Nick Ramsay: Diolch, Weinidog, am y datganiad.
Nick Ramsay: Wel, ble i ddechrau? Rwy'n credu ein bod o leiaf yn unedig yn yr awydd i gefnogi swyddi, pobl ifanc, cymunedau a'n hamgylchedd, ac i 'dyfu'n ôl yn wyrddach', i ddefnyddio'r ymadrodd newydd sy'n cylchredeg. Ond, rhaid i mi ddweud, Gweinidog, rwy'n siomedig braidd â'r datganiad heddiw. Rydych yn tynnu sylw at y ffaith fod gan Lywodraeth y DU y cymhellion macro-economaidd sydd eu hangen i...
Nick Ramsay: Diolch, Prif Weinidog. Mae'n amlwg eich bod chi wedi ymdrin â chryn dipyn o hyn gyda chwestiynau blaenorol, felly mae croeso i chi fod yn gryno. Rydych chi wedi sôn am drafodaethau gydag arweinyddion awdurdodau lleol. Wrth ateb Laura Anne Jones yn gynharach, fe wnaethoch ailadrodd bod y trafodaethau hynny—. Siaradais â'r Cynghorydd Peter Fox y bore yma, arweinydd Cyngor Sir Fynwy, sy'n...
Nick Ramsay: 6. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gydag arweinwyr awdurdodau lleol ynghylch cyfyngiadau symud lleol? OQ55644
Nick Ramsay: Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud,wrth wrando ar y cyfraniad olaf gan Rhianon Passmore, rwy'n synnu at y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o arian i'r lle hwn a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar yr union adeg y cawsant £4 biliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau...
Nick Ramsay: Weinidog, prynhawn da. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod dewrder a gwytnwch ein plant wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol mewn cyfnod sy'n peri cryn ofid iddynt hwy a'u rhieni. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ddarparu mwy o gymorth a gofal bugeiliol i blant yng Nghymru, yn enwedig mewn ysgolion cynradd a meithrinfeydd ar yr adeg hon? Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd...
Nick Ramsay: Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r rheoliadau hyn heddiw. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r rheoliadau hyn gan ein bod wedi bod yn galw ers peth amser am seibiant o ran talu'r dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru i adlewyrchu'r seibiant o ran talu'r dreth stamp a gyflwynwyd yn wreiddiol, yn Lloegr yn bennaf, fel dull o ysgogi'r farchnad dai yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig a'r...
Nick Ramsay: A gaf i gytuno'n gyntaf â sylwadau Mike Hedges ynglŷn â'r angen am fwy o reoleiddio ar dân gwyllt? Dau fater os caf i, Llywydd: yn gyntaf, Trefnydd, mae nifer o etholwyr wedi cysylltu â mi sy'n pryderu'n fawr o ran y nifer cyfyngedig o gerbydau trên sy'n cael eu defnyddio i fynd â phobl ifanc i Goleg Chweched Dosbarth Henffordd ac oddi yno, o orsaf y Fenni. Er bod pob plentyn wedi talu...
Nick Ramsay: Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Nid yw'n rhywbeth sy'n llithro oddi ar y tafod yn hawdd o ddydd i ddydd, ond rwy'n croesawu cyfraniad agoriadol rhagorol y Cadeirydd y credaf ei fod yn esbonio'r cyd-destun i'r gwaith pwysig hwn. Roedd yr adroddiad yn un diddorol iawn i ymwneud ag ef, oherwydd mae'n edrych ar...
Nick Ramsay: Diolch, Weinidog. Mae'r gostyngiad o 47 y cant, credaf i chi ddweud, yn refeniw'r dreth trafodiadau tir yn peri pryder, ond yn ddealladwy yn ystod y cyfyngiadau symud, oherwydd yr arafu aruthrol yn y farchnad dai. Mae codi refeniw yn dibynnu ar ysgogi’r farchnad i symud, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hynny. Er fy mod yn croesawu’r ffaith i chi gyflwyno seibiant o dalu'r dreth stamp,...
Nick Ramsay: Diolch, ac edrychaf ymlaen at glywed y wybodaeth honno yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n sylweddoli bod amser swyddogion a'ch amser eich hun ac amser y Llywodraeth dros y cyfnod diweddar wedi'i neilltuo'n bennaf ar gyfer y pandemig ac ymdrin â hynny, ond yn fy nghwestiwn olaf i chi, os caf ofyn sut y gellir gweld holl fater caffael yn nhermau adeiladu'n ôl yn well, ac adnewyddu'r diwylliant...
Nick Ramsay: Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch o glywed bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, oherwydd mae angen edrych ar fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a'u hailwampio. Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn gwario tua £6 biliwn yn caffael nwyddau a gwasanaethau, felly ni ddylai fod gennym unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd caffael i sicrhau bod economi Cymru'n symud eto. Yn...
Nick Ramsay: Diolch, Lywydd. Weinidog, caffael yw un o'r ffyrdd allweddol y mae angen i gyrff cyhoeddus allu dangos eu bod yn sicrhau gwerth am arian, rhywbeth y clywsom dystiolaeth gennych arno'n ddiweddar yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Daeth dau o adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru yn hydref 2017 i'r casgliad y gellid cryfhau trefniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer caffael ac y dylid eu...
Nick Ramsay: 5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am refeniw o'r dreth trafodiadau tir? OQ55535
Nick Ramsay: Trefnydd, mae mater iechyd meddwl wedi symud i flaen ein holl feddyliau yn ddirfawr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac yn enwedig yn ystod y pandemig gyda'r materion iechyd meddwl cysylltiedig sydd wedi bod yn effeithio ar rai pobl. Efallai eich bod yn ymwybodol bod Mind Cymru wedi lansio eu hymgyrch Sefwch drosof i, yn galw ar bleidiau gwleidyddol Cymru, Aelodau presennol y Senedd ac...
Nick Ramsay: Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddiolch i'r gweithwyr adeiladu sydd wedi helpu i gadw'r prosiect pwysig hwn ar amser a gan gyd-fynd â'r gyllideb dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf, yn enwedig ar adeg pan fo'r pandemig wedi effeithio mor ofnadwy ar y sector, gydag oddeutu traean o'r ceisiadau i'r gronfa cadernid economaidd yn ficrofusnesau...
Nick Ramsay: 3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am agor Ysbyty Athrofaol y Faenor? OQ55534
Nick Ramsay: Wel, roeddwn yn mynd i ddechrau'r cyfraniad hwn drwy groesawu'r consensws a oedd yn lledu ar draws y Siambr, ond nid wyf yn siŵr fod hynny'n briodol yn awr. Ond fel y dywedodd Paul Davies yn ei sylwadau yn gynharach—ei sylwadau agoriadol—rydym i gyd yn unfryd yma o ran ein dymuniad i weld y pandemig yn cael ei drechu mor gyflym ac mor ddiogel ag sy'n bosibl, a'r cyfyngiadau'n cael eu...
Nick Ramsay: Weinidog, mae Jenny Rathbone yn gwneud pwyntiau da. Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn sôn am adeiladu nôl yn well ar ôl y pandemig, a chredaf fod diwygio cynllunio a newid y ffordd y defnyddir y system gynllunio i annog cynaliadwyedd yn gwbl allweddol i hyn. Dylid mesur allyriadau carbon pob cais. Crybwyllais gais o'r blaen ar gyfer gorsaf wefru cerbydau trydan ger Afon Gwy yn Nhrefynwy, y...
Nick Ramsay: A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisïau Llywodraeth Cymru i gefnogi'r economi wledig wrth inni ailgodi'n gryfach yn dilyn Covid-19?