Vikki Howells: Fel aelod o bwyllgor yr economi, hoffwn ddechrau drwy adleisio diolch ein Cadeirydd, Paul Davies, i bawb a gefnogodd neu a gymerodd ran yn ein hymchwiliad. Mae'n bwnc pwysig iawn sydd yn ei hanfod yn ymchwilio i rywbeth sy'n cyffwrdd â bywydau holl ddinasyddion Cymru yn ddyddiol, hynny yw, y ffordd y mae nwyddau a chynhyrchion yn cyrraedd ein silffoedd yn ein cymunedau, a sut rydym yn trin y...
Vikki Howells: Diolch am y diweddariad yna, Prif Weinidog. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn cau dwy o'i ganolfannau brechu cymunedol, gan gynnwys yr un yng Nghwm Cynon. I fy etholwyr i, y safle agosaf bellach fydd Merthyr Tudful. Mae heriau gwirioneddol o ran cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, a byddai angen i rai o fy etholwyr ddal pedwar bws dim ond i gyrraedd yno. Pa drafodaethau mae Llywodraeth...
Vikki Howells: 2. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth frechu COVID-19 Llywodraeth Cymru? OQ57856
Vikki Howells: Diolch am eich atebion hyd yn hyn, Weinidog. Hoffwn groesawu'n gynnes y £100 ychwanegol a roddir i bob teulu sydd â hawl i'r grant datblygu disgyblion - mynediad. Mae'n cael croeso mawr gan deuluoedd yng Nghwm Cynon, a ledled Cymru, rwy'n siŵr, yr wythnos hon. A gaf fi ofyn, Weinidog, beth sy'n cael ei wneud i godi ymwybyddiaeth o'r gronfa ychwanegol honno, ac yn arbennig i gefnogi...
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, clywodd y grŵp trawsbleidiol ar gymunedau diwydiannol gan y dirprwy bennaeth Sharon James am sut mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn gweithio i sicrhau bod gan Gymru'r sgiliau sydd eu hangen i ffynnu yn sgil y symud i sero net. Cefais ddwy neges allweddol yn ymwneud â phwysigrwydd cydweithio ar draws yr holl bartneriaid ac ar bob lefel o...
Vikki Howells: 3. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer polisi sgiliau yn ystod tymor y Senedd hon? OQ57808
Vikki Howells: Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r ffaith bod cynlluniau megis y gwaharddiad ar werthu cŵn bach a chathod bach gan drydydd partïon—cyfraith Lucy—yn dod i rym, ond mae hyn hefyd yn cynyddu rolau arolygu a gorfodi ein cynghorau yng Nghymru. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo cynghorau i gyflawni'r swyddogaethau hyn, ac a oes unrhyw rôl i ddarparu cyfrifoldebau statudol...
Vikki Howells: Weinidog, yfory bydd cyngor Rhondda Cynon Taf yn pleidleisio ar eu cyllideb ar gyfer 2022-23. Diolch i'ch setliad llywodraeth leol, sy'n grymuso cynghorau Cymru, o dan y cynigion hyn bydd gwasanaethau'n cael eu diogelu, a bydd arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ysgolion, gwasanaethau cymdeithasol ac i gefnogi isafswm cyflog sy'n uwch na'r cyflog byw go iawn, a'r cyfan gan gyfyngu'r...
Vikki Howells: 6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â sefydliadau partner i sicrhau bod safonau iechyd a lles anifeiliaid yn cael eu cynnal? OQ57745
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Roeddwn i'n falch iawn o glywed sôn am gerflun Elaine Morgan a fydd yn cael ei ddadorchuddio cyn bo hir yn Aberpennar yn fy etholaeth. Rwy'n edrych ymlaen at fynychu'r dadorchuddiad swyddogol wythnos i nos Wener, gyda chi, ac rwy'n gwybod y bydd yn ganolbwynt gwych yn y dref. Rwy'n cofio pan gefais fy ethol i'r lle hwn am y tro cyntaf yn 2016 i mi...
Vikki Howells: Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf cadeiriais lansiad adroddiad diddorol iawn gan Ganolfan Cydweithredol Cymru ar wella perchnogaeth gymunedol o dir a chynyddu cyfleoedd tai cymunedol. Gwn y codwyd hwn yn y Cyfarfod Llawn gyda'r Gweinidog Newid Hinsawdd ac rwy'n croesawu ei sylwadau, ond un argymhelliad allweddol ychwanegol o'r adroddiad oedd datblygu dull safonol o drosglwyddo asedau...
Vikki Howells: Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Nawr, mae gan Gwm Cynon nifer o gylchoedd meithrin llewyrchus, ym Mhenderyn, Aberdâr, Aberpennar ac Abercynon, ac mae'n bwysig eu bod yn gynaliadwy ac yn gallu cael gafael ar staff sydd â chymwysterau addas. Mae'r cymorth ariannol ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gylchoedd meithrin a gyhoeddwyd gennych ychydig yn ôl i'w groesawu'n fawr wrth gwrs, a gwn...
Vikki Howells: Ddirprwy Weinidog, fel y gwyddoch, un o elfennau allweddol metro de Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Lafur Cymru, fydd cyflwyno trenau tram trydan glanach, gwyrddach, ecogyfeillgar ar reilffyrdd craidd y Cymoedd, gan gynnwys rhwng Aberdâr, yn fy etholaeth i, a'r brifddinas. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd y trenau hyn yn ei chael ar leihau ein hallyriadau...
Vikki Howells: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i wella mynediad at ddarpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg? OQ57713
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Mae 'No place like home', a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Goleg Brenhinol y Meddygon, yn adeiladu achos brys dros fuddsoddi mwy mewn gofal canolraddol a ddarperir yng nghartref y claf. Gall hyn wella ansawdd y gofal, lleihau derbyniadau i'r ysbyty, a chael pobl allan o'r ysbyty ac yn ôl adref yn gyflymach. Byddwn yn croesawu eich ymateb i'r adroddiad hwn yn ogystal â...
Vikki Howells: Diolch, Weinidog. Fel y nodwch, mae llawer o gefnogaeth ar gael i fusnesau newydd, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf, er enghraifft, gyda'i ganolfan naw tan bump ar gyfer entrepreneuriaid newydd. Fodd bynnag, mae ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Bevan yn awgrymu bod angen o leiaf 1,000 o fusnesau newydd yng Nghwm Cynon er mwyn cyrraedd cyfartaledd Cymru....
Vikki Howells: 5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau newydd yng Nghwm Cynon? OQ57659
Vikki Howells: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella mynediad at ofal meddygol arbenigol yn y gymuned? OQ57660
Vikki Howells: Prif Weinidog, a minnau'n gyn-athro, rwy'n ymfalchïo yn fy nghysylltiadau agos ag ysgolion yn fy etholaeth, pob un ohonyn nhw'n adrodd yn ffafriol iawn wrthyf ar gyflymder cyflwyno'r cwricwlwm newydd. Yn wir, ychydig wythnosau'n ôl, mwynheais ymweliad rhithwir ag Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Tref Aberdâr lle'r oedd disgyblion blwyddyn 6 yn awyddus i ddangos eu gwaith gwych i mi ar...
Vikki Howells: Diolch, Gweinidog, ar gyfer eich datganiad heddiw ar fater sy'n peri pryder i lawer iawn o'm hetholwyr. Mae gen i dri chwestiwn i chi. Yn gyntaf, rwy'n nodi sylwadau'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod Llywodraeth Cymru wedi galw ar Lywodraeth y DU i ystyried cyflwyno cap tariff ynni domestig gwahaniaethol, neu dariff ynni cymdeithasol. Tybed a allech chi ddweud ychydig mwy am hyn; er...