Jenny Rathbone: —a gordewdra. Ac eto, mae'r swm rydym yn ei wario ar fwydo ar y fron yn bitw iawn. Felly, mae angen inni newid perthynas plant â bwyd yn llwyr. Os ydym yn mynd i barhau i allu fforddio cyflwyno prydau ysgol am ddim i bawb ym mhob ysgol gynradd, a thu hwnt i hynny mewn ysgolion uwchradd, gobeithio, ni fydd y £260 miliwn rydym yn ei neilltuo ar gyfer hynny ar hyn o bryd ond yn fforddiadwy...
Jenny Rathbone: —bwyd sy'n creu fwyaf o allyriadau carbon gan aelwydydd unigol—mwy na mynd ar awyren, mwy na'u costau trafnidiaeth, mwy na gwresogi eu cartrefi. Yn olaf, yn amlwg, rhaid i'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol fod yn rhan o sicrhau bod gan bawb fynediad at fwyd iach, ac mae angen i'w dirprwy, sy'n gyfrifol am y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), roi llawer mwy o...
Jenny Rathbone: O'r gorau. Rwy'n anghytuno'n ostyngedig â'r Gweinidog materion gwledig a bwyd. Mae angen newid system gyfan nad ydym, yn syml iawn, wedi'i gyflawni yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, a gyflwynwyd yn y pedwerydd tymor, ac rydym bellach yn chweched tymor y Senedd hon. Mae'r strategaeth bwyd cymunedol y mae'r Gweinidog yn gweithio arni gyda Phlaid Cymru yn braf i'w chael, ond nid...
Jenny Rathbone: Rwy'n anghytuno'n ostyngedig â Lesley Griffiths nad ydym angen y Bil hwn, oherwydd crëwyd Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn 2015, ac mae hi bellach ddau dymor yn ddiweddarach ac yn sicr nid ydym wedi gwneud y cynnydd y mae angen inni ei wneud ar newid ein perthynas â bwyd. Mae'r strategaeth fwyd gymunedol rydych chi'n gweithio arni gyda Phlaid Cymru yn beth braf ei...
Jenny Rathbone: —ein perthynas â bwyd da.
Jenny Rathbone: Hoffwn gymryd y cyfle hwn i ofyn i'r Dirprwy Weinidog, pan fyddwch chi'n adolygu'r ddeddfwriaeth hon yn unol â'r cais gan y pwyllgor deddfwriaethol a chyfansoddiadol, i gael golwg ar y labelu ar fwyd babanod, oherwydd mae hyn wedi bod yn rhywbeth sy'n fy mhryderu ers amser maith, oherwydd yn y gorffennol mae'n sicr wedi cael ei godi gyda mi bod siwgr yn cael ei roi mewn bwyd babanod, a...
Jenny Rathbone: Roeddwn i eisiau gwneud sylw ar yr hyn a ddywedodd Rebecca Evans—bod gennym ni £3 biliwn yn llai yn gyffredinol, ac mae hynny £1 biliwn yn llai ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod yn 2023-24. Ydy hynny'n golygu y bydd gennym ni £2 biliwn yn llai yn ein cyllideb ar gyfer 2024-25, o dan yr amgylchiadau presennol sy'n hysbys, oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n ei gwneud hi'n fwy heriol fyth i...
Jenny Rathbone: Cyfraniadau diddorol ar draws y Siambr. Rwy'n cytuno â Jane Dodds bod angen i ni hefyd edrych yn ôl ar rai o'r pethau a gyflawnwyd gennym, a hoffwn roi gwybod i Lee Waters fod comisiynydd llesiant cenedlaethau'r dyfodol llawn canmoliaeth i'r adolygiad ffyrdd radical yn y sesiwn a gawsom ddoe yn y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol. Mae angen i ni feddwl y tu allan i'r bocs os...
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn, a llongyfarchiadau i'r 59 o bobl o Gymru a enillodd wobr WorldSkills—mae hynny'n wych. Rwyf am fynd i ddarllen amdanyn nhw, i weld am beth y gwnaethon nhw ennill. Mae hi'n dda cael gwybod hefyd fod pobl ifanc yn fwy darbodus, difrifol ac yn ymwybodol o'r hinsawdd na'u rhagflaenwyr, ond maen nhw'n yn dod ar draws rhwystrau sylweddol hefyd, fel rydych chi'n dweud, o ran...
Jenny Rathbone: Diolch am eich ymateb, Janet Finch-Saunders. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael ein gweld yn gwneud yr hyn y gofynnwn i bobl eraill ei wneud. Felly, credaf fod llawer mwy o gynnydd yn cael ei wneud ar sicrhau bod y goleuadau trydan yn dod ymlaen pan fydd eu hangen arnom yn unig, ac rwyf wedi sylwi nad ydym bellach yn gwresogi rhannau o'r ystad lle nad oes angen inni eistedd na chael...
Jenny Rathbone: Mae gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed beth sydd gennych i'w ddweud ar hyn, ac rwyf eisiau codi'r pryderon rydym wedi'u clywed am natur anghysylltiol y system cyfiawnder troseddol ar hyn o bryd. Er enghraifft, pan gawsom gyfarfod o'r pwyllgor deddfwriaethol a chyfansoddiadol, o dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, gyda'r Arglwydd Bellamy, tynnwyd sylw at bwysigrwydd prosiect Ymweld â...
Jenny Rathbone: Roeddwn eisiau dilyn cwestiwn Mark Isherwood, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud â grymuso awdurdodau lleol a sicrhau bod ganddynt adnoddau i wneud cais am system ECO4 Flex, oherwydd mae'n debyg i 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddi, i ôl-osod rhai o'n cartrefi niferus sy'n rhy oer o lawer a lle mae pobl yn byw mewn...
Jenny Rathbone: 3. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei strategaeth ar gyfer lleihau biliau ynni ar ystâd y Senedd? OQ58837
Jenny Rathbone: Rwy'n credu ei bod yn werth cael trafodaeth fer ar hyn, oherwydd rwyf wedi clywed nad oes diffiniad priodol gwirioneddol, sydd wedi'i gytuno'n llwyr, o ba fagiau ocso-bioddiraddadwy sydd yn fioddiraddadwy mewn gwirionedd a pha rai nad ydyn nhw'n fioddiraddadwy. Yn fy marn i, yn amlwg mae'n rhaid iddyn nhw ymchwalu'n llwyr wrth ddod i gysylltiad â dŵr neu olau, a pheidio â gadael plastig yn...
Jenny Rathbone: Diolch yn fawr iawn i chi. Rwyf innau'n eich llongyfarch chi a'ch holl randdeiliaid am gyflawni'r targedau dros dro a'r targedau allyriadau net, oherwydd rwy'n credu mai ardderchog o beth yw hynny. Rwy'n edrych ymlaen at astudio'r cynllun gweithredu strategol sero net yr ydych chi'n ymrwymo i'w gyhoeddi erbyn diwedd yr wythnos hon, ac yn arbennig felly'r atodiad i'r datganiad terfynol,...
Jenny Rathbone: Hefyd, sut rydym yn mynd i wresogi ein pyllau nofio, oherwydd, oni bai ein bod yn gwneud hynny, yn syml iawn, bydd yn rhaid inni nofio mewn dŵr sy'n cael ei gynhesu gan yr haul, sydd, yn y tywydd hwn, yn dipyn o her.
Jenny Rathbone: Mae gennyf gryn ddiddordeb yn y pwnc hwn, ac mae'n wych eich bod wedi cynhyrchu'r adroddiad hwn. Beth bynnag fo'ch brwdfrydedd dros chwaraeon tîm—pêl-droed, rygbi neu unrhyw beth arall—mae'n hanfodol fod pob plentyn, ni waeth beth fo'u gallu neu eu hanabledd, yn gallu (a) reidio beic a (b) dysgu nofio. Mae'r ddau beth yn sgiliau bywyd hanfodol yn yr un categori â gallu coginio pryd o...
Jenny Rathbone: Mae bwyty The Clink yng Nghaerdydd wedi gweithredu ers dros 10 mlynedd o adeilad sydd wedi'i gysylltu â charchar Caerdydd. Mae'n un o bedwar bwyty a weithredir gan The Clink Charity—mae'r lleill yng ngharchardai Brixton, High Down a Styal. Mae cegin addysgu a bwyty Caerdydd y tu allan i furiau’r carchar, felly dim ond carcharorion categori C nad ystyrir eu bod yn debygol o ddianc y...
Jenny Rathbone: Mae creu cyngor partneriaeth gymdeithasol deirochrog wrth wraidd y ddeddfwriaeth hon. Mae adran 5(2) yn nodi bod yn rhaid i'r Prif Weinidog ofyn am enwebiadau ar gyfer cynrychiolwyr gweithwyr o TUC Cymru. Efallai na fyddwch yn synnu o wybod bod TUC Cymru a'i gysylltwyr wedi cefnogi'r broses hon ar gyfer enwebu cynrychiolwyr gweithwyr i'r cyngor, fodd bynnag roedd undebau nad ydynt yn...
Jenny Rathbone: Diolch, Llywydd. Diolch, Hannah, am eich crynodeb o'r ymateb i'n hargymhellion, ac yn amlwg bydd yn rhaid i ni eu hystyried yn fanwl wedi hyn. Ond rydym ni'n diolch yn fawr i'r Dirprwy Weinidog am ymgysylltu'n adeiladol yn ystod proses Cyfnod 1, yn ogystal â'r 31 sefydliad ac unigolion hynny a gyflwynodd dystiolaeth ysgrifenedig, yr holl dystion a roddodd dystiolaeth i'r pwyllgor, cyflogwyr...