Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch, Gwnsler Cyffredinol, eich bod wedi cyfeirio at y cyhoeddiad diweddar, System Cyfiawnder Troseddol Cymru: Ar y Rhwyg, gan Dr Rob Jones a'r Athro Richard Wyn Jones, a byddwn yn ei argymell yn fawr i lefarydd y Ceidwadwyr fel deunydd darllen—efallai y byddai hyd yn oed yn helpu i agor ei lygaid rywfaint i realiti'r sefyllfa. Oherwydd rydych yn hollol iawn i...
Llyr Gruffydd: Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith anghydfod y Post Brenhinol ar ei gweithwyr a'i gwasanaethau yng Nghymru?
Llyr Gruffydd: Mi fyddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau yma. Rŷn ni'n teimlo eu bod nhw'n raddfeydd derbyniol. Mae'n berffaith iawn bod anghenion Cymru yn cael eu hadlewyrchu yn y modd yma, yn wahanol, wrth gwrs, i anghenion rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Dyna yw diben datganoli. Mae yn siomedig, fel roedd y Gweinidog yn amlygu eto, bod yna ddim cydweithredu wedi bod o safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig...
Llyr Gruffydd: Iawn, wel, rydych chi'n blaenoriaethu popeth bron iawn, felly nid wyf yn siŵr a yw hynny'n bosibl, ond rwy'n falch fod yr ymgysylltu a'r drafodaeth yn digwydd, gan fod y neges yn glir fod angen iddynt wybod beth yw blaenoriaethau'r Llywodraeth ynghylch yr hyn y gofynnwch iddynt ei gyflawni o dan yr amgylchiadau hyn. Rwy’n falch ichi ddweud eich bod yn edrych ar yr hyn y gallwch ‘ei wneud...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Gyda'i gilydd, mae'r pwysau ariannol sy'n cronni yn y system llywodraeth leol y tu hwnt i unrhyw beth a welsom erioed, yn ôl pob tebyg, er bod pwysau yn y flwyddyn ariannol gyfredol wedi'u gwrthbwyso i raddau gan setliad gwell na'r disgwyl ar gyfer eleni. Mae hynny'n teimlo fel byd gwahanol, onid ydyw—wyth mis yn ôl yn unig, pan gadarnhawyd y setliad...
Llyr Gruffydd: Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i’r Aelod am agor y ddadl, er fy mod yn credu na ddylai dadl heddiw fod ynglŷn â pha ran o’r DU sydd â’r lefel ardrethi busnes uchaf neu isaf? Rwy'n credu, ac rydych chi'n cydnabod, fod angen iddi fod yn drafodaeth ehangach, fwy soffistigedig ynghylch, yn y lle cyntaf, ai’r system ardrethi busnes ei hun yw’r dull gorau, ac a oes ffordd decach a...
Llyr Gruffydd: Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu. Gwnaf i ddim ailadrodd popeth mae pawb wedi'i ddweud; mae yna beryg o wneud hynny weithiau wrth gau dadl fel hyn, ond dim ond i bigo rhai o'r prif themâu. Yn sicr, mae'r neges ynglŷn â thrwyddedu a chaniatadau yn dod trwyddo'n glir. Ar drwyddedu ar y môr, dwi'n ymwybodol bod, yn Lloegr, y Llywodraeth yn ymrwymo i leihau'r...
Llyr Gruffydd: Rydym wedi ein calonogi gan brosiect grid ynni'r dyfodol Llywodraeth Cymru, sy'n ceisio dylanwadu'n rhagweithiol ar fuddsoddiad yn y grid yng Nghymru yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrthym y bydd y cynllun gweithredu a gynhyrchir gan y prosiect yn nodi camau gweithredu ar gyfer rhwydweithiau, ar gyfer Ofgem a Llywodraeth Cymru, 'i alluogi gwaith cynllunio a gweithredu...
Llyr Gruffydd: Felly, wrth i'r ymateb domestig i'r argyfwng barhau i ddatblygu, fe wyddom wrth gwrs y gallai ein rhoi ar y trywydd naill ai i gyflawni neu dorri ein hymrwymiad i gyrraedd sero net erbyn 2050. Mae’n bosibl y gall y pecyn o fesurau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis diwethaf ddarparu rhywfaint o hoe i fusnesau a chartrefi, er, yn dilyn cyhoeddiad dydd Llun, efallai mai byr iawn fydd yr hoe...
Llyr Gruffydd: Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n anrhydedd cael cyflwyno y ddadl yma ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, oherwydd ar ddechrau'r chweched Senedd fe gytunodd y pwyllgor i gynnal ymchwiliad byr i ynni adnewyddadwy, gan gydnabod, wrth gwrs, rôl hanfodol ynni adnewyddadwy wrth fynd i'r afael â'r argyfwng yn yr hinsawdd. Nawr, mi wnaethom ni edrych ar yr...
Llyr Gruffydd: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Llyr Gruffydd: Diolch. Rydych chi a'ch cyd-Aelodau yn eich plaid a ninnau, wedi bod yn feirniadol iawn o Lywodraeth Cymru ynglŷn â lleihau'r cyfnod craffu ar gyfer y Bil plastigion untro. Roeddech chi'n cwyno, yn gwbl briodol, nad oeddem wedi cael digon o amser; dim ond tair, pedair, pum, chwe wythnos a roddwyd i ni i graffu ar y ddeddfwriaeth honno. Pam felly eich bod chi'n hapus na chraffwyd o gwbl ar y...
Llyr Gruffydd: Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Mae'n rhaid imi ddweud bod y llanast hwn yn dangos unwaith eto y graddau yr ydym ni yma yng Nghymru ar drugaredd mympwyol Gweinidogion yn San Steffan. Mae hynny'n tanlinellu unwaith eto sut mae'r setliad datganoli presennol yn ein gadael ni'n ddirym yn ariannol o ran gallu gwarchod ein buddiannau, a diogelu'r bobl sy'n agored i niwed yn ein plith, rhag...
Llyr Gruffydd: Gwnaeth e gefnogi Liz Truss.
Llyr Gruffydd: Mae'n ddrwg gennyf, roeddwn yn meddwl eich bod yn dirwyn i ben. Nid ydych wedi rhoi sylw i’r cyfnodau gwaharddedig, sydd wedi’u codi gan dri neu bedwar o siaradwyr gwahanol.
Llyr Gruffydd: Dau bwynt arall cyn i mi gloi. Credaf fod y contractwyr, yn ôl pob golwg, wedi cael eu hanghofio gan Lywodraeth Cymru yn hyn o beth. Hwy yw un o'r cyflogwyr mwyaf yn ein cymunedau gwledig, gyda'r rhan fwyaf o'u gwaith, wrth gwrs, yn seiliedig ar ffermydd bach, teuluol. Bydd y cyfnod gwaharddedig o dri mis yn drychinebus i lawer ohonynt. Pan fydd 31 Ionawr yn cyrraedd, mae’n bosibl iawn na...
Llyr Gruffydd: Dwi'n mynd i gychwyn drwy gydnabod a chroesawu'r hyn a gyhoeddwyd gan Blaid Cymru a'r Llywodraeth yr wythnos diwethaf—ddim cweit yn taro nodyn mor sinigaidd, efallai, ag un neu ddau. Dyw e ddim, wrth gwrs, yn ddiwedd proses, ond mae e'n cadw'r drafodaeth yn fyw ac mae e'n golygu bod yna newid agwedd wedi bod. Y dewis arall oedd ein bod ni jest yn ei adael e i fynd a chario ymlaen. Felly mae...
Llyr Gruffydd: Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, bod un o bob wyth swydd nyrsio yn wag yn y gogledd. Rŷn ni hefyd yn gwybod, yn ôl cadeirydd y bwrdd iechyd, o'r 642 o feddygon teulu sydd gennym ni yn y gogledd, mae chwarter ohonyn nhw dros 65, a mae disgwyl i draean o'r 642 yna ymddeol yn y pum mlynedd nesaf. Ac rŷn ni hefyd yn gwybod, wrth gwrs, bod dim niferoedd digonol yn dod mewn i lenwi'r swyddi ar eu...
Llyr Gruffydd: 5. Pa gamau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau fod capasiti'r GIG yng ngogledd Cymru yn ddigon i ateb y galw? OQ58528
Llyr Gruffydd: Na, Fflint.