Jayne Bryant: Diolch, Weinidog. Mae'n rhaid i'r hanes a addysgwn gyfleu profiadau a safbwyntiau niferus y rhai sydd wedi galw Cymru yn gartref iddynt. Ni ellir anwybyddu digwyddiadau mawr ac arwyddocaol am eu bod yn anghyfforddus neu'n anodd. Mae terfysgoedd hil de Cymru 1919 wedi cael eu hanghofio i raddau helaeth. Dechreuodd terfysgoedd George Street yng Nghasnewydd ac roedd 5,000 o bobl yn rhan ohonynt...
Jayne Bryant: 1. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella addysgu hanesion a phrofiadau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn y cwricwlwm? OQ57154
Jayne Bryant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i greu mannau naturiol newydd?
Jayne Bryant: Yr wythnos hon, mae Childline yn nodi ei ben-blwydd yn 35 oed. Ers ei sefydlu yn 1986, mae Childline wedi darparu gwasanaeth cwnsela i oddeutu 5.5 miliwn o blant yn y DU. Heddiw, mae plentyn yn cysylltu â Childline bob 25 eiliad ar gyfartaledd. Mae hyn yn golygu, yn ystod y datganiad 90 eiliad hwn, y bydd pedwar plentyn yn debygol o fod wedi bod mewn cysylltiad â Childline mewn rhyw ffordd....
Jayne Bryant: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyllideb Llywodraeth y DU ar economi Cymru?
Jayne Bryant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn cyfleu'r canllawiau COVID-19 diweddaraf i gartrefi gofal?
Jayne Bryant: Diolch, Prif Weinidog. Ymwelais yn ddiweddar â Choetir Cymunedol Rabbit Hill yn fy etholaeth i a'r gwirfoddolwyr gwych sy'n gweithio ar y prosiect. Mae'r goedwig wrth ymyl ystad Dyffryn ac yn anffodus yr oedd wedi mynd yn segur yn dilyn blynyddoedd o esgeulustod. Fodd bynnag, yn 2017 cafodd gyllid gan yr ymgyrch Crëwch Eich Man, a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri...
Jayne Bryant: 1. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cynllun Lleoedd Lleol ar gyfer Natur? OQ57125
Jayne Bryant: Sut mae Llywodraeth Cymru yn amddiffyn trigolion rhag tlodi tanwydd y gaeaf hwn?
Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Weinidog. Fel y gwyddoch, mae perygl y bydd Cymru'n colli dros £150 miliwn y flwyddyn o ganlyniad i brosiect HS2, a fydd yn cynyddu atyniad gogledd a gogledd-orllewin Lloegr. Mae'n hanfodol fod Cymru'n cael ei chyfran deg ac nad yw'n cael ei gadael ar ôl. Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi fod gan Lywodraeth y DU gyfle perffaith i wneud hyn yn yr adolygiad o wariant...
Jayne Bryant: 2. A wnaiff y Gweinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer adolygiad gwariant arfaethedig Llywodraeth y DU 2021? OQ57021
Jayne Bryant: Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gael siarad yn y ddadl hon yn y Cyfarfod Llawn am y tro cyntaf yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n gobeithio datblygu gwaith y pwyllgor a'r Cadeirydd blaenorol, a ddangosodd, drwy gydol eu cyfnod pum mlynedd, werth craffu effeithiol gan y pwyllgor wrth gyflwyno newidiadau pwysig i wella bywydau plant a phobl...
Jayne Bryant: Diolch am hynny, Weinidog. Mae gwefan Everyone's Invited, lle gall disgyblion adrodd yn ddienw am gamdriniaeth ac aflonyddu, wedi taflu goleuni ar broblem sylweddol. Mae dros 90 o ysgolion yng Nghymru wedi cael eu henwi yn yr ymgyrch ar-lein, ond mae'r realiti'n debygol o gynnwys llawer mwy. Mae tystiolaeth Everyone's Invited yn peri gofid mawr, gyda rhai disgyblion yn dweud bod merched mor...
Jayne Bryant: 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod disgyblion yn cael eu hamddiffyn rhag aflonyddu mewn ysgolion? OQ56975
Jayne Bryant: Bydd Clwb Llenyddol Casnewydd a Gwent yn dechrau ar eu tymor jiwbilî yn 75 oed pan fyddant yn cyfarfod heno. Mae'r clwb wedi bod yn cyfarfod yn fisol am ginio a sgwrs ar thema lenyddol rhwng mis Medi a mis Mai bron yn ddi-dor ers ychydig ar ôl yr ail ryfel byd. Er i'r pandemig darfu rhywfaint arnynt, cafwyd llawer o gyfarfodydd ar Zoom. Cynhaliwyd ei gyfarfod cyntaf yng Ngwesty'r Westgate...
Jayne Bryant: Diolch, Llywydd. Mae'r cartref, hosbisau plant yng Nghymru yn darparu gwasanaeth cwbl amhrisiadwy i'r plant y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw a'u teuluoedd. Mae'r mwyafrif helaeth o'r cyllid y mae hosbisau plant yn dibynnu arno yn dod drwy roddion. Yn y gwanwyn, rhoddodd Llywodraeth Cymru newyddion calonogol eu bod yn gweithio gyda'r bwrdd gofal diwedd oes i adolygu cyllid ar gyfer hosbisau. A...
Jayne Bryant: Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae arnom ddiolch a chefnogaeth i'r dynion a'r menywod yn ein lluoedd arfog. Bydd y digwyddiadau diweddar yn Affganistan wedi ail-greu teimladau anodd i’r rheini a fu'n gwasanaethu yno a’u teuluoedd. Mae grwpiau yn fy etholaeth i, fel clwb brecwast y lluoedd arfog a chyn-filwyr Casnewydd a Hwb Cyn-filwyr Casnewydd, yn darparu cymorth cymheiriaid. Yn...
Jayne Bryant: 1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyn-filwyr yng Nghymru? OQ56885
Jayne Bryant: Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Mae effaith y pandemig ar ddysgwyr yng Nghymru wedi bod yn ddigynsail. Mae disgyblion wedi wynebu trafferthion enfawr ac mae llawer wedi gweld tarfu ar eu cynlluniau mwyaf trwyadl a'u llwybrau gyrfaol heb unrhyw fai arnyn nhw eu hunain. Mewn astudiaeth ddiweddar ar y sector addysg bellach, canfu'r Arsyllfa Polisi Cyhoeddus Rhyngwladol fod cyrsiau...
Jayne Bryant: 1. Pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i gefnogi addysg bellach yn ystod y pandemig yng Nghymru? OQ56895