Canlyniadau 101–120 o 900 ar gyfer speaker:Angela Burns

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddarpariaeth Addysg ( 3 Meh 2020)

Angela Burns: —bydd athrawon—. A'r consortia rhanbarthol a phryd oedd yn rhaid iddyn nhw edrych arno, ie.

5. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Ddarpariaeth Addysg ( 3 Meh 2020)

Angela Burns: Gweinidog, maddeuwch i mi os yw fy nghwestiwn yn torri ar draws yr hyn sydd wedi'i ofyn eisoes, ond rwyf wedi bod yn cael trafferthion gyda fy fideo heddiw. Roeddwn yn meddwl tybed a ydych chi—. Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad, a tybed a allech chi roi amlinelliad i mi o'r hyn a addysgir ym mlynyddoedd 10 a 12. Rwy'n deall bod CBAC a Chymwysterau Cymru wedi dweud y...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) ( 3 Meh 2020)

Angela Burns: Gweinidog, fe wnes i wrando ar yr ateb yna i Helen Mary ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod bob amser yn ymddangos mai problem cyfathrebu rhywun arall ydyw, onid yw? Gadewch i ni fynd yn ôl i'r £500 ar gyfer gofalwyr. Clywais ymateb y Prif Weinidog i Mike Hedges, a oedd yn annidwyll yn fy marn i, a chlywais eich ymateb i Delyth Jewell. Felly, a ydych yn dweud wrthyf naill ai nad oedd...

7. & 8. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 2) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 3) 2020 (20 Mai 2020)

Angela Burns: Hoffwn gofnodi fy mod yn credu bod Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi mynegi'n glir ac angerddol iawn y sylw angenrheidiol sy'n rhaid i ni ei roi i'n rhyddid a'n hawliau sylfaenol er gwaethaf y cyfnod anodd rydym ynddo ar hyn o bryd, ac felly, mae wedi datgan fy mhryderon ynghylch y rheoliadau parhaus hyn a'r ffordd y cânt eu trin a'u cyflwyno. Mae'r prif...

6. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Coronafeirws (COVID-19) (13 Mai 2020)

Angela Burns: Prynhawn da, Gweinidog. Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â llawer iawn o'r sylwebaeth a wnaed gan Mandy Jones. Yn fy etholaeth fy hun rwyf wedi bod â ffermwyr sydd wedi gorfod mynd allan a dod â'u gwartheg i mewn, godro eu gwartheg ac yna arllwys y llaeth hwnnw i ffwrdd, ac mae'r teimlad yn hollol wahanol i fod â siop, lle efallai y bydd yn rhaid i chi gau'r drysau, ond mae'r ffa...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (13 Mai 2020)

Angela Burns: Diolch am hynna. Felly, dim ond er mwyn eglurder, rwyf eisiau cadarnhau mai'r nifer yw 10,000 o brofion erbyn diwedd Mai, oherwydd dywed eich dogfen: Byddwn yn parhau i gynyddu'r gallu hwn dros yr wythnosau a'r misoedd i ddod, o bosibl i gynifer â 10,000 o brofion y dydd, ac rwy'n credu bod angen yr eglurder hwnnw arnom ni, o ystyried y llanast yr ydym ni wedi'i weld dros yr wythnosau...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (13 Mai 2020)

Angela Burns: Gweinidog, hoffwn groesawu'r datganiad, ac rwyf yn falch o weld cyhoeddi'r fenter profi, olrhain a diogelu heddiw. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon. Fel y gwyddoch chi, buaswn innau wedi sefydlu tîm penodol gydag arweinydd amlwg iawn, a byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn dweud wrthyf a oes gennych chi adran neu grŵp cyfan sy'n canolbwyntio'n llythrennol ar hyn, gan ei bod hi mor bwysig...

8. Cyfnod Pleidleisio (29 Ebr 2020)

Angela Burns: O blaid.

6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 (29 Ebr 2020)

Angela Burns: Diolch am ddod â'r rheoliadau hyn ger ein bron; fel yr ydych chi wedi ei ddweud, maen nhw eisoes ar waith. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn eu cefnogi nhw, ond mae gen i gwestiwn neu ddau, Gweinidog, yr hoffwn eu gofyn i chi amdanyn nhw wrth i ni symud ymlaen. Rydym ni yn croesawu'r rhan o'r rheoliadau sy'n dweud bod yn rhaid i bobl beidio â gadael eu cartref am unrhyw gyfnod o amser. Mewn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (29 Ebr 2020)

Angela Burns: Gweinidog, hoffwn gyfeirio at y cwestiwn a ofynnodd David Melding i chi am brofi a sut yr ydym yn codi'r cyfyngiadau symud. Deallaf nad ydych chi wedi llunio'ch cynlluniau i gyd eto a bod angen i chi weithio arnynt, a'ch bod eisiau rhoi mwy o gig ar yr esgyrn, ond rwyf yn bryderus ynghylch profion gwyliadwriaeth. Gwyddoch fod y Ceidwadwyr Cymreig wedi pwyso am gael tîm adrannol clir iawn yn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) (22 Ebr 2020)

Angela Burns: Prynhawn da, Weinidog. Diolch yn fawr iawn am eich datganiad. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch nid yn unig i'n holl wasanaethau iechyd a'n gwasanaethau cymunedol, ond i bawb sy'n helpu Cymru i geisio rheoli ac ymdopi â'r sefyllfa erchyll hon rydym ynddi. Hoffwn gydymdeimlo hefyd â'r holl bobl sydd wedi colli anwyliaid dros yr wythnosau erchyll diwethaf. Hoffwn gofnodi hefyd fy mod yn ddiolchgar...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19) ( 1 Ebr 2020)

Angela Burns: Weinidog, diolch am eich datganiad. Mewn gwirionedd, credaf fod hwnnw'n bwynt da iawn i’n hatgoffa amdano ar y diwedd. Ar 1 Mawrth, pwy oedd ag unrhyw syniad y byddem yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw? Felly, rwy'n awyddus iawn i ychwanegu fy niolch a fy llongyfarchiadau am y 7,000 o welyau ychwanegol sydd wedi'u creu yn y GIG. Credaf fod hynny'n waith rhagorol ar ran neu gan y GIG a chan yr...

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) ( 1 Ebr 2020)

Angela Burns: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Brif Weinidog. Mae gennyf ychydig o gwestiynau cyflym i'w gofyn i chi am eich datganiad. Rydych yn sôn wrth gwrs am y Ddeddf Coronafeirws a gwahanol Atodlenni iddi sy'n cael eu rhoi mewn grym, sef 8, 15, 10, rhannau amrywiol. A allech chi egluro sut rydych yn lledaenu hynny drwy awdurdodau lleol a thrwy gyrff priodol eraill a sicrhau y caiff darpariaethau newydd...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Hyfforddiant Parhaus i Athrawon (18 Maw 2020)

Angela Burns: Na, ac rwy'n deall hynny'n iawn. Mewn gwirionedd, bûm yn meddwl tynnu'r cwestiwn hwn yn ôl; rwyf wedi tynnu rhai eraill yn ôl heddiw gan y credaf mai'r peth pwysicaf sy'n digwydd ar hyn o bryd, yn amlwg, yw'r coronafeirws. Ond cedwais yr un hwn gan y gwn, wrth i'r toriad barhau ac wrth inni ddod at yr haf, y byddwch yn edrych ar ddatblygiad athrawon o fis Medi ymlaen, ac mae'r cwestiwn,...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Hyfforddiant Parhaus i Athrawon (18 Maw 2020)

Angela Burns: 6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddarparu hyfforddiant parhaus i athrawon sy'n gweithio yng Nghymru? OAQ55270

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (17 Maw 2020)

Angela Burns: O, mae'n ddrwg gennyf—rwy'n ymddiheuro. Gwnaf, ond hoffwn i ddweud hyn: mae'r Bil, Dirprwy Lywydd, fel y mae ar hyn o bryd yn Fil hawliau ac nid atebion; mae'n Fil sy'n gobeithio am ansawdd a didwylledd, ond, yn fy marn i, nid yw'n dangos gwir arweiniad ar sut i'w gyflawni ac mae'n Fil lle y gellir colli llais y claf mor hawdd. Ac am yr union resymau hyn, nid yw'r Ceidwadwyr Cymreig yn...

11. Dadl: Cyfnod 4 y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) (17 Maw 2020)

Angela Burns: Hoffwn atgoffa pawb fod y Bil hwn wedi symud yn gyflym, a hoffwn gofnodi fy niolch i holl glercod y pwyllgorau, i'r swyddogion ar ochr Llywodraeth Cymru. A hoffwn dalu teyrnged arbennig i'n pennaeth ymchwil, Georgina Webb, am yr holl waith a wnaeth hi ar y Bil hwn. Ac am Fil. Dechreuodd â llawer o addewid: i ysgogi dyletswydd a didwylledd drwy ein gwasanaethau gofal iechyd. Roedd yn Fil...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019) (17 Maw 2020)

Angela Burns: Nawr, gwrandewais  arnoch yn astud iawn yn amlwg yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog. Roeddwn i eisiau dweud yn gyntaf oll fy mod i'n llwyr gefnogi popeth yr ydych chi wedi ei wneud yn y fan yma gyda hyn mewn golwg, o awgrymu bod yn rhaid i bobl 70 oed aros gartref i hunan-ynysu; yr hyn y mae angen i ni ei wneud i gadw'n hunain yn ddiogel; a sut yr ydym ni'n gofalu am bobl sydd â...

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwybodaeth ddiweddaraf am Coronavirus (COVID-2019) (17 Maw 2020)

Angela Burns: Prif Weinidog, hoffwn ddiolch i chi am eich datganiad heddiw, ac fe hoffwn innau hefyd estyn fy nghydymdeimlad dwysaf i'r ddau deulu sydd wedi colli pobl yn y dyddiau diweddar hyn. Ac rwyf hefyd yn credu, bob tro y byddaf i'n codi, y byddaf yn dweud diolch yn fawr iawn wrth y gwasanaethau iechyd—allwn ni ddim dweud hynny ddigon wrth y staff rheng flaen a'r staff gofal cymdeithasol, ond...

4. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19) (17 Maw 2020)

Angela Burns: Diolch. Rwy'n addo'n llwyr ichi mai un maes sydd gennyf yr wyf i'n awyddus iawn i siarad â chi amdano, sef yswiriant ymyrraeth busnes. Mae nifer sylweddol o fusnesau wedi cysylltu â mi sy'n ei chael hi'n anodd iawn cael yswirwyr i wneud dau beth: (1) deall bod COVID-19 yn glefyd hysbysadwy. Nawr, rydych chi a minnau yn gwybod o dan Reoliadau Diogelu Iechyd (Hysbysu) (Cymru) (Diwygio) 2020,...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.