Canlyniadau 101–120 o 3000 ar gyfer speaker:Julie James

11. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r arfer o dynnu esgyll siarcod yn farbaraidd ac yn niweidiol iawn i boblogaethau siarcod ar draws y byd. Mae'n arfer pysgota cwbl anghynaladwy, lle mae rhannau helaeth o garcasau siarcod yn cael eu taflu'n ôl i'r môr ar ôl tynnu'r esgyll gwerthfawr, a ddefnyddir yn bennaf mewn cymunedau Asiaidd. Mae poblogaethau siarcod yn fyd-eang yn...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Dydw i ddim yn rhy siŵr pa gyllideb rydych chi'n cyfeirio ati yn y fan yna, Carolyn, mae gen i ofn. Felly mae yna gyllideb benodol iawn i reoli llifogydd, ac mae hi wedi'i chlustnodi ar gyfer rheoli llifogydd ar gyfer CNC. Mae awdurdodau lleol yn ei chael fel rhan o'r grant cynnal refeniw, ond mae disgwyl iddyn nhw roi rhaglen ar waith. Felly, rwy'n hapus i drafod y manylion gyda chi yn y...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch, John. Rwy'n cytuno bod hwn yn ddarlun cymhleth, os hoffech chi, o ran pwy sy'n gyfrifol am beth. Ond, mewn gwirionedd, os ydych chi'n ddeiliaid tŷ sydd â phrofiad o lifogydd, fe ddylech chi gysylltu â'ch awdurdod lleol, ac fe ddylen nhw fod yn berffaith alluog i'ch rhoi chi mewn cysylltiad ag unrhyw un arall, ond y nhw a fydd yn gyfrifol am 98 y cant o'r boblogaeth. Dim ond rhai...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch i chi, Delyth. Mae hynny'n gwbl gywir. Rwyf i wedi cyfarfod yn bersonol gyda nifer o'r teuluoedd sydd wedi cael eu heffeithio, ac mae hi'n gwbl gywir eu bod nhw wedi cael eu dylanwadu mewn ffordd ddifrifol iawn. Dywedodd un teulu wrthyf i fod eu plentyn tair oed yn bryderus iawn bob tro yr oedd hi'n bwrw glaw hyd yn oed yn arferol am eu bod nhw wedi cael llifogydd ac roedd hi'n poeni...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch i chi, Jayne. Fe fyddaf i'n cwrdd â'r Groes Goch Brydeinig yn fuan iawn i drafod eu hadroddiad gyda nhw; mae gennym ni ddiddordeb mawr yn y canfyddiadau. Ac yn wir, mae gennym ni ddiddordeb mewn gweithio gyda phob grŵp yn iawn ledled Cymru sydd â rhywbeth i'w ychwanegu at y cynllun gweithredu hwn, mewn gwirionedd, oherwydd nid oes unrhyw ddadl gan unrhyw un ohonom ni ynglŷn â'r...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Heledd. Dim ond o ran yr adolygiad, a oedd yn rhan o'r drafodaeth a fu rhyngom ni, fe geir nifer o wahanol fathau o adolygiad yn digwydd ar hyn o bryd. Fe gyfeiriais i at y ddau gan y pwyllgor llifogydd ac erydu arfordirol, er enghraifft. Felly, mae adolygiad yr Athro Elwen Evans KC yn dilyn patrwm darnau eraill o waith sy'n digwydd, felly dim ond ar gyfer tawelu meddyliau nad y...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch i chi, Janet. Felly, o ran materion y gyllideb, fe allaf ddweud wrthych chi fod effaith y buddsoddiadau a wnaethom ni wedi bod yn sylweddol iawn. Er enghraifft, yn ystod y glaw trwm diweddaraf, roedd yr amddiffynfeydd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf, yr oeddech chi'n cyfeirio atyn nhw, yn atal llifogydd i dros 800 o gartrefi. Yn ddiweddar, ar eu pennau eu hunain, gwnaeth cynlluniau...

3. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Llifogydd (17 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Llywydd. Dros yr wythnos ddiwethaf, mae glaw trwm parhaus wedi effeithio ar Gymru. Mewn rhai mannau, fe welsom ni dros chwe wythnos o law yn ystod pythefnos cyntaf y flwyddyn. Disgynnodd hwnnw ar dir a oedd eisoes yn ddirlawn, gan gynyddu dŵr ar yr wyneb, gan arwain at lefelau uchel iawn yn yr afonydd ledled Cymru. Ers dydd Mercher, mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi 50 o...

6. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai: 'Asedau Cymunedol' (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Ddirprwy Llywydd. A gaf fi ddechrau fy nghyfraniad drwy ddiolch i John Griffiths am waith caled iawn ei bwyllgor yn rhoi hyn at ei gilydd ac am gyflwyno'r cynnig heddiw, a diolch hefyd i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl hynod bwysig hon? Mae'n amlwg fod hwn yn bwnc y mae pobl yn teimlo'n angerddol iawn yn ei gylch. Mae asedau cymunedol wedi cael sylw mewn dadleuon yn y...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Lefelau Ffosffad (11 Ion 2023)

Julie James: Gallaf, yn bendant. Fe wnaf ailadrodd yr hyn a ddywedais wrth Huw Irranca-Davies yn gynharach yn y sesiwn hon. Rydym wedi gofyn i bob sector edrych i weld beth y gallant ei gynnig i helpu i ddatrys eu rhan hwy o'r broblem. Felly, ar gyfer adeiladu tai, rydym yn gwybod bod systemau draenio dŵr wyneb, systemau draenio cynaliadwy, SDCau, yn rhan o'r ateb; bydd yna atebion eraill. Rydym wedi...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Lefelau Ffosffad (11 Ion 2023)

Julie James: Ie. Diolch, Ken. Ar 9 Chwefror, bydd y Prif Weinidog yn ailymgynnull uwchgynhadledd o bartneriaid allweddol i fynd i'r afael â lefelau gormodol o ffosffadau yn afonydd Cymru, er mwyn trafod y cynnydd presennol a sefydlu'r camau nesaf. Byddaf yn nodi canlyniadau'r drafodaeth honno, ynghyd â chynllun gweithredu, mewn datganiad ysgrifenedig a gyhoeddir yn fuan ar ôl yr uwchgynhadledd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cefnogi Ynni Adnewyddadwy (11 Ion 2023)

Julie James: Ie, roeddwn i'n ymwybodol iawn o hynny. Mae'n syniad gwych. Yn amlwg, os ydych chi'n teithio yn Ewrop o gwbl, fe sylwch fod canopïau dros y meysydd parcio, oherwydd eu bod yn cysgodi'r cerbydau rhag yr haul. Nid yw'r broblem honno gennym yn llwyr yng Nghymru eto. Mae gennym broblem glaw, yn sicr. Mae'r hen jôc, 'A wyddech chi y gallech chi dynnu eich cagŵl pan fyddwch chi'n mynd i Loegr?'...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Cefnogi Ynni Adnewyddadwy (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Sioned. Mae fy swyddogion a minnau'n cynnal trafodaethau dwyochrog ac amlochrog rheolaidd gyda Llywodraethau eraill i rannu ein profiadau, ein harferion da a'n heriau. Ymhlith y rhain mae cyfarfodydd rhyngweinidiogol sero net pedair gwlad y DU, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a'r Gynghrair Dan2 o Lywodraethau gwladwriaethol, rhanbarthol a thaleithiol. Felly, rydym yn cael cryn dipyn o...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Egni Adnewyddadwy Lleol (11 Ion 2023)

Julie James: Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf unrhyw syniad a fyddaf i yn y Senedd ddydd Mawrth nesaf, ond os byddaf, rwy'n hapus i ddod. Yn sicr, ond mae'n rhaid inni ei wneud yn y drefn iawn. Felly, byddwn yn bendant eisiau sicrhau bod y trefniadau cynllunio yn eu lle, ond yn dibynnu ar y lefel rydym yn siarad amdani, gallai fod yn ddatblygiad seilwaith o bwys cenedlaethol, felly efallai mai...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Egni Adnewyddadwy Lleol (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Cefin. Ie, pwynt pwysig iawn. Felly, mae gennym 897 MW o gapasiti trydan a gwres adnewyddadwy yng Nghymru sy'n eiddo lleol, yn 2021, a oedd yn 90 y cant o'r ffordd tuag at ein targed 1 GW ar gyfer 2030, sy'n newyddion da iawn. Mae gennym gyfanswm o 2,201 o brosiectau adnewyddadwy newydd wedi'u comisiynu ledled canolbarth Cymru a dinas-ranbarth bae Abertawe yn 2021. Maent yn darparu...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Prosiectau Egni Adnewyddadwy Lleol (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Cefin. Wrth inni symud tuag at system ynni fwy lleol, sy'n seiliedig ar ynni adnewyddadwy, rydym yn cymryd camau i sicrhau bod y cyfoeth o brosiectau ynni adnewyddadwy yn aros yng Nghymru. Rydym yn adeiladu ar ein cefnogaeth i gymunedau a chyrff cyhoeddus, yn datblygu cynigion ychwanegol i fusnesau lleol ac yn cefnogi cynlluniau ynni i nodi cyfleoedd lleol.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithlonrwydd Ynni'r Stoc Dai (11 Ion 2023)

Julie James: Fe fyddwn i'n ymateb gyda rhywfaint o syndod, Mark, gan fod pob awdurdod wedi cyrraedd y safon ansawdd tai Cymru, sef EPC D, ar wahân i'r hyn a elwir yn 'fethiannau derbyniol'. Felly, os oes gennych chi fanylion pam ei fod yn pryderu nad yw'r stoc yn cyrraedd y safon, byddwn yn sicr yn awyddus i'w gweld. Mae ei gyngor ei hun wedi cyflwyno ffurflenni i ni sy'n dweud eu bod yn fodlon eu bod...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithlonrwydd Ynni'r Stoc Dai (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Siân. Rwy'n awyddus iawn i ymweld, a gobeithio y byddwch chi'n fy ngwahodd yn ffurfiol ac y gallaf wneud hynny'n fuan iawn. Rydym yn falch iawn o'r ffordd y mae'r hyb datgarboneiddio yn gweithio. Fe wnaethoch chi nodi hanes y ffatri a gaeodd ac ati yn y fan honno. Roeddem yn falch iawn o allu rhoi gwerth £239,000 o grant creu lleoedd Trawsnewid Trefi i alluogi'r broses o drosglwyddo...

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Effeithlonrwydd Ynni'r Stoc Dai (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Siân Gwenllian. Mae nifer o raglenni wedi'u cynllunio i helpu i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi ledled Cymru, gan gynnwys yn Arfon. Mae'r rhain yn cynnwys y rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio a rhaglen Cartrefi Clyd.

1. Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd: Newid Hinsawdd (11 Ion 2023)

Julie James: Diolch, Darren. Mae hon yn sefyllfa barhaus, ac wrth inni addasu i newid hinsawdd, bydd yn rhaid inni roi mwy a mwy o sylw iddi. Rydym wedi cael nifer o gynlluniau eisoes yng Ngorllewin Clwyd, y gwn eich bod yn ymwybodol ohonynt. Mae rhai yn Eldon Drive yn Abergele; Llansannan; Ffordd Top Llan yng Nglan Conwy; Bae Cinmel; prosiect uwchraddio glan y môr Bae Colwyn; Stryd y Capel; a rheolaeth...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.