Canlyniadau 101–120 o 1000 ar gyfer speaker:Caroline Jones

7. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwerth am Arian i Drethdalwyr (30 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar ei isaf erioed ac fe'i gwaethygir gan res o addewidion a dorrwyd. Mae pobl yn colli ffydd mewn datganoli am fod datganoli wedi methu sicrhau'r manteision a addawyd. Mae methiannau polisi a gwastraff Llywodraeth wedi cyflymu'r broses o erydu ymddiriedaeth yn ein sefydliad. ...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysg Plant a Phobl Ifanc (30 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Yn anffodus, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi darganfod pa mor anodd yw cadw rheolaeth ar y coronafeirws. Yn anffodus, mae rhagor o achosion yn y dyfodol yn anochel. Yr hyn y bydd yn rhaid inni ei wneud yw sicrhau nad yw'r achosion hynny'n tarfu ar un diwrnod o addysg. Weinidog, rydym wedi gweld grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu hanfon adref o ganlyniad i heintiau,...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg: Addysg Plant a Phobl Ifanc (30 Med 2020)

Caroline Jones: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau nad yw addysg plant a phobl ifanc yn cael ei tharfu arni yn ystod y chwe mis nesaf? OQ55604

16. Dadl: Y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol (29 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Llywydd dros dro. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i. Dylai'r fframwaith datblygu cenedlaethol fod yn gyfle inni fynd i'r afael ag un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu ein cenedl—newid hinsawdd. Mae effeithiau hinsawdd sy'n newid wedi'u teimlo'n eithaf dramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Er bod coronafeirws, o bosibl, yn dominyddu penawdau 2020, mae...

12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Uwch (23 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon ar effaith COVID ar addysg bellach ac addysg uwch a byddaf yn eu cefnogi heddiw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywydau pawb, ond neb yn fwy na'n pobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld oedi yn eu haddysg, eu datblygiad cymdeithasol yn cael ei lesteirio, ac sy'n wynebu un o'r marchnadoedd swyddi anoddaf ers cenedlaethau. Er...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Cyllideb Hydref 2020 (23 Med 2020)

Caroline Jones: Weinidog, mae 2020 wedi amlygu pa mor agored i niwed yw ein heconomi mewn gwirionedd—agored i COVID ac agored i hinsawdd sy'n newid. Nid ydym yn barod o gwbl ar gyfer ymdopi â'r fath sioc i'n systemau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad ynglŷn â sicrhau bod cyllid yn mynd tuag at liniaru risgiau pandemig yn y dyfodol a'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil...

6., 7. & 9. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 6) 2020, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 7) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 9) 2020 (22 Med 2020)

Caroline Jones: Rwyf wedi cefnogi deddfwriaeth Llywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig hwn, oherwydd roedd angen y mesurau hyn i osgoi miloedd o farwolaethau diangen, felly wrth gwrs fy mod i yn eu cefnogi. Byddaf yn parhau i gefnogi'r holl fesurau angenrheidiol ac felly byddaf yn pleidleisio dros yr holl ddeddfwriaeth sydd ger ein bron heddiw. Fodd bynnag, mae gennyf broblemau gyda'r ffordd yr ymdrinnir...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (COVID-19) (22 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Ymddiheuriadau am fod yn rhy awyddus i ddweud fy mhwt y tro diwethaf—i chi ac i Carwyn. Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Pa asesiad sydd wedi'i wneud o effeithiolrwydd cyfyngiadau symud lleol wrth ostwng cyfraddau heintio? Oes gennych chi unrhyw ddata ynglŷn â chyfraddau glynu wrth fesurau i fynd i'r afael â COVID-19 a faint o bobl sydd wedi cael dirwy am...

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y wybodaeth ddiweddaraf am Coronafeirws (COVID-19) (22 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i chi am eich—

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mesurau i Atal COVID-19 (16 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Byddaf yn ei chefnogi, ynghyd â gwelliannau Plaid Cymru y teimlaf eu bod yn ceisio cryfhau'r ddadl. Rwyf wedi bod yn galw am wneud gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig ers dyddiau cynnar y pandemig,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cyfyngiadau Symud Lleol (16 Med 2020)

Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Y gwir trist yw bod COVID-19 yn parhau i ledaenu, ac mae llawer gormod o bobl yn methu bod o ddifrif ynglŷn â'r clefyd hwn, gan arwain yn anochel, yn anffodus, at glystyrau lleol o'r haint. Yr unig ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn mewn ffordd deg a chytbwys yw gosod cyfyngiadau hyperleol. Disgwylir bellach i lywodraeth leol, sydd eisoes dan bwysau eithafol ers cyn y...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cyfyngiadau Symud Lleol (16 Med 2020)

Caroline Jones: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod gan awdurdodau lleol y modd i orfodi cyfyngiadau symud lleol? OQ55513

QNR: Cwestiynau i Prif Weinidog Cymru (15 Med 2020)

Caroline Jones: Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ehangu capasiti profi COVID-19 yng Nghymru?

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19) (26 Aws 2020)

Caroline Jones: Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Mae etholwr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr nad yw gofalwyr ei mab yn cael eu profi fel mater o drefn. Mae ei mab yn agored iawn i niwed ac mae hi wedi cymryd pob rhagofal i sicrhau ei fod yn cael ei amddiffyn rhag y feirws, ond mae angen cefnogaeth ei ofalwyr arnyn nhw. Mae hi'n poeni y gallai un ohonyn nhw drosglwyddo COVID yn ddiarwybod....

10. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: COVID-19 a Thrafnidiaeth ( 8 Gor 2020)

Caroline Jones: Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol, a diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Cymru yw un o'r ychydig leoedd ar y ddaear lle nad yw gwisgo masgiau wyneb yn orfodol. Ddoe ddiwethaf, cyhoeddodd y gymdeithas frenhinol ddau adroddiad yn tynnu sylw at bwysigrwydd gwisgo gorchuddion wyneb yn gyhoeddus. Mae masgiau wyneb yn...

5. Cwestiynau Amserol: Ineos Automotive ( 8 Gor 2020)

Caroline Jones: Weinidog, mae hon yn ergyd drom arall i fy rhanbarth ac mae'n hynod o siomedig. Ond o ran sefyllfa Ineos, roedd gan y Grenadier oes silff fer iawn ac wrth inni fynd ati i gael gwared yn raddol ar injans tanwydd ffosil, a hynny mewn hinsawdd economaidd ansicr, roedd eu dyfodol yn ansicr. Ond serch hynny, mae'n destun gofid i fy etholwyr a fy rhanbarth. Brif Weinidog, mae'n amlwg fod y sector...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Gor 2020)

Caroline Jones: Diolch, Weinidog. Wrth gwrs, daw'r bygythiad mwyaf y gaeaf hwn o ymdrin â thymor annwyd a ffliw gwael ochr yn ochr â COVID. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ehangu argaeledd y brechlyn ffliw a sicrhau ei fod ar gael yn gynharach? Bydd cyfyngiadau’r pandemig yn ei gwneud yn llawer anoddach i ddosbarthu'r brechlyn ffliw nag mewn blynyddoedd blaenorol, felly mae angen inni ddechrau paratoi...

4. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 8 Gor 2020)

Caroline Jones: Diolch, Lywydd. Weinidog, diolch i waith caled ac ymroddiad ein staff iechyd a gofal, yn ogystal â'r aberth enfawr gan y cyhoedd yng Nghymru, rydym dros y gwaethaf o'r argyfwng coronafeirws yn awr. Fel y mae'r prif swyddog meddygol yn dweud, a hynny'n gywir, gallem wynebu bygythiad o'r newydd gan COVID-19 erbyn yr hydref. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru ar waith i sicrhau y gall y...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Gorchuddion Wyneb ( 8 Gor 2020)

Caroline Jones: Diolch, Brif Weinidog. Gwyddom bellach y gellir lledaenu’r feirws SARS-CoV-2, nid yn unig gan beswch a thisian, ond y gellir ei gario mewn microddiferion ac y gall cludwyr asymptomatig ei ledaenu. Caiff microddiferion eu cynhyrchu trwy anadlu a siarad. Rydym hefyd yn gwybod y gall gorchuddion wyneb helpu i ddal microddiferion ac atal lledaeniad coronafeirws. Felly, pam y mae Cymru yn un o'r...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.