Jeremy Miles: Wel, dwi ddim yn credu ei bod hi'n dderbyniol bod hynny'n digwydd, wrth gwrs, ac rwy'n flin i glywed yr enghraifft y mae'r Aelod yn ei dwyn i'r Siambr heddiw. Un o'm blaenoriaethau i, o ran y diwygiadau o fewn y system addysg o leiaf, yw sicrhau bod gennym ni arbenigedd yn y maes hwn yn y Gymraeg. Rŷn ni wrthi'n comisiynu adnoddau i gefnogi hynny ar hyn o bryd, ond dŷn ni ddim wedi cyrraedd...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Fel y dywedodd, mae wedi gohebu â mi mewn perthynas â materion penodol ar ran etholwyr. Er fy mod yn siŵr nad oedd yr ymateb yr hyn y gobeithiai amdano, rwy'n gobeithio o leiaf ei fod yn esboniad clir o'r penderfyniad a wnaed, ac effaith y broses apelio, os mai at hynny y mae'n cyfeirio yn ei gwestiwn. Bwriad y system ADY yw cryfhau hawliau pobl ifanc...
Jeremy Miles: Am y tro cyntaf erioed, mae gennym system unedig ar gyfer cefnogi dysgwyr o ddim i 25 oed gydag anghenion dysgu ychwanegol. Rydym yn gwneud buddsoddiad newydd yn y dyddiau nesaf o £2.1 miliwn i golegau addysg bellach i gefnogi'r gwaith o gyflwyno'r system hon i bobl ifanc.
Jeremy Miles: Diolch i Sam Kurtz am y cwestiynau hynny. Mae cyfraniad mudiad y clybiau ffermwyr ifanc i waith ieuenctid yn ein cymunedau gwledig ni yn amhrisiadwy. Rwy’n falch o’r cyfraniad ariannol o bron £125,000 rŷn ni’n ei roi i ffederasiwn Cymru a’r ffederasiynau sirol er mwyn sicrhau bod eu gwaith pwysig nhw yn parhau. Mae brwdfrydedd ac ymroddiad pobl ifanc ym myd amaeth Cymru a chymunedau...
Jeremy Miles: Diolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig hynny. Gwnes i gyfarfod gyda chyfarwyddwr addysg ac arweinydd cyngor sir Gâr yr wythnos ddiwethaf i drafod eu cynllun strategol nhw ac roedd neges y cyngor sir yn glir, rwy'n credu, eu bod nhw'n gweld eu hunain fod angen gweithredu yn sgil hynny mewn ffordd sydd yn bwrpasol ac heb oedi. Mae gyda ni ffydd y byddan nhw'n gwneud hynny, wrth gwrs. Mae...
Jeremy Miles: Mae cynyddu addysg cyfrwng Cymraeg a gwella deilliannau iaith ein holl ddisgyblion yn ogystal â deall yn well beth sydd y tu ôl i’r cwymp pellach yn y cymunedau Cymraeg yn flaenoriaeth. Mae defnydd iaith yn ganolog i hyn. Byddwn yn dadansoddi ymhellach pan ddaw rhagor o ddata ar gael.
Jeremy Miles: Alongside our targeted communications campaign to encourage take-up, we continue to work closely with Local Authorities on plans to maximise take up and roll-out the offer as quickly as feasibly possible.
Jeremy Miles: Rwy wedi bod yn cyfarfod gyda phob awdurdod lleol yn unigol i drafod cynnydd yn erbyn eu CSCA ac mae heriau gweithlu yn codi’n gyson. Mater i ysgolion yw pennu disgwyliadau ieithyddol eu staff yn unol â gofynion eu swyddi. Mae hyn yn cynnwys staff addysgu a staff cefngoi yn ehangach.
Jeremy Miles: Attendance rates are currently 89.3% on average. My priority is to ensure all children and young people have the opportunity to reach their potential. Maintaining good attendance and engagement with children and their families is key to this.
Jeremy Miles: The Welsh Government’s Sustainable Communities for Learning Programme will see more than £175 million invested across Preseli Pembrokeshire, which will continue to be delivered at pace over the next 12 months.
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am y croeso mae hi'n ei roi i'r datganiad. Rwy'n cytuno â sawl pwynt mae hi wedi'u gwneud yn ei chwestiwn. O ran y buddsoddiad mewn trochi, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol yn hynny o beth. Mae gennym ni gyllideb o jest o dan £7 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon i fuddsoddi mewn trochi hwyr. Beth sydd yn grêt—. Gwnes i roi enghraifft yn...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno bod yr Aelod yn ailadrodd hyn. Mae e jest yn naratif diog ac ystrydebol, a does dim unrhyw dystiolaeth yn cefnogi'r hyn mae e wedi ei ddweud heddiw o ran perfformiad awdurdodau lleol. Mae gennym ni gynlluniau strategol newydd ers mis Medi yn unig, a does dim unrhyw frawddeg o dystiolaeth bod awdurdodau lleol yn syrthio tu ôl o ran eu dyletswyddau. Mae fy mhrofiad i o drafod...
Jeremy Miles: Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar ein gwaith cynllunio'r Gymraeg mewn addysg. Ers fy natganiad diwethaf, rwy'n falch o ddweud bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd awdurdodau lleol wedi cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi ac yn weithredol. Nid yn unig hynny, rwyf wedi derbyn 22 o gynlluniau gweithredu sydd yn manylu sut y bydd...
Jeremy Miles: Diolch yn fawr am hynny. Wel, o ran y dilyniant i ddysgu gydol oes, mae hynny wir yn bwysig, ac un o'r pethau rŷn ni eisiau gwneud yw sicrhau ein bod ni'n deall sut mae'r holl ffyrdd sydd gyda ni o ddysgu'r Gymraeg yn eistedd ar gontinwwm yn erbyn ei gilydd, os hoffwch chi—hynny yw, cymwysterau TGAU a lefel A, ond hefyd gymwysterau addysg oedolion. Mae dangos y llwybr a dangos y dilyniant...
Jeremy Miles: Diolch i Mabon ap Gwynfor am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu ei fod e'n iawn i ddweud bod elfennau o ran symud, o ran mudo, o ran demograffeg, o ran cyfleoedd, ac mae'r comisiwn, yn sicr, yn mynd i fynd i'r afael â'r mathau hynny o bethau—dadansoddiad sosio-economaidd yw rhan o'r gwaith y maen nhw wrthi'n ei wneud ar hyn o bryd. Mae'r galw wedi bod am dystiolaeth ac mae hynny'n dod i law,...
Jeremy Miles: Wel, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o ran ei flaenoriaethau. Rŷn ni wedi sôn eithaf lot am addysg, ond jest i wneud dau bwynt am hynny—yn gyntaf, pa mor bwysig yw'r cynllun trochi i ganiatáu bod unrhyw un sy'n symud i Gymru sydd eisiau cael mynediad at addysg Gymraeg yn llwyddo i wneud hynny. Mae gyda ni gronfa nawr, o nawr tan ddiwedd tymor y Senedd, o tua £6.6 miliwn i'w gwario ar...
Jeremy Miles: Mae Menter Iaith Castell-nedd Port Talbot yn un o'r mentrau sydd wedi cael dyraniad cyllideb fel rhan o'r datganiad gwnes i heddiw ar gyfer edrych ar y pwysau cyfredol sydd o ran costau ychwanegol, felly bydd cyllideb bellach yn mynd i'r fenter honno. Roeddwn i yno wythnosau nôl mewn noson ddiddanol iawn gan Cleif Harpwood yn lansio ei lyfr e. Roedd hi'n noson hwylus iawn, ac mae hynny'n...
Jeremy Miles: Diolch i'r Aelod am hynny. Mae hynny’n bwysig; mae jest yn taflu rhywfaint o oleuni, rwy’n credu, ar y sgwrs rwyf newydd ei chael gyda Heledd Fychan. Mae’n rhaid edrych ar a deall beth mae’r ffigurau yma yn ei ddweud wrthym ni. Rwyf yn cytuno, os ŷch chi’n gofyn y cwestiwn ‘Ydych chi’n medru’r Gymraeg?’ ar yr un llaw, a’r llall, ‘Faint o’r Gymraeg ydych chi’n gallu...
Jeremy Miles: Ambell gwestiwn teg fanna. Y peth i gadarnhau ydy dydyn ni ddim wedi newid o gwbl ein safbwynt tuag at y cyfrifiad—hwnnw sydd yn dangos inni'r ffigurau o fewn y strategaeth. Rŷn ni wedi dweud hwnna ar y cychwyn cyntaf, a dyw hynny ddim wedi newid, ond gallwch chi ddim jest edrych ar hyn yn unllygeidiog. Mae dwy ffynhonnell ddata sydd yn dweud pethau gwahanol iawn wrthych chi—a, gyda...
Jeremy Miles: Diolch i Samuel Kurtz am yr amryw gwestiynau. Fe wnaf i fy ngorau i ddelio gyda'r rhan fwyaf ohonyn nhw, os caf i. Dwi ddim yn mynd i ailddweud yr hyn ddywedais i ynglŷn â'r pwysigrwydd o edrych ar y data yn ei gyd-destun ac edrych ar y ffynonellau eraill o ddata hefyd wrth ddadansoddi lle'n union mae'r rhifau siaradwyr ar hyn o bryd. Dwi ddim fy hunan yn y feddylfryd o edrych ar hyn fel...