Canlyniadau 101–120 o 10000 ar gyfer speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar OR speaker:Darren Millar

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Darren Millar: Weinidog, roedd y treialon pleidleisio cynnar, ni waeth faint o sglein y ceisiwch ei roi ar hyn, yn drychineb llwyr. Roeddent yn costio dros £1.5 miliwn, ac roedd cost pob pleidleisiwr, i bob pwrpas, os rhannwch nifer y pleidleiswyr a fanteisiodd ar y cyfle i bleidleisio ymlaen llaw, drwy'r system newydd a dreialwyd gennych, yn £845 y bleidlais. Rwy'n credu y bydd y rhan fwyaf o bobl...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Darren Millar: Diolch am yr ymateb hwnnw. Rwy'n sylwi na wnaethoch gyfeirio at yr effaith ar nifer y pleidleiswyr, wrth gwrs, sef y rheswm pennaf dros gynnal y cynlluniau treialu pleidleisio cynnar yn yr awdurdodau lleol dan sylw. Mae adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn ei gwneud yn gwbl glir bod nifer y pleidleiswyr ym mhob un o'r pedwar awdurdod lleol—Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a...

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau ( 5 Hyd 2022)

Darren Millar: Diolch. A wnaiff y Gweinidog wneud datganiad ar y gwerthusiad a gynhaliwyd gan y Comisiwn Etholiadol i gynlluniau treialu pleidleisio cynnar yng Nghymru?

6. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth ( 4 Hyd 2022)

Darren Millar: Ni fyddai'n ddatganiad bioamrywiaeth pe na bawn i'n sôn am y wiwerod coch bach fflwffog, hyfryd yr wyf yn hyrwyddwr rhywogaethau ar eu cyfer. Fel mae'n digwydd, 10 i 16 Hydref yw Wythnos Ymwybyddiaeth Gwiwerod Coch, a hoffwn ddweud 'diolch' i Lywodraeth Cymru am y ffaith eich bod wedi gwrando ar bryderon y Red Squirrel Survival Trust, Ymddiriedolaeth Gwiwerod Coch Clocaenog, ac eraill a...

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes ( 4 Hyd 2022)

Darren Millar: Heddiw, Trefnydd yw dechrau Wythnos Llyfrgelloedd ar draws Cymru a'r Deyrnas Unedig gyfan, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i ddiolch i'r staff a phawb sy'n ymwneud â chefnogi'n llyfrgelloedd lleol ledled Cymru am bopeth maen nhw'n ei wneud. Ymwelais â llyfrgell Bae Colwyn ddoe; cwrddais â'r staff yno, Morag Wight ac Eunice Roberts, ac rwyf i eisiau estyn fy niolch iddyn nhw...

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016' (28 Med 2022)

Darren Millar: [Anghlywadwy.]—byddwn yn gwerthfawrogi pe baech yn gadael imi wneud ymyriad byr ar nyrsys asiantaeth, os yn bosibl.

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016' (28 Med 2022)

Darren Millar: Ar fater staff asiantaeth, dyna'r cyfan—

6. Dadl ar ddeiseb P-06-1276, 'Ymestyn adran 25B o Ddeddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016' (28 Med 2022)

Darren Millar: O, maddeuwch i fi. O'r gorau. Fe wnaethoch chi ofyn am syniadau; roeddwn i am roi un i chi.

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (28 Med 2022)

Darren Millar: Rydych chi'n cadw dweud nad chi yw'r Gweinidog perthnasol. Chi yw eu Gweinidog perthnasol; chi yw Gweinidog gogledd Cymru, ac mae pobl yn disgwyl i chi godi llais dros ogledd Cymru o amgylch bwrdd y Cabinet ac ymwneud â busnesau yn y gogledd pan fydd mater mor bwysig yn codi yn eu mewnflwch. Mae miloedd, miloedd lawer, degau o filoedd o swyddi yn ddibynnol ar y diwydiant twristiaeth a'r...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (28 Med 2022)

Darren Millar: Weinidog, bydd llawer o bobl yn ei chael hi'n gwbl syfrdanol, o ystyried pwysigrwydd y diwydiant twristiaeth a lletygarwch yng ngogledd Cymru, nad ydych chi wedi cyfarfod yn benodol â busnesau er mwyn trafod y dreth bosibl bwysig hon arnynt. Mae Go North Wales yn cynrychioli 15,000 o fusnesau ar draws gogledd Cymru, ac fe fyddwch chi'n gwybod eu bod wedi mynegi llawer o bryder. A wnewch chi...

2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau (28 Med 2022)

Darren Millar: Diolch, Lywydd. Weinidog, yn rhinwedd eich swydd fel Gweinidog gogledd Cymru, pa drafodaethau rydych chi wedi'u cynnal gyda'r diwydiant twristiaeth yn y rhanbarth ynglŷn â chynigion eich Llywodraeth ar gyfer ardoll twristiaeth?

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (27 Med 2022)

Darren Millar: Wel, nid wyf i wedi gweld unrhyw arwyddion o welliant, Gweinidog. Rwy'n bryderus iawn, iawn, am gyflwr enbyd gwasanaethau i gleifion ar draws y gogledd, yn enwedig y rhai sy'n cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Glan Clwyd. Ond un o'r pryderon eraill sy'n canu clychau larwm yn fy mewnflwch bob dydd yw'r mynediad gwarthus at wasanaethau meddyg teulu yn ardal Bae Colwyn, yn enwedig ardal...

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (27 Med 2022)

Darren Millar: 10. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi ei wneud o'r cynnydd a wnaed gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y 12 mis diwethaf? OQ58466

Cynnig i atal Rheolau Sefydlog dros dro (21 Med 2022)

Darren Millar: Rwy'n cynnig.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Help i Fyfyrwyr (21 Med 2022)

Darren Millar: Diolch ichi am yr ymateb hwnnw, Weinidog. Rwy'n siŵr y byddwch yr un mor bryderus â minnau am y cynnydd sylweddol mewn chwyddiant yn y misoedd diwethaf ac wrth gwrs, rhagwelir y bydd yn codi'n uwch eto yn y misoedd i ddod. Nid yw’r drefn cyllid myfyrwyr wedi newid i ystyried y costau cynyddol y mae llawer o fyfyrwyr yn eu hwynebu, yn enwedig o ran cynyddu lefel y grant y mae Llywodraeth...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygiadau Cynhyrchu Ynni Newydd (21 Med 2022)

Darren Millar: Mae canllawiau cynllunio hefyd yn hollbwysig o ran ymgysylltu. O ystyried y ffaith bod 'Cymru’r Dyfodol' wedi gosod uchelgais ar gyfer adeiladu nifer sylweddol o ffermydd gwynt ychwanegol ar y tir ledled y wlad, mae llawer o gymunedau bellach yn pryderu am yr effeithiau posibl arnynt, ac yn wir, mae llawer o fusnesau'n pryderu am yr effeithiau posibl arnynt hwythau hefyd. Un ardal o’r...

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Newid Hinsawdd: Datblygiadau Cynhyrchu Ynni Newydd (21 Med 2022)

Darren Millar: 4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod lleisiau cymunedau'n cael eu clywed mewn perthynas â datblygiadau cynhyrchu ynni newydd? OQ58393

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Help i Fyfyrwyr (21 Med 2022)

Darren Millar: 6. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i helpu myfyrwyr gyda heriau costau byw? OQ58394

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Darren Millar: Defnyddiwyd llawer o wahanol eiriau yn y Siambr hon ac mewn Seneddau eraill ac mewn teyrngedau eraill i'w Mawrhydi y Frenhines yn ystod y dyddiau diwethaf: dyletswydd, gwasanaeth, hirhoedledd, ymroddiad, anrhydedd—mi wnes i restr o ychydig ohonyn nhw yn y Siambr heddiw—urddas, gras, amynedd, ymrwymiad. Ond yr un peth yr wyf i'n credu sy'n fwyaf perthnasol i mi am y Frenhines yn fy marn i,...

1. Cynnig o gydymdeimlad a theyrngedau i Ei Mawrhydi Y Frenhines (11 Med 2022)

Darren Millar: Fel mae pawb sydd wedi ymweld â fy swyddfa i, neu sydd wedi gorfod gwylio fy nghyfraniadau rhithwir yn ystod y pandemig, yn gallu tystio, mae gen i ddau lun o'i Mawrhydi y Frenhines yn fy swyddfa. Maen nhw'n cael eu harddangos yn fy swyddfa ochr yn ochr â lluniau eraill o'm teulu yr wyf i'n eu trysori. Y rheswm am hynny yw bod y Frenhines yn teimlo fel aelod o'm teulu, a dweud y gwir....


<< < 1 2 3 4 5 6 7 8 9 10 > >>

Creu hysbysiad

Chwilio uwch

Dod o hyd i'r union air neu ymadrodd hwn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio drwy roi’r union eiriau mewn dyfyniadau: megis "seiclo" neu "adroddiad Hutton"

Rydyn ni'n dangos geiriau sy'n gysylltiedig â'ch term chwilio, megis “beic” a “beicio” wrth chwilio am seiclo yn ddiofyn. Er mwyn atal hyn, rhowch y gair mewn dyfyniadau, fel "seiclo"

Heb gynnwys y geiriau hyn

Gallwch hefyd wneud hyn o'r prif flwch chwilio trwy roi arwydd minws cyn geiriau nad ydych eisiau: fel hela -llwynog

Rydym hefyd yn cefnogi nifer o addasiadau chwilio Booleaidd, megis AND a NEAR, ar gyfer chwilio manwl.

Ystod o ddyddiadau

i

Gallwch roi dyddiad dechrau, dyddiad gorffen, neu'r ddau er mwyn cyfyngu canlyniadau i ystod o ddyddiadau penodol. Mae dyddiad gorffen coll yn awgrymu'r dyddiad presennol, ac mae dyddiad cychwyn coll yn awgrymu'r dyddiad hynaf sydd gennym yn y system. Gellir nodi'r dyddiadau ar unrhyw fformat y dymunwch, e.e. 3ydd Mawrth 2007 neu 17/10/1989

Person

Rhowch enw fan hyn i gyfyngu canlyniadau i gyfraniadau gan y person hwnnw yn unig.

Adran

Cyfyngu canlyniadau i senedd neu gynulliad penodol yr ydym yn cynnwys (e.e. Senedd yr Alban), neu fath arbennig o ddata o fewn sefydliad, megis Atebion Ysgrifenedig Tŷ'r Cyffredin.

Colofn

Pe baech yn gwybod y rhif colofn Hansard cywir o'r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddo (efallai eich bod yn edrych ar gyfeiriad papur), gallwch gyfyngu canlyniadau i hynny ; Gallwch hefyd ddefnyddio column:123 yn y prif flwch chwilio.