Suzy Davies: A gaf fi ddweud wrth yr Aelodau fod disgyblion blwyddyn 6 Ysgol Gynradd Santes Helen yn Abertawe yn ein gwylio? Felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd yn ymddwyn yn dda. Ddirprwy Weinidog, mae sicrhau bod rhieni mewn cyflogaeth ddiogel a chynaliadwy yn elfen hynod bwysig o liniaru tlodi plant. Tybed a allwch ddweud wrthym sut rydych yn gweithio gyda chyd-Aelodau yn y Cabinet i helpu i baru...
Suzy Davies: Weinidog, er mwyn inni allu cefnogi ein diwydiant pysgod cregyn, mae angen diwydiant pysgod cregyn arnom i’w gefnogi, ac mae mis Rhagfyr nid yn unig yn ddyddiad terfynol ar gyfer cytundeb gyda’r UE ond hefyd ar gyfer cydymffurfiaeth â dyfarniad y Comisiwn Ewropeaidd yn 2017 yn achos C-502/15, a ddygwyd yn erbyn Llywodraeth y DU, a de facto yn erbyn Llywodraeth Cymru, am fethu â...
Suzy Davies: Gweinidog, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn agor gyda sylwadau ynglŷn â sylfaen sgiliau'r diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod pobl yn anwybyddu'r ffaith ei fod yn ddiwydiant sy'n moderneiddio'n gyson a dyna pam ei fod yn elfen mor bwysig yn y sefydliadau hynny fel bargen ddinesig bae Abertawe y sonioch chi amdani a Phrifysgol Abertawe. Ond rwy'n eithaf awyddus i wneud yn siŵr...
Suzy Davies: Yn bendant.
Suzy Davies: O, iawn, mae'n ddrwg gennyf, nid oeddwn yn cadw llygad. Maddeuwch i mi, Ddirprwy Lywydd.
Suzy Davies: Yn y bôn, mae holl egwyddor y strategaeth ymgysylltu'n ymwneud â phobl Cymru, ac wrth gwrs, mae'r pwyllgorau'n rhan o hynny. Os ydym am gael pobl i ymgysylltu â ni, mae angen iddo fod amdanynt hwy, yn hytrach na'r hyn rydym yn galw ein hunain. Cafodd Brexit ei brif ffrydio—ie, roedd hwnnw'n bwynt da. Mike—os caniatewch i mi'r un olaf hwn, Ddirprwy Lywydd—ar weithio gartref, mae'r...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A diolch yn fawr i Llyr ac i Mike hefyd.
Suzy Davies: Fe ddechreuaf gyda Llyr, os yw hynny'n iawn. Diolch yn fawr am gydnabod, fel y gwnawn ni, fel y mae'r Pwyllgor Cyllid yn ei wneud, ein bod, drwy gydweithio, yn cael cyflwyniad mor gynyddol dryloyw o'r gyllideb ag sy'n bosibl. Rydym bob amser yn hapus i gymryd argymhellion ar sut i wneud hynny'n well. Efallai fod hynny'n rhywbeth roedd Mike yn cyfeirio ato ar y diwedd, ond collais ei gwestiwn...
Suzy Davies: Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig cyllideb y Comisiwn ar gyfer 2021-22, sef blwyddyn gyntaf y chweched Senedd wrth gwrs, a fydd yn gymwys o fis Ebrill y flwyddyn nesaf. Gofynnaf fel rhan o'r cynnig i hyn gael ei ymgorffori yn y cynnig cyllidebol blynyddol. Fel y byddwch wedi gweld o ddogfen y gyllideb, mae'r Comisiwn yn gofyn am gyfanswm cyllidebol o £62 miliwn, naw cant a...
Suzy Davies: A gaf innau ddechrau hefyd drwy ddiolch i Louise Casella a Cymwysterau Cymru am y cyngor y maen nhw wedi ei roi i'r Gweinidog ynglŷn â hyn? Mae'n rhaid imi ddechrau, serch hynny, drwy ddweud, er fy mod i'n deall eich safbwynt chi'n llwyr o ran dymuno cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ychydig yn gynharach heddiw fel y bydd ysgolion yn deall mai hon yw'r ffordd yr ydych chi'n bwrw ymlaen â hi,...
Suzy Davies: Tybed a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog Addysg, os gwelwch chi'n dda, Trefnydd—rwy'n gwerthfawrogi ei bod hi yn y fan hon heddiw i glywed y cais. Mae'r cyntaf yn ymwneud â chofrestru athrawon mewn ysgolion annibynnol. Rwy'n gwybod i hynny gael ei godi gyda chi'n weddol ddiweddar, ond gan ei fod yn fater o ddiogelu ac rydych chi'n brwydro'n gryf iawn o ran diogelu yng...
Suzy Davies: A gaf fi ddweud 'da iawn' wrth yr holl bobl a lofnododd y ddwy ddeiseb? Bydd fy ngrŵp nid yn unig yn nodi'r rhain heddiw ond yn cefnogi'r hyn y mae'r deisebwyr yn gofyn amdano. Mae deisebau eu hunain yn rhan o'n hanes, ac anogwyd eu defnydd yn arbennig gan ffefryn mawr Plaid Cymru, Edward I. Roedd brenhinoedd a Llywodraethau ers degawdau wedi bod yn diystyru apeliadau am gymorth neu...
Suzy Davies: Diolch, Rhun, ac i'r holl swyddogion, wrth gwrs, sydd wedi bod yn gweithio ar y cynllun yma ers rhai blynyddoedd bellach, erbyn hyn. Rwy'n gwybod bydd rhywfaint o siom o ddarganfod nad yw rhai ohonom ni wedi bod yn defnyddio cymaint o Gymraeg yn y Siambr ag yr oeddem yn y gorffennol, ac rydw i'n un ohonyn nhw—rwy'n cyfaddef. Ac efallai y byddai'n sylw teg na chawsom ni flwyddyn eithaf...
Suzy Davies: Yn gyntaf oll, Ddirprwy Weinidog, a gaf fi ddiolch i chi am eich parodrwydd i fynychu’r grŵp trawsbleidiol ar dwristiaeth yn rheolaidd, lle byddwch wedi clywed bod twristiaeth a lletygarwch, yn fwy nag unrhyw sector arall efallai, wedi'u nodi fel mater o bryder gan Aelodau? Rwy'n poeni braidd y gallai sefyllfa atyniadau gael ei cholli yn y ffocws ehangach hwn ar dafarndai, bwytai a llety....
Suzy Davies: Weinidog, byddwn yn ddiolchgar pe gallech ddefnyddio peth o’ch dylanwad i ailagor yr uned mân anafiadau yn Ysbyty Singleton yn Abertawe. Mae wedi bod ar gau ers peth amser bellach. Ond yn y cyfamser, tybed a allech ddweud wrthym pa weithgarwch cleifion allanol sy'n digwydd yn y gymuned ers mis Mawrth. Mae ceisio dod â rhywfaint o weithgarwch cleifion allanol priodol yn ôl allan o ysbytai...
Suzy Davies: Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ddiolchgar o glywed yr wybodaeth ddiweddaraf yr ydych chi newydd ei haddo i Mark Isherwood, Trefnydd. Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi, datganiad llafar os oes modd, ond byddai un ysgrifenedig yn iawn, rwy'n credu, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith ar y pecyn gwerth £40 miliwn sydd wedi ei addo i bobl dros 16 oed y mae...
Suzy Davies: Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ymddiheuro am gynifer o welliannau? Ond diolch am eu dewis. Ond wrth gwrs, roeddem am ddangos parch at y cynnig gwreiddiol, a oedd â llawer o wybodaeth ynddo. Efallai'n llai o gynnig portmanto a mwy o gist ddillad, sy'n mynd i alw am nifer o lwythwyr cyhyrog i'w chodi oddi ar y ddaear, felly rwy'n gobeithio ein bod i gyd wedi bod yn bwyta ein sbigoglys i...
Suzy Davies: Alun, rwy'n falch iawn eich bod wedi dod â hyn i'r Siambr heddiw. Nid oes dim yn fwy pwerus na thystiolaeth bersonol, profiad personol sydd wedi eich ysbrydoli i geisio newid rhywbeth y mae gwir angen ei newid. Yn anffodus, fel y dywedoch chi, nid yw 97 y cant o'r bobl sy'n dioddef ataliad y galon yma i rannu tystiolaeth yn y ffordd rydych chi wedi gallu ei wneud. Credaf fod eich galwad am...
Suzy Davies: Diolch. Nid wyf yn bychanu'r dasg i benaethiaid ysgolion uwchradd, yn arbennig, o ad-drefnu cynlluniau, amserlenni ac amseroedd presenoldeb ysgolion er mwyn cydymffurfio â'r rheolau ar gadw pellter cymdeithasol a hylendid. Ond nid wyf yn credu y gall fod unrhyw gyfiawnhad dros anfon cannoedd o ddisgyblion adref i hunanynysu oherwydd bod un unigolyn wedi cael canlyniad positif. Anfonwyd 553 o...
Suzy Davies: Diolch ichi am hynny, Weinidog. Yn amlwg, mae ansawdd y gwaith sydd naill ai'n cael ei roi i bobl ifanc i fynd adref gyda hwy neu'r gwaith a gânt o bell yn amrywiol iawn. Rydych wedi cyfaddef hyn yn y gorffennol ac yn sicr nid yw'n adlewyrchiad o'r gwaith caled y mae athrawon yn ei wneud, a dyna pam y gofynnais i chi beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi iechyd meddwl ein...