgoedd ysgol, a siaradodd y Prif Weinidog am hyn ddoe. Wrth gwrs, mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn y grant datblygu disgyblion i roi hyd at £200 o gymorth i fwy o deuluoedd gyda chostau gwisg ysgol a chit ysgol, ond mae Cymdeithas y Plant wedi dweud bod cost gyfartalog gwisg ysgol yn dal i fod dros...
Joyce Watson: Diolch, Dirprwy Lywydd, ac wrth gwrs rwy'n croesawu'r Bil. Rydyn ni i gyd wedi gweld yr effaith ddinistriol ddiangen y mae plastigau untro yn ei chael ar ein hamgylchedd a'n bywyd gwyllt. Felly, am beth rydym ni'n siarad? Wel, ar hyn o bryd, mae 11 miliwn tunnell fetrig o wastraff plastig yn mynd i mewn i'n cefnfor bob blwyddyn. Os ydyn ni'n dal ati fel yr ydym ni nawr, bydd hynny'n dyblu...
Joyce Watson: Hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am adroddiad diddorol. Cofiaf gael fy ethol yn 2007, ac roedd pryderon difrifol ynghylch TB buchol yng Nghymru bryd hynny, ond mae'r data'n dangos pa mor bell y daethom. Mae yna ddarlun newydd yn awr, fel y dywedodd y Gweinidog yn ei datganiad diweddaraf. Mae nifer yr achosion newydd mewn buchesi wedi gostwng 56 y cant ers 2008, ac rydym wedi cyrraedd yma drwy fod...
Joyce Watson: Prif Weinidog, mae niwclear yn rhan fach o'n rhagolygon o ran cynhyrchu ynni yng Nghymru. Gyda'n hadnoddau naturiol, gallwn gynnig potensial mawr i gynhyrchu ynni adnewyddadwy o wynt, tonnau a llanw. Gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mor siomedig oedd gweld dim ond pedwar prosiect o Gymru yn llwyddo yng nghylch ariannu diweddaraf Contractau ar gyfer Gwahaniaeth...
Joyce Watson: Diolch, Cefin. Er y byddwn wrth fy modd yn ailymuno â'r farchnad sengl—byddwn yn ei wneud yfory nesaf, byddwn yn ailymuno â'r Undeb Ewropeaidd yfory nesaf ac rwy'n siŵr y byddai pobl eraill yn gwneud yr un peth—ac rwy'n cytuno â phopeth rydych wedi'i ddweud, ond onid ydych yn derbyn, ar hyn o bryd, na allwn ailymuno â'r farchnad sengl yn awtomatig? Yr hyn y mae angen inni ei wneud...
Joyce Watson: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A diolch, Gadeirydd, am fynd i'r afael â rhywbeth hynod o gymhleth ac anodd ei wneud. Ond mae gennyf un cwestiwn, ac mae'n ymwneud â dileu'r ddarpariaeth apelio drwy benderfyniad mwyafrifol. Fel y gwyddoch, cefais gryn drafferth wrth apelio yn erbyn penderfyniad a aeth o blaid Gareth Bennett yn y Senedd ddiwethaf ac yn fy erbyn i. Arweiniodd at orfod dod â rhywun...
Joyce Watson: Fy nghwestiwn i chi, Gwnsler Cyffredinol, yw hwn: a ydych yn credu felly y byddai'n annoeth i Lywodraeth y DU geisio cymryd y camau hynny yma yng Nghymru ac achosi'r holl anrhefn hwnnw?
Joyce Watson: Fel y dywedoch chi, mae'n ddewis, onid yw? Mae'n ddewis gan y Llywodraeth Dorïaidd, sydd bellach mewn anhrefn—ni all gytuno â hi ei hun hyd yn oed—i wrthod y pethau hynny yn Neddf undebau llafur Cymru yr ydym yn eu caniatáu ar hyn o bryd. Ac un o'r pethau hynny a ganiateir, wrth gwrs, yw'r amser cyfleuster y telir amdano, sy'n fanteisiol i'r bobl sy'n cael eu cynrychioli ac i'r...
Joyce Watson: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau sôn am fater menywod sy'n dioddef anafiadau trawmatig i ardal y pelfis o ganlyniad i enedigaeth. Gwn i chi ddweud bod hyn yn ehangach, ond, serch hynny, mae'n faes nad yw wedi cael ei drafod. Mae rhai ohonyn nhw'n cael anaf difrifol, megis anafiadau i sffincter yr anws, sy'n gallu arwain at anymataliaeth ysgarthol. Yn ôl Sefydliad MASIC, mae un o bob 50 o...
Joyce Watson: Rwyf wedi bod yn ymwneud â chyllidebu ar sail rhyw ers cyn fy ethol yma, fel un o sylfaenwyr Grŵp Cyllidebu ar Sail Rhyw, Cymru, bron 20 mlynedd yn ôl. Felly, nid yw'n gysyniad newydd, ond mae llawer o gamddealltwriaeth o'i gwmpas o hyd. Nid yw, fel y dywedoch chi, ac ni fu erioed, yn ymwneud â chyllidebau gwahanol i ddynion ac i fenywod, ond mae'n ymwneud â dilyn yr arian a rhoi cnawd...
Joyce Watson: Diolch.
Joyce Watson: Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog, ac fe hoffwn i ddiolch ichi eto am ddod i lansiad 'Dyletswydd i Gefnogi'. Roedd yn adroddiad a gomisiynwyd gennyf i gyda Chymorth i Fenywod Cymru ar ddarparu gwasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n profi cam-drin gartref. Dywedais yn gynharach a dywedaf eto fod un o bob pump o blant yn dyst i gamdriniaeth gartref, ac mae angen dybryd am...
Joyce Watson: Diolch i chi am eich ateb, Prif Weinidog. Ddoe, lansiais adroddiad ar wasanaethau cymorth i blant a phobl ifanc sy'n gweld trais a cham-drin gartref. Nid yw trais domestig yn effeithio ar yr oedolion dan sylw yn unig; effeithir ar tua un o bob pump o blant, ac mae'r gyfraith yn eu cydnabod fel dioddefwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Ond mae angen dybryd am gymorth wedi'i deilwra ar eu cyfer...