Canlyniadau 101–120 o 700 ar gyfer speaker:Lynne Neagle

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta (19 Ion 2022)

Lynne Neagle: Diolch, Mark. Rydym yn parhau i flaenoriaethu cymorth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yn unol â’r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2018. Rydym wedi cynyddu buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017 i gefnogi gwelliannau teg i wasanaethau, gan gynnwys cynyddu triniaeth a chymorth cymunedol a gwasanaethau ymyrraeth gynnar.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Presgripsiynu Cymdeithasol (19 Ion 2022)

Lynne Neagle: Diolch ichi am y cwestiwn atodol hwnnw, Buffy. Fel y gwyddoch, rydym yn datblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, wedi'i gynllunio i sicrhau bod darpariaeth dda ym mhobman mewn gwirionedd, nid mewn pocedi yn unig. Ceir rhai enghreifftiau gwych o bresgripsiynu cymdeithasol, ac rwy'n frwd fy nghefnogaeth i fudiad Men's Shed. Rydym wedi dweud yn glir iawn,...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Presgripsiynu Cymdeithasol (19 Ion 2022)

Lynne Neagle: Diolch, Buffy. Mae'r hybiau datblygu cymunedol yn Rhondda Cynon Taf yn enghreifftiau da o brosiectau sy'n ymgorffori egwyddorion presgripsiynu cymdeithasol ar draws ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â'n hymrwymiad yn y rhaglen lywodraethu i ddatblygu fframwaith Cymru gyfan i gefnogi presgripsiynu cymdeithasol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Ion 2022)

Lynne Neagle: Diolch, James. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf yn y pwyllgor, rydym wedi bod yn treialu'r rhaglen atal diabetes, a'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ehangu'r rhaglen honno ar draws Cymru. Ond nid dyna'r unig fesur rydym yn ei roi ar waith i atal diabetes math 2. Mae gennym hefyd lwybr rheoli pwysau Cymru gyfan, sy'n cynnwys plant ac oedolion, a chredaf na ddylem anghofio ein bod, yn...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Ion 2022)

Lynne Neagle: Wel, o ran y cynllun cyflawni rydym wedi bod yn ei ddilyn, bu'n rhaid ei addasu oherwydd effaith y pandemig. Heb os, mae'r pandemig wedi cael effaith ar ein gallu i weithredu yn y maes hwn ac fel y dywedais eisoes, mae wedi gwaethygu'r problemau gyda gordewdra a phobl dros bwysau. Nodais y ffigurau rydym yn eu buddsoddi, sy'n sylweddol iawn, yng nghyfarfod y pwyllgor plant yr wythnos...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (19 Ion 2022)

Lynne Neagle: Diolch. Diolch am y cwestiwn hwnnw, James. Nid wyf wedi gweld yr astudiaeth y cyfeirioch chi ati, er fy mod wrth gwrs yn ymwybodol iawn o'r cysylltiad rhwng bod dros bwysau a'r cynnydd yn y risg o gael COVID difrifol. Ond rwy'n anghytuno'n llwyr â'ch awgrym mai dim ond strategaeth arall gan Lywodraeth Cymru yw ein strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Rydym yn buddsoddi £6.6 miliwn bob...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl ( 8 Rha 2021)

Lynne Neagle: Nid yw'r cynnig hwn yn cydnabod y gwaith a wnaed dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ond yn hytrach, mae'n ceisio taflu bai. Nid yw'n cefnogi'r sefydliad. Nid yw'n cefnogi'r staff gweithgar a phenderfynol ar lawr gwlad—y staff y buom yn eu cymeradwyo ar garreg y drws heb fod mor bell yn ôl â hynny. Nid yw'n cydnabod y gwelliannau a wnaed yn y gwasanaethau yn y blynyddoedd ers adroddiad...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl ( 8 Rha 2021)

Lynne Neagle: —yr ymateb i argyfwng. Fodd bynnag, nid oes angen cymorth iechyd meddwl arbenigol ar y rhan fwyaf o bobl mewn trallod emosiynol. Yn aml, cymorth ar gyfer anghenion cymdeithasol a lles ehangach sydd ei angen arnynt, ac rwyf wedi ymrwymo i arwain dull amlasiantaethol a thrawslywodraethol o wneud hyn. Mae'r cynnig hwn yn gofyn inni sicrhau Deddf iechyd meddwl newydd i Gymru. Rydym wedi cytuno...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl ( 8 Rha 2021)

Lynne Neagle: Mae rhai'n awgrymu y bu rhyw fath o oedi rhwng cynhyrchu'r adroddiad a rhoi'r bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig. Fodd bynnag, fel y gwyddom, roedd adroddiad Holden yn un o nifer o adolygiadau annibynnol a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd mewn ymateb i bryderon ynghylch ansawdd gofal iechyd meddwl yng ngogledd Cymru, a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ni fu unrhyw oedi. Mewn...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl ( 8 Rha 2021)

Lynne Neagle: Diolch, Ddirprwy Lywydd, am y cyfle i ymateb i'r ddadl hon ac i gofnodi fy nghydnabyddiaeth o ymrwymiad bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr i barhau i wella gwasanaethau iechyd meddwl. Hoffwn gydnabod ymroddiad y staff ar lawr gwlad yng ngogledd Cymru, sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal tosturiol o ansawdd uchel i gleifion sydd angen cymorth iechyd meddwl. Bydd yr Aelodau’n cofio inni drafod y...

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Gwasanaethau iechyd meddwl ( 8 Rha 2021)

Lynne Neagle: Yn ffurfiol.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta ( 1 Rha 2021)

Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn atodol, Mike. Dywedasom yn glir, pan gyhoeddwyd adolygiad Tan, na fyddai'r newidiadau'n digwydd dros nos, o ystyried nifer a chynnwys yr argymhellion, a dyna pam ein bod wedi parhau i fuddsoddi swm mor sylweddol o gyllid er mwyn gweithredu argymhellion Tan flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel rydych wedi'i nodi, mae'r pwysau ar wasanaethau anhwylderau bwyta o ganlyniad i'r...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta ( 1 Rha 2021)

Lynne Neagle: Diolch am eich cwestiwn, James. Credaf fy mod eisoes wedi nodi'r buddsoddiad sylweddol iawn rydym yn ei wneud mewn gwasanaethau anhwylderau bwyta er mwyn eu trawsnewid ledled Cymru, gan ganolbwyntio'n gadarn iawn ar ymyrraeth gynnar. Rydym yn buddsoddi £3.8 miliwn yn ychwanegol bob blwyddyn, ac mae hynny wedi parhau ers 2017. Mae wedi bod yn gyfnod heriol iawn, gan y gwelsom gynnydd yn ystod...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta ( 1 Rha 2021)

Lynne Neagle: A gaf fi ddiolch i Heledd Fychan am ei chwestiwn? Fel y gŵyr, rwy'n credu, mae byrddau iechyd bellach yn derbyn, ers 2017, £3.8 miliwn ychwanegol i gefnogi gwelliannau mewn amseroedd aros a gwasanaethau anhwylderau bwyta, ac ers 2019, mae cyllid wedi'i ddarparu i fyrddau iechyd yn benodol er mwyn ad-drefnu gwasanaethau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar fel y gellir gweithio tuag at...

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Anhwylderau Bwyta ( 1 Rha 2021)

Lynne Neagle: Rydym yn parhau i flaenoriaethu cymorth ar gyfer gwasanaethau anhwylderau bwyta yng Nghymru ac rydym wedi bod yn cynyddu ein buddsoddiad bob blwyddyn ers 2017. Nod y cyllid hwn yw cefnogi'r gwaith o drawsnewid gwasanaethau i ganolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, yn unol â'r argymhellion yn adolygiad annibynnol 2018.

10. Dadl Fer: Polisi cyffuriau yng Nghymru a'r DU: Dechrau sgwrs genedlaethol (24 Tach 2021)

Lynne Neagle: Ym mis Hydref, mynychais ail gyfarfod i weinidogion y DU ar gyffuriau, gyda fy swyddogion cyfatebol yn y gweinyddiaethau datganoledig. Cynhaliwyd y cyfarfod gan y Gwir Anrhydeddus Kit Malthouse AS, Gweinidog Gwladol yn y Swyddfa Gartref a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, a diben y cyfarfod oedd clywed gan nifer o siaradwyr arbenigol a rhoi cyfle i rannu arferion da, heriau a gwersi a ddysgwyd ar...

10. Dadl Fer: Polisi cyffuriau yng Nghymru a'r DU: Dechrau sgwrs genedlaethol (24 Tach 2021)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd. Hoffwn ddiolch i Jayne Bryant am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am y pwyntiau a wnaeth, a diolch hefyd i James Evans a Peredur Owen Griffiths am eu cyfraniadau. Er nad oes gan Gymru bwerau dros sawl agwedd ar ddeddfwriaeth cyffuriau a dosbarthu cyffuriau, mae mynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yn flaenoriaeth allweddol i mi, ac yn faes...

9. Dadl Fer: 'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': Yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ( 3 Tach 2021)

Lynne Neagle: Rydym hefyd yn gweithio mewn partneriaeth â chanolfan Wolfson ym Mhrifysgol Caerdydd. Tîm amlddisgyblaethol yw hwn sy'n ceisio deall achosion problemau iechyd meddwl y glasoed a llywio ffyrdd newydd o gefnogi ein pobl ifanc. Rwy'n falch iawn fod y ganolfan wedi recriwtio pobl ifanc sydd â phrofiad o broblemau iechyd meddwl i ymuno â'i grŵp cynghori newydd ac rwy'n gweld hwn yn gyfle...

9. Dadl Fer: 'Gwrandewch arnom ni. Cefnogwch ni.': Yr angen i sicrhau mynediad at gefnogaeth iechyd meddwl i bobl ifanc ( 3 Tach 2021)

Lynne Neagle: Diolch, Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch i Rhun am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ac am rannu safbwyntiau ei etholwr, Gareth, gyda ni? Rwy'n croesawu hynny'n fawr, ac rwy'n siŵr fod Gareth yn falch iawn eich bod wedi gallu rhoi sylw i'w bryderon yn y Senedd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau eraill sydd wedi siarad heddiw. Nid oes dim yn fwy o flaenoriaeth i mi na diogelu, gwella a...

6. Dadl ar ddeiseb P-05-912 Cynorthwyo teuluoedd sy’n colli plant a phobl ifanc yn sydyn ac yn annisgwyl ( 3 Tach 2021)

Lynne Neagle: 'Mae colli plentyn yn effeithio arnoch am byth, ac mae angen i deuluoedd wybod bod cymorth hirdymor ar gael i'w helpu drwy'r broses o alaru.' Mae'r gallu i roi cymorth i holl aelodau'r teulu, gan gynnwys plant sydd wedi cael profedigaeth, yn hanfodol. Mae mor bwysig cydnabod hefyd, fel y mae 2 Wish yn ei wneud, fod yr angen am gymorth yn cynnwys aelodau o staff sy'n gweithio gyda theuluoedd,...


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.