Mike Hedges: Diolch i Tom Giffard am roi munud i mi yn y ddadl hon. Mae rhanbarthau a gwledydd llwyddiannus yn y byd yn defnyddio eu prifysgolion fel sbardun economaidd—Caergrawnt, Bryste a swydd Warwick, ymhlith eraill yn Lloegr, ac mae Califfornia, Denmarc a'r Almaen, sy'n llwyddiannus yn economaidd, yn elwa o'u prifysgolion, megis Stanford, Heidelberg ac Aarhus. Mae gennym brifysgolion rhagorol yng...
Mike Hedges: Rwy'n croesawu'r datganiad yn fawr iawn. Rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod y banc datblygu yma yng Nghymru yn golygu y gallwn ni gynnal y gallu a'r sefydlogrwydd i ysgogi datblygiad economaidd. Rwyf i, fel Paul Davies, yn falch fod y banc datblygu am fod â rhan ragweithiol wrth hwyluso cymorth i fusnesau. Mae gennyf i dri chwestiwn. Ym mha ffordd y bwriedir iddyn nhw helpu busnesau i symud o...
Mike Hedges: Mae llawer o blant yn byw mewn tlodi nad yw wedi'i achosi gan ddiogi neu afradlondeb rhieni; mae llawer o rieni yn gweithio dwy neu dair swydd, ond am isafswm cyflog, ar oriau afreolaidd. Mae ehangu prydau ysgol am ddim i ddarpariaeth gyffredinol o brydau bwyd i'w groesawu'n fawr. Pa gymorth pellach all Llywodraeth Cymru ei roi i gynorthwyo banciau bwyd, ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud...
Mike Hedges: Fel y dywedais wrth Janet Finch-Saunders yn gynharach, pam na allwn godi tâl ar y gwerthwyr ar-lein yn eu warysau mawr fel pe baent ar y stryd fawr?
Mike Hedges: A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Mike Hedges: Efallai mai un ffordd ymlaen fyddai codi tâl ar fanwerthwyr ar-lein fel pe baent ar y stryd fawr.
Mike Hedges: Mae'r ymchwiliad hwn gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus yn amserol yn fy marn i. Mae cartrefi gofal yn chwarae rhan bwysig yn y ddarpariaeth gofal i bobl hŷn yn bennaf, ond nid pobl hŷn yn unig. Mae'n cynnwys nifer fawr o ddarparwyr. Mae rhai yn ddarparwyr gyda mwy nag un safle, eraill ond ag un cartref, a cheir rhai darparwyr mawr, ond mae pob un ohonynt yn darparu...
Mike Hedges: Wrth gwrs, pe bai'r Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth, byddech chi a'r Ceidwadwyr yn pleidleisio yn ei herbyn, a byddai'n methu. Rwy'n credu bod hyn yn fodd o'i gyflawni, sy'n golygu y bydd yn digwydd. Pe gallech chi a'r Ceidwadwyr ddechrau pleidleisio dros ddeddfwriaeth y Llywodraeth, efallai y byddai'n haws ei wneud.
Mike Hedges: Credaf hefyd fod barn pobl leol yn bwysig. Yn bwysicach fyth, credaf ei bod yn bwysig diogelu ein parciau cenedlaethol, ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a'r llain las—mae pob un ohonom yn elwa ohonynt. A yw’r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn hollbwysig gwarchod yr ardaloedd hyn ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn wahanol i arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, a ddywedodd fod...
Mike Hedges: A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna? Mae gennym raglen sgrinio ardderchog yng Nghymru. Rwy'n croesawu'r gostyngiad yn yr oedran ar gyfer sgrinio am ganser y coluddyn. Rwy'n credu'n gryf bod sgrinio yn bwysig, ond mae'n anffodus na all pobl gael amser i ffwrdd o'r gwaith i fynd i gael eu sgrinio. A fydd y Prif Weinidog yn cefnogi'r galw i bob un o'r staff a gyflogir yn...
Mike Hedges: 5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglenni sgrinio cenedlaethol y GIG ar sail poblogaeth ledled Cymru? OQ58554
Mike Hedges: A gaf fi ddiolch i Luke Fletcher am roi munud i mi yn y ddadl hon? Mae lwfans cynhaliaeth addysg yn bwysig iawn. O fy amser fel darlithydd coleg addysg bellach yn RhCT, pe na bai lwfans cynhaliaeth addysg wedi bodoli ni fyddai nifer o fyfyrwyr a aeth ymlaen i yrfaoedd llwyddiannus mewn TGCh wedi gallu parhau â'u hastudiaethau. Mae'r lwfans cynhaliaeth addysg yn darparu cyllid i'w galluogi i...
Mike Hedges: Rwy'n credu eich bod newydd wneud nifer o adeiladwyr yn hapus iawn, o wybod y byddech yn croesawu adeiladu ar raddfa fawr yn y Bont-faen a Bro Morgannwg. Mae rhewi lwfansau tai lleol gan Lywodraeth y DU yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl a theuluoedd sy'n derbyn lwfansau tai lleol yn wynebu bwlch rhwng y cyfraddau a delir a'u rhent. Mae hyn yn cynyddu'r risg o ddigartrefedd, wrth iddi fynd yn...
Mike Hedges: Â chroeso.
Mike Hedges: Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Rwy'n credu bod angen inni siarad am dai yn llawer amlach nag y gwnawn. Rwy'n credu bod tai yn bwysig, a nes ein bod yn ymdrin â thai'n effeithiol i greu cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw, bydd problemau'n dal i fodoli. Mae llawer o'r problemau sydd gennym ym maes addysg ac iechyd yn deillio o dai annigonol. Mae dau ateb i'r argyfwng tai,...
Mike Hedges: Diolch am eich ateb, Weinidog. Bûm yn ymweld â phob ysgol uwchradd yn Nwyrain Abertawe ar ddiwrnod y canlyniadau TGAU, ac fe ymwelais â'r rhai a gafodd ganlyniadau Safon Uwch ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch. Roeddent yn hapus gyda'r canlyniadau, ond fel y mae'r Gweinidog yn gwybod, roedd problemau gyda rhai o'r cwestiynau a osodwyd. Mae'n gwybod hyn oherwydd rwyf wedi codi'r mater gydag...
Mike Hedges: 7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi ei wneud o ganlyniadau TGAU a Safon Uwch haf 2022? OQ58512
Mike Hedges: Rwy'n croesawu datganiad y Gweinidog yn fawr iawn. Rwy'n croesawu unrhyw fesurau i'w gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl, y rhai sydd ag anableddau corfforol a synhwyraidd, wrth fynd i orsaf bleidleisio. Weithiau, mae mynd i'r orsaf bleidleisio yn gallu bod yn anodd iawn ynddo'i hun i bobl sydd ag anableddau fel hyn. A beth mae pobl yn ei wneud? Dydyn nhw ddim yn trafferthu, oherwydd mae...
Mike Hedges: Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r un cyntaf ar ardaloedd menter. Cafodd wyth ardal fenter eu creu yng Nghymru. Cynhaliodd y Pwyllgor Cyllid ymchwiliad yn 2013; roedd diweddariad ysgrifenedig ym mis Mawrth eleni. Rwy'n gofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf ar y bwriad i ariannu ardaloedd menter yn y dyfodol. Mae'r ail ddatganiad rwy'n gofyn amdano ar restrau aros...
Mike Hedges: Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi'r rhai sy'n defnyddio iaith arwyddion Prydain fel eu prif fodd o gyfathrebu?